Dyma’r ail erthygl allan o dair sy’n edrych ar sut y crëwyd Cwnstablaeth newydd De Cymru gan gyfuno heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Merthyr ac Abertawe. Pwyslais yr erthygl gyntaf oedd lansiad yr heddlu ar 1 Mehefin 1969. Yn yr ail un rydym yn edrych ar yr heddlu newydd ‘modern’ a ffurfiwyd 50 mlynedd yn ôl. Cymerwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gyfer yr erthygl o Adroddiadau Blynyddol y Prif Arolygydd a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac yn enwedig yr adroddiad ar gyfer 1969-70 (ref.: DSWP/16/2). Mae gan Archifau Morgannwg hefyd gasgliad sylweddol o ffotograffau o waith yr heddlu o’r cyfnod hwnnw.
Daeth Cwnstablaeth De Cymru â’r pedwar heddlu, Caerdydd, Morgannwg, Merthyr ac Abertawe, at ei gilydd gydag ychydig iawn o newid yn nifer gyffredinol y swyddogion. Daeth mwyafrif y lluoedd newydd, rhyw 1300 o swyddogion o gyfanswm o 2391, o Gwnstablaeth Morgannwg. Yr heddlu lleiaf cyn eu huno oedd Merthyr gyda 141 o swyddogion ac yna Abertawe a Chaerdydd. Mae hyn yn swnio fel nifer sylweddol ac yn wir, roedd y Gwnstablaeth yn un o’r rhai mwyaf y wlad. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan y Prif Gwnstabl newydd, golyga hyn mai dim ond un swyddog oedd i bob 500 o bobl yn ardal y gwnstablaeth.
Bu arwyddion eisoes bod yr heddlu newydd ‘modern’ yn gweld newidiadau yn ei batrymau recriwtio traddodiadol. Er nad oeddent yn rhan gwbl integredig o’r heddlu tan ar ôl y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ym 1975, roedd swyddogion benywaidd wedi cael eu cyflogi erbyn 1969 bron ym mhob agwedd ar waith yr heddlu, o’r adran lifrau i’r Adran Archwilio Troseddau, yr Adran Traffig, y Gangen Arbennig a’r Uned Gyffuriau. Fodd bynnag, dim ond 65 o swyddogion benywaidd oedd wedi eu cyflogi, sef 3% o gyfanswm y cyflogeion. Mewn meysydd eraill roedd y swyddi sifilaidd yn tyfu’n gyflym gyda chyfanswm o oddeutu 500 wedi eu cyflogi yng Nghwnstablaeth De Cymru. Tra bod y mwyafrif wedi eu cyflogi mewn swyddi clercaidd, roedd swyddogion sifilaidd yn cael eu cyflogi mewn swyddi ehangach ar y strydoedd gyda 69 o wardeiniaid traffig, a’r tu ôl i’r llenni mewn swyddi cynnal a chadw cerbydau a wneir gan staff sifilaidd.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar nifer y cerbydau a’r gwaith o’u cynnal a chadw. I ryw raddau, roedd hyn yn dangos bod dulliau’r heddlu yn newid wrth gyflwyno’r Arfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Yn unol â’r Argymhellion Cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym 1967, roedd Plismona Strydoedd mewn Unedau yn annog heddluoedd i fuddsoddi mewn ceir a dyfeisiau radio personol i alluogi swyddogion i batrolio ac ymateb i alwadau gan y cyhoedd. Er y gostyngwyd nifer y swyddogion oedd yn patrolio ar droed oherwydd y dull hwn, mewn theori, ei nod oedd manteisio i’r eithaf ar dechnoleg newydd i blismona ardaloedd mawr. Erbyn diwedd 1969 roedd yr heddlu newydd yn berchen ar 459 o gerbydau, y dyrannwyd 160 ohonynt i’r wyth isadran ar gyfer Plismona Strydoedd mewn Unedau. Er bod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, roedd gan lawer o geir dechnoleg ddiwifr ac roedd swyddogion yn gallu manteisio ar 528 o radios personol.
Daeth peryglon hefyd o gyflwyno Plismona Strydoedd mewn Unedau. Bu cynnydd mawr yn nifer cerbydau’r heddlu mewn damweiniau ym 1969, gan gynnwys 93 o ddigwyddiadau gyda cheir Plismona Strydoedd mewn Unedau. Fel gwnaeth Melbourne Thomas gyfaddef:
Because of the rapid introduction of unit beat policing it was not possible to give every driver the full instruction which police drivers normally undergo to raise them to an above average standard…
Fodd bynnag rhoddodd sicrwydd i’r cyhoedd:
…no police officer was allowed to drive without a test to show that he was well capable of coping with normal traffic hazards.
Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad helaeth o ffotograffau o’r cyfnod hwn, gan gynnwys sawl llun o’r Morris Minors a oedd yn gefn asgwrn Plismona Strydoedd mewn Unedau yn ne Cymru. Cyfeirid atyn nhw fel Ceir Panda, er eu bod wedi eu paentio’n las golau a gwyn, a chyda thechnoleg ddiwifr daethant yn rhan nodweddiadol o blismona mewn llawer o ardaloedd.
Wrth fynd drwy’r adroddiad, roedd llawer o elfennau y gellir eu hystyried yn gyffredin erbyn hyn, ond ar y pryd roeddent yn ddatblygiadau newydd yng ngwaith yr heddlu ym 1969, gan gynnwys ymgyrchoedd i hyrwyddo gosod larymau byrgleriaid a chynnal seminarau atal troseddau. Gwelwyd hefyd un neu ddau o’r hen ffefrynnau gan gynnwys y ‘Goleuwr sy’n Siarad’ a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgyrchoedd diogelwch ar y ffordd gyda phobl ifanc. Cyfeiriwyd atyn nhw weithiau fel ‘Billy neu ‘Bertie the Beacon’, ac roedd yr ymgyrch yn cynnwys goleuadau croesi gydag wynebau a thei bô yn aml oedd yn mynd ar ymweliadau ag ysgolion. Roedd llais wedi ei recordio gan Billy a oedd yn cynnig cymorth ar ddiogelwch ar y ffordd megis ‘Aros, edrych a gwrando cyn i ti groesi’r ffordd’. Yn ystod oes pan oedd robotiaid yn berchen i ffilmiau Hollywood yn bennaf, cafodd Billy ‘groeso brwd bob tro’.
Efallai bod agwedd arall o’r ‘datblygiadau newydd’ hefyd o bwys. Roedd ystadegau troseddau ym 1969 yn llawn categorïau traddodiadol megis ymosod, byrgleriaeth a lladrata. Er bod Uned Gyffuriau arbenigol yn rhan o’r heddlu newydd, yr unig gyfeiriad at waith yn y maes hwn oedd adroddiad bod dau gi’r heddlu wedi cwblhau hyfforddiant i ddarganfod resin canabis. Gwnaed hyn o bosib wrth edrych at y dyfodol oherwydd o fewn 12 mis y bu’r Prif Gwnstabl yn adrodd ei fod yn pryderu am …y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn enwedig ymysg y bobl ifanc… Cafodd 274 o bobl eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ym 1970 ac arestiwyd 6 pherson yng Nghaerdydd am gynnal grŵp oedd yn mewnforio LSD a’i amnewid am resin canabis, ac felly roedd digon o reswm dros bryderon y Prif Gwnstabl i drefnu hyfforddiant i’r holl swyddogion mewn mynd i’r afael â throseddau cyffuriau.
Yn ystod 1969, daeth 11 o swyddogion o heddluoedd ar draws y byd – o Nigeria i Bahrain a’r Ynysoedd Solomon – i ymweld â Chwnstablaeth De Cymru. Nid oes cofnod o’u sylwadau. Ond heb os, buasai llawer i’w ystyried wrth i’r Gwnstablaeth newydd ymwreiddio ac addasu i’r newidiadau a’r heriau wrth Blismona De Cymru.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ceir copïau o Adroddiad Blynyddol y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969 ac 1970 yn Archifau Morgannwg, cyf. DSWP/16/2.
Pandas ar Strydoedd De Cymru: Cwnstablaeth De Cymru newydd a grëwyd ym 1969 - Archifau Morgannwg