Adeiladau Albert, Moria Terrace, Caerdydd

Codwyd Adeiladau Albert yng nghanol y 1870au gan John a Richard Cory, brodyr oedd yn berchen ar longau, ar dir oedd ar brydles gan ystâd Bute ar hyd ochr de-ddwyrain Moira Terrace.  Wedi’i gynllunio gan Frederick Cultan, roedd y bloc yn cynnwys rhes o siopau gyda llety byw ar lawr cyntaf pob un. Roedd yr ail lawr wedi’i rannu’n ‘anheddau model i grefftwyr’.  Roedd rhai o’r rhain yn wreiddiol yn cynnwys balconïau, yr oedd mynediad iddynt drwy’r drysau wedi’u bricio ynghau sydd i’w gweld ym mraslun Mary Traynor.

D1093-1-2 p5

Yn fuan ar ôl eu cwblhau, cafodd perchenogaeth swyddogol ar yr adeilad ei throsglwyddo i Cardiff Land and House Investment Corporation Limited – roedd y brodyr Cory yn brif randdeiliaid arno.  Ac ym 1877, ychwanegwyd llawr to gwydr arall ar draws hyd cyfan y bloc i’w ddefnyddio fel llawr rhôl-sglefrio.

Yn ei blynyddoedd cynnar, roedd hi’n ymddangos bod y fenter gyfan wedi ei chael hi’n anodd yn fasnachol.  Erbyn 1879, rhoddwyd gorau i’r llawr rhôl-sglefrio a gosodwyd y llawr top i gwmni golchi dillad â stêm.  Ac ym mis Ebrill 1880, gadawodd y rhan fwyaf o’r meddianwyr, y siopau yn ogystal â’r anheddau, eu tenantiaeth. Yna penderfynodd y cwmni osod y tai mewn setiau o ystafelloedd, gyda thri thenant i bob tŷ.  Erbyn 1883, cofnododd y cyfarwyddwyr y dylai’r rhan fwyaf o’r tai a’r siopau gael eu gosod i ‘denant o ddosbarth uwch’.  Symudodd y cwmni golchi dillad â stêm allan o’r adeilad, ac ym 1885, cafodd y llawr top ei rannu’n dair uned, a chafodd to llechen newydd ei osod, gyda’r nod o’i osod fel warysau.

Mae’n debyg bod y trefniadau mewnol wedi cael eu haddasu ymhellach dros y ddau ddegawd nesaf, ac erbyn 1904, roedd y rhan fwyaf o’r bloc wedi cael ei addasu’n fflatiau.  Serch hynny, mae’n amlwg yn ôl cyfeiriaduron modern bod sawl uned wedi cael eu meddiannu fel cartrefi neu hostelau oedd yn cael eu cynnal gan sefydliadau elusennol, gan gynnwys Byddin yr Iachawdwriaeth a Dr Barnardo, wrth i fusnesau barhau i weithredu mewn llawer o’r siopau hefyd.  Yn fwy diweddar, roedd un o’r tai hyn yn gartref i Lion Labortatories Ltd ac mae plac glas yn coffáu ei ddatblygiad o’r anadliedydd electronig yma ym 1974.

Ym 1980, gwerthodd Cardiff Land and House Investment Corporation yr adeilad i Gymdeithas Dai Adamsdown, a addasodd a moderneiddiodd y fflatiau gan dynnu’r llawr top a rhoi to newydd ar y bloc cyfan.  Mae braslun Mary Traynor o 1982 yn dangos pen gogledd-ddwyreiniol y bloc, fel yr oedd yn edrych cyn yr addasiadau.  Yn fwy diweddar, mae siopau’r llawr gwaelod wedi bod yn swyddfeydd i gyfreithwyr neu sefydliadau trydydd sector yn bennaf.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection (cyf.: D1093/1/2)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ni chymeradwywyd ar gyfer 11 tŷ, Moira Terrace, 1875 (cyf.: BC/S/1/91154)
  • Casgliad Teulu Kernick, Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd, prydles adeilad ar Moira Terrace (cyf.: DX69/4)
  • Cofnodion Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd, ‘A History of Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd’ (cyf.: DX486/8)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Western Mail, 7 Mawrth 1877
  • Cardiff Times and South Wales Weekly News, 24 Mawrth 1877
  • South Wales Daily News, 1 Medi 1879

Ysgol Adamsdown

Pan sefydlwyd Bwrdd Ysgolion Caerdydd yn 1875, un o’i flaenoriaethau oedd darparu ysgol i 800 o blant yn ardal eglwysig yr Holl Seintiau.   I ddiwallu’r angen hwn, sefydlwyd Ysgol Dros Dro Adamsdown yn yr ystafell ysgol dan Gapel Mount Tabor (y Synagog Diwygiedig Iddewig bellach) yn Moira Terrace.   Yna derbyniodd y Bwrdd, gan yr Ardalydd Bute, safle ar ochr gogledd-orllewinol Sgwâr Adamsdown ac ysgol newydd, a gafodd ei dylunio gan y pensaer lleol W. D. Blessley, a’i hadeiladu gan Samuel Shepton, a agorwyd ar 31 Ebrill 1879.

d1093-2- 024 Adamsdown School_compressed

Dros yr ugain mlynedd nesaf, ymddengys fod yr ysgol wedi cael ei hymestyn fwy nag unwaith, ac erbyn 1901 adroddwyd ei bod yn dal 888 o ysgolheigion.

Agorwyd ysgol gynradd arall yn ei lle yn 1985, yn System Street.   Yna cafodd yr adeilad yn Sgwâr Adamsdown ei gau a’i ddymchwel tua 1988.  Mae’r safle’n cynnwys dau floc o fflatiau nawr – Windsor Mews a Thŷ’r Ysgol.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/19]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun o Ysgol Fwrdd Adamsdown, South Luton Place, 1878 [BC/S/1/1637]
  • Cofnodion Bwrdd Ysgolion Caerdydd, llyfr cofnodion y Pwyllgor Safleoedd ac Adeiladai, 1875-1881 [ESB68/21]
  • Wythnos Addysg Dinas Caerdydd 1932
  • Childs, Jeff, Roath, Splott and Adamsdown – One Thousand Years of History
  • South Wales Daily News, 5 Ion 1899
  • Weekly Mail, 8 Medi 1900

Trosffordd, Cyffordd Tyndall Street a’r Ffordd Gyswllt Ganolog, Caerdydd

Trwy adeiladu’r M4 yng ngogledd Caerdydd, dechreuodd gwaith yn y 1970au ar ddatblygu cysylltiadau da o’r draffordd i mewn i rannau deheuol a chanolog y ddinas.   Nawr iddo gael ei gwblhau, mae’r Ffordd Ddosbarthu Berifferol (A4232) yn ffurfio cylch, yn ymylu de Caerdydd rhwng cyffyrdd 30 (Porth Caerdydd) a 33 (Capel Llanilltern) yr M4.

d1093-2- 021 Flyover, Junction Tyndall Street & Central Link Road_compressed

d1093-2- 022_compressed

Mae’r Ffordd Gyswllt Ganolog (A4234) yn cysylltu’r A4232 gyda chanol y ddinas.   Yn costio £8.5 miliwn i’w adeiladu, fe’i agorwyd ar 16 Chwefror 1989.  Yn cynnwys ychydig dan filltir o ffordd ddeuol, mae’r ffordd yn mynd o gylchfan Queensgate ym Mae Caerdydd, yn bennaf ochr yn ochr â hen Ddoc Dwyreiniol Bute, i Stryd Adam.    Mae cyffordd lle mae’n croesi Tyndall Street, ac mae llun Mary Traynor yn dangos y cynheiliaid sy’n cario’r drosffordd ar y pwynt hwn.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

 

Tu Mewn, Eglwys yr Holl Seintiau, Adamsdown, Caerdydd

Gall olrhain tarddiad Eglwys yr Holl Saint, Adamsdown yn ôl i 1856 pan adeiladodd Ardalyddes Bute eglwys yn Tyndall Street – ac wedyn ym mhlwyf y Santes Fair – i wasanaethu Anglicaniaid Cymraeg.  Ond ymhen dau neu dri degawd, mae demograffig y rhan hon o Gaerdydd wedi newid; symudodd darpariaeth Gymraeg yn nes at ganol y ddinas a sefydlwyd plwyf newydd yn Adamsdown gyda gwasanaethau yn Saesneg.  Fodd bynnag, ynyswyd yr eglwys Tyndall Street, oedd wedi ei hamgylchynu gan boblogaeth Gatholig o Iwerddon yn bennaf, rhag y rhan fwyaf o’i haelodau ei hun.

Yn 1893, adeiladwyd capel, i Saint Elvan, yn Sgŵar Adamsdown.   Roedd hyn yn nes at brif boblogaeth y plwyf a phenderfynwyd ar ôl hynny i godi eglwys blwyf newydd ar y safle.  Roedd angen cymeradwyaeth Seneddol i adael a gwaredu’r adeilad yn Tyndall Street, y’i rhoddwyd trwy Ddeddf Eglwys yr Holl Saint (Caerdydd) 1899.

d1093-2- 020 Interior Chapel, Windsor Road, Adamsdown_compressed

Agorwyd eglwys newydd yr Holl Saint ar 28 Ionawr 1903. Mae adroddiad mewn papur newydd cyfoes yn awgrymu bod angen i’r pensaer, John Coates Carter, fod yn economaidd iawn wrth ei dylunio, gyda sgrîn pinwydden uchel â chroes haearn ar ei ben fel y brif nodwedd fewnol.   Roedd y brif fynedfa yn wynebu Windsor Road, ar lefel sylweddol uwch na Sgŵar Adamsdown.   Aethpwyd i’r afael â hwn trwy adeiladu ar ddau lawr, gydag ystafell ysgol a festri o dan y brif ardal weddïo.   Nodwedd sy’n enwedig ryfedd, sy’n bodoli o hyd, yw’r cwt clychau ar strwythur o fath bwtres wedi gosod ar onglau sgwâr i ochr y gorllewin.

Caeodd Eglwys yr Holl Saint yn 1965 ar ôl i’r plwyf uno ag Eglwys Sant Ioan.  Yna cafodd yr adeilad ei ddefnyddio, am lawer o flynyddoedd, fel safle masnachol – deliwr mannau tân a phethau achubedig pensaernïol.   Bu newid arall i’r defnydd yn 2012, pan gafodd yr hen eglwys ei newid yn fflatiau.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: