Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o sôn wedi bod am wyliau gartref, neu ‘staycation’.
Ond mae’r syniad o gael gwyliau gartref yn un hirsefydledig. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y syniad o dreulio’ch gwyliau gartref yn cael ei annog gan lywodraeth Prydain a chafwyd ymgyrch ‘Holiday at Home’ swyddogol. Y nod oedd annog pobl i aros gartref a pheidio â theithio’n bell, a hynny er mwyn gadael i system drafnidiaeth y wlad i ganolbwyntio ar drafnidiaeth filwrol, yn enwedig wrth baratoi at D-Day ym 1944.
Roedd Bwrdeistref y Barri’n rhan o ymgyrch y llywodraeth, ac fe drefnwyd adloniant i bobl leol mewn ymgais i’w hargyhoeddi i gael “Gwyliau Gartref”. Ymhlith cofnodion Bwrdeistref y Barri mae dwy ffeil (cyf BB/C/8/102,140) yn dangos y math o adloniant oedd ar gael. Maen nhw hefyd yn dangos fod y Cyngor wedi derbyn llwyth o geisiadau gan berfformwyr ac asiantau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, yn chwilio am waith yn y Barri.
Yn eu plith roedd arddangosiadau gyda merlod (ac ambell afr), pypedau o Fiena, Jingles the Jolly Jester a sioe bale (Donna Roma a Bales o Loegr a Ffrainc). Mae’r cŵn Alsás o Penyghent, a gymeradwywyd gan yr RSPCA, yn ymddangos yn hynod o ddifyr. Enw’r hyfforddwr oedd Miss Parry ac roedd y cŵn yn perfformio nifer o gampau, yn cynnwys neidio drwy gylchoedd a rhyddhau person a oedd wedi’i glymu a’i gagio.
Cysylltodd nifer o bobl â’r fwrdeistref yn cynnig trefnu gornestau reslo, ac mae’r ffeiliau’n cynnwys templedi poster gyda bwlch gwag ar gyfer enw’r dref nesaf ar y daith reslo.
Roedd llawer o’r perfformwyr hyn yn ymddangos mewn trefi eraill ar hyd a lled y DU, fel rhan o’r ymgyrch ‘Gwyliau Gartref’ ac wedi anfon geirdaon oddi yno i geisio argyhoeddi’r Barri o safon aruchel eu gwaith. Mae’r deunydd yn dangos bod sioeau amrywiaeth (variety acts) wedi bod yn boblogaidd erioed ym Mhrydain. Mae tebygrwydd mawr rhwng rhai ohonyn nhw a rhai o’r pethau welwn ni heddiw ar raglenni fel ‘Britain’s Got Talent’.
Doedd gan Fwrdeistref y Barri ddim cronfa fawr o arian fodd bynnag, a doedd hi ddim yn gallu fforddio ffioedd y perfformwyr proffesiynol hyn. At bobl leol y trodd Cyngor y Barri am y rhan fwyaf o’i adloniant. Ar ddawnsfeydd yr oedd y pwyslais, gyda bandiau lleol yn perfformio’r gerddoriaeth – bandiau fel Band Trafnidiaeth Corfforaeth Caerdydd (a gafodd ffi o £15) a Band Byddin yr Iachawdwriaeth. Roedd cerddorion lleol hefyd yn cynnal cyngherddau. Yn eu plith roedd disgyblion Miss Mae Richardson Miss Hilda Gill a Pharti Madame Isabel Davies. Cynhaliwyd hefyd ddawnsfeydd Panatrope ar y caeau tennis (chwaraeydd recordiau gramoffon mawr oedd y panatrop). Trefnwyd hefyd ddigwyddiadau chwaraeon, fel gemau criced ar Faes Criced Ynys y Barri, gornest fowlio, cystadlaethau paffio a chafwyd cystadleuaeth farblys fawreddog hyd yn oed yn y Parc Canolog. Cafodd sioeau prynhawn yn y sinemâu, fel y Tivoli a’r Plaza, eu hysbysebu fel rhan o’r ymgyrch, gyda ffilmiau mawr fel ‘Babes on Broadway’ (gyda Judy Garland) ac ‘International Squadron (gydag actor a ddaeth yn enwog iawn fel Arlywydd UDA flynyddoedd wedyn, sef Ronald Reagan) yn rhan o’r arlwy.
Mewn ymgais i arbed arian, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn yr awyr agored yn Sgwâr y Brenin, Parc Fictoria, y Parc Canolog, y Cnap, Parc Romilly, Gerddi’r Parade, Bae Whitmore, Gerddi Gladstone a Gerddi Alexandra. Cynhaliwyd digwyddiadau hefyd mewn eglwysi a chapeli lleol, er i Eglwys y Bedyddwyr, Salem, orfod gwrthod cais am fod cyflwr eu llenni ‘black-out’ gynddrwg.
Daeth ‘sw syrcas enfawr’ Syr Robert Fossett ar ymweliad i Barc Romilly ym mis Medi 1944. Roedd 20 o berfformiadau’n rhan o’r sioe, yn cynnwys rhai gan lewod, teigrod, eirth, ceffylau ac eliffant. Roedd lle i 3,000 o bobl yn y Pafiliwn mawr.
Roedd nifer o gyfyngiadau ar waith yn ystod y Rhyfel wrth gwrs, a chafodd Cyngor y Barri rybuddion gan yr adran Rheoli Papur am ddefnyddio gormod o bapur i brintio posteri.
Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus iawn, ond daeth hyn â phroblemau yn ei sgil. Gorfu i heddlu Morgannwg anfon swyddog heddlu i gyngherddau rhai o’r bandiau i ‘sicrhau trefn’ ar ôl i bobl gwyno fod plant yn rhedeg o amgylch ac yn gweiddi yn ystod cyngherddau. Roedd llawer iawn o bobl yn mynd i rai o’r digwyddiadau hyn, gydag un sylwebydd yn nodi fod 400 o blant dan 12 oed wedi talu am docyn i ddawns, ond y bu’n rhaid ei chanslo am fod gormod yno!
Byddai’n wych clywed eich atgofion chi am ‘Gwyliau Gartref’ neu weld eich lluniau o gyngherddau neu ddigwyddiadau.