Gwelwyd digwyddiad a hanner ar Barc yr Arfau Caerdydd bron i 130 mlynedd yn ôl, ddydd Iau 23 Ionawr 1889, pan aeth XV Aladin i’r cae i herio XV Dick Whittington. Gyda’r Athro Hud a lledrith o Tseina, Abanazar, yn gefnwr a Widow Twankey a’r Ymerawdwr Congou yn y pac, roedd tîm Aladin, a ffurfiwyd o gast pantomeim y Theatre Royal, yn gyfuniad grymus. Arweiniwyd XV Dick Whittington, a gynrychiolai Theatr y Grand, gan Idle Jack, ac yn ôl y sôn aeth 16 chwaraewr i’r cae – 15 a’r gath efallai. Adroddodd y South Wales Daily News y cefnogwyd y ddau dîm gan “dorf wych” a oedd yn cynnwys cast llawn y ddwy theatr. Seren y prynhawn oedd Mr Luke Forster neu Abanazar. Nid yw’r adroddiad yn datgelu a ddefnyddiodd ei rymoedd hud a lledrith ai peidio ond, trwy ei ymdrechion, tîm Aladin a orfu…o un cais a 4 minor i ddim. Ond doedd Mr E W Colman, sef Idle Jack Theatr y Grand ddim am aros yn y cysgodion gan iddo gael ei gario ar ysgwyddau’r cefnogwyr i ddathlu …rhediad y gêm o’i linell 25 ei hun i linell 25 y Royal.
Y tu hwnt i’r miri, roedd hyn yn fater difrifol wrth i’r ddwy theatr ymgiprys i ddenu’r torfeydd a oedd yn heidio i Gaerdydd bob nos i fynychu’r pantomeimiau. Wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg y mae casgliad o daflenni hyrwyddo’r perfformiadau pantomeim yn y Theatre Royal.
Wedi ei leoli ar gornel Stryd Wood a Heol yr Eglwys Fair, safle a feddiannwyd yn ddiweddarach gan Theatr Tywysog Cymru, adeiladwyd y Theatre Royal ym 1878. Yn ei ddydd fe ddaliai 2000 o bobl mewn awditoriwm o felfed coch moethus. Aladin a’i Lamp Hudol oedd yr wythfed pantomeim i gael ei lwyfannu yn y theatr. Trwy gyfrwng yr amryw daflenni hyrwyddo a gynhyrchwyd ar gyfer y cynhyrchiad, o fis Rhagfyr 1888 hyd fis Chwefror 1889, gallwn weld ei fod yn un o gynyrchiadau mwyaf a helaethaf y flwyddyn. Mewn ymdrech i ddenu’r torfeydd rhoes y taflenni hyrwyddo fanylion am y cast a chrynodeb o bob golygfa gyda manylion y gosodiadau a’r perfformiadau oedd i’w gweld. Gwnaed pob ymdrech i lenwi’r theatr nos ar ôl nos, gyda threnau arbennig wedi eu trefnu o Abertawe, Merthyr a Rhymni gyda thocynnau gostyngedig ar gyfer y rheiny oedd yn prynu tocynnau theatr yn yr orsaf cyn camu i’r trên.
Gyda phennawd fel …pantomeim godidocaf Cymru, roedd deuddeg golygfa yn Aladin a’i Lamp Hudol, pob un â’i olygfeydd addurnedig yn portreadu strydoedd a marchnadoedd Tseina, Ogof Aladin, y Palas Hedegog a Chartref y Sphinx. Yn yr adolygiad a gyhoeddwyd yn y papurau lleol disgrifiwyd yr olygfa yn Neuaddau Alhambra fel y piece de resistance. Roedd i bob golygfa ei phrif act ac yn Neuaddau Alhambra arweiniwyd yr olygfa gan y Chwiorydd Wallace, Fannie, Emmie a Nellie …a’u caneuon a’u dawnsfeydd arbennig. Cawsant gefnogaeth gan y ddau gomedïwr Sawyer ac Ellis (a ddisgrifiwyd fel dawnswyr esgidiau mawr anhygoel) fel dau heddwas …a lwyddai i sicrhau bod y gynulleidfa yn ei dyblau. Os nad oedd hynny’n ddigon, deuai’r olygfa i’w therfyn gyda ‘Baled Hardd y Gwyfynod’ a berfformiwyd gan chwedeg o ddawnswyr – un o dri bale a lwyfannwyd yn ystod y perfformiad. Sêr y pantomeim oedd Miss Howe Carewe, a ddisgrifiwyd fel …Aladin hynod gyfareddol, a Miss Marie Clavering fel y Dywysoges. Cefnogwyd hwy gan Luke Forster a Frank Irish fel Abanazar a Widow Twankey. Dim ond cyfran fechan o’r actorion oedd y prif rai gyda’r taflenni hyrwyddo yn nodi cast o 30 o actorion ynghyd â rhannau ychwanegol a dawnswyr.
Mae yna wyth taflen hyrwyddo ar gyfer Aladin a’i Lamp Hudol yn Archifau Morgannwg ac maent yn dangos y modd yr addaswyd y pantomeim a’i newid yn ystod ei rediad o ddau fis. Y nod oedd apelio i bob oed ac adnewyddu’r actau, y caneuon a’r dawnsfeydd fel y byddai pobl yn dod yn eu holau drachefn a thrachefn. Er enghraifft, erbyn diwedd Ionawr roedd criw o acrobatiaid a gêm bêl-droed wedi eu hymgorffori i’r perfformiad. Yr arfer hefyd oedd i’r prif actorion gael noson fuddiant ac mae taflenni ar gael i hysbysebu’r nosweithiau a nodwyd ym mis Ionawr ar gyfer Miss Howe Carewe ac eraill. Ond, ceir arwyddion nad oedd popeth gystal â hynny. Erbyn Ionawr mae’r taflenni hyrwyddo yn cadarnhau bod Marie Clavering wedi ei newid am Miss Florence Bankhardt a oedd wedi cyrraedd …yn syth o’r New Opera House, Chicago, i chwarae rhan y Dywysoges. Roedd arwyddion hefyd fod y comedïwyr dan bwysau i wella eu perfformiad – a chymysg oedd y canlyniad. Wrth basio sylw ar y deunydd newydd a gyflwynwyd gan Frank Irish fel Widow Twankey, roedd y South Wales Daily News yn croesawu hanes comig y gêm b͏êl-droed rhwng Caerdydd ac Abertawe ond yn llai canmoliaethus i’r cyfeiriadau at ‘Adam a’r dail ffigys’.
Y gwir plaen oedd, er bod Aladin wedi ei ganmol fel y pantomeim gorau i gael ei lwyfannu yn y Theatre Royal, bellach roedd lleoliad newydd yn ymgiprys i ddenu’r torfeydd panto sef y Grand Theatre of Varieties ar Heol y Porth. Ar ôl agor y flwyddyn flaenorol, roedd y Grand yn llwyfannu ei phantomeim cyntaf ac roedd ei pherchnogion yn daer am greu argraff. Roedd y Grand yn theatr mwy a mwy ysblennydd na’r Royal ac wedi ei disgrifio fel yr harddaf o’i fath. Roedd hefyd wedi ymrwymo i wario cyllideb fawr i’w phantomeim cyntaf, Dick Whittington a’i Gath. Ddiwedd Ionawr 1889 adroddodd y Western Mail fod miloedd o hyd yn tyrru bob nos i’r Grand, gyda llawer yn methu â chael sedd. Daeth y papur i’r casgliad hwn:
The success is due without a shadow of a doubt, to the all-round excellence of everything that goes to make up the pantomime.
Ymddengys efallai fod XV Aladin wedi ennill y gêm ar Barc yr Arfau. Fodd bynnag, er ymdrechion glew, ail ddaeth Theatr y Royal ym mrwydr y pantomeimiau 130 mlynedd yn ôl adeg y Nadolig 1888. Pwy ddwedodd ‘O na wnaethon nhw ddim!’? Mae gen i ofn fod y dystiolaeth yn awgrymu ‘O do mi wnaethon nhw’!
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Mae modd gweld taflenni hyrwyddo’r cynyrchiadau ar gyfer y Theatre Royal rhwng 1885 a 1895, gan gynnwys ‘Aladin a’i Lamp Hudol’ yn Archifau Morgannwg, cyf D452. Gellir gweld yr adroddiadau papur newydd ar-lein ar wefan Welsh Newspapers Online. Mae’r adroddiad ar gyfer y gêm ar Barc yr Arfau yn y South Wales Daily News ar 24 Ionawr 1889.