‘Bu farw’r dynion hyn dros eu gwlad’: Cofeb Ryfel Penarth, Tachwedd 1924

Ymhlith y cofnodion yn Archifau Morgannwg mae rhaglen a argraffwyd ar gyfer seremoni a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 1924 i ddadorchuddio’r Gofeb Ryfel yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

20181207_082427_resized

Gellir gweld y gofeb ar dudalen flaen y rhaglen gyda’r arysgrif ‘Er cof am wŷr Penarth a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel Mawr 1914-18’. Roedd y dyddiad a ddewiswyd ar gyfer y seremoni yn symbolaidd am ei fod yn nodi chwe blynedd ers arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar yr ymladd yn y Rhyfel Mawr – y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar gyfer cenedlaethau diweddar, mae Diwrnod y Cofio, ar 11 Tachwedd, wedi bod yn nodwedd ar fywyd ym mhob pentref a thref ar hyd a lled y wlad bron a bod. Mae’n nodi arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar y Rhyfel Mawr ym 1918 a’r rheiny a fu farw mewn dau Ryfel Byd a chyrchoedd diweddarach. Fodd bynnag, ym 1924, i ryw raddau, roedd yn ddatblygiad newydd a nodwyd am y chweched tro yn unig. Collodd dros 700,000 o ddynion a merched y lluoedd Prydeinig eu bywydau yn y Rhyfel Mawr a chladdwyd y mwyafrif ohonyn nhw dros y dŵr, o Fflandrys i Galipoli i Balesteina. O gymharu hyn a rhyfeloedd a fu cyn hynny, roedd y colledion yn anferthol ac arweiniodd hynny at alw i gael diwrnod coffa cenedlaethol. Cymaint oedd cryfder teimladau pobl fel bod papurau newydd ym 1924, chwe blynedd wedi diwedd yr ymladd, yn adrodd bod unigolion mewn sawl tref wedi eu harestio a’u dwyn i’r ddalfa am beidio â nodi’r ddwy funud o dawelwch ar 11 Tachwedd.

Er bod cyrchoedd blaenorol, gan gynnwys Rhyfel Crimea a Rhyfel De Affrica, wedi eu coffáu drwy godi nifer bychan o gofebion, roedd y Rhyfel Mawr yn wahanol am iddo gyffwrdd â bron pob cymuned drwy’r deyrnas. Roedd pob cymuned felly yn awyddus i ganfod modd priodol i nodi’r cyfraniadau a wnaed gan wŷr a gwragedd lleol. Os edrychwch ar y braslun ar ddalen flaen y rhaglen fe welwch, yn y cefndir, danc milwrol. Yn y blynyddoedd wedi’r Cadoediad roedd nifer o drefi a dinasoedd wedi llwyddo i gael gafael ar offer milwrol, yn aml tanciau neu ynnau maes. Cafodd rhain eu harddangos mewn mannau cyhoeddus i ddathlu’r fuddugoliaeth ac i atgoffa am y rhai a gollodd eu bywydau yn y gwrthdaro.  Fodd bynnag, roedd codi’r Senotaff yn Whitehall, Llundain yn symboleiddio ymgyrch i greu cofeb fwy parhaol ar gyfer y meirwon. Roedd y digwyddiadau ym Mhenarth ym mis Tachwedd 1924, felly, yn rhan o symudiad cyffredinol a ymledodd drwy’r wlad i gofio a choffáu’r meirwon. Yn ardal Caerdydd yn unig y diwrnod hwnnw, roedd dwy gofeb arall yn cael eu dadorchuddio, ym Marics Caerdydd ac yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Byddai wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn. Derbyniodd dau ddyn o Benarth, Richard Wain a Samuel Pearse, fedal Croes Fictoria. Ganed Wain ym Mhenarth a derbyn ei addysg yn Ysgol Gadeirlan Llandaf ac Ysgol Ramadeg Penarth. Roedd yn gapten dros dro 20 oed yn y Corfflu Tanciau pan fu farw ym 1917 ym Mrwydr Cambrai, un o’r brwydrau cyntaf lle defnyddiodd Byddin Prydain ei arf pwerus newydd. Roedd Samuel Pearse wedi gadael Penarth ac ymfudo i Awstralia yn 14 oed. Bu’n ymladd gyda lluoedd Awstralia yn Galipoli ac yn ddiweddarach yn yr Aifft a Ffrainc. Wedi arwyddo’r Cadoediad priododd yn Durham a bu’n oedi cyn dychwelyd adref am fod ei wraig yn feichiog. Dewisodd ymrestru gyda nifer o Awstraliaid yn lluoedd Byddin Prydain a oedd yn cael eu gyrru i gefnogi Byddinoedd y Gwynion yn Rhyfel Cartref Rwsia, ac fe’i lladdwyd yn yr ymladd, yng ngogledd Rwsia, ym mis Awst 1919.

Pwysleisiwyd maint y colledion gan nifer yr enwau a arysgrifwyd ar Gofeb Penarth, sef tua 307. Roedden nhw’n amlygu bod pob rhan o’r gymdeithas wedi ei chyffwrdd. Archer Windsor-Clive oedd trydydd mab Iarll Plymouth ac roedd wedi chwarae criced dros Forgannwg a Chaergrawnt. Fel swyddog yng  Ngwarchodlu Coldstream, roedd yn un o’r dynion cyntaf i gael ei yrru i Ffrainc a hefyd yn un o’r cyntaf i farw. Dim ond 23 oed ydoedd pan laddwyd ef yn ystod brwydr Mons ym mis Awst 1914, mis cyntaf y rhyfel.

Mae cofeb Penarth yn cynnwys enw gwraig, Emily Ada Pickford. Roedd Emily yn athrawes gerdd leol o Benarth ac yn arweinydd ar Gôr Merched Penarth. Roedd hi’n perthyn trwy briodas i deulu’r Pickford a oedd yn argraffwyr lleol ac a gynhyrchai y Penarth Times.  Ym mis Chwefror 1919 roedd hi yn Ffrainc gyda chriw cyngerdd yn rhoi adloniant i’r lluoedd. Bu farw wrth deithio yn ôl i Abbeville wedi cyngerdd gyda’r hwyr, pan lithrodd ei char oddi ar y ffordd i afon Somme. Erbyn 1924 roedd Cyngor Ardal Tref Penarth yn cael ei gadeirio gan Constance Maillard, y wraig gyntaf i’w hethol i’r Cyngor a chadeirydd benywaidd cyntaf y Cyngor. Fel ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Swffragetiaid Penarth, mae’n bosib iawn y bu Constance yn allweddol wrth sicrhau bod enw Emily wedi ei gynnwys ar y gofeb.

Mae’r rhaglen yn Archifau Morgannwg yn nodi manylion y seremoni ddadorchuddio ym 1924, ond mae cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth yn adrodd hanes y penderfyniad i gomisiynu a chodi’r gofeb. Bu’r cynllunio ar gyfer y gofeb ar waith am gryn amser, gyda sefydlu is-bwyllgor i’r Cyngor ym 1923. O ganlyniad, roedd y Cyngor wedi gwahodd Syr William Goscombe John i gyflwyno dyluniad ar gyfer cofeb addas. Yn wreiddiol o Dreganna yng Nghaerdydd, roedd William Goscombe John yn gerflunydd adnabyddus a oedd wedi cwblhau llawer o gofadeiliau cyhoeddus dros y wlad, gan gynnwys cerflun John Cory o flaen Neuadd y Ddinas. Roedd galw mawr am ei sgiliau i ddylunio Cofebau Rhyfel ac, yn yr un flwyddyn ag y dadorchuddiwyd Cofeb Penarth, fe ddyluniodd hefyd gofebau ar gyfer Llandaf, Caerfyrddin a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Roedd yn arwydd o bwysigrwydd y gofeb i ffi o £2,000 gael ei chytuno gan y Cyngor a fyddai, yn ôl prisiau heddiw, dros £80,000. Byddai hyn yn dyblu’r gyllideb wreiddiol a neilltuwyd ar gyfer y gofeb. Y cynllun gwreiddiol oedd gosod y gofeb gyferbyn â Penarth House, ond cytunwyd yn y pen draw y byddai safle ym Mharc Alexandra, gyda’i olygfa dros y môr, yn fwy addas. Yr unig addasiadau i ddyluniad gwreiddiol Syr William oedd i ychwanegu, ar waelod y gofeb, y geiriau ‘Bu farw’r gwŷr hyn dros eu gwlad. Ydych chi’n byw drosti.’

Doedd y seremoni ddadorchuddio ddim yn un hawdd ei threfnu. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Medi 1924 ond newidiwyd hynny’n ddiweddarach i 11 Tachwedd.  Rhaid cofio y bu seremonïau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y wlad ond buan iawn y chwalwyd gobeithion y byddai ffigyrau blaenllaw fel y Llyngesydd Earl Beatty yn bresennol. Yn lle hynny, daeth milwyr o’r Gatrawd Gymreig, a leolwyd ym Marics Caerdydd, yno i fod yn osgordd er anrhydedd. Arweiniwyd y seremoni gan yr Aelod Seneddol lleol, y Capt Arthur Evans, a’r Parch. Hassal Hanmer, oedd ill dau wedi gwasanaethu yn y rhyfel, gyda chefnogaeth gan Gôr Cyn-Filwyr Penarth.

Rhoddwyd y dasg o ddadorchuddio’r gofeb i Mrs F Bartlett, Mrs P Fitzgerald a Mr G Hoult. Wrth sefyll ymhlith yr ASau a’r milwyr rheng roedd un ffactor a oedd yn uno’r tri ynghyd. Roedd pob un wedi colli tri mab yn y rhyfel. Roedd y gofeb wedi’i gwneud o wenithfaen wen gyda ffigwr efydd buddugoliaeth, â llawryf a chleddyf yn ei ddwylo, yn sefyll ymhen blaen cwch. Gellir gweld y rhaglen ar gyfer y seremoni ar 11 Tachwedd 1924 yn Archifau Morgannwg, cyf. DXOV3/11. Fe’i cadwyd gan Constance Maillard a’i throsglwyddo gyda’i phapurau i’r Archifau. Os ydych yn dyfalu beth ddigwyddodd i Constance, mi wnaeth hi oroesi i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ac mae gwahoddiad i’w phen-blwydd hithau hefyd wedi ei gadw yn yr Archifau (cyf.: DXFX/8).  Gellir cyrchu cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth hefyd yn Archifau Morgannwg, cyf. UDPE/C/1/5, gan gynnwys papurau yr Is-Bwyllgor Coffa, cyf. UDPE/C/1/21. Mae’r Sefydliad Ffilm Prydeinig newydd ryddhau ffilm dawel du a gwyn o’r seremoni.

Fel ôl-nodyn, gwnaed gwaith adfer sylweddol ar Gofeb Ryfel Penarth fel rhan o ddigwyddiadau’r canmlwyddiant. Gellir ei weld yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Capten o Benarth yn achub teulu Vanderbilt oddi ar arfordir De America

Mae gwrhydri gartref a thramor yn cael eu croniclo mewn casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â William Henry Bevan, capten y llynges fasnachol o Benarth yn hanner cyntaf y 20fed ganrif. Disgrifir rhannau o’i yrfa liwgar mewn papurau personol, ffotograffau a phapurau newydd (cyf. DX741).

20181016_145205

Ganed William Henry Bevan ym 1881 yn Aberriw, ger Trefaldwyn, ac ymddangosodd am y tro cyntaf ym Mhenarth fel prentis ar long hwylio. Urddwyd ef â medal y Gymdeithas Frenhinol Ddynol am achub bywyd dyn oedd wedi syrthio i’r doc; achubiaeth a wnaeth trwy neidio bymtheng troedfedd o’i long i’r dŵr oedd rhyw deg ar hugain i ddeugain troedfedd o ddyfnder. Galwyd y digwyddiad hwn yn ôl i gof gan Samuel Thomas, yn siarad ar ran Cyngor y Dref, mewn seremoni agoriadol Gwesty Washington Capten Bevan.

20181016_145149_resized

Cafodd yr eiddo hwnnw (rhifau 9 ac 11 Stanwell Road) a oedd wedi’u meddiannu’n flaenorol gan Ysgol Diwtorial Penarth, eu trawsnewid gan Gapten Bevan a’u hagor fel gwesty preifat ym mis Hydref 1922. Credai byddai’r enw ‘Washington’ yn denu ymwelwyr Americanaidd:

for whom the name might have special appeal being the name of their first president and also their seat of government.

Cychwynnodd cysylltiad penodol Capten Bevan ag America ar 27 Ionawr 1914 pan gafodd ei long, yr Almirante o’r United Fruit LINE, ger Santa Marta oddi ar arfordir Colombia, alwad argyfwng gan long bleser y Warrior, a oedd mewn moroedd trwm oddi ar Benrhyn Augusta. Ar fwrdd y Warrior roedd Mr a Mrs Frederick W. Vanderbilt, eu gwesteion Dug a Duges Manceinion a’r Arglwydd Arthur Falconer, a’u criw. Ar daith o Curaçao i Colón ac yn agosáu at ddiwedd ei mordaith ysgubwyd y llong bleser i draethell tywod ym Mhenrhyn Augusta, 35 milltir o Santa Marta, wrth aber afon Magdalena. Pan ddaeth yr arwydd cyfyngder i law, nid oedd yr Almirante yn gallu gadael y porthladd oherwydd mai dim ond peth o’r cargo a oedd wedi ei lwytho ac roedd y rhan fwyaf y teithwyr ar y lan. Felly, cafodd ei chwaer long y Frutera ei hanfon ymlaen a gorchmynnwyd iddi sefyll yn barod. Pan gyrhaeddodd yr Almirante, canfuwyd bod y Warrior yn gorwedd, a’i blaen ar y lan, yn y fath ystum fel bod llif cryf o’r afon yn golchi dros ei chwarter chwith, tra roedd moroedd trymion yn chwipio yn erbyn yr ochr dde. Cafodd cychod bach eu hanfon o’r ddwy long ond roedd y moroedd yn rhy drwm i allu achub ar y diwrnod hwnnw.

Yn syth ar ôl brecwast drannoeth (yr 28ain), cymerodd Prif Swyddog yr Almirante, N.H. Edward, ei gwch bach allan eto a llwyddodd i fynd ar fwrdd y Warrior, gan fod y moroedd wedi tawelu rywfaint. Daeth o hyd i’r llong bleser yn gorffwys ar ei chêl union mewn beisfa o laid a thywod, gyda’i theithwyr mewn hwyliau hynod o dda ar ôl eu profiad dychrynllyd. Trosglwyddwyd y teulu Vanderbilt a’u gwesteion yn ddi-ddigwydd i’r Almirante ac mae’n debyg nad oeddynt wedi dioddef fawr ddim o’r profiad. Gwobrwywyd ar unwaith aelodau criw’r Almirante, fel y llong achub, gyda rhoddion o 50 doler yr un, a chafodd Capten Bevan a Mr. Edward eu hysbysu gan Mrs. Vanderbilt y byddai’r ddau yn derbyn arwydd o werthfawrogiad diolchgar y teulu wedi ei gynllunio’n arbennig, a fyddai’n cael ei wneud pan ddychwelent i Efrog Newydd.

Cadwodd Capten Bevan mewn cysylltiad â theulu’r Vanderbilt, gan gynghori aelodau ar fordwyo a phrynu rhagor o longau pleser, a bu’n brif swyddog i un ohonynt am gyfnod byr. Roedd Gwesty’r Washington ond yn gyfnod byr yng ngyrfa mordwyo Capten Bevan am bum mlynedd yn ddiweddarach, a thair blynedd ar ôl geni ei ferch Josephine, gwerthodd y gwesty a dychwelyd i wasanaeth y llynges fasnach fel Capten gyda’r Blue Star Line. Adnewyddodd ei berthynas â Jamaica lle dathlodd y papur newydd lleol yn Kingston ei ddychweliad drwy groniclo ei weithredoedd arwrol yn y gorffennol ar yr ynys yn ystod y ‘Daeargryn Mawr’. Ar 14 Chwefror 1940 cafodd ei long y Sultan Star ei fwrw gan dorpido ac am ei ddewrder fe’i hargymhellwyd ar gyfer yr OBE.

Bae Caerdydd cyn y Morglawdd

rsz_d1093-2-047

D1093/2/47

Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, morfeydd a gwastadeddau llaid oedd holl flaendraeth Caerdydd, a hwn a gysylltai Afonydd Taf ac Elái â Môr Hafren.  Roedd cei’r dref yn sefyll lle mae Heol y porth erbyn hyn, ond dim ond ar lanw uchel y gallai’r llongau gyrraedd yno o’r môr.  Doedd Bae Caerdydd fel y mae heddiw ddim yn bodoli hyd nes y datblygwyd y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth.

Hyd yn oed bryd hynny, am ganrif a hanner, roedd y Bae yn fae llanw a thrai, gyda sianeli’r afonydd yn pasio drwy ardaloedd eang o wastadeddau llaid pan oedd y llanw ar drai.  Dim ond ym 1999, yn dilyn cwblhau’r Morglawdd, y cronnwyd dyfroedd y Taf a’r Elái, gan greu llyn dŵr croyw ym Mae Caerdydd.

rsz_d1093-2-044

D1093/2/44

rsz_d1093-2-045

D1093/2/45

Mae’r gyfres o luniau gan Mary Traynor yn dyddio nôl cyn y Morglawdd.  Mae D1093/2/45 a D1093/2/44 yn portreadu golygfeydd rhannau isaf Afon Elái, gydag Eglwys Awstin Sant, ar Drwyn Penarth, yn amlwg yn y cefndir.

rsz_d1093-2-049_cardiff_docks

D1093/2/49

Mae D1093/2/49 ar ochr ddwyreiniol y Bae, yn agos i hen loc Basn y Rhath.

rsz_d1093-2-046

D1093/2/46

Mae D1093/2/47 a D1093/2/49 yn olygfeydd mwy cyffredinol, ill dwy yn darlunio’r gwastadeddau llaid yn fyw iawn.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Baddonau Penarth

Ar 3 Hydref 1881, penderfynodd Bwrdd iechyd Lleol Penarth adeiladu baddonau nofio dŵr môr i wasanaethu’r dref.  Yn wreiddiol y bwriad oedd iddo fod heb do ond arweiniodd y cynlluniau a ddatblygwyd dros y tair blynedd nesaf i’r adeilad y mae ei wedd allanol yn aros i raddau helaeth yn ddigyfnewid hyd y dydd hwn.  Penodwyd James Cory yn rheolwr ym mis Mehefin 1884. Fodd bynnag mae’n ymddangos nad agorodd y Baddonau yn gyhoeddus tan y flwyddyn ganlynol.

rsz_d1093-2-21_to_44_026

rsz_d1093-2-21_to_44_025

Roedd dau bwll nofio yn yr adeilad, ynghyd ag ystafelloedd newid a chyfleusterau i ymolchi’n breifat. Roedd dŵr y môr yn cael ei bwmpio o’r ardal o dan y Pier i ddwy gronfa yn y cae (Gerddi Alexandra yn ddiweddarach) uwch ben a’r tu ôl i’r Baddonau cyn pasio trwy’r system hidlo i’r pyllau.  Yn ystod rhan gyntaf yr G20, gosodwyd byrddau dros y pwll cyntaf yn ystod misoedd y gaeaf a’i ddefnyddio fel campfa.

Daeth y Baddonau yn segur pan agorodd Canolfan Hamdden Penarth yn y 1980au.  Am gyfnod fe ddefnyddiwyd yr adeilad fel bar a thŷ bwyta dan yr enw ‘Inn at the Deep End’, ond wedi hynny fe ddadfeiliodd tan iddo gael ei drawsnewid yn bedwar tŷ ar ddechrau’r G21.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

Pwyllgor Llyfrgell Penarth

Mae’r 75ain eitem a gafwyd ym 1968 (DXPD 7-10) yn rhan o Gasgliad Llyfrgell Penarth ac mae’n cynnwys cofnodlyfrau Pwyllgor Llyfrgell Penarth (1941-57), copi o’r Bil i Ddiwygio’r Ddeddf Llyfrgelloedd a gohebiaeth a memoranda o ran Llyfrgell Rydd Penarth a sefydlu Llyfrgell Gyhoeddus Penarth (1895-1927). Mae’r rhain yn gofnodion gan Gyngor Ardal Drefol Penarth, a gallwch ddysgu mwy am hanes y cyngor a’i ragflaenwyr a’i olynwyr yma: (UDPE http://calmview.cardiff.gov.uk/CalmView/Record.aspx?src=CalmView.Catalog&id=UDPE&pos=1).

Efallai eich bod yn chwilfrydig ynghylch beth y gallech chi ei ddysgu o’r cofnodion hyn! Mae llawer o wybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn arferion cyflogaeth, datblygiad gwasanaethau llyfrgell, rôl llyfrgellydd proffesiynol, effaith yr Ail Ryfel Byd, hanes Penarth, rôl merched a busnesau lleol Penarth. Os oedd gennych aelod o’r teulu a eisteddai ar y Pwyllgor neu a weithiodd yn y llyfrgell (fel llyfrgellydd, cynorthwyydd, gofalwr neu lanhawr) mae hefyd o wybodaeth am eich hanes teuluol.

Mae manylion bob dydd yr hyn y gallech ei ddisgwyl o gofnodlyfr Pwyllgor Llyfrgell Gyhoeddus sy’n cynnwys amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant, penderfyniadau ar amseroedd agor a chau ar gyfer gwyliau cyhoeddus, penodiadau a chyflogau, atgyweiriadau a glanhau, llyfrgell a brynwyd a rhoddion a gafwyd. Cafodd y cyngor hefyd gwyn gan berson lleol nad oedd y ceiliog gwynt ar y Llyfrgell yn gweithio’n gywir (nid ystyriwyd ei drwsio’n flaenoriaeth ariannol gan y Pwyllgor). Ac os ydych yn byw ym Mhenarth, fwy na thebyg na synnech chi wybod bod atgyweirio’r cloc hefyd yn cael ei drafod!

Mae’r cofnod cyntaf yn y llyfr cofnodion (DXPD7) o fis Mawrth 1941 yn nodi diolch y Pwyllgor i ymdrechion yr Is-gorporal Peter Roberts a’r Taniwr H. Warner yn y Llyfrgell ar nos Fawrth y 4ydd. Penderfynwyd ysgrifennu at Swyddog Milwrol H. Warner i fynegi diolch am ei ymdrech, a achubodd y Llyfrgell. Mae blynyddoedd y rhyfel yn canolbwyntio ar ymdrechion i gadw’r llyfrgell ar agor wrth i staff (benywaidd) gofrestru yn y gwasanaeth, y drafferth o gael glo i gynhesu’r adeilad, sicrhau bod personél milwrol lleol (Prydeinwyr ac Americaniaid) yn cael mynediad i’r llyfrgell a defnyddio’r llyfrgell i gadw deunyddiau ARP.

O 1948, mae’r Pwyllgor am greu Llyfrgell Plant yn y seler (gyda’i mynedfa ei hun). Cytunodd Pwyllgor Cyffredinol Arbennig i sefydlu Llyfrgell Plant ar 4 Chwefror 1949, ac agorodd ar 15 Mawrth 1950. Aeth y Llyfrgellydd i Lundain i ddewis llyfrau (gyda £250), dechreuodd sesiynau stori i blant iau ar fore Sadwrn ar ôl i’r llyfrgell plant agor, a chytunodd y Pwyllgor i brynu cylchgrawn Eagle ym mis Mai 1950. Un newid mawr o gofnodion 1944 oedd penderfynu y dylai’r Ystafell Ddarllen gael ei defnyddio gan blant yn ôl disgresiwn y Llyfrgellydd a’r staff yn unig.

Gohebiaeth Llyfrgell Penarth

Gohebiaeth Llyfrgell Penarth

Mae’r ohebiaeth (DXPD10) yn cynnwys cyfres o amcangyfrifon ac anfonebau gan fasnachwyr lleol ym Mhenarth am waith ar Lyfrgell Rydd Penarth a Llyfrgell Gyhoeddus Penarth. Mae’r dogfennau’n rhoi cipolwg i ni ar gostau deunyddiau a llafur bryd hynny, ystod y masnachwyr lleol a oedd yn gweithio, gyda’r cyfan wedi’i ysgrifennu ar bapur pennawd. Mae yna ‘deimlad’ gwahanol iawn i’r anfoneb electronig y byddai’r Archifau’n ei chadw yn y dyfodol.

Gohebiaeth Llyfrgell Penarth

Gohebiaeth Llyfrgell Penarth

Mae’r cofnodion hefyd yn cynnwys rhestr staff y llyfrgell newydd a’u cyflogau o 1895 ymlaen. Mae nodiadau ychwanegol ar gefn llythyr wedi’i argraffu ar gyfer ‘Cronfa Siôn Corn Penarth, 1922’. Mae’r eitemau hyn, ynghyd â’r rhai a nodir uchod, yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd ym Mhenarth 90 mlynedd yn ôl.