Dyddiadur Rhyfel Mervyn Crawshay

 

Mercher 26 Awst 1914

Cysgon ni wrth ein ceffylau ar y llwybr coblog. Symudon ni gyda’r wawr i ymuno ag Adran yn Clary i gynorthwyo’r 4edd Adran a oedd mewn ffosydd ar dir uchel i’r de o Le Cateau-Cambrai. Cawsom fwyd gan y troedfilwyr – roedden ni’n llwgu. Mae’r frwydr yn rhuo gydol y dydd gyda gynnau’n tanio’n ddi-ben-draw. Llwyddodd y drylliau peiriannol i wrthsefyll ymosodiad cyntaf yr Almaenwyr, ond cafodd ein byddin ei gwthio’n ôl yn ddiweddarach. Roedd Adran y Marchfilwyr yn llonydd, yn amddiffyn ystlys y 4edd Adran. Llwyddon ni i adael heb neb yn ein dilyn.

Cafodd y Gatrawd ei thorri i fyny’n hwyr yn y nos mewn pentref. Gwelais i gyrff meirw’r troedfilwyr ymhobman, a sylwais ar wir ystyr ymddeoliad strategol.

Cyrhaeddais fwthyn bach lle cefais wely a brandi gan fenyw fach garedig.

Iau 27 Awst  1914

Gorymdaith gynnar i ymuno ag Ansell mewn pant a oedd ger pentref. Roedd gweld y milwyr traed yn cilio’n olygfa a hanner. Roedd y dynion yn hanner marw, ond roedden nhw’n barod i ymladd eto.

Fe ymunon ni ag Adran yn Roussoy, lle cysyllton ni â Brigâd o Ddragwniaid Ffrengig.

Cafodd y gatrawd ei rhoi mewn trefn ar ben bryn. Ymunais i â 3 Hwsâr.

Glaniodd sawl bom yn agos iawn. Cafodd fy nhrwyn ei daro gan sblint.

Ni oedd y sgwadron olaf i ymddeol, ac roedden ni mewn trwbl. Roedd Carabinwyr wedi’u lladd yn y coed y tu ôl i ni, felly symudon ni i rywle arall. Ar ôl taith hir, cyrhaeddon ni yn Peronne. Daeth awyren â neges am Almaenwyr. Fe glirion ni allan, cyn mynd ar orymdaith gofiadwy gyda’r nos. Roedd dynion yn disgyn drwy flinder. Cawson ni ein gwahanu, a chiliodd y gatrawd i ffordd yn Bethuncourt. Fe welon ni gerbyd a oedd yn edrych fel chwilolau Almaenig.

Teithiais i, Johnson ac Archie ar gefn yr un ceffyl.

Am bum noson yn olynol ni chafodd y gatrawd fwy na 2 awr o gwsg.

28 Awst 1914

Wrth iddi wawrio edrychais ar fap a gweld y byddai’r Almaenwyr yn siŵr o gyrraedd ymhen tipyn; roedd pawb yn cysgu, gan gynnwys Ansell, Balfour a’r staff.

Cefais orchymyn i ffurfio ôl-fyddin ar bont gyda’r Milwyr 1af. Syrthiais i gysgu cyn deffro i ddatganiad bod y gelyn yn nesáu. Roedd pethau’n edrych yn ddrwg. Roedd colofn arall (marchfilwyr) i’r dde ohonon ni. Fel mae’n digwydd, adran Sordit oedd y rhain yn dod i’n helpu ni.

Llwyddon nhw i wthio’r Almaenwyr yn ôl.

Ymddeolon ni i Néry, lle daethon ni o hyd i fwyd ar ochr y ffordd, cyn symud ymlaen i Cressy.

Cawsom ein gorchymyn i ddychwelyd yn ôl i’r Gogledd. Casglon ni ddŵr mewn cae heddychlon a chodi gwersyll dros dro ger tref.

Buon ni’n prynu pethau a chael bwyd mewn gwesty. Roedd pawb mewn hwyliau llawer gwell.

Roedden ni’n byw drwy atafael ac ewyllys.

Roedd sifiliaid yn ffoi yn blocio’r ffyrdd yr holl ffordd gyda cherti, beiciau ac ati.

 

Sadwrn 29 Awst  1914

Roedden ni’n disgwyl diwrnod tawel, ond am 8am clywsom ni gwmni o Droedfilwyr Almaenig ger yr afon yn Bethancourt.

Cymeron ni’r cyfrwy a symud y Sgwadron i bont Ossoy.

Am 12 cawsom ein gorchymyn i ymgasglu yn Honfleur.

Cefais fy ngorchymyn i ddychwelyd ar unwaith, ond cafodd cylchwylwyr Archie a Patterson ac Oswald eu gadael allan ar y maes.

Symudodd y Sgwadron i leoliad ger Lesle i’w helpu i ddychwelyd.

Roedd yr Almaenwyr o fewn ychydig gannoedd o lathenni, yn bomio Lesle, cyn stopio am ginio. Llwyddodd fy nghylchwylwyr i gyrraedd yn ôl o drwch blewyn.

Ymddeolon ni drwy Cressy a Lagny i Plessis cyn biledu mewn ystafell biliards mewn tafarn fach. Cawson ni gyfle i olchi yno.

 

Sul 30 Awst 1914

Taith gerdded hir ar fore crasboeth. Casglon ni ddŵr ger camlas, lle ffeindion ni fotel o win gwyn.

Cyrhaeddon ni yn Choisy au Bac ar Afon Oise. Dyma’r biledau gorau rydyn ni wedi eu cael hyd yma, mewn cartref artist.

Rwy’n disgwyl gorffwys yma.

Mwynheais nofio yn yr afon.

 

Llun 31 Awst 1914

Gorymdaith hir yng ngwres llethol yr haul. Roedd gwin yn cael ei roi i ni yr holl ffordd. Casglon ni ddŵr o’r afon yn Verb, a gwelsom ni’r tirailleurs Ffrengig o Nice.

Ar ôl teithio i fyny bryn serth, cyrhaeddon ni yn Néry. Rydw i’n rhan o sgwadron y rhagfintai ar yr ochr dde. Cawsom ni fara yn nhŷ gwerinwr a chinio mewn ystafell biliards.

Ystyriais gysgu mewn mynwent, ond penderfynais beidio. Syrthiais i gysgu yn pendroni am faint fyddai’n cysgu yn y fynwent hon yfory.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s