Y Blaidd Mawr Drwg yn perfformio ym Mharc yr Arfau Caerdydd, Ionawr 1890

Yn y dyddiau pan oedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn llwyr ddibynnol ar danysgrifiadau’r cyhoedd, roedd y Theatre Royal yn aml yn cynnal perfformiadau gyda thâl y tocynnau’n cael eu rhoi i’r ysbyty. Ym mis Ionawr 1890 fodd bynnag, rhagorodd rheolwr y theatr, Edward Fletcher, ei hun drwy drefnu gêm bêl-droed elusennol ym Mharc yr Arfau a rhoddwyd yr holl elw i’r ysbyty.

D452-4-22

Y cynnig oedd bod cast pantomeim yr Eneth Fach a’r Fantell Goch – ‘Pretty Little Red Riding Hood’ – a ddisgrifiwyd gan Fletcher fel …llwybr llaethog o sêr, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd mewn cert agored a ddarparwyd gan westy’r Royal, i’r maes. Y cast fyddai’n chwarae’r gêm, mewn gwisgoedd llawn, gyda chyfeiliant cerddorol gan y Band Hwngaraidd.

Mae’r poster ar gyfer pantomeim y Theatre Royal y flwyddyn honno yn rhoi awgrym o’r rhai a ddewiswyd ar gyfer ‘tîm’ yr Eneth Fach a’r Fantell Goch ym Mharc yr Arfau ar 15 Ionawr 1890. Er enghraifft, gwyddom fod yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, y Bachgen Glas, y Blaidd, y Cadno Cyfrwys a’r ddeuawd gomedi, Turle a Volto, wedi cael sicrwydd o rannau yn y cast gwreiddiol.  Fodd bynnag, bu dyfalu mawr yn y wasg, a ysbrydolwyd gan Fletcher mae’n siŵr, am y cast cyfan.  Bu colofnwyr dan ffugenwau ‘Man about Town’ a ‘A Theatr Goer’ yn dadlau a ddylai Alice Leamar (Eneth Fach a’r Fantell Goch) neu Rosie St George (Y Bachgen Glas) gymryd y ciciau at y pyst.  Hefyd cwestiynwyd lawer y penderfyniad i hepgor y milwyr benywaidd trawiadol (y chwiorydd Ada ac Amy Graham).

Er gwaethaf trafferthion munud olaf, pan awgrymwyd nad oedd Clwb Caerdydd wedi rhoi ei ganiatâd i ddefnyddio Parc yr Arfau, aeth y gêm yn ei blaen. Ychydig iawn o adroddiadau sydd am y gêm, er bod y cyfeiriadau at ‘… ludicrous burlesque from beginning to end’ yn dweud y cyfan mae’n debyg. O gofio bod y llain yn drwm, mae’n rhaid bod Fletcher wedi wynebu bil glanhau gwisgoedd difrifol gan fod gan y pantomeim bedair wythnos arall i fynd.

Serch hynny, ar ôl i’r llwch setlo, cyflwynwyd £68 i George Coleman, Ysgrifennydd Ysbyty Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Fel ysbyty oedd yn ddibynnol ar roddion roedd pob tamaid bach yn gymorth a diolchwyd i Edward Fletcher, yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, ei chwmni a hyd yn oed y Blaidd Mawr Drwg.

Mae’r poster ar gyfer Yr Eneth Fach a’r Fantell Goch yn cael ei gadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/4/22. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Diddanu Caerdydd – 130 mlynedd yn ôl i’r mis hwn

Mae’r posteri ar gyfer y Theatr Frenhinol yn dangos beth roedd y torfeydd yn heidio i’w weld yn theatrau Caerdydd 130 mlynedd yn ôl.

D452_3_36

Yr uchafbwynt yn wythnos gyntaf Ebrill 1889 oedd cynhyrchiad Gilbert a Sullivan o The Yeoman of the Guard gan y D’Oyly Carte Opera Company. Gydag un o’r castiau cryfaf a gyflwynwyd gan y cwmni a set newydd ac uchelgeisiol yn seiliedig ar y golygfeydd a ddefnyddiwyd yn Theatr y Savoy, ni cafodd unrhyw beth ei ddal nôl ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Fodd bynnag, roedd y gystadleuaeth yn gryf. Roedd y Theatr Fawr yn Heol y Porth yn denu torfeydd gyda dewis amrywiol a newidiol o gomedi a drama, gan gynnwys, yn wythnos gyntaf Ebrill, The Fools Revenge, School for Scandal a Faint Heart Never Won Fair Lady. Roedd cystadleuaeth gan Syrcas Tayleure hefyd a’r ‘prestidigateur’, yr Athro Duprez a’i rithiau hudol yn Neuadd y Parc.

Mae’r adroddiadau’n awgrymu taw D’Oyly Carte aeth â hi yn wythnos gyntaf Ebrill. Fodd bynnag, roedd y gymysgedd o opera a Shakespeare a gynigiwyd gan y Theatr Frenhinol ganol fis Ebrill yn llai poblogaidd o lawer, ac aeth y torfeydd i weld Muldoon’s Picnic yn y Theatr Fawr, a ddisgrifiwyd fel: …a laughable Yankee-Hibernian absurdity.

Os hoffech weld y poster ar gyfer The Yeoman of the Guard yn y Theatr Frenhinol yn Ebrill 1889, mae yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/3/36.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg.