Ymgyrchu dros y Rhondda, Rhan 2:  Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw

Cedwir cofnodion o Anheddiad Maes-yr-Haf yn Nhrealaw yn Archifau Morgannwg.   Ymhlith y casgliad mae un ddogfen benodol sy’n werth ei harchwilio’n fanwl; y ffeil sy’n ymwneud â Chymdeithas Lesddeiliaid Trealaw, sefydliad a ymgyrchodd yn llwyddiannus rhwng 1937 a 1938, gyda grwpiau eraill, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud ag atgyweirio eiddo prydlesol. O dan wyneb y mater cyfreithiol ac ymddangosiadol sych hwn, roedd dogn ryfeddol o angerdd, gan beri i Syr Reginald Clarry, AS Ceidwadol Casnewydd, ddweud hyn yn Nhŷ’r Cyffredin:

‘I think the crime of these vultures ranks on the same basis as blackmail’ (Hansard)

Yn yr un ddadl dwedodd William Henry Mainwaring, AS Llafur Dwyrain Rhondda:

‘Speaking directly, on behalf of these hundreds of people on that Trealaw estate. They are waiting this morning with great anxiety to hear whether this Bill receives its Second Reading, to learn whether there is any hope.’

Yr achos dros y pwysau gwleidyddol a arweiniodd at rethreg seneddol o’r fath oedd y ffordd y darparwyd tai yng nghymoedd de Cymru yn ystod y 19eg ganrif.  Yn yr un modd â rhannau eraill o’r wlad roedd llawer o faes glo deheudir Cymru yn eiddo i ystadau’r aristocratiaid a’r bonedd lleol a oedd yn aml yn barod i fanteisio ar botensial diwydiannol cynyddol eu heiddo, ond heb feddu ar y cyfalaf i wneud hynny. Roedd llawer o ystadau eu hunain yn methu neu’n amharod i adeiladu tai ar gyfer y boblogaeth gynyddol. Felly, roeddent yn prydlesu eu tir i adeiladwyr, yn aml ar brydlesi adeiladu 99 mlynedd, a’r adeiladwyr hyn oedd wedyn yn eu tro yn ariannu’r gwaith o godi’r tai a oedd eu hangen ar y maes glo ffyniannus. Byddai’r adeiladwyr yn aml yn is-osod y tai gorffenedig i’r meddianwyr, gan arwain at berthynas gyfreithiol gymhleth rhwng y landlord, y tenant a’r is-denantiaid. Yn y 1930au roedd llawer o’r eiddo preswyl yng Nghymoedd y Rhondda yn eiddo i landlordiaid a dderbyniai rent tir bach o ychydig bunnoedd y flwyddyn, yn aml gan ddeiliad tŷ a oedd yn ddi-waith. Ar ddiwedd y brydles, byddai’r eiddo’n dychwelyd yn ôl i’r landlord oni bai bod y tenant wedi prynu’r ‘rifersiwn’ neu’r rhydd-ddaliad.  Roedd y system hon wedi gweithio’n weddol dda hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, tra bod y maes glo yn llewyrchus; roedd y rhenti tir yn sefydlog ac roedd y gwahanol gyfamodau (amodau a osodwyd gan y landlord ar y tenant) yn cael eu dehongli’n drugarog yn gyffredinol.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf newidiodd y sefyllfa; dirywiodd y diwydiant glo, cynyddodd diweithdra, a daeth talu’r rhent tir yn frwydr. Esgeuluswyd gwaith cynnal a chadw llawer o eiddo, gan achosi dirywiad mewn amodau tai yn lleol. Roedd gan yr ystadau traddodiadol eu hanawsterau eu hunain hefyd, a phan werthodd Syr Rhys Williams ystâd Trealaw yn gynnar yn 1937 i’r National Real Estate and Finance Company Limited roedd yn rhan o batrwm sefydledig o chwalu cyson ar lawer o ystadau tir.

Roedd y landlordiaid newydd yn syndicet ariannol yn Llundain a oedd yn arbenigo ar gaffael ystadau prydles gyda’r bwriad o ddychryn y tenantiaid i brynu rhydd-ddaliadaeth eu heiddo (eu cartrefi fel arfer) am bris yn llawer uwch na phris y farchnad. Mabwysiadodd y Cwmni eu gweithdrefn arferol yn gyflym o sicrhau gwasanaethau cyfreithwyr lleol a ysgrifennodd yn ystod wythnosau olaf Ebrill 1937 at bob un o’r 1,700 o denantiaid ar ystâd Rhys-Williams yn Nhrealaw. Roedd y llythyrau hyn yn hysbysu pob tenant o’r newid perchnogaeth, y byddai ‘arolwg o ddadfeilio’ yn cael ei gynnal ar eu heiddo am ffi o bedair gini, ac yn bygwth pe na bai unrhyw atgyweiriadau gofynnol gan y landlord yn cael eu gwneud, y byddai achos llys yn dilyn. Byddai achos llys yn cael ei ddwyn yn erbyn y tenant am dorri’r cyfamod a gynhwysir yn y brydles i gadw’r eiddo mewn cyflwr da.  Byddai fforffedu’r brydles a’r eiddo i’r landlord yn dilyn wedi hynny. Yn Nhrealaw 1937 roedd arian yn dynn, roedd llawer o gyllidebau aelwydydd yn ei chael hi’n anodd bwydo eu hunain a thalu’r rhent tir blynyddol, ychydig iawn o arian a oedd yn sbâr i dalu biliau swmpus i drwsio tai. Cynigiodd y Cwmni’r dewis amgen i’r tenant brynu rifersiwn rhydd-ddaliadol ei brydles (felly’n dod yn berchennog llawn ar yr eiddo), y pris prynu wedi ei bennu ar lefel rent tir o ddeng mlynedd ar hugain, tra mai pris y farchnad oedd tua dwy flynedd ar bymtheg. Derbyniodd y tenantiaid y llythyrau hyn yn ystod pythefnos olaf mis Ebrill a dim ond tan 12 Mai oedd ganddynt i ymateb i’r ‘cynnig coroni’ hwn – cynllun marchnata eironig.

Darparodd Anheddiad Maes-yr-haf un ffynhonnell o gefnogaeth ac, yn bwysicaf oll, bersonoliaethau oedd â chysylltiadau yn y byd ehangach er mwyn gallu cynorthwyo’r tenantiaid i wrthsefyll gobeithion y Cwmni o’u gyrru nhw fel defaid i brynu eu rhydd-ddaliadau am bris chwyddedig. Daeth wardeiniaid Maes-yr-haf a Gwersyll y Malthouse yn y Wîg yn fuan iawn yn rhan o sefydliad i amddiffyn buddiannau’r tenantiaid.

DMH-9 minutes

Ar 5 Mai cynhaliwyd cyfarfod agoriadol o Gymdeithas Lesddeiliaid Trealaw, gan sefydlu cyfansoddiad ac amcanion, ac eto gan adael y broblem o ran y ffordd orau o fynd i’r afael â’r ymgyrch yn erbyn y Cwmni o Lundain. Er bod sefyllfa gyfreithiol y Cwmni yn gryf, roedd yn cynnwys elfen o fygythiad gwag, gan na allai yn realistig gynnal arolygon dadfeilio a dwyn achosion llys yn erbyn pob un o’r 1,700 o denantiaid ar ystâd Trealaw. Roedd posibilrwydd y byddai achos prawf yn cael ei ddwyn yn erbyn tenant unigol felly dechreuodd y wardeiniaid ddefnyddio eu cysylltiadau o fewn y byd cyfreithiol a gwleidyddol gyda rhywfaint o frys i gefnogi achos y tenantiaid.  Mae cyfres o lythyrau yn y ffeil yn dangos George Davies, Warden y Bragdy yn y Wig, yn gofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr cyfeillgar ac yn ysgrifennu at Ursula Cripps, merch-yng-nghyfraith i AS blaenllaw meinciau cefn y Blaid Lafur, Syr Stafford Cripps, yn gofyn iddi ‘wneud tro da iawn â’r Rhondda’ drwy anfon memorandwm ar ystâd Trealaw at Syr Stafford.

DMH-9 Ursula Cripps

Roedd y cyngor cyfreithiol yn unfrydol, fel y nododd Syr Stafford Cripps yn anobeithiol ar 12 Mai:

This practice has been adopted in one or two cases and unfortunately, these people know the law pretty well and plan their moves carefully. It is of course a terrible way of dealing with property but it is within the law and only a strike or public protest of tenants can do anything to avert it’.

Ni allai’r gyfraith bresennol helpu, dim ond pwysau gwleidyddol yn deillio o ymgyrch gyhoeddus a ymddangosai fel pe bai’n cynnig ffordd ymlaen. Daeth Syr Stafford i’r casgliad:

‘I am sorry I can’t be more helpful, it’s this perfectly awful system under which we live.

Roedd Anheddiad Maes-yr-haf mewn sefyllfa anodd, roedd llwyddiant yr Anheddiad yn dibynnu ar gadw draw o wleidyddiaeth bleidiol, ac eto roedd ei ddau warden yn dechrau cymryd rhan mewn ymgyrch gyhoeddus. Denodd yr Anheddiad gefnogaeth o bob rhan o’r sbetrwm gwleidyddol, gan gynnwys Ceidwadwyr fel Henry Brooke, darlithydd yn yr Anheddiad, 1927-28, ac yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, Rhyddfrydwyr fel Alexander Lindsay, Meistr Coleg Balliol, Rhydychen, a Chadeirydd Pwyllgor Maes-yr-haf, 1926-50, a gwleidyddion Llafur lleol fel William Henry Mainwaring,  AS Dwyrain Rhondda, a William John, AS Gorllewin Rhondda. Roedd gan fater lesddeiliaid Trealaw y potensial i beryglu cymeriad anwleidyddol yr Anheddiad.

Datgelir arwydd o’r anawsterau hyn mewn llythyr heb ei ddyddio, a ysgrifennwyd yn ôl pob tebyg yn wythnos gyntaf Mai 1937, gan William Noble i Arthur Charles, Cadeirydd Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw:

: ‘I had talked over with George Davies the possibilities of trying a policy of reconciliation before publicity, but George was for publicity. I am sure it is right to go and try to persuade people who are doing wrong to do right, but it will clash with Mainwaring’s policy of raising it in The House.’

Roedd William Noble yn llai tueddol o weithredu’n ymosodol na’i gydweithiwr George Davies, roedd yn dal i obeithio y gellid dwyn perswâd ysgafn. Sylweddolodd ei fod yn ceisio mynd dwy ffordd ar unwaith:

‘The right thing is to keep it all in touch and not allow [the] 2 methods to become contradictory’

Roedd gan rannau eraill o’r wlad, yn enwedig yn Birmingham a Llundain, achosion tebyg o ystadau prydlesol yn cael eu hecsbloetio gan syndiciaethau ariannol a arweiniodd at ddigon o gefnogaeth yn y Senedd i F.W. Higgs, AS Ceidwadol Gorllewin Birmingham, noddi Bil Aelod Preifat i ddiwygio’r gyfraith. Rhoddodd y Bil amddiffyniad i denantiaid rhag bod landlordiaid yn manteisio’n fympwyol ar gyfamodau atgyweirio mewn prydlesi drwy roi’r hawl iddynt wneud cais i’r llysoedd i’w hamddiffyn rhag gorfodaeth gyfreithiol o’r fath, a chaniatáu i’r llysoedd ddyfarnu pa atgyweiriadau y gellid eu hystyried yn rhesymol ai peidio. Cyflwynwyd y Bil ym mis Chwefror 1938 a chafodd gefnogaeth gan bob ochr i Dŷ’r Cyffredin.  Yn ystod dadl yr Ail Ddarlleniad, siaradodd Syr Reginald Clarry, AS Ceidwadol Casnewydd, a William Henry Mainwaring, AS Llafur Dwyrain Rhondda (a’i etholaeth yn cynnwys Trealaw), o blaid y Bil. Nid yw ffeil Maes-yr-haf yn cynnwys unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ddangos os bu i William Noble neu George Davies friffio ASau unigol cyn y ddadl, ond mae manylion araith Mainwaring ynghylch ystâd Trealaw yn awgrymu y gallent fod wedi gwneud hynny. Yn anffodus, ychydig o bapurau yn y ffeil sy’n ymwneud â thaith y Bil ac mae’n anodd asesu pa mor weithgar yr oedd Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw yn ymgyrchu. Ysgrifennodd William Noble femorandwm dyddiedig 18 Ionawr at yr holl ASau i gefnogi’r Bil, a gohebodd â nifer o ASau amdano tan fis Mai. Gwnaeth y Bil gynnydd cyson a daeth yn gyfraith ar 23 Mehefin 1938 fel Deddf (Atgyweiriadau) Eiddo Prydlesol 1938.

Nid oedd Deddf 1938 yn dileu’r chwerwder a deimlid gan lawer o denantiaid yn erbyn y system o berchnogaeth brydlesol, a barhaodd yn broblem yn ne Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Ond mae hanes Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw a Deddf (Atgyweiriadau) Eiddo Prydlesol 1938 yn rhan fach o hanes y Rhondda, sy’n dangos sut y gallai Anheddiad Maes-yr-haf ymgyrchu dros y gymuned leol a wasanaethai. Rhoddir dimensiwn lleol i ddarn o ddeddfwriaeth genedlaethol, ac mae’n dangos sut y gallai’r tenantiaid di-waith a diymadferth yn Nhrealaw barhau i leisio eu barn yn San Steffan, i’r graddau y newidiwyd y gyfraith yn eu sgil.

Ymgyrchu dros y Rhondda Rhan 1: Anheddiad Maes-yr-Haf, Trealaw

Ysgrifennodd John Evans, glöwr di-waith, yn The Listener ar gyfer 25 Ebrill 1934 cyfrif personol o gyflwr digalon Cwm Rhondda yn ystod y dirwasgiad mawr yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Nododd:

“Mae pobl yn aml yn gofyn i ni, pwy sydd allan o waith, sut rydyn ni’n ymdopi. Wel mae’r ateb yn hawdd.  Rydym yn ymdopi drwy fynd heb. Mae’n debyg eich bod wedi clywed sut y mae’n rhaid inni ymdopi drwy grafu ynghyd ychydig o esgyrn a dail bresych a hyn a’r llall, ac yn y blaen, i wneud cinio, ond tybed a wyddoch am yr effaith y mae brwydr front o’r math hwn yn ei chael ar feddyliau pobl, ar wahân i’r effaith ar eu cyrff. Nid yw’n fater o’r “di-waith yn ei chael hi’n anodd cael deupen y llinyn ynghyd”, ond o ddynion a menywod yn straffaglu i gael byw.’

Yr anobaith economaidd a chymdeithasol llethol hwn a arweiniodd at sefydlu Anheddiad Maes-yr-haf fel ymgais ymarferol i weithredu addysgu cymdeithasol Cristnogol ymhlith glowyr di-waith y Rhondda. Yn dilyn cyrchoedd cymorth brys a drefnwyd gan Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr), yn ystod streic glo chwerw 1926, daeth nifer o Gyfeillion amlwg gan gynnwys Emma Noble, Cynghorydd Llafur o Swindon, a Dr Henry T. Gillet o Rydychen, yn argyhoeddedig o’r angen am gymorth o fath mwy parhaol i Gwm Rhondda. Drwy aeaf 1926-27, datblygodd y syniad yn gyflym i sefydlu Anheddiad Cymdeithasol yn cael ei gynnal ar batrwm y Crynwyr yn y Rhondda a ffurfiwyd pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Alexander Lindsay, Meistr Coleg Balliol, Rhydychen, ym mis Ionawr 1927 i gasglu arian i sefydlu Canolfan Addysgol ac Anheddiad Cymdeithasol. Codwyd yr arian yn gyflym a phrynwyd tŷ Fictoraidd mawr o’r enw Maes-yr-haf yn Nhrealaw.  Symudodd Wardeniaid cyntaf yr Anheddiad, William ac Emma Noble, i Faes-yr-haf ym mis Ebrill 1927; roeddent i aros yno tan 1945.

DMH-12-4

Tu fewn i Dŷ Maes-yr-Haf, 1928 (DMH/12/4)

Newidiodd cymeriad Anheddiad Maes-yr-haf yn gyflym o waith cymorth uniongyrchol yn ddosbarthu bwyd a dillad i sefydlu canolfan addysgol a chymdeithasol o bwys ar gyfer ardal Trealaw. Trefnodd yr Anheddiad ystod eang o ddosbarthiadau ar gyfer pobl ddi-waith a’u teuluoedd o’r ‘athroniaeth foesol’ haniaethol i hunangymorth mwy ymarferol y canolfannau trwsio esgidiau a reolid yn gydweithredol.

DMH-12-40

Ymarfer côr, 1930s (DMH/12/40)

Ehangodd gweithgareddau’r anheddiad i gynnwys llawer o weithgareddau diwylliannol, addysgol a hamdden yn amrywio o glybiau drama a cherddoriaeth i redeg gwersyll gwyliau i’r di-waith mewn bragdy wedi’i addasu yn y Wîg.

DMH-12-13

Gardd y bragdy, y Wîg, 1934 (DMH/12/13)

Gwnaed ymdrechion i hyrwyddo cyflogaeth ar raddfa fach, ym Maes-yr-haf roedd y rhain yn cynnwys rhandiroedd, ffermio dofednod, crochenwaith a gweithdai gwehyddu.

DMH-12-17

Dwy fenyw wrth rodau nyddu tu allan i’r shed gwehuddu, Maes-yr-haf, 1934 (DMH/12/17)

Rhwng 1914 a 1957 darparodd Diwydiannau Maes-yr-haf ar gyfer yr Anabl gyflogaeth i bobl leol ag anabledd, gan gynhyrchu dodrefn i ddechrau ac yna flychau dŵr mwynol Corona yn ddiweddarach. Daeth Maes-yr-haf yn enghraifft drawiadol o’r hyn y gallai Anheddiad Cymdeithasol gwirfoddol ei gyflawni.

DMH-12-49

Gweithdy diwydiant i’r anabl, 1950 (DMH/12/49)

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwelodd y cynnydd cyffredinol mewn safonau byw a chreu’r wladwriaeth les ar ôl y rhyfel y cyfrifoldeb am lawer o’r gwasanaethau addysgol a chymdeithasol a arloeswyd gan Maes-yr-haf yn cael eu trosglwyddo fwyfwy i lywodraeth ganolog a lleol. Erbyn diwedd y 1960au daeth Pwyllgor Maes-yr-haf i’r casgliad bod cynifer o amcanion gwreiddiol yr Anheddiad wedi’u cyflawni, ac yn sgil amodau cymdeithasol llawer gwell y cyfnod, ei bod yn briodol i’r Anheddiad gael ei ddirwyn i ben. Wedi trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Rhondda a Chyngor Sir Morgannwg gwerthwyd safle’r Anheddiad i Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1971. Defnyddiwyd elw’r gwerthiant i sefydlu Ymddiriedolaeth Addysgol Maes-yr-haf a ddosbarthodd ei hincwm am flynyddoedd lawer ymhlith sefydliadau fel Sefydliad y Merched a Grwpiau Chwarae a oedd wedi defnyddio neu a oedd yn gysylltiedig â’r Anheddad blaenorol. Mae safle Maes-yr-haf yn gwasanaethu fel Canolfan Gymunedol.

Mae cofnodion Anheddiad Maes-yr-haf yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion Pwyllgor Maes-yr-haf, 1927-71, adroddiadau blynyddol, 1921-71, cyfrifon, 1931-71 a chyfres o ffeiliau a gafodd eu cadw gan William Noble, warden Maes-yr-haf, o 1921 i 1945. Mae’r ffeiliau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sefydlu Maes-yr-haf, gwersyll gwyliau’r Malthouse, addysg i bobl ddi-waith a Chymdeithas Lesddeiliaid Trealaw. Dengys ffotograffau lawer o weithgareddau’r Anheddiad, gan gynnwys Clwb Gwnïo’r Merched (1926), adennill glo o domennydd rwbel glofeydd (1935), ymweliad Syr Stafford Cripps â Maes-yr-haf (1941) ac ymweliad parti rhyngwladol o fyfyrwyr â’r Anheddiad (1967). Mae’r casgliad yn cynnwys hanes manwl yr Anheddiad a ysgrifennwyd gan Barrie Naylor, warden Maes-yr-haf o 1945 i 1971, ‘Quakers in the Rhondda’. Mae’r llyfr hwn, sy’n amhrisiadwy ar gyfer paratoi’r erthygl hon, yn adroddiad cynhwysfawr o darddiad a datblygiad yr Anheddiad.

Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Papurau Glofa Fernhill

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Papurau Glofa Fernhill

Mae cofnodion Glofa Fernhill yn gasgliad o eitemau amrywiol sy’n ymwneud yn benodol â Glofa Fernhill yng Nghwm Rhondda, Mae’r casgliad yn wych ar gyfer paratoi’r llwyfan ar gyfer y diwydiant glo, gyda phapurau ar bethau fel band y lofa, baddonau pen pwll a chyflogau.

D1100-1-2-6 PHB instructions web

Llawlyfr cyfarwyddiadau baddonau pen pwll, Glofa Fernhill (D1100/1/2/6)

Mae’r canllaw i ddefnyddio’r baddonau pen pwll yn gofnod lles allweddol sydd i’w gael yn y casgliad. Mae un o gynghorion y llawlyfr yn dweud:

Get your “butty” to wash your back. Then you do his. The most up-to-date installation has not yet discovered any better method of “back-washing”.

Mae’r casgliad hwn hefyd y cynnwys deunydd ar Ysbyty Bach Treherbert ynghyd â gwasanaeth cerbyd ambiwlans.

D1100-3-12-2 Treherbert hospital web

Cynllun Ysbyty Treherbert, Tach 1924 (D1100/3/12/2)

 

Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cylchgronau Ocean and National

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Cylchgronau Ocean and National

Mae cyfres yr Ocean and National Magazine yn gylchgronau a ysgrifennwyd ar gyfer a chan weithwyr y maes glo. Maen nhw’n cynnwys erthyglau, cartwnau a newyddion o’r glofeydd, gan gynnig cipolwg ar fywyd yn y maes glo yn y 1920au a’r 1930au. Mae pob cylchgrawn hefyd yn cynnwys deunydd Cymraeg.

Gydag erthyglau ar faddonau pen pwll, ysbytai, lles a hamdden gellir defnyddio’r cylchgrawn i weld pa ddarpariaethau a wnaed ar gyfer gweithwyr y glofeydd yn y 1920au a’r 1930au. Mae llawer o’r pynciau hyn wedi eu cynrychioli hefyd mewn cartwnau yn y cylchgronau.

Image 1

Cynllun o Faddonau Pen Pwll Glofa’r Parc, rhifyn Chwefror 1929 (D1400-9-2-2)

Image 2

Ffotograffau o Ysbyty Bach Pentwyn yn Nhreorci, rhifyn Chwefror 1929 (D1400-9-2-2)

Image 3

Cartŵn – Baddonau Pen Pwll y Parc, rhifyn Mai 1929 (D1400-9-2-5)

Image 4

Cartwnau – ‘Scenes That Are Brightest’ – baddonai’r pwll, rhifyn Rhagfyr 1933 (D1400-9-6-12)

Gyda rhychwant mor amrywiol o bynciau, mae’r cylchgronau hyn yn adnodd gwych ac mae Andre Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi llunio mynegai i’r cylchgronau, gan olygu bod modd eu chwilio drwy ein catalog (cyf.: D1400/9).

Mae Andrew hefyd wedi ysgrifennu cyfres o erthyglau blog yn tynnu sylw at rai o’r pynciau sydd i’w cael yn y cylchgronau.

Capel Annibynnol y Cymer a Ffordd Liniaru’r Rhondda

Agorodd Ffordd Liniaru’r Rhondda, sy’n mynd o Drehafod i Bont-y-gwaith drwy’r Porth, i drafnidiaeth yn 2006, a chafodd ei hagor yn swyddogol y flwyddyn wedyn – ar ôl i waith tirlunio gael ei gwblhau – gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, y diweddar Rhodri Morgan.  Er bod yr angen i ddargyfeirio traffig i ffwrdd o gartrefi yn ardal y Porth wedi cael ei gydnabod ers tro, roedd y cynllun yn dal yn ddadleuol. Ar gost o £98 miliwn roedd yn un o’r ffyrdd mwyaf costus i gael ei hadeiladu yn y DU, gan olygu ei bod yn £18 y filltir. Fodd bynnag, roedd yn ddadleuol ar y cyfan oherwydd llwybr y ffordd, a’r ffaith ei bod yn rhedeg drwy fynwent hanesyddol Capel Annibynnol y Cymer. Byddai hyn yn golygu datgladdu dros wyth cant o gyrff.

Cafodd Capel Annibynnol presennol y Cymer ei godi ym 1834 i ddisodli, ehangu a gwella ar y capel blaenorol a godwyd ym 1743. Fe’i sefydlwyd gan y Parchedig Henry Davies, a oedd yn enwog am ei frwdfrydedd efengylaidd, ac mae’n cael ei gydnabod fel y capel anghydffurfiol cyntaf i gael ei godi yn y Rhondda. Aeth can mlynedd arall heibio cyn i ail gapel Annibynnol gael ei godi yn y cwm, sef Carmel, Treherbert ym 1857.

Tyfodd aelodaeth y capel a llewyrchodd wrth i boblogaeth y Rhondda dyfu. Fodd bynnag, pan gynhaliodd hen gyngor Morgannwg Ganol arolwg o gapeli ym 1978 – y mae eu cofnodion hefyd yn Archifau Morgannwg (cyf.: MGCC/CS/54/10) – cofnodwyd bod y gynulleidfa yn edwino ac nad oedd felly yn gallu cynnal gweinidog llawn amser. Caeodd y capel ei ddrysau ym 1987.

Yn 2005 rhoddwyd cofnodion y capel yn Archifau Morgannwg (cyf: D342). Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion ariannol y capel, cyfrifon y fynwent a nifer o ffotograffau. Yn rhan o’r cyfrifon mae cynllun wedi’i ddarlunio â llaw o’r fynwent o 1877.

D342-3web

Mae’r cynllun yn ceisio ail-greu’r fynwent, gyda phob bedd unigol wedi’i ddarlunio yn fanwl iawn â llaw.

D342-3 detail web

Mae rhif ar bob bedd a nesaf at y darlun mae allwedd yn rhestru prynwr pob plot. Ymhlith y beddau gafodd eu hail-greu’n ofalus mae man gorwedd y gweinidog sefydlodd y capel, y Parch. Henry Davies, sydd wedi’i gladdu mewn bedd syml yng nghysgod y capel yr helpodd i’w adeiladu.

Yn ddiweddarach yn 2005 cafodd y cyrff a gladdwyd ym mynwent y Capel eu datgladdu a’u claddu unwaith eto mewn rhan o’r tir nas effeithiwyd gan y ffordd. Cafodd rhai eu symud i fynwentydd gwahanol ar gais perthnasau. Y cynllun wedi’i lunio â llaw o 1877 yw’n darlun gorau o fynwent y capel fel yr oedd, wedi’i cholli bellach o dan darmac yr A4233.

Cylchgrawn The Ocean and National, 1936: Atgofion Drwy Lyfr Amser yng Nglofa Bute Merthyr

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r olaf mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

D1400-9-9-3 Cover

Clawr Cyf. 9, Rhif 3, Mawrth 1936, D1400/9/9/3

Mae storïau o lofeydd unigol hefyd i’w gweld yng Nghylchgronau The Ocean and National. Yn 1936, mae cyfres o erthyglau wedi eu hysgrifennu gan ‘I.B.’, yn trafod cynnwys llyfr amser hanesyddol y daethpwyd o hyd iddo yng nglofa Bute-Merthyr. Mae’r awdur yn disgrifio:

…wiping away the quarter inch of grime that encased its front cover…an accumulation of 20 years… [and opening] up a field of reminiscences.

D1400-9-9-3 page 93

Atgofion llyfr amser yng Nglofa Bute Merthyr, D1400/9/9/3, t.93

Mae’r erthyglau yn sôn am bobl y mae eu henwau’n ymddangos yn y llyfr amser, gan gynnwys ambell ddyn oedd yn dal yn fyw. Sylwa gyntaf ar enw David Timothy, oedd yn Dipiwr, a dywed fod Mr Timothy…yn fyw ac yn iach yn 93 oed…a’i fod yn dal i weithio yn y Bute-Merthyr pan oedd yn 70, ac ar y plwy adeg streic 1921. Sonnir hefyd am wasanaeth hirhoedlog Thomas Griffiths, Pwmpsmon, yr oedd yr awdur yn cofio clywed mai ef a wasanaethodd hiraf o bawb yn y Bute-Merthyr, gyda’i frawd yn ail iddo. Sonnir hefyd am Mr W.D. Jones, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Billy Jones, Y Stafell Ddarllen’, ac am ei wasanaeth hir dros 50 mlynedd i Bute-Merthyr.

D1400-9-9-7 page 236

W D Jones, cyflogai hirhoedlog glofa Bute Merthyr, D1400/9/9/7, t.236

Mae’r awdur hefyd yn defnyddio’r llyfr amser i dynnu sylw at rôl gweithlu’r Bute-Merthyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi bod 157 wedi ymuno â Lluoedd Ei Fawrhydi rhwng 1914 a 1916. Yn rhifyn mis Mai, rhoddwyd sylw i’r sawl a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r awdur yn dwyn nifer o ddynion a wasanaethodd i gof, ac yn eu plith roedd John Candy. Yn 18 mlwydd oed, dychwelodd Candy, oedd wedi colli un o’i lygaid ac ag ôl bwled yn ei fraich chwith, o’r Rhyfel ac fe’i cofnodwyd yn bwyswr yn Hydref 1916. Mae’r awdur wedyn yn sylwi ar enwau Peitre Arents a Louis Popilier yn y llyfr amser, a dywed nad oedden nhw’n…enwau y byddai disgwyl eu gweld mewn Llyfr Amser o Lofeydd Cymru. Eglurir bod ffoaduriaid o Wlad Belg wedi byw yn yr ardal yn ystod y Rhyfel.

Yn rhifyn mis Ebrill, mae’r llyfr amser yn trafod marwolaethau a damweiniau.  Mae gweld enwau Walter Durrant, Pwmpsmon, yn atgoffa’r awdur o’i farwolaeth mewn storm eira yn 1925. Enw arall a geir yw un Thomas Llewellyn, a fu’n weithiwr drifft, ac mae’r awdur yn cofio am ddamwain drasig a ddigwyddodd i Mr Llewellyn yn 1896. Roedd grŵp o bobl wedi cael gafael ar offer tanio a phowdwr ac fe gafwyd ffrwydrad, y collodd Mr Llewellyn ddau fys o’i herwydd.

D1411-2-1-16-1---Web

Enghraifft o Lyfr Tâl o Lofa Bute-Merthyr yng nghasgliad Archifau Morgannwg, Ion-Tach 1926, D1411/2/1/16/1

Mae’r erthyglau hyn yn dangos sut gall dogfennau hanesyddol gael eu defnyddio i hel atgofion ac adrodd storïau’r bobl sydd ynddynt. Nid yw’r llyfr amser y sonnir amdano yn yr erthygl hon wedi goroesi, ond mae llyfrau talu eraill o Lofa Bute-Merthyr a glofeydd eraill yn y casgliad, a gellir ymgynghori â nhw yn ein hystafell chwilio. 

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Cylchgrawn Ocean and National, 1935: ‘Why Doesn’t Someone Localise our ‘Snakes and Ladders’ Board?’

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r wythfed mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

Ym 1935 argraffodd cylchgrawn The Ocean and National gyfres o erthyglau yn holi’r cwestiwn ‘Pam na wnaiff rhywun…?’ Ym mis Awst pwnc yr erthygl oedd y syniad o greu fersiwn leol o’r gêm fwrdd Snakes and Ladders. Mae cynllun y bwrdd i’w weld ar un o’r tudalennau, ac roedd bron 20 o leoliadau gyda chyfarwyddiadau ar yr hyn i’w wneud ar ôl cyrraedd yno. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r ardal o amgylch Cymoedd y Rhondda yn debygol o ystyried y lleoliadau a’r cyfarwyddiadau yn ddigon difyr.

Snakes and Ladders_edited

 

  1. Stag Hotel – Anodd Dechrau. Rhaid sgorio chwech neu ofyn am wydraid o ddŵr. Fel arall colli dau dro.

 

  1. Red Cow – Cwrdd â ffrind ac aros. Colli un tro a mynd nôl i rif 1.

 

  1. Swamp – Arbed bywyd dafad ond cael eich llorio gan wŷdd. Neidio dros un (rhif).

 

  1. Luigi’s Ic Cream – Anghofiwch y gêm, trafodwch Abyssinia a chael cornet. Colli dau dro.

 

  1. Heddlu Pentre – Anghofio’r dyddiad a dymuno ‘Nadolig Llawen’ i’r Sarjant mewn camgymeriad. Nôl dau.

 

  1. Swyddfa’r Prudential – cael eich atal gan asiant sy’n eich gwthio nôl dri cham – am weddill eich bywyd.

 

  1. Gwesty ‘r Bridgend – Cwrdd â hen ffrind sy’n adrodd hanes ei lawdriniaeth wrthych. Colli pedwar tro.

 

  1. Allanfa Gorsaf Ystrad – Un o fechgyn yr ‘Echo’ yn eich llorio. Nôl chwech er mwyn gallu dal eich gwynt.

 

  1. Swyddfa Ystadau – Talwch eich rhent daear cyn pryd. Neidio 4 mewn llawenydd.

 

  1. Co-op Ton – cael eich camgymryd am werthwr cwponau pêl-droed Cael eich arestio am dri thro. Ewch nôl i Rif 5.

 

  1. Gwesty’r Windsor – oedi i ddadebru. Gwrthsefyll y demtasiwn i gael ‘Corona’ a symud ymlaen dri cham.
  2. Gorsaf Heddlu Ton – colli tri thro oherwydd eich gorfodi i fynychu’r llys. Manylion wedi eu sensro. Ewch nôl ddau a gwyliwch eich cam.

 

  1. West End Ton – Arogl y dŵr yn eich adfywio. Symudwch ymlaen dri – yn gyflym.

 

  1. Ysbyty Pentwyn – Gwyrwch i lawr y grisiau marmor. Cwrdd â’ch swyddog prawf. Colli deuddeg tro, ond cymryd llwybr tarw yn ôl i rif 3.

 

  1. Cyffordd Nantymoel – Gwrthsefyll temtasiwn i fynd â’ch cariad ar hyd y ffordd newydd . Sgipio chwech.

 

  1. Cyffordd Cwmparc – Derbyn gwahoddiad i gael bath yn y lofa. Y sioc yn golygu colli pedwar tro.

 

  1. Swyddfeydd yr Ocean – Ei gamgymryd am swyddfeydd Byddin yr Iachawdwriaeth a cholli dau dro i ddod atoch eich hun.

 

  1. Gwesty’r Pengelli – Mynd yno mewn camgymeriad. Syrthio i afon (trap cudd) a mynd nôl i 14.

 

  1. Meddygfa – Gyda digon o amser gennych rydych yn eistedd i ddisgwyl eich potel nesaf o ffisig. Fe’ch cludir nôl i 12 yn teimlo’n well.

 

  1. Sefydliad y Parc a’r Dâr – Gartref o’r diwedd! Syrthio i gysgu. Gweld Mae West a galw i’w gweld hi ryw dro.

 

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

 

Streic y Glowyr 1926: Llyfr Log Ysgol Fechgyn y Maerdy 1908-1930

Cafodd cymdeithas Prydain ei hysgwyd gan Streic Cyffredinol a barodd naw diwrnod ym mis Mai 1926 wrth i 1.5 miliwn o weithwyr ledled y wlad wneud safiad. I lawer yn yr undebau llafur, roedd yn weithred syml o gadernid gyda’r glowyr a oedd wedi gweld eu cyflogau a’u telerau ac amodau gwaith yn gwaethygu’n gyson dros y blynyddoedd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, roedd cyflog y glowyr wedi gostwng bron i draean erbyn 1926 o gymharu â 1919. Arweiniodd cynigion i leihau cyflogau a chynyddu oriau gwaith ymhellach at ymateb enwog Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr: ‘Not a penny off the wages and not a minute on the day’. Cafwyd ymateb unfrydol gadarnhaol ymysg yr undebau a’u haelodau i benderfyniad y TUC ym mis Mai 1926 i annog y gweithwyr trafnidiaeth, yr argraffwyr a’r gweithwyr haearn a dur i sefyll ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y pyllau glo.

I eraill, roedd penderfyniad y TUC yn cynrychioli Streic Cyffredinol, ac yn her i lywodraeth gyfansoddiadol. Gyda syfrdandod y gwrthryfel Bolsieficaidd yn Rwsia yn fyw yn y cof, galwodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, y streic yn ‘her i San Steffan’ ac yn ‘llwybr at anarchiaeth ac adfail’ [The British Gazette, 6 Mai 1926]. Cyn i’r streic gael ei gyhoeddi, roedd y Llywodraeth wedi paratoi i sicrhau parhad gwasanaethau allweddol ledled y wlad, i’w rhedeg ym mhob ardal gan Gomisiynydd Sifil a benodwyd yn ganolog. Yn Ne Cymru, penodwyd Iarll Clarendon ar 2 Mai 1926 yn Adeilad Dominions yng Nghaerdydd i weithio gyda’r awdurdodau lleol i gynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth a chyflenwadau bwyd. Cafodd hefyd fanteisio ar gangen leol y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol i recriwtio dynion a menywod lleol i gadw’r dociau a’r gwasanaethau trafnidiaeth lleol i weithredu ac, yn ôl yr angen, i roi hwb i’r heddlu. I gyd, recriwtiodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwirfoddol dros 12,000 o wirfoddolwyr yn Ne Cymru. Defnyddiwyd nifer fach o ddynion i gynnig gwasanaeth sylfaenol ar y rheilffyrdd ac yn y dociau. Roedd effaith y gwirfoddolwyr yn fwyaf amlwg yn yr ardaloedd trefol, yn arbennig yng Nghaerdydd, lle cawsant eu defnyddio i redeg gwasanaethau tram a bws. Er bod y TUC wedi annog aelodau i osgoi gwrthdaro, roedd y Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael, a gosododd filwyr yn y rhan fwyaf o ddinasoedd a threfi a llongau’r llynges mewn porthladdoedd allweddol.

Mae gan Archifau Morgannwg ddeunydd sy’n adrodd stori’r Streic Cyffredinol yn Ne Cymru o safbwynt yr undebau, gwirfoddolwyr lleol a’r rheini a redodd y Pwyllgorau Gwasanaeth Gwrifoddol. Mae pethau fel cofnodlyfrau ysgolion hefyd yn adrodd yr effaith ar gymunedau lleol.

Dros y mis diwethaf rydym wedi ymchwilio i hanes dyn y rheilffordd a swyddog undeb o Aberdâr, swyddog y Pwyllgor Gwasanaeth Gwirfoddol, a’r gwirfoddolwyr eu hun. Heddiw edrychwn ar effaith y Streic ar gymunedau de Cymru.

Mae llyfrau log ysgolion de Cymru yn rhoi golwg wahanol ac amgen ar Streic Gyffredinol 1926 a’i heffaith. Caiff stori’r streic ei gweld yn aml drwy gyfrwng adroddiadau graffig o’r gwrthdaro rhwng y rheiny oedd yn streicio a’r rheiny oedd yn adleisio cri’r Llywodraeth ar i wirfoddolwyr gynnal a chadw gwasanaethau angenrheidiol. Mae adroddiadau o’r fath yn canolbwyntio’n naturiol ar ddigwyddiadau dramatig naw diwrnod y streic. Serch hynny, i lawr yng nghymunedau glofaol de Cymru dim ond un bennod oedd y Streic Fawr mewn anghydfod gyda’r perchnogion glo a arweiniodd at flynyddoedd o galedi a thlodi. Mae llyfrau log ysgolion cymoedd de Cymru yn dangos y caledi ddioddefwyd gan y trigolion lleol yn ystod y cyfnod a sut y daeth cymunedau ynghyd i wrthsefyll y prinder oedd yn wynebu’r rhan fwyaf o deuluoedd. Mae enghraifft wych o hyn yn y cofnodion gadwyd gan Bennaeth Ysgol y Bechgyn yn y Maerdy yn y cyfnod hwn sydd i’w gweld yn Archifau Morgannwg.

Efallai mai nodwedd fwyaf trawiadol cofnodion y Maerdy yw cyn lleied o sylw sydd ynddyn nhw i naw diwrnod y Streic Gyffredinol. Yn y cyfnod yn arwain at y streic, gyhoeddwyd ar 3 Mai 1926, doedd dim yn wahanol i’r arfer yn yr ysgol:

ER23_5 p246 entry1

May 3 1926. The schools were closed to celebrate Labour Day which fell on Sat. the first of May. The children were entertained to tea at the Workmen’s Hall and free Pictures. The projected excursion to Penrhys mountain was abandoned because of the rain [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.246].

Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar 5 Mai, cafwyd yr unig gyfeiriad yn ystod naw diwrnod y Streic Gyffredinol, at ddatblygiadau y tu hwnt i’r ysgol:

ER23_5 p246 entry2

May 5 1926. This is the first week of a General Strike affecting the whole country. Trains have ceased running here and newspapers have been banned [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.246].

Parlysu systemau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol – roedd streic oedd yn meddu ar nod o’r fath yn ddigwyddiad newydd a dramatig i drefi mawr de Cymru. Doedd streicio a chloi mas ar y llaw arall ddim yn newydd i gymunedau glofaol y de, o ystyried bod yr undebau wedi bod mewn anghydfod â pherchenogion y pyllau ynghylch amodau a thelerau gwaith ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Serch hynny, mae’n rhaid bod chwalu’r Streic Gyffredinol, a alwyd er mwyn cefnogi gwrthwynebiad y glowyr i alwad y perchnogion i ostwng cyflog a chynyddu oriau, yn ergyd drom i gymunedau fel y Maerdy.

Os oedd chwalu’r streic yn ddiwedd ar y mater i lawer o bobl, i’r rheiny yn y cymunedau glofaol roedd yn arwydd o gyfnod newydd, anos, wrth i’r glowyr barhau â’u hanghydfod yn erbyn y perchnogion ond heb gefnogaeth. Caewyd pyllau ledled de Cymru wrth i’r perchnogion fynnu cytundeb ar delerau ac amodau is ac fel rhag amod ar gyfer dychwelyd i’r gwaith. Wedi eu hamddifadu yn aml rhag gallu hawlio budd-dal diweithdra, bu’n rhaid i deuluoedd ddibynnu ar gymorth y tlodion ynghyd â bwyd ac arian ddarparwyd gan gronfeydd amddifadedd lleol. Y broblem gyntaf oedd darparu bwyd i blant teuluoedd lleol. Fel mewn rhannau eraill o dde Cymru, roedd ysgol y Maerdy a’i staff yng nghanol yr ymdrech a roddwyd ar waith 5 diwrnod wedi chwalu’r Streic Gyffredinoli helpu teuluoedd lleol.

ER23_5 p247 entry1

May 17 1926. A school Canteen had been opened under the Necessitous Children’s Act for the feeding of the children during the present stoppage of the pits. Two vestries are used – Ebenezer for the Boys and Infants, Siloa for the Girls. Two meals a day, dinner and tea are provided [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.247].

ER23_5 p247 entry2

24 May 1926. The numbers fed on Mon last were 106 boys, 104 girls, and 78 infants. This gradually increases up to Friday when 287 boys, 258 girls and 229 infants were fed. Sat and Sn were days of lower attendance [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.247].

ER23_5 p247 entry3

25 May 1926. Because of the large numbers fed in relays it is found impossible to get the children back in time for the afternoon session and on several occasions less than half the boys of the middle school have been on time [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.247].

Rhyddhawyd arian gan yr awdurdod lleol yn y Rhondda i ysgolion ar hyd ac ar led yr ardal i sefydlu llefydd bwyd i ddarparu o leiaf ddau bryd bwyd y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i blant oedd wedi eu nodi fel rhai mewn angen gan benaethiaid ysgolion. Gyda’r streic yn ei hanterth, amcangyfrifwyd y cafodd 18,000 o blant eu bwydo bob dydd yn y Rhondda.

Does dim syndod hwyrach i’r prydau bwyd am ddim gynyddu presenoldeb yn yr ysgolion, yn rhannol oherwydd safon y bwyd ond hefyd oherwydd bod y llefydd bwyd yn lleihau’r angen i blant osgoi’r ysgol er mwyn helpu eu rhieni i chwilio am fwyd a thanwydd.

ER23_5 p248 entry1

7 June 1926. The AO called today. His list is short once more for the attendance has improved lately – due to good weather and the opening of the Food Canteens [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.248].

ER23_5 p248 entry2

June 8. Mr A Taylor and Mr T Jones, two School Inspectors, visited the Canteens this morning, tested the Bread Pudding, and Blanc Mange and Red Jelly and expressed their satisfaction of the good fare provided. The week’s menus are varied and include meat, sausage, potatoes, bread, cake, jam, rice, jellies, bananas, buns, scones, salad (veg) [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.248].

Dim ond un elfen oedd yr ysgolion yn yr ymdrech wnaed yn y cymunedau i ddarparu ar gyfer anghenion teuluoedd. Sefydlwyd rhwydwaith o lefydd bwyta a cheginau cawl yn nhrefi a phentrefi de Cymru i ddarparu prydau bwyd bob dydd i’r dynion oedd wedi eu cloi allan o’r pyllau. Yn wahanol i’r ysgolion, roedd y ceginau yma yn dibynnu’n helaeth ar gyfraniadau lleol. Roedd cronfeydd fel Cronfa Amddifadedd y Maerdy yn allweddol wrth ddwyn partneriaid lleol ynghyd, yn aml dan fantell un o’r Cynghorau Masnach lleol gan weithio’n aml gyda Chyfrinfeydd y Glowyr wrth godi arian. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, fodd bynnag, dim ond aelodau undeb, ac felly dynion yn unig, oedd yn cael eu bwydo gyda disgwyl bod y merched gartref, os oedd angen, yn llwyddo i ddod i ben gyda chymorth y tlodion.

ER23_5 p248 entry3

July 1 1926. An attendance half holiday was granted today when the carnival and sports were held in aid for the Maerdy Distress Fund [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.248].

Erbyn diwedd Gorffennaf, heb ddim argoel o ateb i’r anghydfod ar y gorwel, penderfynwyd cadw’r llefydd bwyd ar agor dros fisoedd yr haf. Mae’n anodd dychmygu’r pwysau y byddai’r penderfyniad hwn wedi ei roi ar yr ysgol, gyda disgwyl i’r athrawon arolygu’r ffreuturau saith diwrnod yr wythnos drwy gydol y gwyliau. I raddau, llwyddwyd i gyflawni hyn drwy system rota ac addewid o amser i ffwrdd o’r gwaith ar ddiwedd yr anghydfod. I lawer, fodd bynnag, roedd y cysylltiadau gyda’r cymunedau glofaol mor gryf fel nad oedd peidio ag estyn help llaw yn opsiwn.

ER23_5 p249 entry1

July 22. Closed at 4pm for the Midsummer Vacation. This is a week earlier than usual, five weeks have been granted to cover the Whitsun week which was not given this year because of the ‘Feeding’ and the usual four weeks of the summer holidays. The Feeding will be carried on through the holidays, the teachers taking charge in turn [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 p249].

Wrth i’r flwyddyn ysgol fynd rhagddi ym mis Medi roedd arwyddion o atebion mwy newydd a radical, gyda’r penderfyniad i yrru plant i fyw at deuluoedd oed yn barod i ofalu amdanynt tan ddiwedd y streic. Fel mae’r cofnod isod yn ei ddangos, mae’n rhaid bod hon yn sefyllfa heriol o ystyried y pellteroedd oedd yn codi mewn rhai achosion.

ER23_5 p249 entry2

Sept 3 1926. A few boys have been sent to London for the period of the Strike. They are being adopted by different families [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.249].

Wrth i’r gaeaf ddynesu, daeth cadw’r plant yn sych a chynnes yn broblem fwyfwy amlwg. Yn benodol, roedd darparu esgidiau cadarn i blant yn destun gofid i deuluoedd ledled y cymunedau glofaol.

ER23_5 p250 entry1

Sept 9 1926. A boot repairing establishment has been set up in the Workmen’s Hall. The leather is supplied free by the Society of Friends and a dozen men under the supervision of a skilled bootmaker are engaged in repairing the children’s boots. [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.250].

ER23_5 p250 entry2

ER23_5 p251 entry1

Oct 1 1926. Two ladies representing the Liverpool Society of Friends visited the school this afternoon and brought a dozen pairs of trouser for distribution. Moneys have also been received from the Council Chairman’s Fund and London NUT Association (Lambeth?) including Battersea Grammar School towards boots for the children. Over 50 children in the three departments have been supplied with new boots [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 tt.250-1].

ER23_5 p251 entry2

ER23_5 p252 entry1

Nov 3 1926. The AO called this morning. The wet weather tells upon the attendance now for many boots are quite unfit and some sixty to seventy boys are wearing boots which are beyond repair. Another small sum of three pounds has been received from the Chairman’s Fund [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 tt.251-2].

ER23_5 p252 entry2

Nov 17 1926. The weather has been very wet during the past three weeks but the attendance has not suffered greatly. The Canteens undoubtedly help a good attendance. The boots of many – 70 or 80 at least – are in a bad condition in spite of the free repairs and new supplies that are occasionally received. The Head Mistress of the Girls’, after a recent visit to her home, brought a number of good boots and children’s garment which were a boon to several [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.252].

Doedd yr ysgolion a’r capeli lleol oedd yn darparu’r llefydd bwyd ddim yn rhydd rhag prinder bwyd a thanwydd ac fe gofnodwyd yn aml y problemau yr oedd diffyg glo yn ei greu.

ER23_5 p252 entry3

Nov 18 1926. The Vestry had no fire today the coal being used up [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.252].

ER23_5 p253 entry1

Dec 3 1926. Fortunately the neighbouring pits are being re-opened and better supply of coal and coke is received but our own pits have not been entered [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.253].

ER23_5 p253 entry2

Dec 6 1926. Steam has been raised in the Collieries today for the first time for many months for the Safety Men have not been working here. Preparations are being made for a resumption of work [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.253].

Mae’r cofnod yn nodi i’r pyllau ailagor yn dilyn penderfyniad Ffederasiwn y Glowyr, ar lefel genedlaethol, i argymell dychwelyd i’r gwaith ar 19 Tachwedd 1926. Roedd yn gyfaddefiad iddyn nhw gael eu trechu, ac er i Ffederasiwn Glowyr De Cymru, fel mewn ardaloedd eraill, roi cais ar negyddu dychweliad trefnus i’r gwaith ac ail-gyflogi dynion undeb, roedd hi yn amlwg taw’r perchnogion oedd â’r llaw uchaf. O ganlyniad, ynghyd a’r gostyngiad mewn cyflog a hyd y diwrnod gwaith, collodd miloedd o ddynion undeb eu swyddi wrth i gyflogwyr fachu ar y cyfle i leihau niferoedd a chadw dynion oedd wedi parhau i weithio drwy gydol y streic.

Amcangyfrifir, yn y 12 mis yn dilyn diwedd y streic, y lleihaodd gweithlu pyllau’r de dros 20,000.

Fel y gellir disgwyl, mae’r cofnodion ysgol yn awgrymu bod y dychweliad i’r gwaith yn y Maerdy yn faith a phigog. Dan bwysau’r llywodraeth ganolog a threthdalwyr lleol, welsai’r awdurdod lleol ddim dewis ond am gau y llefydd bwyd o ddiwedd y flwyddyn gan fod y streic bellach ar ben. Fel y dengys cofnodion yr ysgol, fe greodd hyn galedi enfawr ymhlith teuluoedd lleol mewn ardaloedd fel y Maerdy lle roedd yr undeb yn parhau i geisio trafod gyda pherchnogion y pwll.

ER23_5 p253 entry3

Dec 23 1926. The school was closed this afternoon at 4 for the Christmas holidays but the canteens are being kept open until Thurs the 31st inst. [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.253].

ER23_5 p254 entry1

Jan 10 1927. Reopened after the Christmas Holiday. A number of women – about 15 – called here today to protest against the smallness of the amount of money paid out for the feeding of their children [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.254].

ER23_5 p254 entry2

Jan 18 1927. The AO called today. The majority of the absentees complain of bad boots. The local pits have been open for some time but few have returned to work as the local Miners’ Lodge rules that no man was to take another mans’ place or another mans’ job. This ban was removed on the 14th inst. The children are being provided for either from the Unemployment Fund or by Parish Relief [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.254].

Fel mewn ardaloedd eraill, gorfodwyd y glowyr i ddychwelyd i’w gwaith, os oedd y cynnig o waith yn dal yno, a hynny ar delerau ac amodau gwaeth.

I ryw raddau, mae cofnodion y llyfr log ar gyfer 1927 yn awgrymu y dychwelwyd at rywbeth oedd yn ymdebygu i normalrwydd i’r disgyblion, gan gynnwys nifer o ymweliadau a drefnwyd ar gyfer y bechgyn.

ER23_5 p260 entry1

July 5. A considerable number of boys from the sixth and seventh standards have undertaken an educational journey today to Castell Coch and Cardiff for the Castell and National Museum [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.260].

ER23_5 p261 entry1

July 25 1926. Pupils of the upper standards had a charabanc outing to the Wye Valley going to Maesycwmmer, Pontypool, Usk and Monmouth where the old bridge gate, Church, monuments of Henry V and the C S Rolls, the airman, were visited. Then to Tintern for the Abbey and home through the Wye Valley. A charge, quite moderate was made for visiting the Abbey but this, so it is said, could have been avoided if application were made to the First Commissioner of Works [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.261].

Rhaid nodi fodd bynnag, nad oedd y problemau ddaeth i’r amlwg gyda chrebachu parhaus y diwydiant glo fyth ymhell o’r wyneb.

ER23_5 p262 entry1

Sep 9 1927. The attendance has been fairly good during the past fortnight. All the pits have been closed here for many weeks and boys occasionally go to the tips during school hours to carry coal home. There are others who absent themselves on wet days for their boots are very poor [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.262].

Yn ystod y cyfnod hwn roedd diddordeb arbennig yn yr effaith ar iechyd plant.

Apr 29 1927. Maerdy is more liable to epidemics than many places in the Rhondda Valley. The School Medical Officer is not certain as to the reason for this unfortunate condition [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 t.257].

ER23_5 p263 entry1

ER23_5 p264 entry1

Oct 3 1927. The Attendance Officer called today in a Special Mission. He wanted to inquire into the physical condition of the children. Every teacher was questioned as to whether he ascertained that each child received food regularly or not. The answer in each case was to the effect that inquiries – direct and indirect – were occasionally made and that so far no child came foodless unless it were due to a rare case of lateness. This testimony is supported by my own inquiries and that of the mothers who sometimes call here. They complain of the inadequacy of the dole which they spend almost entirely on food and their inability to provide boots. ‘No boots’ is the prevailing reply on the absentee notes [Ysgol Fechgyn y Maerdy, llyfr log, ER23/5 tt.263-4].

Roedd yr ymateb yn debyg i’r ymatebion ddaeth i law o ysgolion eraill de Cymru. Yn ystod y 1920au roedd caledi a thlodi yn nodweddion cyson ym mywydau cymunedau glofaol de Cymru. O ganlyniad i ymdrechion yr ysgolion, yr awdurdod lleol a’r gymuned ehangach, mae’n eironig meddwl i lawer o blant dderbyn deiet gwell ac mwy amrywiol yn ystod cloi allan 1926 nag mewn cyfnodau eraill. Roedd hyn yn dyst gwirioneddol i gryfder a dygnwch y cymunedau lleol. Ond roedd y dygnwch hwn, fodd bynnag, i gael ei brofi drachefn a thrachefn gyda’r newidiadau yn y diwydiant glo yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Caban y Rhondda

Ym mis Rhagfyr 1915 cyhoeddodd y Rhondda Leader yr apêl ganlynol:

The YMCA and the Troops

By kind permission of the Rhondda Council the school-children throughout the district are this week selling stamps for the YMCA. It is hoped that by their efforts the sum of £300 will be made up for the purpose of purchasing a YMCA Hut, to be known as the “Rhondda hut”. The YMCA deserve very support. They have over 1000 centres with the troops. The YMCA spend over £1,000 weekly for free stationery for the boys in khaki, and the daily cost of carrying on the work is over £500. The Rhondda people will doubtless support the YMCA in the same generous spirit that they always patronise deserving causes. This will be the Rhondda children’s gift to our brave boys in khaki [Rhondda Leader, 4 Rhag 1915].

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymgymerodd yr YMCA ag amrywiaeth o waith i gefnogi’r rhyfel. Un o gyfraniadau mwyaf llwyddiannus a mwyaf adnabyddus y Gymdeithas oedd darparu Cabanau YMCA ym Mhrydain yn gyntaf ac yn agos at y rheng flaen yn Ffrainc a Gwlad Belg wrth i’r rhyfel symud yn ei flaen. Darparodd y Cabanau loches ar gyfer milwyr ac roedd cyfle iddynt gael diodydd poeth, bwyd, papurau newydd a deunyddiau ysgrifennu. Ym Mhrydain, gellid dod o hyd i’r Cabanau mewn dinasoedd mawr, yn agos at orsafoedd trenau yn aml, i’r milwyr eu defnyddio wrth iddynt deithio ar draws y wlad. Roedd hyn yn cynnwys llety dros nos mewn rhai canolfannau. Yn Ffrainc a Gwlad Belg, roedd y Cabanau wedi eu lleoli’r tu ôl i’r rheng flaen fel y gallai milwyr a oedd yn symud oddi wrth y rheng flaen gael seibiant byr o’r ymladd.

Roedd Caban y Rhondda i gael ei leoli yn y brif orsaf yng Nghaerdydd i ddarparu bwyd ar gyfer y miloedd o filwyr yn mynd trwy’r ddinas. Nid oedd yn hawdd codi arian ar gyfer y Caban. Roedd apêl gyntaf yr YMCA ym 1915 ond cymerodd 18 mis pellach i sicrhau’r arian ac i agor y Caban. Ni chafodd yr ymgyrch ddechrau addawol iawn. Mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 1915 gwrthododd Cyngor Dosbarth Trefol y Rhondda awgrym yr YMCA i’r Cyngor ofyn i ysgolion godi arian ar gyfer y Caban. Roedd yn amlwg bod pobl yn teimlo bod gormod o faich ar athrawon a disgyblion gyda chodi arian ar gyfer achosion da. Ond i gyfaddawdu penderfynwyd yn y pen draw y câi’r mater ei gyfeirio at aelodau ward ac athrawon [Rhondda Leader, 20 Tach 1915].

Gwelwn o’r uchod yn y Rhondda Leader ar 4 Rhagfyr rydym yn gwybod, fel y digwyddodd dro ar ôl tro yn ystod y rhyfel, fod ysgolion yn y Rhondda ymgymryd â’r her o godi arian ar gyfer y rhyfel. Adroddodd Prifathro Ysgol Fechgyn Ton, dim ond pedwar diwrnod ar ôl i’r erthygl ymddangos yn y Leader:

ER36_2 p481

A cheque for £7.10.0d was sent to the Secretary of the YMCA at Cardiff, this sum having been collected by the boys and girls of Ton Schools towards the erection of a ‘Rhondda Hut’ for our Soldiers at the Front [Ysgol Frutanaidd y Bechgyn Ton, llyfr log, 8 Rhag 1915, ER36/2 t.481].

Ddeufis yn ddiweddarach ysgrifennodd Frank Higman, ysgrifennydd cyffredinol yr YMCA yng Nghaerdydd i Bwyllgor Addysg y Rhondda:

Will you kindly convey to Mr Berry and the head teachers and the staffs our warmest thanks for their splendid co-operation in securing such a substantial sum towards the cost of a hut which we shall have pleasure in christening the “Rhondda Hut” [Rhondda Leader, 12 Chwe 1916].

Mewn llai na 2 fis, roedd ysgolion y Rhondda wedi codi £150 gyda £50 pellach yn mynd i’r YMCA. Ond nid oedd yr ysgolion wedi cyfrannu digon er mwyn cyrraedd y £300 gofynnol a fyddai’n talu am y costau cyfan. Roedd 15 mis ychwanegol cyn i Gaban y Rhondda agor o’r diwedd ar 5 Mai 1917. Rhoddwyd adroddiad llawn o’r agoriad yn y Rhondda Leader:

On Saturday afternoon the 5th inst, the YMCA Rhondda Hut for Soldiers which has been erected opposite No 1 Platform of the Great Western Railway Station Cardiff was opened. Mr H E Maltby, chairman of the Rhondda Urban District Council presided….

The premises occupy a peculiarly convenient position for the purposes they are intended to serve. There is a spacious central hall for light refreshments, furnished with a piano, a billiard table and various other forms of games and replete with facilities for reading and writing. The room is brightly decorated. In a building immediately adjoining there is sleeping accommodation for about 80 men, with bathing facilities. The institution will be kept open day and night until the end of the war. The hut owes its establishment to the generosity of the inhabitants of the Rhondda, who have raised a sum of £1,160 for helping on the war work of the YMCA. It is gratifying to note that with the exception of about £250 the whole of the money has been subscribed by the working class portion of the community [Rhondda Leader, 12 Mai 1917].

Er bod y Caban ar agor roedd angen o hyd ar gyfer mwy o arian i dalu am gostau rhedeg.

Unwaith eto rhoddodd ysgolion y Rhondda eu hunain i godi arian:

For the purpose of aiding the funds of the Rhondda Hut of the YMCA and the Auxiliary Military Hospital, Llwynypia, a successful miscellaneous concert was given by the pupils of the Pentre Secondary School at the Park and Dare Hall, Treorchy, on Friday evening, the 18th inst. The performers who acquitted themselves remarkably well were under the direction of Mr W A Morris, LCP [Rhondda Leader, 26 Mai 1917].

Helpodd ysgolion eraill gan gynnwys Mardy a Threalaw:

ER23_5 p125

Other recent “War Activities” in which the teachers were the principle workers, were the YMCA Hut Campaign, held in March, and the Russian Flag Day, held in April. The results were – YMCA £85.4.9d, Russian Flag Day £23.4.7d [Ysgol Bechgyn Maerdy, llyfr log, 20 Meh 1917, ER23/5 t.125]

ER41_2 p279

The collection towards the YMCA Huts amounted to over £20 – collected by H T Staff & a few helpers [Ysgol Bechgyn Trealaw, llyfr log, Chwe 1917, ER41/2 t.279]

Ym mis Tachwedd 1919, blwyddyn ar ôl arwyddo’r Cadoediad, pwysleisiodd erthygl yn y Rhondda Leader pa mor dda y cafodd y Caban ei ddefnyddio mewn difrif:

This Hut in connection with the YMCA was opened in May 1917, opposite the Great Western Approach, Cardiff and was christened the “Rhondda Hut” because a large proportion of the money necessary for it came from the Rhondda district.

Our readers may be interested to know that nearly 400,000 travelling troops have been entertained free….In addition, 55,897 have been provided with sleeping accommodation during that period.

These figures have justified the erection and maintenance of the Hut, and through the kindness of the Rhondda people much comfort has been given to the men who serve in the Forces and have had to use the Cardiff Station as an important junction [Rhondda Leader, 1 Tach 1919].

Nid oes llawer i ddweud wrthym am pam trodd yr YMCA at y Rhondda i gael arian ar gyfer y Caban yn y lle cyntaf. Mae’n bosibl, gan fod y Caban yn cael ei ddarparu yn bennaf ar gyfer y lluoedd arfog wrth iddynt symud trwy Gaerdydd, y byddai llawer o filwyr a llongwyr wedi dod o gymoedd De Cymru. Byddai’r achos, felly, wedi taro tant benodol â chymunedau yn yr ardaloedd hynny. Ond gwnaeth Syr John Courtis sylw diddorol wrth i’r Caban gael ei agor ym 1917 a adroddwyd yn y Western Mail:

Although splendid work for soldiers had been done by another agency in the city there was ample scope for supplementation [Western Mail, 7 Mai 1917].

Mae’n debyg mai cyfeiriad at y Cardiff Soldiers’ a’r Sailors’ Rest oedd hyn. Roedd hwn yn gyfleuster pwysig ac mae’r Western Mail yn adrodd y rhaglen a ddarparwyd yn y Rest ar Ddydd Nadolig 1917:

Every effort was made at the Cardiff Soldiers’ and Sailors’ Rest, St Mary Street, to give men of the Army and Navy a good time. Between 10am and 7am on Sunday night and Monday morning over 800 men were entertained at the Rest. On Christmas day tea was served and afterwards Mr F E Andrew lent the Central Cinema, the Hayes, for a private exhibition of pictures free of charge to all men in uniform. In the evening there was an entertainment at the Rest [Western Mail, 26 Rhag 1917].

Mae’n bosibl, felly, y bu rhywfaint o amheuaeth, mewn rhai cylchoedd yng Nghaerdydd, o ran yr angen am ganolfan arall yn unol â’r hyn a gynigiwyd gan yr YMCA. Ond wrth i 800 gael eu diddanu yn y Rest, nododd y Western Mail fod …200 o ddynion, gan gynnwys grŵp o ddynion Americanaidd yn cael te gwych ar yr un pryd yn agos, yng Nghaban y Rhondda. Mae’r ffaith bod dros 400,000 ddefnyddio Caban y Rhondda mewn ychydig dros ddwy flynedd yn awgrymu bod yr YMCA yn gywir wrth amcangyfrif y byddai angen canolfan arall.

Yn sicr roedd llawer o filwyr a llongwyr blinedig â rheswm da dros ddiolch i bobl y Rhondda ac, yn enwedig i blant ysgolion y Rhondda, am y bwyd, y cysuron a’r croeso mawr a gawsant yng Nghaban y Rhondda wrth deithio trwy Gaerdydd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Bechgyn Blaenclydach a’r Bisgedi Tatws Siocled

Nid oedd prinder bwyd yn anghyfarwydd i Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

ER3_2 p117

Wedi’r cyfan, roedden nhw wedi cael gwersi ar sut i ategu deiet y teulu drwy dyfu eu tatws eu hunain (ER3/2, t.117), a sut i fwyta llai o fwyd prin fel bara, siwgr a chig (ER3/2, t.120).

ER3_2 p120

Roedd yr ysgol hyd yn oed wedi defnyddio Pamffledi Cynhyrchu Bwyd ar storio tatws i ymarfer darllen! (ER3/2, t.123)

ER3_2 p123

Roedd y bechgyn hefyd yn ymwybodol iawn o sut roedd y prinder yn effeithio ar ysbyty lleol y Groes Goch, ac wedi casglu bwyd i ategu deiet y milwyr a oedd yn gleifion yno. Ar 22 Mawrth 1917 cofnododd y Pennaeth, John Lewis:

ER3_2 p118

A collection of fruit and eggs was made by the scholars for the wounded soldiers at the local Red Cross Hospital. The collection consisted of 59 eggs, 143 oranges, 26 apples, 31 bananas, 1lb rice, nuts, chocolate and 2/7 in money.  Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.118)

Felly nid oedd taflenni a phamffledi i fynd â nhw adref at y rhieni yn brolio rhinweddau tatws a’r angen am economi fwyd, yn unrhyw beth newydd. Ond mae’n rhaid bod rhai’n teimlo braidd yn anghrediniol wrth ddarllen y tair taflen a roddwyd i’r bechgyn ar 21 Chwefror 1918:

ER3_2 p128

Leaflets from the Food Economy Department distributed for school children throughout the school area. These leaflets were (1) Thirty Four Ways of cooking potatoes (2) Delicious Soups (3) All About Stews.  Ysgol Fechgyn Blaenclydach, llyf log (ER3/2 t.128)

Wedi’u llunio gan Adran Economi Fwyd y Weinyddiaeth Bwyd, a sefydlwyd ym 1916, ystyriwyd y taflenni’n ganllaw ymarferol ar helpu rhieni i ymdopi â’r prinder bwyd cynyddol a ddeilliai o suddo llongau masnach y cynghreiriaid a’r prinder llafur tir.  Mae copi o ‘Thirty Four Ways of Using Potatoes’ ar gael o hyd, a gellir ei weld ar-lein ar wefan Manchester Archive Plus www.manchesterarchiveplus.com (cyf: FE40). Debyg bod y cyngor ynddi, hyd yn oed yn ystod cyfnod o ryfel, wedi synnu rhai. Dechreua’r daflen wrth alw ar deuluoedd i wneud yn fawr o’r llwythi digynsail o datws:

This is the immediate duty of everyone – to learn how to make potato-foods to take the place of bread-foods and to use them now instead of bread and butter, toast, rolls and all cakes and puddings which require flour. 

Gallai’r cyngor ar sut i baratoi tatws fod wedi bod yn ddigon annymunol i rai:

.. a potato should never be peeled before it is cooked. People who cut the peel from a potato before they cook it actually throw away 85 per cent of its flesh forming and vital elements.

Mae’n anodd hefyd i gredu byddai bechgyn Blaenclydach wedi eu ddarbwyllo gan y ddatganiad hyderus yma:

People who have once used potato bread, for instance, never wish to return to bread which is made solely from flour.

Roedd bechgyn Blaenclydach yn cael digon o ryseitiau difyr, o ‘Bwdin Tatws a Ffrwythau’’ ‘Pwdin Triog a Thatws’ a ‘Phwdin Cynulliad’, fel yr argymhellwyd yn y pamffled. Gallent hefyd fod wedi profi Bisgedi Tatws Siocled – o bosibl fel rhan o ddathliadau arferol Dydd Gŵyl Dewi’r ysgol yn ystod yr wythnos ar ôl i’r taflenni gyrraedd.

Chocolate Potato Biscuits

4oz potatoes (washed, cooked, peeled and sieved), 1oz flour, 4oz ground rice, half a teaspoon of cocoa, one and a half oz. fat, half an egg (dried can be used), a little vanilla essence, 1 tablespoon of treacle, half a teaspoon of baking powder.

Mix the flour and ground rice and rub in the fat. Add the potatoes and cocoa and stir the dry ingredients together; then put in the half egg and treacle and flavouring and beat thoroughly. Finally add the baking powder and mix well. Turn the mixture on to a floured board, roll out (half inch) and cut into rounds and bake in a hot oven for 15 to 20 minutes.

Nid yw cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn nodi’r ymateb i’r ryseitiau gan y bechgyn na’u rhieni. Ynghyd â mentrau eraill fel y ‘Llyfr Coginio i Ennill y Rhyfel’, roedd y tri phamffled yn un rhan o ymgyrch barhaus i fynd i’r afael â phrinder bwyd. Ond os ydych am fesur eu hymateb, byddem yn fwy na pharod i roi manylion am unrhyw un o’r ryseitiau sydd uchod yn gyfnewid am adolygiad o’r bwyd!  Yn yr un modd, os oes gennych gopi o ‘All About Soups’ (MF 38) a ‘Delicious Stews’ (MF 39) rhowch wybod i ni, fel y gallwn ychwanegu’r manylion at ein casgliad o fwyd cyfnod y rhyfel.

Mae cofnodlyfr Ysgol Fechgyn Blaenclydach yn un o gyfres o gofnodlyfrau ysgolion o ardal y Rhondda a gedwir yn Archifau Morgannwg. Os hoffech ragor o wybodaeth am fywyd yn yr ysgol ac yn y Rhondda ym 1914-18 gallwch ddarllen crynodebau o’r cofnodlyfrau ar-lein neu ddod i weld y rhai gwreiddiol yn Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg