Ar 28 Chwefror 1889, cyhoeddodd y South Wales Daily News adroddiad o dan y pennawd ‘Interesting Sale’. Disgrifiodd y papur newydd werthiant mawr o gyfarpar syrcas yng Nghaerdydd a oedd yn perthyn i Mr J Tayleure, yr impresario syrcas enwog. Roedd Tayleure, ynghyd â’i bartner busnes Hutchison, wedi bod yn rhedeg syrcasau yng nghanol dinas Caerdydd yn Heol Eglwys Fair yn y lle cyntaf ac, o 1876, yn Heol y Porth. Roedd Tayleure yn bwriadu ymddeol ac mae’n debyg bod y gwerthiant yn nodi diwedd y syrcas yn Heol y Porth, a adeiladwyd ar dir ym mherchenogaeth y teulu Bute a oedd wedi’i glustnodi fel safle addas i adeiladu swyddfa bost newydd. [South Wales Daily News, 28 Chwefror 1889]
Ymhlith y rhai a oedd yn cynnig y diwrnod hwnnw roedd mab Tayleure, David, a brynodd babell syrcas am £70. Yn y blynyddoedd canlynol parhaodd David Tayleure i redeg y busnes teuluol fel syrcas deithiol, o bosib oherwydd nad oedd cost safle parhaol yng nghanol tref ffyniannus yn dwyn elw rhesymol. Fodd bynnag, nododd y papur y bu rhyw Mr J Sanger yn y gwerthiant. Roedd John Sanger yn ben ar deulu syrcas mawr ac adnabyddus o Lundain, John Sanger and Sons, a oedd yn enwog am gynyrchiadau syrcas ysblennydd a deithiai ledled y wlad. Mae’n bosib bod Sanger, ar ôl sylwi ar ddiwedd syrcas Heol y Porth, wedi gweld cyfle. Y flwyddyn ganlynol, 1890, cyflwynodd yntau gynlluniau i Syrfëwr Bwrdeistref Caerdydd ar gyfer syrcas i’w hadeiladu yng nghanol y dref yn Heol Penarth, ar dir a ddefnyddir heddiw ar gyfer maes parcio Gorsaf Caerdydd Canolog.
Cedwir y cynlluniau ar gyfer y syrcas hon yn Archifau Morgannwg ynghyd â llythyr gan y cwmni a fu’n gyfrifol am ei dylunio a’i hadeiladu (cyf: BC/S/1/7869).
Maent yn dangos syrcas o faint na welwyd ei fath erioed yn y ddinas. Mae’n ddyluniad trawiadol mewn sawl ffordd. Er bod syrcas Heol y Porth wedi syfrdanu’r cyhoedd gydag arena â digon o le ar gyfer hyd at 2000 o bobl, roedd gan syrcas Heol Penarth le ar gyfer hyd at 4500. Er mwyn galluogi hyn, defnyddiwyd dyluniad cwbl newydd, a oedd yn cynnwys haearn rhychog yn lle pren. Roedd Sanger wedi hurio cwmni o Nottingham, Thomas Woodhouse, i ymgymryd â’r gwaith dylunio ac adeiladu. Roedd llythyr y cwmni at Syrfëwr Bwrdeistref Caerdydd yn cynnwys geirdaon gan 5 awdurdod lleol a oedd yn cadarnhau safon ei waith a’r honiad bod y cwmni wedi adeiladu dros 40 adeilad o’r fath dros y blynyddoedd diweddar.
Mae’r cynlluniau’n dangos adeilad hirsgwar di-nod, 124tr x 131tr. Fel arfer, roedd yr ysblander a’r ceinder i’w gweld y tu mewn i’r adeilad a nodweddid gan y fformat syrcas arferol. Roedd y cylch 44tr fymryn yn fwy na’r arfer, gan alluogi Sanger i honni mai hwn oedd y mwyaf o’i fath erioed yng Nghymru. Roedd cwpola canolog rhyw 50 droedfedd uwchben canol cylch yn rhoi golau ac aer i amrywiaeth o seddi rhesog, gan gynnwys bocsys, seddi blaen, seddi ôl, oriel a phromenâd. O dan y seddi roedd ystafelloedd gwisgo ar wahân i’r perfformwyr, adran wardrob a swyddfeydd. Bwriedid i’r syrcas gael ei goleuo gan 4 siandelïer fawr, y byddai gan bob un 32 o losgwyr nwy, a byddai rhagor o arc-oleuadau o gwmpas yr arena. Mae’n amlwg y bu pryderon am ddiogelwch a thynnwyd sylw mawr at y ffaith y byddai’r gwaith coed yn cael ei orchuddio gan baent anllosgadwy ac y byddai sawl allanfa ar gael. Pe bai tân, amcangyfrifwyd y gellid gwagio’r arena mewn llai na dwy funud. Mae’n amlwg na fyddai unrhyw gost yn cael ei harbed ar gyfleusterau i’r staff a’r cyhoedd. Fodd bynnag, mewn un agwedd roedd gwahaniaeth mawr i’r adeileddau a oedd wedi’u defnyddio yn syrcas Heol y Porth. Roedd syrcasau Hutchison a Tayleure wedi dilyn y fformiwla traddodiadol o berfformiadau marchogaeth gydag acrobatiaid, mabolgampwyr a chlowniaid rhyngddynt. Fodd bynnag, yn ogystal â chynnwys ardal fawr ar gyfer stablau ceffylau, roedd y dyluniad ar gyfer syrcas Heol Penarth hefyd yn cynnwys lle ar gyfer milodfa. Roedd y syrcas wedi datblygu gan gyflwyno anifeiliaid egsotig a gwyllt ac roedd Sanger ac eraill yn gwneud defnydd cynyddol o lewod, eirth ac eliffantod fel prif atyniadau’r syrcas.
Yn destament i sgiliau a menter y dylunwyr a’r adeiladwyr, cafodd y cynlluniau eu cyflwyno ar 7 Hydref a’u cymeradwyo ar 23 Hydref 1890. Mewn llai na 5 wythnos roedd yr adeilad wedi’i gwblhau ac roedd Sanger’s Royal Circus and Menagerie ar agor i’r cyhoedd. Nododd y Western Mail ar 28 Rhagfyr 1890:
For some weeks past a considerable body of workmen have been employed night and day in erecting a huge circus or hippodrome on the Penarth Road, Cardiff….With regard to the adornments, something may also be said. They consist of innumerable shields, flags bannerets and other devices representative of every nation. This work has been carried out by Mr Dominic Hand the well-known London art worker.
The menagerie is situated on the west side of the circus, and it is a beautifully lighted building, 80ft long by 40ft wide with accommodation for six dens of beasts, ten elephants, six or eight camels, dromedaries, llamas, yaks, beside “side shows” in the shape of illusions, freaks of nature &c….The whole of the artistes engaged, as well as the elephants, camels, carnivores and stud will be conveyed from London by three special trains….
Fel a nodwyd yn y Western Mail, agorwyd y syrcas ar 1 Rhagfyr i awditoriwm dan ei sang ac roedd yn “…undoubtedly one of the best circus performances seen in Cardiff”.
Messrs Sanger have an excellent stud of horses, including some well known thoroughbreds, a good zoological collection, a fine troupe of educated elephants and a staff of clever artistes. Just to mention a few items in the programme, Tarro, the Japanese wire and rope walker performs some marvellous feats. Miss Lavina Sanger introduces a fine horse “Black Eagle” in a unique performance and the Romah troupe of horizontal bar performers are very good gymnasts. Lieutenant Hartley exhibits his troupe of trained elephants which appeared at Sandringham on the occasion of the coming of age of His Royal Highness, Prince Albert Victor. The programme is replete with equestrienne, bicycle acrobatic and jockey performances. The circus is open each evening and on Wednesday and Saturday afternoons.
Er y dechreuodd yn dda, roedd gan Sanger rywbeth arall i’r cyhoedd ryfeddu ato dros y Nadolig. Roedd yr adeiladwyr wedi cael cais i gynnwys newid munud olaf i’r gwaith adeiladu. Trwy ddefnyddio dyluniad gan ddyn o Gaerdydd, Charles Elms, adeiladwyd y syrcas yn fath ffordd i alluogi lenwi’r arena â 40,000 galwyn o ddŵr hyd at ddyfnder o 2 i 3. Y bwriad oedd i’r perfformiad Nadolig gynnwys ‘pantomeim morol’ ar sail set a welwyd gyntaf mewn syrcas ym Mharis.
…the arena is filled with water forming a, by no means, miniature lake, dotted with islands, spanned by bridges and with boats, canoes and a steam launch, each with a freight of pleasure seekers floating thereon….This has been seen and enjoyed by thousands; many more thousands will see and enjoy it, too, for the whole thing is so excruciatingly funny that is it bound to have a long run [Western Mail, 31 December 1891]<}0{>the arena is filled with water forming a, by no means, miniature lake, dotted with islands, spanned by bridges and with boats, canoes and a steam launch, each with a freight of pleasure seekers floating thereon….This has been seen and enjoyed by thousands; many more thousands will see and enjoy it, too, for the whole thing is so excruciatingly funny that is it bound to have a long run [Western Mail, 31 Rhagfyr 1891]
Byddai’r rhai a welodd y sioe Nadolig wedi gweld perfformiad a oedd, yn ogystal â’r pantomeim, yn cynnwys ceffylau, eirth, llewod ac eliffantod gyda chast ategol o acrobatiaid, mabolgampwyr a chlowniaid. Roedd pris y tocynnau’n amrywio rhwng 1 swllt a chwe cheiniog i 3 swllt. Fodd bynnag, nid aeth pob perfformiad yn ôl y bwriad. Roedd y dŵr yn cael ei wresogi gan rwydwaith o bibellau ager a fethodd un noson. Fel a nodwyd y diwrnod canlynol, roedd y perfformwyr wedi dangos cryn dipyn o ruddin i fynd i mewn i’r dŵr oer [South Wales Echo, 30 Rhagfyr 1891]. Heb os fe cafwyd mwynhad yn y pantomeim gan blant o Drelai a chafodd tocynnau am ddim i’r berfformiad prynhawn Fercher:
At the conclusion of the performance, which was hugely enjoyed, the youngsters were treated to buns and oranges. They were conveyed to and fro by brake [South Wales Daily Echo, 22 Ionawr 1891]
Y mis canlynol parhâi’r syrcas i ddenu cynulleidfaoedd mawr gan fod Sanger yn newid y perfformwyr yn rheolaidd. Ym mis Chwefror yr uchafbwynt oedd ‘Y Rhyfel yng Ngwlad y Swlw’ …employing over 200 men and horses and assisted by a detachment of the 41st Regimental District. Arweiniodd hyn at adroddiad rhyfedd yn y papurau newydd. Roedd docwyr a fu’n streicio, wrth weld milwyr yn cael eu symud o gwmpas canol y ddinas, yn tybio mai ymdrech i dorri’r streic ydoedd. Wedyn esboniwyd bod y milwyr yn cael eu cludo i berfformiad yn y syrcas [South Wales Echo, 10 Chwefror 1891]. Bu ond y dim i drasiedi ddigwydd yn y syrcas hefyd. Adroddwyd ar 20 Rhagfyr yr aethpwyd ag un o geidwaid y syrcas i’r ysbyty gyda chleisiau difrifol ar ôl cael ei ddihuno gan eliffant yn ei lusgo o’i wely [Cardiff Times, 20 Rhagfyr 1890].
Ond, er gwaethaf ei boblogrwydd, byddai unrhyw un yn ymweld â’r safle yn Heol Penarth dim ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Ebrill 1891 wedi dod ar draws safle gwag gyda’r syrcas wedi gadael, yr adeilad wedi’i ddadosod a llawer o’r ffitiadau a oedd yn weddill yn cael eu hysbysebu ar werth. Fel y cadarnhaodd y llythyr gan Thomas Woodhouse yn Archifau Morgannwg, roedd yn un o amodau cymeradwyo’r cynlluniau y byddai’r syrcas yn cael ei ddadosod a’i symud erbyn 31 Mawrth 1891. I raddau, roedd hyn yn dilyn y fformat traddodiadol, gyda syrcas yng nghanol dinas yn ystod misoedd y gaeaf a syrcas deithiol yn ystod yr haf. Fodd bynnag, mae cynlluniau’r syrcas a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dod i ben ar yr adeg hon.
Mae’n debygol mai’r syrcas haearn yn Heol Penarth oedd y syrcas olaf i’w hadeiladu yng nghanol tref Caerdydd. Yn ddiamau, roedd tir yng nghanol Caerdydd yn werthfawr iawn ac felly roedd yn anodd dod o hyd i safleoedd a oedd yn addas i adeiladu syrcas barhaol. Er bod Tayleure a Hutchison ym 1870 yn wynebu cystadleuaeth gan un theatr yn unig yng nghanol y dref, roedd Sanger yn cystadlu â’r Philharmonic, y Theatr Frenhinol, yr Empire a Theatr y Grand. Yn ogystal, awgrymir i gynulleidfaoedd leihau ym mis Chwefror a mis Mawrth oherwydd bod streic hirfaith gan ddocwyr yn ei gwneud yn anodd i lawer o deuluoedd fforddio mynd i’r syrcas.
Mae’n debyg bod costau syrcas bwrpasol am gyfnod cyfyngedig yn y gaeaf yn unig rhy uchel i’w cyfiawnhau. Er i’r adeilad syrcas ddiflannu o ganol dinas Caerdydd, roedd y syrcas ei hun yn parhau ac yn ffynnu. Oherwydd maint nifer o neuaddau a theatrau canol y dref, roedd modd eu defnyddio i gynnal syrcasau. Er enghraifft, cynhaliodd Neuadd Sant Andrew yn Heol y Frenhines gyfres o dymhorau syrcas yn negawd cyntaf y ganrif newydd, wedi’u perfformio gan y Royal Italian Circus. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o bobl, roedd y syrcas yn cael ei chysylltu’n fwyfwy â’r babell fawr. Parhâi cwmni syrcas Sanger a llawer o gwmnïau syrcas eraill i ymweld â Chaerdydd, ond byddent yn defnyddio pebyll mawr mwy sylweddol a gwell, yn aml wedi’u gosod yng Ngerddi Sophia.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Mae’r Syrcas yn dod i’r Dref: Y Syrcas Haearn ar Heol Penarth, 1890 - Archifau Morgannwg