Neuadd Sir Forgannwg, Parc Cathays, Caerdydd (Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd bellach)

D1093-1-6 p21

Sefydlwyd Cyngor Sir Morgannwg o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 gan ysgwyddo ei gyfrifoldebau llawn ar 1 Ebrill 1889.   I ddechrau, roedd y Cyngor yn ymgymryd ag ystod gyfyngedig o swyddogaethau gweinyddol a ysgwyddwyd cyn hynny gan Ynadon Heddwch.  Fe wnaeth y cyngor hefyd etifeddu staff a swyddfa’r Ynadon.  Daeth y Clerc Heddwch, Thomas Mansel Franklen, yn Glerc y Cyngor Sir, yr arhosodd ei bencadlys yn Swyddfeydd y Sir, Heol y Porth, Caerdydd – er bod nifer o adrannau wedi’u lleoli yn rhywle arall.  Er y gellid cynnal rhai cyfarfodydd pwyllgor yn Swyddfeydd y Sir, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr ar gyfer cyfarfodydd chwarterol y cyngor llawn ac, am dros ugain mlynedd, cynhaliwyd y rhain am yn ail rhwng Neuadd Gwyn, Castell-nedd a Neuadd y Dref, Pontypridd.

Gyda threigl amser, a thwf mewn swyddogaethau a staff, dechreuodd y cyngor gydnabod yr angen am swyddfeydd canolog mwy addas, ynghyd â siambr barhaol ar gyfer ei gyfarfodydd ei hun.  Sefydlwyd Pwyllgor ganddynt yn gyntaf i archwilio opsiynau yn 1896 ond aeth dros ddegawd heibio cyn i’r Cyngor ddod i benderfyniad terfynol.

Roedd y penderfyniad a benododd bwyllgor 1896 yn pennu y dylai’r safle a ddewisid fod o fewn terfynau’r sir weinyddol.  Roedd hyn i bob pwrpas yn eithrio Caerdydd gan ei bod, fel Bwrdeistref Sirol, y tu allan i awdurdodaeth y Cyngor Sir.   Ystyriwyd safleoedd yn Nhrelái a Llandaf (nid oedd yr un ohonynt yn dod o fewn ffiniau Caerdydd ar y pryd), Pen-y-bont ar Ogwr, Llansawel, Castell-nedd, Pontypridd, a Phort Talbot.  Fodd bynnag, derbyniodd y Cyngor Sir gynrychiolaethau hefyd gan Gorfforaeth Caerdydd a oedd yn ‘awyddus i’r swyddfeydd hyn gael eu lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerdydd lle y cynhaliwyd gwaith Sir Forgannwg ers blynyddoedd lawer’.  Roedd y Gorfforaeth yn y broses o brynu Parc Cathays oddi wrth Ardalydd Bute a chynigiodd drafod darparu safle ar gyfer swyddfeydd sirol o fewn y Parc.

Roedd y Pwyllgor yn amlwg yn ffafrio Pontypridd, lle y gellid cael safle gan Ymddiriedolwyr Arglwyddes Llanofer yn yr hyn sydd bellach yn Barc Ynysangharad.  Fodd bynnag, gwrthwynebwyd hyn gan fwyafrif bychan o aelodau’r cyngor.  Ymddengys wedyn fod yr holl fater wedi’i roi o’r neilltu, gan godi o bryd i’w gilydd yng nghyfarfodydd y cyngor ond heb ddod i unrhyw gasgliad o bwys.

Yn 1903, penodwyd pwyllgor newydd i ystyried anghenion llety’r cyngor.  Daeth y canfyddiad o addasrwydd Pontypridd i’r amlwg unwaith eto pan wnaethpwyd ymdrech i gyfyngu ystyriaeth y Pwyllgor i safleoedd yn y dref honno, ond gwrthodwyd hynny.  Yn hytrach, penderfynwyd gohirio lleoli swyddfeydd y sir hyd nes bod adroddiad y pwyllgor wedi dod i law

Fel y digwyddodd, argymhellodd y pwyllgor y dylai’r Cyngor Sir benderfynu rhwng safle Llanofer ym Mhontypridd (os gellid cael telerau boddhaol), a safle un erw ym Mharc Cathays, yr oedd Corfforaeth Caerdydd yn barod i’w werthu am £3,000.  Ystyriodd y Cyngor Sir adroddiad y pwyllgor ar 25 Ebrill 1907 a phenderfynwyd bwrw ymlaen â’r safle yng Nghaerdydd.  Nid yw’n syndod i hyn ddigio Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd, a benderfynodd drefnu cynhadledd o Gynghorau Dosbarth Trefol a Gwledig Morgannwg a Bwrdeistrefi nad oeddent yn rhai sirol, er mwyn protestio yn erbyn codi’r swyddfeydd y tu allan i’r sir weinyddol.  Ond mae’n amlwg mai ofer y bu hynny.

Denodd cystadleuaeth ddylunio 190 o geisiadau ac, ym mis Rhagfyr 1908, cyhoeddwyd mai’r enillwyr oedd Vincent Harris a Thomas Anderson Moodie o Lundain.   Ar 30 Hydref 1909, dyfarnwyd y contract adeiladu i Turner & Sons o Gaerdydd.

Cynhaliodd y Cyngor Sir ei gyfarfod cyntaf yn siambr newydd y cyngor ar 14 Mawrth 1912.  Nododd yr aelodau ei nodweddion acwstig diffygiol.  Tynnont sylw hefyd at absenoldeb arwyddluniau Cymreig yn yr adeilad a gofynnwyd i’r ddau fater gael eu cywiro.  Roedd ei Fawrhydi’r Brenin Siôr V i fod i ymweld â Chaerdydd cyn hir ac roedd y Cyngor wedi gobeithio y byddai’n agor yr adeilad.  Ond ymddengys na fu hyn yn bosibl.  Yn hytrach, mae cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Medi 1912 yn cofnodi’n gryno i’r ‘Cadeirydd ddatgan yn ffurfiol bod y Neuadd ar agor ac yna iddo gymryd y Gadair’.

Gyda chynnydd pellach yn swyddogaethau awdurdodau lleol, roedd angen mwy o le ac agorwyd estyniad, a ddyluniwyd gan Ivor Jones a Percy Thomas, ymn 1932; Nid yw hyn yn ymddangos ym mraslun Mary Traynor.  Arweiniodd yr ad-drefnu ar lywodraeth leol ym 19734 at weld Neuadd y Sir yn cael ei hetifeddu gan Gynor Sir Morgannwg Ganol – gan barhau â’r drefn afreolaidd o bencadlys cyngor y tu allan i ardal ei awdurdodaeth.    Ond, wedi ail-strwythuro pellach yn 1996 nid oedd angen yr adeilad mwyach o ran gofynion yr awdurdodau unedol newydd.  Caffaelwyd Neuadd y Sir gan Brifysgol Caerdydd, a’i ail-enwi yn Adeilad Morgannwg.

O 1939, bu Neuadd y Sir yn gartref i Archifdy Morgannwg, a arhosodd yno – hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ddwylo’r brifysgol – nes i adeilad newydd Archifau Morgannwg, yn Lecwydd, agor yn 2010.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
  • Cyngor Sir Morgannwg, cofnodion cyngor a phwyllgorau (cyf.: GC/CC/1/1-23)
  • Cyngor Sir Morgannwg, ffeiliau am ystyried safleoedd ar gyfer Neuadd y Sir (cyf.: GD/C/BU/3-4)
  • Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd, cofnodion (cyf.: UDPP/C/1/18)
  • Matthews, John Hobson (Ed): Records of the County Borough of Cardiff, Vol V, t 236
  • Jiwbilî y Cynghorau Sir 1889-1939 – Morgannwg (cyf.: lib/R/25)
  • South Wales Daily News, 29 Mai 1896
  • Evening Express, 14 Medi, 16 Hydref ac 17 Rhagfyr 1896
  • Weekly Mail, 6 Mawrth 1897
  • Evening Express, 18 Tach 1903
  • Evening Express, 19 Mehefin 1907
  • https://en.wikipedia.org/wiki/Glamorgan_Building

Diwrnod Meddiannu Ysgol Gynradd Goetre

Mae Archifau Morgannwg wedi cael ei meddiannu gan Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful.  Mae’r grŵp sy’n gweithio o fewn ymrwymiad cymdeithasol wedi ysgrifennu blog ynglŷn â beth wnaethon nhw ddarganfod yn yr Archifau.

**************

Yn y tloty doedd dim dyddiau di-waith i’r plant oherwydd os oeddent yn bwyta yna roedd rhaid iddynt weithio yna hefyd! Mae llawer o hanes am y ddwy dref Caerdydd a Merthyr Tudful. Erbyn hyn mae pwll Goetre a’r tŷ cychod wedi eu gorchuddio gan fwd a gwair. Mae’r eitem hynaf yn Archifau Morgannwg yn bron I 850 mlwydd oed. Mae yna ddyddiaduron am y plant a ysgrifennwyd gan y pennaeth ym 1862 – Libby a Samia

log-book

Yn yr ystafelloedd sicr gallwch symud y silffoedd drwy droi i’r chwith ac i’r dde ac mae’r botwm canol yn gallu cloi trwy ei wthio  ac agor trwy ei thynnu – Lewis

strongrooms

Gwnaeth Thomas Barry dwyn 6 tarten rhiwbob ac fe aeth i’r carchar am 14 diwrnod ac i’r ysgol benyd pan oedd yn saith a hanner.  Roedd y peth hynaf yn 850 mlwydd oed ac roedd yn ddarn o bapur o Harri II a alwyd yn grant – Allicia ac Elle

thomas-barry

Dysgom fod pwll Goitre yna ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roedd yna dŷ cychod ond nid yw yna heddiw mae wedi ei orchuddio fel coedwig fach – Cameron a Callum

goytre-pond

Cyd Bwyllgor Archifau Morgannwg

Mae ein blog penblwydd 75ed yn dod i derfyn gyda’n cofnod olaf o’n 75ed derbyniad flynyddol.

Cydbwyllgor Archifau Morgannwg ydy corff llywodraethu Archifau Morgannwg.  Ar ei ffurf bresennol mae’n cynnwys 16 aelod etholedig o bob un o’r awdurdodau sy’n ei ariannu yn ôl cyfran eu poblogaeth. Felly mae gan Gaerdydd 5 aelod, mae gan Rondda Cynon Taf 4 aelod, mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Bro Morgannwg oll â 2 aelod yr un ac mae gan Merthyr Tudful un aelod.  Caiff rôl y cadeirydd a’r is-gadeirydd ei rhannu ar sail rota flynyddol, fel bod pob awdurdod yn cael cyfle i fod yn y gadair dros gyfnod o 6 blynedd.  Ceir darpariaeth ar gyfer cyfethol nifer o aelodau y tybir bod ganddynt wybodaeth a phrofiad gwerthfawr i’r Cydbwyllgor, ac mae awdurdodau hefyd yn anfon swyddogion i arsylwi.  Mae Caerdydd, fel yr awdurdod sy’n darparu gwasanaethau cymorth, fel arfer yn anfon swyddogion ariannol, cyfreithiol ac ysgrifenyddol.  Dim ond aelodau etholedig gaiff bleidleisio.

 

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac mae Archifydd Morgannwg yn mynd ag adroddiad ar y gweithgareddau i bob cyfarfod.  Mae’r holl bapurau a dyddiadau’r cyfarfodydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.  Mae’r cyfarfodydd, a gynhelir yn adeilad Archifau Morgannwg, yn agored i’r cyhoedd fel arfer.

Mae aelodau etholedig wedi rhoi cefnogaeth gref i’r archifau a’i weithgareddau erioed.  Yr aelodau yw ein cyswllt i’r awdurdodau lleol sy’n ariannu’r cydwasanaeth.  Maent yn frwd dros bledio achos yr archifau a hebddynt hwy ni fyddai’r adeilad newydd gennym.  Maent yn cymeradwyo ein cynllun gwaith blynyddol ac yn cael y newyddion diweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni targedau disgwyliedig drwy gydol y flwyddyn.  Maent hefyd yn cytuno ar y gyllideb a anfonir i bob awdurdod i’w chymeradwyo. Caiff Archifydd Morgannwg ei benodi’n uniongyrchol gan y Cydbwyllgor i reoli gwasanaethau archifau ar ran y chwe awdurdod a rheoli’r gyllideb y cytunwyd arni.

Rydym yn ffodus o fod wedi llwyddo i ddal gafael yn ein haelodau a’u profiad am gyfnodau hir; roedd rhai o’r aelodau presennol yn gwasanaethu ar gydbwyllgor Cynghorau Canol a De Morgannwg gynt.  Mae aelodau newydd yn parhau i ddod â brwdfrydedd ac ymrwymiad gyda nhw.  Mae aelodau hefyd wedi cyfrannu at yr archifau ac mae rhai o’u cyfraniadau wedi bod yn rhan o’r 75ain eitem sawl blwyddyn.  Rydym yn ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.

Archifdy Morgannwg, 1939-1989 – dathliad a ohiriwyd

Eleni rydym yn dathlu 75 mlwyddiant Archifau Morgannwg. 1989 oedd hanner can mlwyddiant yr hyn a elwid yn Archifdy Morgannwg bryd hynny. Dyma’r erthygl sy’n nodi’r dathliad hwnnw, a luniwyd gan Archifydd y Sir Mrs Patricia Moore ar gyfer Adroddiad Blynyddol 1989:

Sefydlwyd Archifdy Morgannwg gan Gyngor Sir Morgannwg ym 1939, a phenodwyd Emyr Gwynne Jones fel yr archifydd sirol llawn amser cyntaf yng Nghymru – cyn hynny, dim ond Sir Fynwy a oedd wedi gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gofalu am ei gofnodion, drwy benodi ymgynghorydd ym 1938.

Ar ôl y rhyfel, aeth Miss Madeleine Elsas, sef olynydd Jones, ati’n egnïol i sefydlu cronfa o archifau yn y sir drwy wahodd deunyddiau drwy rodd neu gyfraniad.  Heddiw, mae Cydwasanaeth a ariennir gan dair sir newydd Morgannwg yn cynnwys y prif swyddfa yn Neuadd y Sir, Parc Cathays, Caerdydd, Swyddfa Gofnodion Ardal yn Neuadd Sir Gorllewin Morgannwg, Abertawe, ac Ystorfa Gofnodion yn Neuadd Sir De Morgannwg yng Nglanfa Iwerydd, Caerdydd. Mae dwy ystafell chwilio brysur, un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe, yn darparu ar gyfer dros 6,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a chedwir rhai casgliadau mewn hanner dwsin o storfeydd mewn mannau eraill.  Mae’r casgliad cyfan yn llenwi rhwng pum a chwe milltir o silffoedd. Yn anffodus, ni chafwyd cynnydd cyfatebol yn nifer y staff. Mae gan Forgannwg naw archifydd. Mae’n bosibl fod hyn yn swnio fel nifer gweddol, ond nid felly ydyw o gymharu â’r 12 yn Hampshire, 15 yng Nghaint ac 17 yng Ngorllewin Swydd Efrog. At hynny, rhennir y staff rhwng y tair prif storfa.

Gwaith adfer yn yr ystafelloedd sicr

Gwaith adfer yn yr ystafelloedd sicr

Fodd bynnag, yn hytrach na dathlu ein cyflawniadau, bu’n rhaid i ni gymryd camau brys yn ystod y flwyddyn. Yn ystod gaeaf 1988/89 cafwyd lleithder cynyddol mewn nifer o’r ystafelloedd diogel. Ofer fu’n hymdrechion i reoli’r lleithder hwnnw.  Ar ôl galw swyddogion Cyngor Morgannwg Ganol i archwilio seiliau’r adeilad, canfuwyd bod ein problemau’n deillio o lefelau dŵr uchel o dan Neuadd y Sir. Bu’n rhaid i ni ddefnyddio pob aelod o staff a oedd ar gael i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, ac o ganlyniad i hynny bu’r ystafell chwilio gyhoeddus yng Nghaerdydd ar gau am bedwar mis. Bu’n rhaid archwilio, logio a symud dros filltir o gofnodion, codi gorchuddion y lloriau a datgymalu’r silffoedd. Mae gwaith Cyngor Morgannwg Ganol i fynd i wraidd y broblem a’i rheoli yn mynd rhagddynt o hyd. Yn ogystal, rydym yn parhau i fonitro’r casgliadau a gedwir o hyd ym Mharc Cathays, er mwyn sicrhau nad yw’r amodau andwyol yn peri difrod iddynt. Er i ni fwynhau cacen pen-blwydd i nodi’r achlysur, nid oedd fawr o awydd gennym am ddathliadau eraill, ac yn hytrach na threulio amser ar baratoi cyhoeddiadau newydd a gweithgareddau eraill, bu’n rhaid i ni dreulio ein hamser yn gwneud gwaith brys yn yr ystafelloedd diogel.  Rydym yn dal i geisio ymdrin â’r ôl-groniad o ohebiaeth a cheisiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod roedd y swyddfa ar gau, ac nid yw’r dogfennau a symudwyd ymaith ar gael i’r cyhoedd o hyd.  Mae’r contractwyr yn dal i archwilio’r sefyllfa, ac mae rhywfaint o waith adfer yn mynd rhagddo eisoes.

Gwaith adfer yn yr ystafelloedd sicr

Gwaith adfer yn yr ystafelloedd sicr

Dewiswyd ‘dŵr’ gan staff fel thema eu cyfraniadau i’r Adroddiad hwn cyn i’r problemau lleithder ddod i’r amlwg.Prin oeddem wedi sylweddoli i ba raddau y byddai dŵr yn effeithio ar Archifdy Morgannwg ym 1989.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae ambell eitem o blith y 75fed eitem a restrwyd gennym wedi ein gadael erbyn hyn. Mae rhai wedi eu trosglwyddo i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe, a ddatblygodd o un o ganghennau Archifdy Morgannwg.

Pan rannwyd sir hanesyddol Morgannwg yn 3 gan y Ddeddf Llywodraeth Leol, a ddaeth i rym ym 1974, cytunodd siroedd newydd Canol, De a Gorllewin Morgannwg i gefnogi gwasanaeth archif cyfunol. Roedd y symudiad hwn, yn seiliedig ar yr archifdy a oedd eisoes yn bodoli, yn enghraifft gynnar o gydweithio ar draws ffiniau.Parhaodd y gwasanaeth hwn ym Mharc Cathays a chyhoeddodd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg fwriad i greu Swyddfa Cofnodion Ardal Gorllewin Morgannwg o fewn y gwasanaeth, er mwyn iddo allu diwallu anghenion y boblogaeth yn fwy effeithiol.Drwy gydol y 1970au hwyr, ystyriwyd nifer o safleoedd, gan gynnwys byncer niwclear ac eglwys wag. Roedd y rhain i gyd yn rhy ddrud.Derbyniwyd cynnig o le yn neuadd newydd y sir yn y pen draw, er na chwblhawyd y lle tan 1982.

Yn y cyfamser, roedd cofnodion yn dal i gael eu derbyn, eu rhestru a’u cadw yng Nghaerdydd, gyda pwynt mynediad wedi ei staffio unwaith pob mis ar gael mewn ystafell wedi ei ddarparu gan Adran Hanes Prifysgol Abertawe.Erbyn Awst 1982 roedd Neuadd y Sir wedi ei gwblhau a symudodd yr ystafell chwilio misol i Swyddfa Cofnodion Ardal Gorllewin Morgannwg.Cafodd yr ystorfa hon gymeradwyaeth yr Arglwydd Ganghellor ym mis Hydref 1983. Cytunwyd ar adrannau o’r Casgliad i’w trosglwyddo i’r lleoliad newydd o fis Hydref ymlaen ac agorodd y Swyddfa i’r cyhoedd ar 5 Mawrth 1984.

Penodwyd Archifydd penodol ar gyfer Gorllewin Morgannwg ym mis Hydref 1982. Arhosodd Elisabeth Bickford yn y swydd tan fis Awst 1987. Fe’i holynwyd gan Susan Beckley ym mis Ionawr 1988. Cafwyd help gan staff o bencadlys Caerdydd a weithiodd hefyd ar ganllaw i’r archifau oedd yn y gangen.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Ym mis Ebrill 1992 tynnodd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg allan o’r Gwasanaeth Archif Ar-y-Cyd.Trodd y gangen yn Swyddfa Cofnodion Sir Gorllewin Morgannwg.Cytunwyd ar sut y byddai’r celfi a’r offer ac unrhyw daliadau oedd yn weddill yn cael eu rhannu. Mater cymharol hawdd oedd rhannu’r Casgliad, er bod cyfres neu ddwy wedi peri peth anghytuno.Mae’r ddwy swyddfa yn dal i gydweithio, ac mae yna draddodiad da o gyfnewid staff.Bu Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn dathlu ei ben-blwydd eleni hefyd, a chynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus.Pan aildrefnwyd llywodraeth leol eto, tyfodd y gwasanaeth pan unodd ag Archif Dinas Abertawe, a bu’n barhau fel gwasanaeth ar-y-cyd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae erbyn hyn yn wasanaeth gweithgar iawn ac yn cyfrannu’n fawr at fentrau archifau Cymru.

Elisabeth Bennett - Archif Richard Burton

Elisabeth Bennett – Archif Richard Burton

Mae yr Archifydd Ardal cyntaf, Elisabeth Bennett erbyn hyn, yn bennaeth ar Archif Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, y swyddfa gyntaf yng Nghymru i gael Achrediad Gwasanaeth Archif dan y cynllun newydd.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r un teulu!