Maenordy Silstwn – Tŷ gwledig teuluol i leoliad priodas hardd

Mae’r blog olaf hwn o’r pump ar gasgliad Stephenson ac Alexander yn ymwneud â Maenordy Silstwn. Saif Maenordy Silstwn ym mhentref bychan Silstwn (Gileston), ger Sain Tathan, ar lannau de Cymru. Wedi’i hadeiladu’n wreiddiol yn y cyfnod canoloesol, mae’r rhan fwyaf o’r bensaernïaeth sydd i’w gweld heddiw yn deillio o’r ddeunawfed ganrif. Erbyn hyn, mae’r maenordy yn lleoliad priodasau a digwyddiadau poblogaidd, er bod y tŷ wedi bod yn gartref teuluol ers cannoedd o flynyddoedd. Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ychydig o straeon diddorol am y plasty, yn enwedig yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Gileston photo 1

Ffigwr 1 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar

Gileston photo 2

Ffigwr 2 – Llun o Faenordy Dilstwn, yn dyddio o’r 19eg ganrif hwyr neu’r 20fed ganrif cynnar

Y cyntaf ohonynt yn manylu ar fuddiant teulu Quirke yn yr eiddo, ym mis Awst 1899, y gellir gweld pob un ohonynt trwy gasgliad o lythyrau yn y ffeil achos. Mae’n ymddangos bod Stephenson ac Alexander wrthi’n chwilio am denantiaid ar gyfer yr eiddo hwn yn 1899.  Yn wir cofnodir nad oedd un cleient, John Randall, ‘yn meddwl y byddai maenordy Silstwn yn gweddu iddo’. Ymddengys i lythyr at y Cyrnol Quirke gael mwy o lwyddiant. Buont yn erfyn ar y Cyrnol i ddod i weld yr eiddo yn dilyn mynegiant o ddiddordeb gan dynnu sylw at lwybr Rheilffordd Bro Morgannwg ger llaw fel un hardd i feicio ar ei hyd. Eto i gyd, pan fydd rhywun yn darllen y llythyrau sy’n weddill, gwelwn mai Mrs Quirke, gwraig y Cyrnol mewn gwirionedd, a anfonodd y mynegiant cychwynnol o ddiddordeb.  Heb fod ei gŵr yn ymwybodol, gofynnodd Mrs Quirke am fanylion yr eiddo a dymunai ei weld, gan nad oedd ei gŵr hyd yn oed yn bresennol yng Nghaerdydd ar y pryd. Roedd yr arwerthwyr yn hapus i gydymffurfio, gan ddisgrifio naw ystafell wely’r plasty, gardd furiog, bythynnod a saith erw o dir, a’r cyfan am £180 y flwyddyn. Er bod Mrs Quirke yn ymddangos wedi ei swyno gan y maenordy, nid yw’n glir a lwyddodd i berswadio ei gŵr i breswylio yno.

Advert

Ffigwr 3 – Hysbyseb ar gyfer gwerthu Maenordy Silstwn, c.1912

Plan

Ffigwr 4 – Cynllun llawr gwaelod o Faenordy Silstwn, yn debyg wedi ei ddefnyddio i osod pibellau dwr newydd ar gyfer Thomas Lewis

Awn ymlaen ddeuddeg mlynedd, ac mae Ffigwr 3 yn dangos llun o Faenordy Silstwn yn 1912, ynghyd â hysbyseb am yr eiddo a oedd yn disgrifio sut yr oedd yn edrych dros ‘y môr, gyda golygfeydd hardd o arfordir Exmoor a Swydd Dyfnaint’, a’i fod yn agos at atyniadau golff cyfagos. Roedd y gerddi hefyd ‘ymysg y mwyaf swynol yn y wlad’; mae’r llun yn Ffigwr 5 yn dangos ‘Gerddi Anne’, sy’n dal i fodoli heddiw. Bryd hynny, ymddengys fod dyn o’r enw Thomas Lewis yn byw yn y plasty, er erbyn 1922, roedd yn dymuno gadael. Mae’r arwerthwyr yn nodi yn yr hysbyseb sut y bu i Mr Lewis fuddsoddi’n helaeth yn yr eiddo; mae’n debyg ei fod wedi trwsio holl doeau’r adeilad. Cwblhawyd stocrestr o’r adeilad ym 1925, ac erbyn hyn ‘Mr Minchin’ oedd tenant Maenordy Silstwn. Ymhlith eiddo personol Mr Minchin yn y tŷ, roedd rhai gwrthrychau o ddiddordeb yn cynnwys: mat carw, set badminton, nofelau Charles Dickens, a hyd yn oed rhewgell hufen iâ.  Nid yw’n glir, fodd bynnag, pa mor hir yr arhosodd Mr Minchin yn Silstwn.

Anne Gardens

Ffigwr 5- ‘Gerddi Anne’, Maenordy Silstwn, 20fed ganrif cynnar

Er nad yw Maenordy syfrdanol Silstwn bellach yn gartref teuluol nac yn gartref preswyl, mae bellach yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer priodas neu leoliad digwyddiad. Mae’r ffeiliau achos yn disgrifio sut, ar draws deng mlynedd ar hugain, i’r maenordy fod yn gartref i amrywiaeth o denantiaid, i gyd gyda’u straeon eu hunain a’u hychwanegiadau personol i’r eiddo. Trwy lwc, mae’r maenordy wedi’i gadw’n dda i ni ei fwynhau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ffeiliau achos maenordy Silstwn i’w gweld yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg trwy ddefnyddio’r cyfeirnodau: DSA/12/776, DSA/12/4300 a DSA/12/4429.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Angel Street, Caerdydd – Gwesty Moethus a Haearnwerthwr Enwog ar Stryd Anghofiedig

Erbyn hyn mae Angel Street yn enw stryd anghofiedig yng Nghaerdydd.  Mewn gwirionedd, yn briodol iawn, Stryd y Castell bellach yw enw’r stryd, o gofio ei bod yn rhedeg ar hyd y castell godidog yng nghanol y ddinas. Arferai Gwesty’r Angel, sydd bellach wedi’i leoli ben draw Stryd y Castell, fod gyferbyn â’r castell. Yn wir, mae Ffigwr 1 yn dangos llun o’r gwesty, a dynnwyd ryw bryd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn lleoliad gwych ar gyfer twristiaid a chwsmeriaid teithiol, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd Gwesty’r Angel i’w weld yn lle mawr a chyfforddus i aros ynddo.

Old Angel Hotel

Ffigwr 1 – Llun o’r hen Gwesty’r Angel, 19ed ganrif hwyr

Inventory

Ffigwr 2 – Stocrestr ar gyfer Gwesty’r Angel, 1897

Mae ffeil achos Stephenson ac Alexander ar gyfer yr hen westy yn cynnwys llyfrau stocrestr mawr ar gyfer y Gwesty sy’n dyddio o 1897 a 1918. Gallwn ddidynnu o lyfr stocrestr 1897, dangoswyd yn Ffigyrau 2 a 3, fod gan y gwesty o leiaf saith deg o ystafelloedd gwely. Dyma rai eitemau nodedig sy’n dal y llygad wrth fynd drwy’r rhestr: lluniau o Dywysog a Thywysoges Cymru ar y pryd, lluniau o Gastell Caerdydd, llun o Ymerawdwr yr Almaen (Willhelm II efallai) mewn ffrâm ‘gilt’, ‘darn canol o grochenwaith Tsieina’, ‘carped brwsel’ a ‘gwrthban crwybrol’. Ymhellach at hyn, mae’r ffeil achos hefyd yn cynnwys rhestr fanwl o’r seler win, a oedd yn cynnwys ‘brandi ceirios’, sodas a ‘vino de Pacto’; wel, beth yw gwesty heb far wedi ei stocio’n dda i’r gwesteion ei fwynhau?

Bedroom 54 inventory

Ffigwr 3 – Ystafell wely 54, Stocrestr ar gyfer Gwesty’r Angel, 1897

Yn ddiddorol, yn y ffeil hefyd mae swp o ohebiaeth ynglŷn ag achos cyfreithiol yn ywneud â’r gwesty. Tenant y gwesty rhwng 1897 a thua 1918-1919 oedd menyw o’r enw Emily (neu efallai Elizabeth) Miles. Cododd gwrthdaro rhwng Emily a Mr Charles Jackson, bargyfreithiwr, o gwmpas diwedd ei thenantiaeth, ac a allai fynd â’r dodrefn yr oedd hi wedi eu prynu ar gyfer y gwesty gyda hi. Roedd Stephenson ac Alexender fel pe bai’n gweithredu fel cyfryngwyr rhwng y ddau, gan nodi fod ‘Mr Jackson yn benwan’, ac ‘na fyddai’n goddef dim mwy’ a’i fod yn ‘benderfynol o gymryd camau i orfodi ei hawliau’. Er i gytundeb gael ei setlo yn y pen draw ar gyfer ymadawiad Emily, mae’r llythyrau’n gwneud darllen difyr o ran perthynas gythryblus o’r gorffennol.

Plan

Ffigwr 4 – Cynllun yn dangos 19 Angel Street a Gwesty’r Angel, tua 1883

Auction particulars

Ffigwr 5 – Manylion arwerthiant, 19 Angel Street

Yn union wrth ymyl gwesty’r Angel roedd 19 Angel Street; cafodd yr eiddo ei ddisgrifio ym 1882 fel ‘safle rhydd-ddaliadol helaeth a gwerthfawr’, ac roedd yn eiddo i Mrs Fanny Lewis. Roedd blaen y tŷ ar Angel Street, ac roedd ganddo siop fawr, pum ystafell wely a chegin a; fel y dengys Ffigwr 4, roedd yr adeilad mewn ‘safle pwysig a chanolog iawn’ yng Nghaerdydd.  Yn ddiddorol iawn, cofnodir bod Fanny Lewis yn haearnwerthwr, a bod ei heiddo yn ‘un o’r tai busnes hynaf yn y dref’. Efallai ei bod yn cael ei hystyried yn anarferol i fenyw fod yn haearnwerthwr ar yr adeg honno, er bod Fanny Lewis yn ymddangos mewn cwpl o ddogfennau yn yr archifau; mae un yn ymwneud â ffermio, ac un arall lle safodd hyd yn oed fel erlynydd mewn achos!

Er mai Stryd y Castell yw Angel Street bellach, a bod yr hen Angel Hotel and Ironmongers wedi mynd erbyn hyn, mae’r ffeil achos yma o gasgliad Stephenson ac Alexander er hynny yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd Fictoraidd ac Edwardaidd yng Nghaerdydd, busnesau yn nwylo menywod, a hyd yn oed ychydig o wrthdaro dynol. Gellir gweld y ffeiliau achos hyn trwy gasgliad Stephenson ac Alexander gan chwilio am y cyfeirnodau hyn: DSA/2/74, DSA/12/3161, DSA/12/439 and DCNS/PH/9/51.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Howard Lodge, Caerdydd – Maenordy a gerddi i lety myfyrwyr newydd

Safai Howard Lodge unwaith ger Gerddi Howard, sydd gerllaw Heol Casnewydd a chanol dinas Caerdydd. Mae’r ardal bellach yn gartref i lety modern i fyfyrwyr sydd ond wedi’i adeiladu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â strydoedd preswyl, gyda gweddillion y gerddi yn dal i fod yno. Yn rhan o Ystâd Trydydd Ardalydd Bute (John Crichton-Stuart), mae’n debyg fod enw Howard Lodge, fel Gerddi Howard, yn deillio o enw gwraig yr Ardalydd, Gwendolen Fitzalan-Howard.  Daeth y gerddi i fod ar agor i’r cyhoedd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y porthdy, fel y gwelir o’r cynllun yn Ffigwr 1, yn parhau i fod yn aneglur yn y cofnodion.

Ground floor plan

Ffigwr 1 – Cynllun llawr gwaelod a thiroedd Howard Lodge

Mae casgliad Stephenson ac Alexander yn cynnwys ffeil achos manwl ynghylch ocsiwn ac arwerthiant Howard Lodge, a gynhaliwyd ar 10 Awst 1882 (Ffigwr 2). O lun o’r eiddo wedi’i amgáu yn y ffeil, fel y dangosir yn Ffigwr 3, gallwn weld bod y porthdy o faint sylweddol. Yn wir, cofnodwyd i’r ‘tŷ gael ei godi gan y Perchennog yn ddiweddar, ar gyfer ei feddiannaeth ei hun’, ac er na allwn ond dyfalu a fu’r Ardalydd fyw yno erioed, y perchennog oedd Mr Thomas Waring. Dymunai Thomas Waring, peiriannydd poblogaidd a fu’n gweithio yn ardal Caerdydd, newid ei breswylfa. Yn sicr roedd gan y porthdy adnoddau da fel cartref ac roedd mewn lleoliad buddiol i ddyn a oedd yn gweithio: ‘mae wedi’i leoli yn rhan breswyl orau’r dref, o fewn tri munud o gerdded i Orsafoedd Rheilffordd Dyffryn Taf a Rheilffordd Rhymni’. Roedd y tŷ ei hun o ‘gymeriad trawiadol’ ac o ‘ansawdd uwch’, yn addas ar gyfer ‘cyfleustra a chysur’, ac fe’i adeiladwyd gyda ‘dyluniad gothig’. Fel yr ydym wedi gweld o’r blaen o fewn y postiadau blog yma, roedd y duedd ‘gothig’ mewn pensaernïaeth yn gyffredin iawn yn ystod cyfnod diweddar Oes Fictoria.

Auction particulars

Ffigwr 2 – Manylion arwerthiant Howard Lodge

Photograph of Howard Lodge

Ffigwr 3 – Llun o Howard Lodge, diwedd yr 19eg ganrif

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn y ffeil achos yn cynnwys manylion cyfoethog ar du mewn a thu allan yr adeilad, gyda chynlluniau llawr wedi’u cynnwys ar gyfer pedair llawr y tŷ (Ffigyrau 1 a 4). Doedd y tŷ yn ddim llai na moethus yn ei gyfnod, ac yn cynnwys pantri Tsieina, toiled/WC, ystafelloedd derbyn, ystafell wisgo i wraig y tŷ, ac ystafell filiards. Y tu allan, roedd coetws a stablau, tŷ gwydr yn gyflawn gydag ‘offer dŵr poeth’, a gardd eang, y nodir ei bod wedi’i ‘gosod allan a’i chynnal gan Ardalydd Bute’ ei hun.

Structure of floors

Ffigwr 4 – Cynllun lloriau Howard Lodge

Fel perchennog tir ac eiddo blaenllaw ym Morgannwg, roedd Ardalydd Bute yn berchen ar gyfoeth o breswylfeydd.  Eto i gyd, ymddengys fod Howard Lodge wedi cael sylw gofalus, o ystyried ei fewnbwn i’r gerddi, a dyma oedd cartref helaeth Mr Thomas Waring. Er bod yr ardal bellach yn gartref i lety myfyrwyr, mae’r llun sydd wedi’i gynnwys yn y ffeil achos yn sicr yn gwneud cyfiawnder â’r ‘Lodge’ anghofiedig. Gellir gweld ffeil achos Howard Lodge trwy gasgliad Stephenson ac Alexander o dan y cyfeirnod: DSA/2/79.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Capel Stryd Womanby, Caerdydd – Addoli Crefyddol Anghydffurfiol ac Arwerthiant Trafferthus

Mae Stryd Womanby, sydd yng nghanol dinas Caerdydd, yn adnabyddus y dyddiau hyn am ei lleoliadau bywyd nos bywiog a’i thafarndai.  Ond yn ystod y 1800au, fodd bynnag, roedd Stryd Womanby yn gartref i eglwys sylweddol o’r enw Capel y Drindod (Trinity Chapel) ar un adeg. Gellir gweld Capel y Drindod yn glir yn y llun hwn o Womanby Street, o 1891 (Ffigwr 1). Yn adeilad trawiadol, mae’n hawlio’r sylw yn y ffotograff, er y bydd y craff eu golwg yn eich plith yn sylwi ar silwét cyfarwydd muriau Castell Caerdydd yn y cefndir. Ysywaeth, nid yw’r capel bellach yno; mae llawer o adeiladau hanesyddol a chrefyddol yn y gwledydd hyn wedi eu colli i ni ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n ymddangos i faes parcio gael ei godi ar safle’r capel.

Womanby Street 1891 - flipped

Ffigwr 1 – Womanby Street, 1891

Plan of Womanby Street

Ffigwr 2 – Cynllun o Stryd Womanby, mae’r capel wedi ei aroleuo

Codwyd yr adeilad gyntaf tua 1696, codwyd Capel Stryd Womanby fel man addoli Anghydffurfiol. Roedd anghydffurfiaeth yn y cyfnod hwn yn fodd o ddynodi’r rhai a ddehonglai Brotestaniaeth yn wahanol i’r wladwriaeth ac, yn dilyn adferiad brenhiniaeth y Stiwartiaid ym 1660, gwelodd Cymru gynnydd mewn grwpiau Anghydffurfiol. Bu’n rhaid ail-adeiladu’r capel ym 1847 oherwydd tân ac, erbyn diwedd yr 1880au, roedd cynigion ar waith i roi’r capel ar ocsiwn. Yn wir, mae ffeiliau achos yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn awgrymu bod yr adeilad am gael ei werthu er mwyn adeiladu capel newydd ar Heol y Bont-faen. Fodd bynnag, mae’r dogfennau hefyd yn awgrymu nad oedd y gwerthiant yn broses hawdd.

Auction particulars for chapel

Ffigwr 3 – Manylion arwerthiant y capel

Letter 1891

Ffigwr 4 – Llythyr ynglŷn â’r rhwystredigaeth na chyflawnwyd y gwerthiant

Cofnodir bod yr arwerthiannau ar gyfer gwerthu Capel y Drindod wedi’u cynnal ym mis Medi a Hydref 1890 (Ffigwr 3).  Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod gan Stephenson ac Alexander amrywiaeth o broblemau wrth geisio gwerthu’r Capel, sydd i gyd wedi’u dogfennu mewn ffeil achos o lythyrau, a gyfnewidiwyd rhwng y cwmni, y penseiri, a’r cyfreithwyr (Ffigwr 4). Yn fwyaf nodedig, mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau a ysgrifennwyd gan Edwin Seward, pensaer enwog a oedd yn gyfrifol am ddylunio llawer o adeiladau Caerdydd, yr ymgynghorid ag ef mae’n debyg ynghylch adeiladu’r capel newydd. Er bod Capel y Drindod i’w weld wedi ei werthu mewn ocsiwn, mae Edwin yn ysgrifennu at Stephenson ac Alexander gan ddweud nad oedd ‘wedi bod mewn sefyllfa i adrodd bod yr uchod mewn gwirionedd wedi ei werthu i’ch llythyrtwr am y pris a nodir’, a bod y ‘gwerthiant go iawn… heb ei selio eto’. Yn wir, roedd Mr Alexander wedi gadael am Lundain yn ddiweddar, ac wedi lleisio ei rwystredigaethau drwy ei lythyrau na chafodd y pris gwreiddiol ei dderbyn.

Apology letter

Ffigwr 5 – Llythyr yn ymddiheuro am y drafferth gyda’r allweddi

Rough inventory

Ffigwr 6 – Stocrestr fras ar gyfer y capel

Tenants' letter

Ffigwr 7 – Llythyr yn disgrifio dymuniadau’r tenantiaid newydd i gael gwared ar gelfi ac agweddau o’r capel

Ymddengys i werthiant gael ei gwblhau yn y pen draw tua mis Mawrth 1891, ond ni ddaeth y trafferthion i ben bryd hynny. Ar ôl ceisio mynd i mewn i’r adeilad, roedd problemau gyda’r allweddi gan y tenant newydd (Gill Blackbourne), y gall hyd yn oed perchnogion tai modern gydymdeimlo â nhw. Anfonwyd llythyr ymddiheuriad cyflym (Ffigwr 5), gyda’r cwmni’n datgan:  ‘Mae’n ddrwg gen i eich bod yn cael unrhyw anhawster ynglŷn â’r allwedd’.  Ar ben hynny, roedd rhywfaint o wrthdaro ynglŷn â bwriadau’r tenant newydd ar gyfer y capel. Yn yr hysbysebion gwerthu, pwysleisiodd y cwmni y byddai’r capel wrth gwrs yn berffaith at ‘ddibenion addoli crefyddol’. Fodd bynnag, roedd y tenantiaid newydd yn dymuno tynnu a gwerthu unrhyw weddillion o’r capel, gan gynnwys: y seti a’r organau, y pulpudau, y stolion, a hyd yn oed ffwrn nwy, a oedd oll wedi’u dogfennu mewn llythyrau a stocrestr fras (Ffigyrau 6 & 7).

Adeiladwyd Capel Newydd y Drindod (New Trinity Chapel), gan ddefnyddio’r enillion o’r gwerthiant, ar Heol y Bont-faen ym 1894, ac mae’n ymddangos i’r hen gapel gael ei ddymchwel yn y pen draw. Unwaith yn gapel syfrdanol, gothig a chanddo gyfoeth o hanes crefyddol, mae modd cyrchu amryw gofnodion o fedyddiadau, priodasau a digwyddiadau yn yr hen gapel a’r capel newydd yn Archifau Morgannwg gan ddefnyddio’r cyfeirnod ‘DECONG6’. Ar gyfer dogfennau Stephenson ac Alexander ar y capel, gweler: DSA/12/382 a DSA/2/160.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

20 Plas y Parc, Caerdydd – Plasty Fictoraidd i Fwyty Bwyd Cain, Modern

Y postiad blog yma fydd y gyntaf o gyfres o bump sy’n ymwneud â chasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg. Mae’r casgliad yn helaeth, ac yn gartref i amrywiaeth eang o ddeunydd sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r cwmni ocsiwn a syrfëwr siartredig, yn benodol yn ymwneud â’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Nid yw mentro i’r casgliad yn datgelu cofnodion eiddo yn unig. Fel y bydd y pum postiad blog yma’n dangos, mae’r casgliad hefyd yn manylu ar bobl, a oedd yn byw, gweithio a phrofi bywyd tua chan mlynedd yn ôl.

I’w gwerthu yn yr ocsiwn ar Ddydd Iau 4 Gorffennaf 1889 a Dydd Iau 2 Gorffennaf 1891 yr oedd plasty gothig hardd, 20 Plas y Parc, Caerdydd (Ffigwr 1). Os ydych chi’n gyfarwydd â Chaerdydd, mae 20 Plas y Parc yn dal i sefyll heddiw, wedi’i leoli’n agos at Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, ac mae bellach yn far a bwyty bwyd cain.  Wedi’i ddisgrifio yn ffeiliau’r cwmni fel ‘tŷ lesddaliad sylweddol a helaeth, wedi’i adeiladu’n dda’, lleolwyd yr eiddo mewn ‘rhan hynod ddymunol o Gaerdydd’ ac fe’i nodir am ei ‘geinder’ a’i ‘wydnwch’.

park place

Ffigwr 1 – 20 Parc y Plas, nawr

Auction particulars 1891

Ffigwr 2 – Manylion ocsiwn, 1891

Mae’r manylion ar gyfer yr ocsiwn (Ffigwr 2) yn esbonio sut roedd ysgutor yr ewyllys i berchennog blaenorol y tŷ wedi penderfynu ei werthu.  Yn wir, mae’n dweud bod yr eiddo wedi bod ‘yn ddiweddar ym meddiant yr Hynafgwr McConnochie, ymadawedig’. Roedd Hynafgwr, neu Alderman yn Saesneg, yn aelod o lywodraeth leol, a phreswylydd ymadawedig 20 Plas y Parc mewn gwirionedd oedd yn John McConnochie. Yn ffigwr hynod ddiddorol yn hanes Caerdydd, bu McConnochie yn Prif Beiriannydd Dociau Bute a gwasanaethodd ar un adeg fel Maer Caerdydd o 1879 i 1880. Eto i gyd, mae’r dogfennau sydd yn y ffeil yn datgelu i ni rai canfyddiadau diddorol a phersonol am gartref John. Adeiladwyd yr eiddo ‘fel ei breswylfa ei hun’ ym 1872, ac roedd yn cynnwys islawr, llawr gwaelod, llawr cyntaf ac ail lawr, gyda’r tu allan yn cynnwys stabl a choetws. Roedd y tŷ hefyd yn cynnwys llyfrgell, cwr y gweision ac ystafell filiards (hamdden). Mae’r stocrestr yn y ffeil yn rhoi cip pellach ar gartref moethus John: roedd ganddo lestri arian, cadair llyfrgell ‘yn troi’, dodrefn mahogani, paentiad o ‘olygfeydd Albanaidd’ a hyd yn oed ‘arfwisg ddur’.

Architect's drawing 1

Ffigwr 3 – Dyluniadau pensaer

Architect's drawing 2

Ffigwr 4 – Dyluniadau pensaer

Y berl yn y ffeil achos yma, fodd bynnag, heb amheuaeth yw’r dyluniadau pensaernïol gwreiddiol ar gyfer yr eiddo. Gall rhywun ddychmygu John mewn ymgynghoriad a’i bensaer ‘nodedig’, neb llai mewn gwirionedd na William Burges, a oedd yn enwog am ddylunio llawer o adeiladau yng Nghaerdydd, megis Castell Caerdydd a Chastell Coch. Fel y gwelwn yn Ffigurau Tri a Phedwar, prin fod y tŷ wedi newid, ac mae’n dal i fod â phresenoldeb trawiadol ar Blas y Parc. Mae tuedd poblogaidd pensaernïaeth gothig yn amlwg, gyda bwâu a chynllun lliw tywyll yr eiddo.

Y tro nesaf y byddwch yn crwydro drwy ganol dinas Caerdydd, cymerwch amser i edmygu 20 Plas y Parc, a oedd unwaith yn gartref a ddyluniwyd yn ofalus, ac a godwyd yn unswydd i fod yn gartref i John McConnachie. Gellir gweld y ffeiliau achos hyn yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn Archifau Morgannwg, trwy ofyn am:  DSA/12/358 a DSA/2/166.

Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd

Knuts Llandaf: Yr ysbyty cyntaf yn Rookwood, 1918

Roedd deunydd blaenorol ar hanes Rookwood yn ymwneud â’r paratoadau ar gyfer gwerthu’r tŷ ym mis Gorffennaf 1917 gan ddefnyddio prosbectws a baratowyd gan Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Thirfesurwyr Siartredig, y Stryd Fawr, Caerdydd. Yn yr erthygl hon fe ailgydiwn yn yr hanes canlynol a dathlu sefydlu’r ysbyty cyntaf yn Rockwood ym 1918, gan mlynedd yn ôl.

Blog-photos-05-09-2018-002-

Mae’r cofnodion ar gyfer Stephenson and Alexander sydd yn Archifau Morgannwg yn cadarnhau y gwnaed ymdrechion glew i werthu’r tŷ a’r ystâd yn ystod haf 1917. Bu bron â’i werthu ar ddau achlysur, gyda ffigyrau amlwg yn y gymuned fusnes leol yn dangos diddordeb. Fodd bynnag, ym mhob achos, roedd y prisiad o £20,000 a roddodd y teulu Hill ar y tŷ a’r ystâd yn ormod. Efallai na fu’n help i werthu’r tŷ y bu Rookwood yn wag ers peth amser bryd hynny. Bu farw Sir Edward Stock Hill ym 1902 ac, erbyn 1917, roedd Lady Hill a’i merch hynaf Mabel yn byw yn Charlton Kings, Swydd Gaerloyw. Roedd rhan fwyaf o frodyr a chwiorydd Mabel yn briod ac yn byw hefyd yn Lloegr a’i brodyr Eustace a Vernon yn bennaf a oedd yn trafod y gwerthiant, ill dau yn byw yn ardal Bryste.  Roedd ystâd Rockwood, felly yn wag, ac roedd llawer o’r celfi wedi eu cludo i gartrefi teuluol yn Lloegr. Awgryma cofnodion y cyflogid dau aelod o staff i ofalu am y tŷ. Yn ychwanegol at hynny, roedd pen garddwr, Duncan McIntyre ac un cynorthwyydd yn edrych ar ôl y gerddi. Mae’n bosibl taw ystryw oedd gostwng y pris, ond cwynai sawl parti â diddordeb fod angen sylw ar y tŷ a’r ardd ac nad oedd y pris yn adlewyrchu’r …gwariant fyddai’n rhaid ei wneud er mwyn gwella’r eiddo.

Ar y pwynt hwn yr ymddangosodd Maud Purnell am y tro cyntaf yn y cofnodion. Yn ystod misoedd olaf 1917 comisiynodd y teulu Hill Stephenson and Alexander i ddechrau gwerthu’r cynnwys a oedd yn weddill yn y tŷ. Wedi’r gwerthiant, ysgrifennodd yr Arglwyddes Hill at yr arwerthwyr yn mynegi ei siom â’r £355 a godwyd a’r methiant parhaus i ganfod prynwr. Mae’n rhaid y daeth yn rhyddhad i bawb dan sylw pan dderbyniwyd llythyr ym mis Chwefror 1918 gan Maud Purnell o Weybridge yn Surrey yn holi a fyddai modd prydlesu’r tŷ i’w ddefnyddio fel ysbyty ar gyfer y Rhyfel.

Roedd Maud Alice Purnell yn ddylanwadol iawn. Er ei bod yn byw yn Surrey gyda’i gŵr, Ivor Purnell, pensaer, hi oedd merch hynaf Philip Morel. Gyda’i frawd, Thomas, a’i frawd yng nghyfraith, John Gibbs, Philip Morel oedd sylfaenydd cwmni llongau Morel, un o’r fflyd llongau mwyaf a mwyaf gwerthfawr a weithredai yng Nghaerdydd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y teulu Morel yn byw yn bennaf yn ardal Penarth ac, ynghyd â’i gŵr cyntaf, Francis Hibbert, gwerthwr corn, roedd Maud yn ffigwr adnabyddus yn ne Cymru. Roedd hi i’w gweld yn aml ar dudalennau’r papurau newydd yn sgil ei hymwneud â’i heglwys a’i gwaith elusennol, gan gynnwys rhoi £1000 ym 1908 ar gyfer gwely yn Ysbyty Morwyr y Royal Hamadryad er cof am ei thad a fu farw’r flwyddyn honno.

Priododd Maud ag Ivor Purnell ym 1913 yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf, ac ar drothwy’r rhyfel, taflodd ei hun yn frwdfrydig i weithio i’r Groes Goch. Gyda sefydlu trydydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yng Ngerddi Howard, roedd Caerdydd yn ganolfan o bwys ar gyfer derbyn y rhai a anafwyd a ddeuai mewn llongau ac ar y rheilffordd o Ffrainc a Gwlad Belg. O ganlyniad roedd angen cael ysbytai ychwanegol llai, lle gellid gofalu am y rhai oedd yn gadael yr ysbytai milwrol tra roeddent yn gwella. Ysgwyddwyd y gwaith hwn gan y Groes Goch gan ddefnyddio gwirfoddolwyr lleol y cyfeiriwyd atynt fel VAD’s (Voluntary Aid Detachments). Roedd 48 Ysbyty’r Groes Goch ym Morgannwg yn unig yn ystod y rhyfel.

Pan briododd Maud ag Ivor Purnell, rhoes ei chyfeiriad fel Lavernock House, Penarth. Roedd llawer o’r ysbytai ychwanegol yn dai mawrion a roddwyd ar fenthyg neu ar rent i’r Groes Goch, ac yn sicr roedd Maud Purnell yn ymwneud ag, ac yn fwy na thebyg yn rhedeg, ysbyty’r Groes Goch yn Lavernock House a ofalai am swyddogion di-gomisiwn a rhengoedd eraill. Ond, erbyn 1918 roedd angen Lavernock House ar yr awdurdodau i ddarparu gwelyau ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Brenin Edward VII yng Nghaerdydd. Roedd Mrs Purnell felly yn chwilio am eiddo addas er mwyn sefydlu ysbyty newydd. Mewn llythyr i Stephenson and Alexander, ar 15 Chwefror 1918, mynnodd benderfyniad buan ar ei chais am brydles. Roed hi hefyd yn osgoi’r confensiynau arferol drwy ofyn am anfon ail lythyr yn uniongyrchol at yr Arglwyddes Hill yn dadlau ei chais.

Of course I am leaving it to Mr Alexander to arrange any reasonable rent but I am writing this to assure you that in the event of our coming to terms I should be living in the house in entire charge myself and am bearing all the expenses, except the Army grant per Officer. I will be responsible that no damage shall be done at all to your very beautiful property [llythyr 15 Chwefror, cyf.: DSA/12/2933].

Llofnodwyd y llythyr â Maud A Purnell, Pencadlywydd Anrhydeddus. Roedd yr Ysbyty cyntaf yn Rockwood, felly, yn ysbyty’r Groes Goch ond wedi ei gadw’n llwyr ar gyfer gofalu am swyddogion. Er bod y teulu Hill yn gobeithio gwerthu, ond ildiont pan ddwedwyd wrthynt na fyddai Mrs Purnell yn fodlon prynu ‘am unrhyw bris’. Erbyn 8 Ebrill roedd y telerau wedi eu cwblhau gyda Mrs Purnell yn sicrhau les i’w hysbyty am £500 y flwyddyn am gyfnod o 12 mis i ddechrau, a chytundeb y byddai’r brydles yn dod i ben 6 mis wedi diwedd y rhyfel.

Fel y tenant, cymerodd Mrs Purnell gyfrifoldeb am gynnal a chadw tu mewn y tŷ a hefyd y tiroedd o’i amgylch, gerddi’r gegin, stablau a’r bythynnod. Etifeddodd hefyd wasanaethau Duncan MacIntyre, y pen garddwr, a oedd yn byw ar ystâd Rookwood Lodge. Roedd yn dipyn o bluen yn ei het am fod Duncan, a hanai yn wreiddiol o Kilmartin yn Argye, a’i wraig Lizzie wedi gweithio i deulu’r Hill am bron iawn i 20 mlynedd. Fel y Pen Garddwr yn Rookwood roedd yn ffigwr lleol parchus a fyddai’n aml yn gweithredu fel beirniad mewn sioeau garddwriaethol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Er ei fod wedi colli llawer o’r staff y byddai Rookwood yn ei fri wedi eu cyflogi i dendio’r gerddi, doedd neb gwell i gynnal a chadw’r ystâd.

Cyhoeddwyd cynlluniau Mrs Purnell ar gyfer Rookwood yn y papurau lleol ym mis Ebrill 1918.

Mrs Ivor Purnell of Penarth has rented Rookwood, Llandaff formerly the residence of Lady Hill for the period of the war and it will shortly be opened as a hospital for officers….Rookwood contains something like twenty bedrooms and if all the accommodation that it provides be utilised it will afford room for not far short of 100 beds [Western Mail, 30 Ebrill 1918].

Dylid cofio, tan yr hydref ym 1918, roedd canlyniad y rhyfel yn gwbl ansicr. Roedd cyrchoedd yr Almaen yn Ffrainc a Gwlad Belg ym mis Mawrth ac Ebrill wedi taflu lluoedd y Cynghreiriaid yn eu holau mewn anrhefn lwyr ac roedd y niferoedd a anafwyd ar y ddwy ochr yn uchel. Roedd y clwyfedig, felly, yn parhau i lifo i Gaerdydd. O ran y penderfyniad i sefydlu ysbyty yn benodol ar gyfer swyddogion, derbyniwyd mai’r confensiwn oedd gofalu am swyddogion ar wahân, a does dim dwywaith y llwyddodd y trefniant hwn i lyfnhau’r trefniadau gyda theulu’r Hill. Ar ben hynny, byddai’r premiwm ychwanegol a delid i ofalu am swyddogion wedi helpu i fantoli’r llyfrau yn ariannol.

Does dim cofnodion penodol gan Amgueddfa ac Archif y Groes Goch yn Llundain ar gyfer Rookwood. Serch hynny, daw cofnodion Stephenson and Alexander i achub y dydd, sef bod angen cytuno ar unrhyw waith ar y tŷ â theulu’r Hill. Roedd y tŷ yn amlwg mewn tipyn o gyflwr. Mewn llythyr i Stephenson and Alexander, dywedodd Ivor Purnell fod  …cyfran sylweddol o’r papur wal mewn cyflwr gwael iawn… a chynigwyd i  …ei stripio neu ei liwio lle’r oedd angen, i gynnal glendid. Ar ben hynny, gwnaed newidiadau ar y llawr cyntaf gan osod ystafelloedd ymolchi newydd a thai bach ychwanegol ar y llawr gwaelod [Llythyr gan Ivor Purnell at Stephenson & Alexander, 30 Mawrth 1918, cyf.: DSA/12/2933]. Y tu hwnt i hyn, i bob pwrpas arhosodd y tŷ’r un fath gyda byrddau wedi eu gosod dros wrthrychau gwerthfawr, gan gynnwys y lle tân yn yr ystafell groeso. Yn ychwanegol at hyn, arhosodd y siandelïer trydanol, y drychau fframiau pres, y cerflun marmor o Clytie a’r cwrbyn pres wrth y lle tân yn yr ystafell groeso, ar berwyl y perchennog, hyd y gellid eu gwerthu neu eu symud oddi yno.

Blog-photos-05-09-2018-005-

Rhedai prydles Mrs Purnell o 8 Ebrill 1918 ac mae’n debygol yr oedd yr ysbyty’n weithredol erbyn diwedd Ebrill. Byddai unrhyw ymwelydd wedi gweld ffigwr sylweddol Mrs Purnell yn ei lifrai Pen cadlywydd coch ac o boptu iddi swyddog cyflenwi, metron a chogydd. Gwirfoddolwyr nyrsio’r Groes goch fyddai wedi staffio’r ysbyty yn bennaf, a fyddai wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf a gofal cartref. O dan eu ffedogau starts gwynion, wedi eu marcio â nod y Groes Goch, byddent wedi gwisgo ffrogiau gleision gyda choleri gwynion wedi eu startsio a llewys uchaf o liain. Erbyn 1918 roedd steil y cyfnod yn newid ac fe gytunwyd y gallai hem y ffrogiau fod cymaint â 6 modfedd yn uwch na’r ddaear. Byddai llawer wedi bod yn newydd-ddyfodiaid o’r cyffiniau ond byddai modd adnabod y rhai â phrofiad blaenorol mewn ysbytai milwrol neu forwrol gyda’r streipiau ar y llawes dde. Yn gyffredinol, gwirfoddolwyr gwrywaidd oedd gan amlaf yn gwneud gwaith codi a chludo stretsieri, mewn lifrai lled filwrol glas.

Nid aeth popeth yn ôl y bwriad, fodd bynnag. Ar 16 Mai 1918 adroddodd y Western Mail y derbyniodd Mrs Purnell a Ruth Hibbert  …wŷs yng Nghaerdydd ddydd Mercher am ddefnyddio car yng Nghaerdydd yn groes i’r Gorchymyn Cyfyngu ar Betrol. Yn ei hamddiffyniad, honnodd Mrs Purnell ei bod ar fusnes swyddogol yn mynd ag un o’i nyrsys, Miss Ruth Hibbert, adref. Fodd bynnag, nid nyrs arferol oedd Ruth. Merch Mrs Purnell o’i phriodas gyntaf oedd hi. Nid oedd modd dwyn perswâd ar yr awdurdodau a derbyniodd Maud Purnell ddirwy o £10 a chafodd Ruth Hibbert rybudd [Western Mail, 16 Mai 1918].

Beth felly am Knuts Llandaf a grybwyllwyd yn gynharach? Ceir ffotograff yn Archifau Morgannwg a all fod o bosib yr unig gofnod ffotograffig o Ysbyty’r Groes Goch Rockwood. Mae’n dangos pum milwr yn wynebu’r camera ac o dan y llun, dywed: ‘Llandaff Knuts, April 1918’ [cyf.: DX308/2].

Blog-photos-05-09-2018-003-

Mae’r pum gŵr mewn lifrai milwrol arferol a wisgai milwyr mewn ysbytai – siacedi gleision a llabedi gwynion, crysau gwynion, tei goch a chapiau catrawd. Dim ond un o’r dynion gaiff ei enwi, John Swallow, sy’n eistedd yn y blaen ar y chwith. Nid yw’r dystiolaeth yn gwbl gadarn ond mae’n debygol eu bod yn rhan o’r criw cyntaf o swyddogion y gofalwyd amdanynt yn Rockwood. Daeth y term ‘knut’ o gân adnabyddus o’r cyfnod ‘Gilbert and Filbert’. Cafodd ei ‘ddiwygio’ a’i fabwysiadu gan filwyr fel ymdeithgan a defnyddiwyd y term ‘knut’ am ‘ddynion ifanc hyd y dref’ – dandïaid.  Mae’n swnio felly, fod y dynion mewn hwyliau da wrth iddynt ymgartrefu yn Rookwood.

Fodd bynnag, roedd eraill â diddordeb yn cael gafael ar Rookwood ac roedd y Pen cadlywydd yn amlwg yn ymwybodol o hyn. Ar 1 Medi 1918 ysgrifennodd Maud Purnell at Stephenson and Alexander:

Will you kindly remember that I am tenant of this property.

Erbyn canol mis Hydref roedd Rookwood wedi ei werthu am bris yn agos at bris cychwynnol y teulu Hill. Roedd gofyn i’r gwerthiant fodd bynnag ystyried amodau prydles Maud Purnell. Rhaid i ni dybio felly, y parhaodd Ysbyty’r Groes Goch Rookwood i Swyddogion tan Ebrill 1919. Mae’n bosib bod hyn wedi gweddu yr holl bartïon oherwydd, yn dilyn llofnodi’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, lleihaodd yr angen am ysbytai ychwanegol. Ond, tra roedd y Groes Goch yn cael ei dirwyn i ben, roedd cyfnod nesaf bywyd Rookwood, hefyd fel ysbyty, eisoes yn cael ei gynllunio gyda gwerthu ystâd Rookwood i Syr Laurence Phillips.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dyma un o gyfres o erthyglau ar ddigwyddiadau yn Rookwood o’r cyfnod pan adeiladwyd y tŷ ym 1866 hyd at y presennol, yn defnyddio cofnodion ar gadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r wybodaeth ar Ysbyty’r Groes Goch yn Rookwood yn dod gan fwyaf o gofnodion Stephenson & Alexander, Arwerthwyr ac Arolygwyr Tir Siartredig, cyf.: DSA/12/2933.

‘Eiddo unigryw a hudolus’: Rookwood trwy dwll y clo, Gorffennaf 2017

Mae Ysbyty Rookwood yn Llandaf yn gyfarwydd iawn i drigolion Caerdydd ac yn 2018 mae’n dathlu 100 mlynedd ers i’r eiddo gael ei defnyddio gyntaf fel ysbyty. Fodd bynnag, gwyddys llai am y tŷ fel cartref teuluol mawreddog ac ysblennydd cyn ei droi’n ysbyty. Mae sawl set o gofnodion yn Archifau Morgannwg yn helpu i lenwi’r bylchau yn yr hanes cyn 1918 ac yn rhoi cipolwg i ni ar y tŷ, ac ar y teulu a adeiladodd ac a fu’n byw yn Rookwood o 1866.

rsz_dsa-12-2933-south_front

Mae cofnodion Stephenson and Alexander, Arwerthwyr a Thirfesurwyr Siartredig o Stryd Fawr, Caerdydd, yn cynnig man cychwyn defnyddiol i edrych ar hanes Rookwood. Maen nhw’n cynnwys papurau sy’n cynnig cipolwg rhyfeddol ar yr hyn fyddai wedi bod yn un o dai mawreddog Caerdydd ar droad y 19eg ganrif. Ym 1917 rhoddwyd Rookwood ar werth, ac yntau’n dal yn gartref teuluol ar y pryd. Stephenson and Alexander gafodd y gwaith o werthu a lluniwyd prosbectws ganddynt ar gyfer darpar brynwyr gyda manylion llawn am y tŷ a’r ystâd ynghyd a nifer o ffotograffau. Mae’r cofnodion  hefyd yn cynnwys gwybodaeth gefndir, na ddefnyddiwyd yn y llyfryn gwerthu, gyda ffotograffau ychwanegol a manylion celfi arbennig. Gyda’i gilydd, mae’r deunydd a gasglwyd gan Stephenson and Alexander yn helpu i baentio darlun manwl o’r tŷ yn ystod haf 2017.

O’r cychwyn cyntaf mae’n amlwg bod Rookwood, er mai dim ond 2 filltir o ganol Caerdydd ydoedd, yn dŷ ac yn ystâd sylweddol. Fel y gellid disgwyl, aeth yr arwerthwyr i gryn drafferth i danlinellu nodweddion deniadol y lle:

The property is an exceptional one in any other respects. It is situated close to, in fact almost adjoining the City of Cardiff, and yet in such a secluded and beautifully sheltered position, that once within its precincts it is difficult to realise that an industrial City is only a few miles distant.

The magnificent views obtainable over the whole of Llanishen, Lisvane and surrounding districts are particularly beautiful. The mildness of the climate at Llandaff is apparent by the extraordinary luxuriant growth of all kinds of flowering shrubs – including Camellias which bloom luxuriantly and regularly out of doors – Rhododendrons, Azaleas and the like, and also the collection of Japanese Maples, which is considered to be one of the finest in the Kingdom.

Wedi ei gosod mewn 26 erw o dir, roedd yr ystâd wedi ei lleoli rhwng Heol y Tyllgoed a Heol Llantrisant. Erbyn 1917 roedd llawer o dir ymylol yr ystâd wedi ei neilltuo ar gyfer pori ond, yng nghanol yr ystâd, roedd 9 erw o hyd o goetir a gerddi.

The Gardens and Grounds are singularly attractive and have for many years been prominent on account of the generous manner in which the owners have on many occasions thrown them open to the public, and numerous exhibits and the number of prizes won for fruit and vegetables at the local Flower Shows. The delightful walled Gardens, with the broad herbaceous borders, the Rookery, the Rose Gardens and Woodland Walks, small items in themselves when added to the many other attractions, make this Property a particularly desirable one from a residential points of view.

 rsz_dsa-12-2933-garden_walk

Serch hynny, y tŷ oedd y prif atyniad. Roedd yn un o’r enghreifftiau gwell o’r plastai mawreddog a godwyd gan deuluoedd a oedd wedi elwa ar y ffyniant economaidd yn ystod De Cymru yn ail hanner y 19eg ganrif:

Rookwood was built in the year 1866 and is of the early 13th century English Gothic design. It was considerably added to in the year 1881 by Mr John Prichard well-known as the Architect employed in the restoration of Llandaff Cathedral and the erection of many important Gothic Houses in the locality. The North Lodge was designed by him and is a very fine example of half timber work, built regardless of cost and also the very beautiful Porte Cochere which is one of the features of the residence.

The internal decorations and painted ceilings were carried out under the direction of Mr J D Crace FSA, the renowned artist and designer of the great staircase in the National Gallery and other important building in London; this internal painting has never been touched since its completion, is still in perfect order and represents some of the finest of its kind.

The Camelia House built entirely of Teak with panels of mosaic forms a most handsome addition to the House. There is an interesting Summer House overlooking the lawns that was brought from the outskirts of Cardiff, and appears in an old view of the City dating from the eighteenth Century.

rsz_dsa-12-2933-summer_house

Wedi rhoi’r cefndir, awn wedyn ar daith fesul ystafell o adeiladau’r tŷ a’r ystâd. Gellid dynesu at y tŷ ar hyd llwybrau cerbydau un ai o gyfeiriad y Tyllgoed neu o Heol Llantrisant a oedd, yn y naill achos a’r llall, yn meddu ar ‘borthdy artistig’ a adeiladwyd ger mynedfeydd yr ystâd. Wrth gyrraedd, byddai’r gwesteion wedi arafu y tu allan i’r fynedfa fwaog drawiadol i flaen deheuol y tŷ ar ffurf Porth Cochère y gellir ei weld yn y ffotograff cyntaf yn y ffolder. Dyluniwyd blaen y tŷ gyda’i dyred a’i ffenestri bae o garreg er mwyn creu argraff a does dim dwywaith iddo lwyddo i wneud hynny ar ymwelwyr.

The Mansion House which is built of Radyr stone with Bath stone facings and red tile roof, stands in a beautiful sheltered and mild position clad with well-grown specimens of Magnolia, Wisteria and Myrtle.

Mae ffotograffau o’r cyntedd a’i ddrysau tîc a’r ystafell groeso yn cynnig cofnod gwerthfawr o sut olwg oedd ar y tu mewn i’r tŷ ym 1917.

rsz_dsa-12-2933-entrance_hall

Nid cyd-ddigwyddiad oedd hi bod i’r cyntedd ei le tân ei hun. Dyna cyn belled ag y byddai rhai yn cael mentro ond, hyd yn oed bryd hynny, doedd dim amau crandrwydd y cartref gyda’i waliau a’i nenfydau wedi’u paentio. Roedd tua 35 o begiau ar y stondin gotiau tîc a byddent oll wedi cael eu defnyddio o gofio y byddai’r perchnogion yn aml yn cynnal garddwesti mawr a nosweithiau cerddorol.

I’r rhai a fyddai’n cael camu dros y trothwy, canolbwynt y tŷ oedd yr ystafell groeso neu’r parlwr, gyda’i bapur wal a’i garped patrymog trwm. Roedd yn ystafell i’w hedmygu a hefyd yn ystafell yr oedd rhaid mynd drwyddi i gyrraedd sawl rhan arall o’r tŷ.

BEAUTIFUL DRAWING ROOM (38’ X 17’ 6”) with two large double bay windows, oak parquet floor, teak mantel piece and over mantelpiece, beamed and painted ceiling, with door leading to Dining Room and large sliding doors leading to the heated Conservatory….

rsz_dsa-12-2933-drawing_room

O’r ffotograffau yn y prosbectws gallwn weld, yn unol ag arddull y cyfnod, bod amryw addurniadau yn yr ystafell groeso gan gynnwys gwaith cerameg uwchben y lle tân addurnedig, gyda’i grât haearn a phres, ynghyd â ffotograffau a darluniau ar y wal. Yn ddifyr iawn, i’r chwith o’r lle tân ceir fframyn ag ynddo 9 ffotograff dull portread, sydd bron yn sicr o’r perchnogion a’u saith o blant. Ond mwy am y teulu yn y man.

Mae’r nodiadau cefndir a grëwyd gan yr arwerthwyr yn cadarnhau bod trydan ym mhob ystafell a bod yr ystafell groeso wedi’i goleuo gan siandelïer gwydrog Fenisaidd, y cyfeirir ato fel ‘Electrolier’.

rsz_dsa-12-2933-chandelier

Wedi’i brynu o’r gwneuthurwyr gwydr adnabyddus, Salviati o Fenis, byddai wedi bod yn ganolbwynt trawiadol i’r ystafell gerllaw y drychau pres ar y waliau a’r ffigwr marmor o ‘Clytie’, nymff ddŵr o fytholeg Groeg. Ar ben hynny, byddai un o’r ddau biano Broadwood o eiddo’r teulu, y piano cyngerdd mwy na thebyg, wedi bod yn yr ystafell hon. Roedd y perchnogion yn deulu cerddorol a byddai’r ystafell groeso wedi’i defnyddio’n helaeth ar gyfer adloniant gyda’r nos gyda pherfformwyr teuluol a phroffesiynol.

Felly mae’r daith yn parhau ar y llawr gwaelod trwy’r ystafell groeso, yr ystafell filiards, y llyfrgell â’i silffoedd llyfrau pren collen Ffrengig, yr ystafell ysmygu fechan a’r tŷ cameliâu.

I orffen, fel rhan o ‘gefn yr eiddo a’r swyddfeydd domestig’, roedd cegin fawr, cegin fach a neuadd y gweision.  Ar wahân i’r tŷ roedd dwy stabl, dau gerbyty ac ystafell gyfrwyo. Er i’r ddau gerbyty gael eu haddasu i gadw cerbydau modur erbyn 1917, mae’r cofnodion yn cadarnhau bod Landau pedair olwyn yn parhau i gael ei gadw yno, gan atgoffa dyn o’r modd y byddai’r teulu wedi teithio drwy Gaerdydd tan yn ddiweddar.

Croesawodd y tŷ sawl gwestai o bwys gan gynnwys Arglwydd Ganghellor a’r Cadlywydd Iarll Roberts, arwr y cyrchoedd yn Affganistan a Rhyfel De Affrica. Byddai’r rhai a fyddai’n aros gyda’r teulu wedi eu cludo i fyny’r grisiau tîc canolog i’r llawr cyntaf lle roedd, ar gyfer teulu a gwesteion, bum ystafell wely ddwbl, gan gynnwys pedair gydag ystafell wisgo ynghlwm wrthynt, meithrinfa a saith ystafell wely sengl.

Byddai tŷ o’r maint hwn yn galw am nifer sylweddol o staff. Mae cofnodion 1891 yn cadarnhau y cyflogwyd o leiaf 10 o staff yn y tŷ yn unig. Ar yr ail lawr roedd chwe ystafell wely i staff, yn ogystal a llety i’r bwtler a’r wraig cadw tŷ ar y llawr gwaelod drws nesaf i’r gegin. Gwaith y bwtler oedd diogelu’r llu o wrthrychau drudfawr ac yn ei bantri roedd coffr Cartwright dros 5tr o uchder ac ynddo 3 silff a 3 drôr.

Serch hynny, nid oedd digon o le i holl staff y tŷ, ac roedd ystafelloedd gwely ychwanegol i forwyn a gwas lifrai ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Byddai’r ddau borthdy ar yr ystâd wedi eu cadw ar gyfer staff uwch, gydag un bron yn sicr ar gyfer y pen-garddwr. Mae’r prosbectws yn cadarnhau bod y porthdai, o leiaf o’r tu allan, yn adeiladau sylweddol a chywrain. Mae Stephenson and Alexander yn disgrifio’r porthdy ar Heol Llantrisant fel:

…an artistic half-timbered House with red tiled roof and leaded casement windows …contains five rooms and pantry, has water laid on and good kitchen garden adjoining.

Roedd swydd y pen-garddwr yn un cyfrifol dros ben yn arwain tîm o arddwyr, fel arfer yn dod o’r ardal gyfagos yn hytrach na’u bod yn byw ar yr ystâd. Defnyddid y gerddi gan y teulu yn aml ar gyfer partïon a digwyddiadau a byddent wedi bod yn gyfarwydd i lawer o’r teuluoedd lleol gan gynnwys y teuluoedd Insole, Brain, Crawshay, Cory, Courtis a Mackintosh.

Unwaith eto mae’r ffotograffau’n helpu i roi argraff o’r ystâd, gyda golygfeydd o’r lawntiau tennis a croquet, y tŷ haf a llwybr gardd.

rsz_dsa-12-2933-croquet__lawn

Fodd bynnag, mae manylion y prosbectws yn tanlinellu pa mor heriol oedd y dasg. Roedd tair elfen wahanol i’r gerddi gan gynnwys dwy ardd gegin helaeth. Yn ôl y prosbectws, roedd gan un o’r gerddi cegin yn unig:

Yn ogystal ag ail gardd gegin, roedd dau dŷ tegeirianau, tŷ tomatos a dau dŷ gwydr. Y tu hwnt i’r gerddi cegin roedd ail ddarn o dir wedi ei ddisgrifio fel …y Tiroedd Pleser. Roedd hwn yn cynnwys gardd rosod fawr, lawntiau, gerddi rhosod a thiwlipau gyda llwybrau ag ymylon llwyni bocs ac ardal o goetir gydag …enghreifftiau rhyfeddol o goed conwydd a choed eraill gan gynnwys Wellingtoniau, coed cedrwydd, bedw a llwyfenni. Roedd y trydydd ardal, y parcdir, wedi ei neilltuo ar gyfer pori erbyn 1917, gan gynnig rhywfaint o ryddhad i swydd y pen-garddwr. O ystyried y cyfan, byddai cynnal a chadw’r ystâd wedi golygu cryn dipyn o waith.

Fel arwydd o’r amseroedd gwnaed llawer yn y prosbectws o’r ffaith fod Rookwood …yn meddu ar gyfleusterau modern, gan gynnwys ei olau trydan ei hun, draeniad cyfoes, a dŵr a nwy o Gaerdydd. Yn wir, roedd y prosbectws yn manylu ar y Peiriant Nwy Cenedlaethol a’r Deinamo Compton a osodwyd yn y pwerdy a stordy golau trydan pwrpasol. Fodd bynnag, roedd y prosbectws hefydd yn nodi’n ofalus ardaloedd o’r ystâd y gellid eu gwerthu ar wahân tra’n cadw’r tŷ a’i erddi addurnol a’i erddi cegin. Mae’n debygol bod y caledi yn sgil y rhyfel yn gwneud ystadau fel Rookwood yn gynyddol annichonadwy yn ariannol.

The purchase, therefore, represents not only a charming and most unique property as a Residence, but also a very valuable investment bound to very materially increase in value in course of time. If desired, a portion of the land could be developed without detriment to the House and Grounds. 

Mae’n glir bod y perchnogion yn deulu cyfoethog a dylanwadol a oedd yn mwynhau defnyddio’r tŷ ar tiroedd ar gyfer digwyddiadau mawreddog.  Ond, pwy oeddent a beth ysgogodd y teulu i werthu eu cartref? Ar ben hynny, beth ddigwyddodd nesaf a sut y daeth cartref teuluol mor ysblennydd, o fewn 12 mis, i gael ei addasu’n ysbyty? Yn ffodus, mae’r cofnodion yn Archifau Morgannwg yn helpu i ddatrys y ddau gwestiwn. I’w barhau…

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Diolch yn fawr i Keith Edwards am ei gymorth hanfodol yn darganfod y dogfennau o fewn casgliad Stephenson & Alexander a ddefnyddiwyd yn yr erthygl yma.