Y Blaidd Mawr Drwg yn perfformio ym Mharc yr Arfau Caerdydd, Ionawr 1890

Yn y dyddiau pan oedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn llwyr ddibynnol ar danysgrifiadau’r cyhoedd, roedd y Theatre Royal yn aml yn cynnal perfformiadau gyda thâl y tocynnau’n cael eu rhoi i’r ysbyty. Ym mis Ionawr 1890 fodd bynnag, rhagorodd rheolwr y theatr, Edward Fletcher, ei hun drwy drefnu gêm bêl-droed elusennol ym Mharc yr Arfau a rhoddwyd yr holl elw i’r ysbyty.

D452-4-22

Y cynnig oedd bod cast pantomeim yr Eneth Fach a’r Fantell Goch – ‘Pretty Little Red Riding Hood’ – a ddisgrifiwyd gan Fletcher fel …llwybr llaethog o sêr, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd mewn cert agored a ddarparwyd gan westy’r Royal, i’r maes. Y cast fyddai’n chwarae’r gêm, mewn gwisgoedd llawn, gyda chyfeiliant cerddorol gan y Band Hwngaraidd.

Mae’r poster ar gyfer pantomeim y Theatre Royal y flwyddyn honno yn rhoi awgrym o’r rhai a ddewiswyd ar gyfer ‘tîm’ yr Eneth Fach a’r Fantell Goch ym Mharc yr Arfau ar 15 Ionawr 1890. Er enghraifft, gwyddom fod yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, y Bachgen Glas, y Blaidd, y Cadno Cyfrwys a’r ddeuawd gomedi, Turle a Volto, wedi cael sicrwydd o rannau yn y cast gwreiddiol.  Fodd bynnag, bu dyfalu mawr yn y wasg, a ysbrydolwyd gan Fletcher mae’n siŵr, am y cast cyfan.  Bu colofnwyr dan ffugenwau ‘Man about Town’ a ‘A Theatr Goer’ yn dadlau a ddylai Alice Leamar (Eneth Fach a’r Fantell Goch) neu Rosie St George (Y Bachgen Glas) gymryd y ciciau at y pyst.  Hefyd cwestiynwyd lawer y penderfyniad i hepgor y milwyr benywaidd trawiadol (y chwiorydd Ada ac Amy Graham).

Er gwaethaf trafferthion munud olaf, pan awgrymwyd nad oedd Clwb Caerdydd wedi rhoi ei ganiatâd i ddefnyddio Parc yr Arfau, aeth y gêm yn ei blaen. Ychydig iawn o adroddiadau sydd am y gêm, er bod y cyfeiriadau at ‘… ludicrous burlesque from beginning to end’ yn dweud y cyfan mae’n debyg. O gofio bod y llain yn drwm, mae’n rhaid bod Fletcher wedi wynebu bil glanhau gwisgoedd difrifol gan fod gan y pantomeim bedair wythnos arall i fynd.

Serch hynny, ar ôl i’r llwch setlo, cyflwynwyd £68 i George Coleman, Ysgrifennydd Ysbyty Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Fel ysbyty oedd yn ddibynnol ar roddion roedd pob tamaid bach yn gymorth a diolchwyd i Edward Fletcher, yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, ei chwmni a hyd yn oed y Blaidd Mawr Drwg.

Mae’r poster ar gyfer Yr Eneth Fach a’r Fantell Goch yn cael ei gadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/4/22. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

‘The Private Secretary’ yn dod i Ferthyr

Mae’n bosibl eich bod chi wedi gweld enghreifftiau o’r hysbysebion dramâu ar gyfer y Theatr Frenhinol, Caerdydd, a gedwir yn Archifau Morgannwg ac a ddefnyddiwyd i hyrwyddo perfformiadau rhwng 1885 a 1895. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y theatr, a agorwyd ym 1878 ac â lle i  hyd at 2000 o bobl, yn cynnig rhywbeth i bawb. Fodd bynnag mae’r hysbyseb ddrama isod ychydig yn wahanol oherwydd ei bod ar gyfer cyfres o berfformiadau yn y Neuadd Ddirwest ym Merthyr ym mis Mawrth 1886.    Roedd hefyd yn awgrym bod rhywbeth arbennig yn cael ei gynnig.

D452-1-30

The Private Secretary oedd yr achos dan sylw, comedi oedd wedi cael llwyddiant ysgubol yn Llundain gyda dros 700 o berfformiadau yn Theatr y Globe gyda Charles H Hawtrey yn y brif ran. Er nad oedd Hawtrey, a wnaeth gryn ffortiwn o’r ddrama, yn perfformio gyda’r parti teithio, roedd yn sicr o fod yn ddewis poblogaidd iawn gyda mynychwyr theatrau De Cymru.

Nid oedd yn syndod, felly, fod Edward Fletcher, rheolwr y Theatre Royal, wedi manteisio ar y cyfle i lwyfannu’r ddrama yng Nghaerdydd a Merthyr. Cafodd y Neuadd Ddirwest, a agorodd am y tro cyntaf ym 1852, ei hymestyn yn 1873 a honnwyd bod lle i 4000 o bobl ynddi. Er ei bod yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd crefyddol a gwleidyddol, hi hefyd oedd prif theatr Merthyr. Yr oedd felly yn lleoliad perffaith ar gyfer y ddrama. Er nad oes gennym adolygiadau o’r perfformiadau ym Merthyr, mae’n debygol y byddent wedi bod yn debyg i’r ymateb yng Nghaerdydd lle y’i disgrifiwyd fel:

…one of the most successful modern farcical comedies… [with] …laughter continuous throughout.

Roedd plot The Private Secretary yn canolbwyntio ar ddau ddyn ifanc yn ceisio dianc rhag eu credydwyr. Mewn sawl ffordd roedd yn adleisio bywyd Hawtrey. Cafodd ei urddo’n farchog ym 1922, a galwyd ef yn brif actor comedi ei genhedlaeth ac yn fentor i lawer, gan gynnwys Noel Coward. Hefyd ymddangosodd mewn nifer o’r ffilmiau distaw cyntaf ac roedd yn rheolwr theatr llwyddiannus. Fodd bynnag, aeth yn fethdalwr ar sawl achlysur o ganlyniad i ddyledion gamblo. Wrth edrych yn ôl ar ei fywyd dywedodd:

I had one bet and lost half a crown, and I have been trying for 50 years to win it back.

Gyda thocyn am sedd gadw yn costio tri swllt, byddai’r incwm o’r perfformiadau ym Merthyr wedi bod yn dderbyniol iawn ac yn angenrheidiol yn ôl pob tebyg.

O ran y Neuadd Ddirwest, defnyddiwyd hi am flynyddoedd lawer fel theatr a sinema, ac mewn blynyddoedd mwy diweddar roedd yn adnabyddus fel y Scala Cinema. Caeodd yng nghanol y 1980au a’i throsi yn glwb snwcer.

Cedwir yr hysbyseb drama ar gyfer The Private Secretary yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/1/30. Gellir mynd ato ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Beth ddigwyddodd i Ddydd Mabon?

Ymhlith y casgliad yn Archifau Morgannwg mae detholiad o bosteri theatr gwreiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer y Theatre Royal, Caerdydd, ar ddiwedd y G19. Wedi ei leoli ar gornel Stryd Wood a Heol Eglwys Fair, safle a feddiannwyd yn ddiweddarach gan Theatr Tywysog Cymru, adeiladwyd y Theatre Royal ym 1878.  Ar ei hanterth fe ddaliai 2000 o bobl mewn awditoriwm o felfed coch moethus. Dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 18851 1995, mae’r posteri yn dangos amrywiaeth o gynyrchiadau yn y theatr, o’r pantomeim blynyddol i berfformiadau gan gwmni opera D’Oyly Carte. Maen nhw nawr ar gael i’w gweld ar-lein – ewch i wefan Archifau Morgannwg (www.archifaumorgannwg.gov.uk), dewis yr opsiwn ‘Y Casgliad’ a chwilio am y ‘Theatre Royal’. Bydd y cyfeirnodau yn dechrau gyda’r rhagddodiad D452. Dewiswch a chliciwch ar un o’r cyfeirnodau i’r posteri ac fe ddylech weld copi digidol o’r poster ar waelod y dudalen. Yn aml yn lliwgar iawn, maent yn rhestru gyda chryn fanylder, y perfformwyr yn y theatr. Ar ben hynny, maent yn aml yn cynnwys trefniadau, megis trenau arbennig, a amserlenwyd er mwyn denu pobl o bob cwr o dde Cymru i’r perfformiadau yng Nghaerdydd.

D452-4-22

Os edrychwch yn ofalus ar nifer o’r posteri o 1888 ymlaen fe welwch gyfeiriadau at berfformiadau ar ‘Ddydd Gŵyl Mabon’. Mae’n un o’r ychydig gyfeiriadau welwch chi yn yr Archifau at ddiwrnod o wyliau sydd wedi ei hen anghofio ond a fwynhawyd gan lawer ar hyd a lled de Cymru. Dydd Gŵyl Mabon oedd y dydd Llun cyntaf ym mhob mis. Roedd yn ganlyniad cytundeb rhwng yr undebau llafur a’r perchnogion glo y byddai’r pyllau yn cau ar ddydd Llun cyntaf y mis a bod y diwrnod i gael ei ddatgan yn ddiwrnod o wyliau. William Abraham a fu’n gyfrifol yn ôl y sôn, yn adnabyddus yn ôl ei enw barddol sef Gwilym Mabon. Wedi ei eni ym 1842 yng Nghwmafan, gweithiodd Abraham mewn pyllau glo a gweithiau tun lleol er pan oedd yn 10 oed.  Yn aelod undeb llafur ac yn un a brofodd lawer o anghydfodau gyda’r perchnogion glo, etholwyd Abraham yn Aelod Seneddol ar gyfer y Rhondda ym 1885. Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ym 1898, ef oedd Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru.

Abraham oedd yr un a arweiniodd yr ymgyrch lwyddiannus dros Ddydd Gŵyl Mabon, a ddathlwyd gyntaf ym 1888. Ei ddadl oedd bod gwaith y pyllau glo mor galed yn gorfforol nad oedd gan y glowyr fawr ddim amser nac egni ar gyfer gweithgareddau eraill ac, yn benodol, addysg bellach a’r celfyddydau. Dathlwyd Dydd Gŵyl Mabon am ddeng mlynedd ar hyd a lled de Cymru. Roedd y Theatre Royal yn un o lawer a geisiodd ddenu’r glowyr a’u teuluoedd drwy gynnal perfformiadau arbennig ar Ddydd Llun.

D452-6-16

Os edrychwch chi ar bosteri a gynhyrchwyd ar gyfer y Pantomeim blynyddol rhwng 1890 i 1892 roedden nhw i gyd yn cynnwys perfformiadau ar gyfer Dydd Gŵyl Mabon ar ddydd Llun cyntaf mis Ionawr a Chwefror. Yn y rhan fwyaf o achosion golygai hynny ddau berfformiad yn ystod y dydd ac fe drefnwyd trenau yn arbennig, gyda chyfle i brynu tocyn theatr a thrên mewn gorsafoedd ar linellau rheilffyrdd y Taff Vale a’r Rhymni. Mae’n ymddangos fod y pencampwr clocsio, Tom Leamore, yn ‘Pretty Little Red Riding Hood’ a’r bale o 50 o foneddigesau yn ‘Merrie Little Dick Whittington and his Cat’ yn sicr o ddenu’r torfeydd ar Ddydd Gŵyl Mabon. Yr hyn sydd yn llai eglur yw faint o bobl wnaeth daith debyg i wylio cynhyrchiad cwmni opera D’Oyly Carte o’r ‘Gondoliers or the King of Barataria’ ar Ddydd Llun 7 Gorffennaf 1890.

Erbyn 1899 roedd Dydd Gŵyl Mabon wedi ei sgubo o’r neilltu. Dwedodd rhai, ychydig yn annheg efallai, fod yn well gan lowyr y tafarndai a’r theatrau na’r ystafell ddosbarth a’r amgueddfa. Y gwir amdani yw bod y perchnogion glo yn ystyried y diwrnod yn ddiwrnod o golli cynhyrchiant. Roedd colli Dydd Gŵyl Mabon ond yn un o ganlyniadau’r trefniant a roes derfyn ar y cloi allan a weithredwyd gan y perchnogion glo yn ystod streic y glowyr ym 1898.  Un o ganlyniadau’r streic oedd cydnabyddiaeth o’r angen i wella trefniadaeth undebol drwy ffurfio Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Fodd bynnag, digwyddodd hyn yn rhy hwyr i Ddydd Gŵyl Mabon. Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai rhai yn haeru, â thafod yn eu boch, fod cymryd diwrnod bant o’r gwaith nad oedd wedi ei awdurdodi, yn ‘cymryd diwrnod Mabon’. Rwy’n amau a fyddai Mabon wedi cymeradwyo.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Diddanu Caerdydd – 130 mlynedd yn ôl i’r mis hwn

Mae’r posteri ar gyfer y Theatr Frenhinol yn dangos beth roedd y torfeydd yn heidio i’w weld yn theatrau Caerdydd 130 mlynedd yn ôl.

D452_3_36

Yr uchafbwynt yn wythnos gyntaf Ebrill 1889 oedd cynhyrchiad Gilbert a Sullivan o The Yeoman of the Guard gan y D’Oyly Carte Opera Company. Gydag un o’r castiau cryfaf a gyflwynwyd gan y cwmni a set newydd ac uchelgeisiol yn seiliedig ar y golygfeydd a ddefnyddiwyd yn Theatr y Savoy, ni cafodd unrhyw beth ei ddal nôl ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Fodd bynnag, roedd y gystadleuaeth yn gryf. Roedd y Theatr Fawr yn Heol y Porth yn denu torfeydd gyda dewis amrywiol a newidiol o gomedi a drama, gan gynnwys, yn wythnos gyntaf Ebrill, The Fools Revenge, School for Scandal a Faint Heart Never Won Fair Lady. Roedd cystadleuaeth gan Syrcas Tayleure hefyd a’r ‘prestidigateur’, yr Athro Duprez a’i rithiau hudol yn Neuadd y Parc.

Mae’r adroddiadau’n awgrymu taw D’Oyly Carte aeth â hi yn wythnos gyntaf Ebrill. Fodd bynnag, roedd y gymysgedd o opera a Shakespeare a gynigiwyd gan y Theatr Frenhinol ganol fis Ebrill yn llai poblogaidd o lawer, ac aeth y torfeydd i weld Muldoon’s Picnic yn y Theatr Fawr, a ddisgrifiwyd fel: …a laughable Yankee-Hibernian absurdity.

Os hoffech weld y poster ar gyfer The Yeoman of the Guard yn y Theatr Frenhinol yn Ebrill 1889, mae yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/3/36.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg.

Charles Chaplin yn y Theatr Frenhinol, 11 Chwefror 1891

Mae gan Archifau Morgannwg gasgliad helaeth o bosteri gwreiddiol Theatr Frenhinol Caerdydd ar gyfer y blynyddoedd 1885-1895. Perfformiwyd amrywiaeth eang o adloniant gan gynnwys pantomeim, opera a dramâu, yn y Theatr Frenhinol, oedd ar gornel Stryd Wood a Heol Eglwys Fair, safle Theatr Tywysog Cymru yn nes ymlaen.

D452_5_21

Un o’r posteri nodedig yw’r poster ar gyfer 11 Chwefror 1891 sy’n cynnwys Charles Chaplin yn canu ‘Duty Calls’. Mewn gwirionedd Charles Chaplin yr hynaf oedd hyn, gan dim ond 2 flwydd oed oedd Charlie Chaplin ar y pryd. Diddanwyr neuadd gerdd oedd Charles Chaplin a’i wraig, Hannah, ac ym mis Chwefror 1891, roedd Charles yn perfformio yn yr Empire yng Nghaerdydd. Roedd Charles mor boblogaidd fel iddo gael ei fenthyca ‘am un noson yn unig’ i ymddangos yn y Theatr Frenhinol am berfformiad hirach ac arbennig o’r pantomeim Sinbad the Sailor. Nid oedd priodas Charles a Hannah yn llwyddiant. Methodd eu gyrfaoedd neuadd gerdd ac yn drist buon nhw farw cyn gweld ffyniant gyrfa eu mab fel actor comig a gwneuthurwr ffilmiau oedd yn enwog yn rhyngwladol.

Os hoffech chi weld poster Charles Chaplin neu bosteri eraill sydd yng nghasgliad y Theatr Frenhinol, dewch draw i Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Codi’r Llen!

Y 75fed derbyniad ym 1995 oedd casgliad o raglenni theatr.  Fel rhan o prosiect ‘Codi’r Llen!’ sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd yn Archifau Morgannwg, mae posteri theatr yn hysbysebu perfformiadau yn y Theatr Frenhinol, Caerdydd yn cael eu catalogio.  Mae’r posteri yn dyddio o’r flynyddoedd 1885-1895 ac maent yn hysbyseby ystod eang o pherfformiadau, gan gynnwys bwrlesg Fictoraidd, clasuron Gilbert & Sullivan a phantomeimiau Nadolig flynyddol Caerdydd!

 

Lleolwyd y Theatr Frenhinol ar gornel Stryd y Santes Fair a Stryd Wood ac fe’i adeiladwyd ym 1878.  Cyfeiriwyd ato fel yr ail Theatr Frenhinol gan i’r cyntaf, a leolwyd yn Crockherbtown (Stryd y Frenhines erbyn hyn) wedi llosgi y flwyddyn cynt ar yr 11eg o Ragfyr 1877.  Credwyd i’r tan ddechrau yn siediau storfa’r theatre a oedd yn dal gwellt ar gyfer cynhyrchiad o ‘The Scamps of London’.

Adeiladwyd y Theatr Frenhinol newydd gan Webb & Sons o Birmingham i gynlluniau Waring & Blesaley.  Adeiladwyd y theatre fel chwaraedy gyda awditoriwm yn cynnwys seddau cor, seddi-ol, bocsys a galeri.  Ehangwyd y nifer o leoedd i 2000 mewn cymhariaeth a’r 1000 yn yr hen Theatr Frenhinol.

Agorodd y Theatr Frenhinol newydd yn swyddogol ar Ddydd Llun 7fed Hydref 1878 byda ‘Pygmalion and Galatea’ gan W. Gilbert, cynhyrchiad a fyddai’n ymddangos droeon eto dros y flynyddoedd i ddod.

Ceir perfformiadau gan amrywiaeth o sioeau teithiol yn y Theatr Frenhinol.  Yr adloniant mwyaf poblogaidd oedd operau, gyda rhestri rhydd yn aml yn cael wi atal a Rheilffyrdd Taff Vale a’r Great Western yn cynnal trenau arbennig ar gyfer mynychwyr theatr.  Denwyd torfeydd hefyd gan perfformiadau newyddbeth, gyda cynhyrchiadau gan ‘Band of Real Indiand’, ’16 Educated Horses’ a ‘King Barney and the St. Bernard Dog’.

Trist adrodd i’r ail Theatr Frenhinol hefyd losgi, ym 1899, ond fe’i ailadeiladwyd ar unwaith yn yr un ddull.  Mae’r theatr yn dal i’w sefyll yng Nghaerdydd heddiw ond erbyn hyn mae’n weithredy fel tafarn y ‘Prince of Wales’.