Wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf fynd rhagddo, roedd awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cydlynu eu hymdrechion i gefnogi’r ymgyrch ryfel.
Ar ddechrau’r rhyfel, un opsiwn a drafodwyd gan yr awdurdodau oedd defnyddio ysgolion cynradd fel ysbytai maes ar gyfer y sawl a anafwyd ar faes y gad. Sefydlwyd Didoliadau Cymorth Gwirfoddol i helpu nyrsys proffesiynol ar flaen y gad (er y cafwyd gwrthwynebiad i hynny ar y dechrau) ac yn yr ysbytai gartref. Testun trafod arall oedd ble y byddai recriwtiaid newydd yn aros cyn eu hanfon dramor neu i rywle arall ym Mhrydain. Yng Nghaerdydd, penderfynwyd defnyddio adeiladau cyhoeddus fel llety mewn argyfwng (RD/C/1/9).
Cafodd llawer o weithwyr a barhaodd i weithio i’r awdurdodau lleol gynnig Tâl Rhyfel Ychwanegol. Tâl i’w hannog nhw i weithio oriau hirach oedd hwn, yn aml i wneud yn iawn am golli gwyliau neu am gostau cynyddol hanfodion bywyd. Roedd y sawl nad oedden nhw yn y fyddin, gartref neu dramor, yn cael eu hannog i weithio mewn ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel neu ddeunydd arall ar gyfer awyrennau, llongau a thanciau. Byddai gwŷr hŷn neu ferched yn cymryd lle’r gwŷr a oedd yn rhyfela. Pan ddaeth y bygythiad y byddai awyrennau bomio a Sepelinau’r Almaen yn ymosod o’r awyr, cafodd yr awdurdodau lleol orchymyn i bylu neu ddiffodd goleuadau stryd a threfnu seirenau rhybudd.
Sefydlwyd elusennau i gefnogi’r sawl a oedd yn ymladd, eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Yn Aberdâr, awgrymodd y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Cysuro’r Lluoedd y dylid dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ddiwrnod Fflagiau, ac y dylid casglu arian yn y stryd er mwyn y Gronfa (UDAB/C/1/9).
Yn ogystal ag elusennau, roedd awdurdodau lleol yn annog rhai cyfleusterau megis ysgolion i roi arian tuag at gyfrif Cynilion Rhyfel. Tuag at ddiwedd y rhyfel, byddai tanciau a oedd wedi eu defnyddio ar faes y gad yn mynd o amgylch Prydain, a byddai’r cyhoedd yn cael taith mewn tanc weithiau am gyfraniad tuag at y Cynilion Rhyfel. Ar yr un pryd, roedd y llywodraeth yn cynnig Benthyciadau Rhyfel, yn annog pobl i fuddsoddi arian yn yr ymgyrch ryfel.
Yn ystod blynyddoedd diweddar y rhyfel, roedd rhai deunyddiau ar ddogn, un ai oherwydd ei bod yn anoddach cael gafael arnyn nhw, neu oherwydd bod eu hangen at ddibenion milwrol. Yn y Bari, penderfynodd yr awdurdodau beidio â defnyddio tar crai er mwyn cynnal ffyrdd oherwydd bod rhai o’r isgynhyrchion yn rhan o’r broses o gynhyrchu ffrwydron (BB/C/1/20). Wrth iddi ddod yn anoddach mewnforio neu gynhyrchu bwyd, dechreuodd yr awdurdodau annog pobl i dyfu bwyd mewn rhandiroedd. Yn ogystal â phobl ac adeiladau, cymerai’r lluoedd arfog gerbydau dinasyddion er mwyn eu defnyddio yn bennaf fel cerbydau trafnidiaeth. Yng Nghaerffili, rhoddodd Cwmni Trafnidiaeth De Cymru wybod i’r awdurdodau lleol bod eu cerbydau wedi eu cymryd gan Swyddfa’r Rhyfel, ond roedden nhw’n dal i obeithio cychwyn gwasanaethau yn ardal y dref (UDCAE/C/1/18). Yng Ngelligaer, trafodwyd llogi injan ffordd (UDG/C/1/11), ond ymddengys na weithredwyd ar y syniad.
Mae cofnodion yr Awdurdod Lleol yn Archifau Morgannwg yn dangos pa mor eang oedd gwaith y cynghorau lleol wrth gefnogi’r rhyfel ar y ffrynt cartref.
Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro