Gall olrhain tarddiad Eglwys yr Holl Saint, Adamsdown yn ôl i 1856 pan adeiladodd Ardalyddes Bute eglwys yn Tyndall Street – ac wedyn ym mhlwyf y Santes Fair – i wasanaethu Anglicaniaid Cymraeg. Ond ymhen dau neu dri degawd, mae demograffig y rhan hon o Gaerdydd wedi newid; symudodd darpariaeth Gymraeg yn nes at ganol y ddinas a sefydlwyd plwyf newydd yn Adamsdown gyda gwasanaethau yn Saesneg. Fodd bynnag, ynyswyd yr eglwys Tyndall Street, oedd wedi ei hamgylchynu gan boblogaeth Gatholig o Iwerddon yn bennaf, rhag y rhan fwyaf o’i haelodau ei hun.
Yn 1893, adeiladwyd capel, i Saint Elvan, yn Sgŵar Adamsdown. Roedd hyn yn nes at brif boblogaeth y plwyf a phenderfynwyd ar ôl hynny i godi eglwys blwyf newydd ar y safle. Roedd angen cymeradwyaeth Seneddol i adael a gwaredu’r adeilad yn Tyndall Street, y’i rhoddwyd trwy Ddeddf Eglwys yr Holl Saint (Caerdydd) 1899.
Agorwyd eglwys newydd yr Holl Saint ar 28 Ionawr 1903. Mae adroddiad mewn papur newydd cyfoes yn awgrymu bod angen i’r pensaer, John Coates Carter, fod yn economaidd iawn wrth ei dylunio, gyda sgrîn pinwydden uchel â chroes haearn ar ei ben fel y brif nodwedd fewnol. Roedd y brif fynedfa yn wynebu Windsor Road, ar lefel sylweddol uwch na Sgŵar Adamsdown. Aethpwyd i’r afael â hwn trwy adeiladu ar ddau lawr, gydag ystafell ysgol a festri o dan y brif ardal weddïo. Nodwedd sy’n enwedig ryfedd, sy’n bodoli o hyd, yw’r cwt clychau ar strwythur o fath bwtres wedi gosod ar onglau sgwâr i ochr y gorllewin.
Caeodd Eglwys yr Holl Saint yn 1965 ar ôl i’r plwyf uno ag Eglwys Sant Ioan. Yna cafodd yr adeilad ei ddefnyddio, am lawer o flynyddoedd, fel safle masnachol – deliwr mannau tân a phethau achubedig pensaernïol. Bu newid arall i’r defnydd yn 2012, pan gafodd yr hen eglwys ei newid yn fflatiau.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/16]
- Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdesitref Caerdydd, cynllun Eglwys yr Holl Seintiau, Windsor Road, 1902 [BC/S/1/14883]
- Evening Express, 26 Ebrill 1893; 29 Ionawr 1903
- Cardiff Times, 21 Ionawr 1899
- http://www.lawcom.gov.uk/wp-content/uploads/2015/03/slr_churches_consultation.pdf
- http://www.buildingconservation.com/articles/coates-carter/coates-carter.htm