Dyddiadur Rhyfel y Capten Mervyn Crawshay

4ydd Awst. 2014 yw canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf; mae’r cyfnod trychinebus hwn o’r 20fed Ganrif yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau ar hyn o bryd drwy lawer o lyfrau ac erthyglau. Yn Archifau Morgannwg rydym yn ffodus o gael ffotograffau a chofnodion ysgrifenedig amrywiol yn dangos effaith y “Rhyfel Mawr” ar unigolion a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’r cofnodion hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a myfyrwyr ymchwil gael gafael ar wybodaeth amrywiol, o effaith y rhyfel ar blant (llyfrau log ysgolion) i fesurau rhyfel ar y ffrynt cartref (Cofnodion Awdurdod Lleol). Fodd bynnag, mae’r erthygl fer hon yn edrych ar eitem unigryw yn y casgliad; dyddiadur y Capten Mervyn Crawshay yn ystod wythnosau cyntaf y Rhyfel yng Ngwlad Belg. Mae Crawshay yn rhoi cofnod dyddiol o’i brofiadau, gan ddechrau ar 15 Awst tan iddo gael ei ladd ar faes y gad ar 31 Hydref 1914.

Cyn trafod dyddiadur Crawshay gellid gofyn; “Pam oedd aelod o un o deuluoedd cyfoethocaf a mwyaf pwerus Cymru yn ymladd y lluoedd Almaenig yng Ngwlad Belg?”  Ganed Mervyn Crawshay ar 5ed Mai 1881 yn Dimlands, Llanilltud Fawr, yn fab i Tudor Crawshay, Uwch Siryf Morgannwg (1887), ac yn ŵyr i’r meistr haearn William Crawshay o Ferthyr Tudful. Roedd y teulu Crawshay yn flaenllaw yn niwydiant haearn gogledd Morgannwg am lawer o’r 19eg Ganrif. Fodd bynnag, dewisodd Mervyn ddilyn gyrfa yn y fyddin ac ymunodd â Chatrawd Caerwrangon ym 1902. Gwasanaethodd am ddwy flynedd yn rhyfel De Affrica gan ennill medal y Frenhines â dau glesbyn. Ym 1908 symudodd Crawshay i 5ed Gwarchodlu’r Marchfilwyr (Tywysoges Charlotte o Gymru) a chafodd ei ddyrchafu’n gapten ym mis Ebrill 1911. Roedd Crawshay yn farchog o fri a chynrychiolodd Loegr mewn twrnameintiau milwrol yn America ym 1913, gan ennill y Cwpan Aur yn y gystadleuaeth ryngwladol.

Roedd Mervyn Crawshay yn aelod o Fyddin Ymdeithiol Prydain (BYP), a oedd yn gymharol fach, a anfonwyd i helpu’r Ffrancwyr i amddiffyn Gwlad Belg yn wyneb ymosodiad yr Almaen. Roedd Gwlad Belg, sy’n wlad fach, yn cynnig llwybr allweddol y gallai Ffrainc neu’r Almaen ei ddefnyddio i ymosod ar ystlys y gelyn. Fodd bynnag, dan Gyfamod Llundain 1839, sicrhawyd niwtraliaeth Gwlad Belg gan y pum prif bŵer yn Ewrop, a gytunodd i amddiffyn niwtraliaeth Gwlad Belg pe bai’n cael ei meddiannu. Roedd y Cadfridog Schlieffen o’r Almaen wedi llunio cynlluniau mor gynnar â 1905 i ymosod ar ystlys Byddin Ffrainc drwy oresgyn Gwlad Belg, gan gynnig llwybr haws i Baris a modd o gipio porthladdoedd y culfor. Roedd y tensiwn yn codi yn ystod haf 1914 a, thrwy gyfres gymhleth o gynghreiriau, gwelwyd 3 miliwn o filwyr Almaenig a Ffrengig yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Gwrthododd Llywodraeth yr Almaen i roi’r gorau i’w goresgyniad o Wlad Belg, ac yn sgil hynny datganwyd rhyfel gan Brydain a Ffrainc ar 4ydd Awst 1914.

Roedd cyflymder hyn oll yn amlwg o gofnodion Crawshay; mae’r cofnodion ar 15/16 Awst yn sôn am adael Southampton a chyrraedd Le Havre. Wythnos yn ddiweddarach, ar ôl teithio drwy ogledd Ffrainc a chroesi’r ffin â Gwlad Belg, roedd BYP yn brwydro ger Mons. Erbyn hyn, gelwir y digwyddiadau a gofnodir rhwng 21ain a 29ain Awst gan Mervyn Crawshay yn Frwydr Mons. Prif nodwedd y frwydr oedd enciliad BYP yn wyneb ymosodiadau llethol lluoedd yr Almaen: roedd 70,000 o ddynion yn wynebu 160,000.

Awst 24… Mae’n amhosibl dweud ai cyfaill neu elyn sydd o’m mlaen i nes bod ergyd yn cael ei thanio… Yna rydyn ni’n eu gweld nhw yn eu helmedau llwyd pigog… Yn ddigon buan mae’r pentref mewn fflamau…

Awst 26, Brwydr yn Le Cateau… Cawsom fwyd gan y milwyr traed gan ein bod ni’n llwgu. Mae’r frwydr yn rhuo gydol y dydd gyda gynnau’n tanio…

Awst 27, Ciliodd y milwyr traed. Am olygfa. Roedd y dynion yn hanner marw, ond roedden nhw’n barod i ymladd eto… Am bum noson yn olynol cafodd y gatrawd lai na dwy awr o gwsg.

Yn ystod brwydr y rhengoedd ôl yn Le Cateau, collodd BYP 8,000 o ddynion; collodd yr Almaen tua 15,000 o filwyr. Disgrifir brwydr ffyrnig y rhengoedd ôl mewn manylder yn y cofnodion hyd at 6ed Medi. Mae’r 3-4 wythnos nesaf yn nyddiadur Crawshay yn disgrifio Brwydr Marne.

Medi 7… Cyhoeddodd Syr John French (Comander BYP) orchymyn yn nodi bod Byddin Prydain wedi bod yn cael amser caled, ond ei bod nawr am gydweithredu â Byddin Ffrainc… Gwnaethom basio Almaenwyr wedi’u clwyfo a rhai milwyr meirw yn y strydoedd. Roedd Choisy’n llanast llwyr, wedi’i hysbeilio gan yr Almaenwyr.

Yn dilyn mis o ymladd milain, gwelwyd proffesiynoldeb BYP a’r Ffrancwyr yn dechrau dwyn ffrwyth. Rhoddodd yr Almaenwyr y gorau i’w hymosodiad ar Baris, a methodd y nod strategol o drechu ystlys Byddin Ffrainc.

Medi 27, diwrnod helbulus i Crawshay… Bomiau’n syrthio, ond dim ond un ddaeth yn agos; Fe welais i Winston Churchill mewn car… Bu’n rhaid rhoi’r gorau i sgwennu – glaniodd blwch glo a chefais orchymyn i fynd i’r biled.  

(Roedd ‘blwch glo’ yn slang ar gyfer bom Almaenig 5.9 modfedd yn y Rhyfel Byd Cyntaf).

Yn sgil anaf Mervyn Crawshay i’w goes cafodd ganiatâd i adael y Rheng Flaen, ac achubodd ar y cyfle i deithio i Baris.

Hydref 5, Es i a Kavanagh yn syth i’r Ritz a oedd newydd ailagor… Teithion ni o gwmpas Paris, i’r Chatham ar Champs Elysee ac i gael te yn Café de la Paix… Ymunodd Harvey o’r 9fed Gwaywyr â ni ac aethon ni i Moulin Rouge.

Cafodd ei alw’n ôl yn rhy fuan o lawer i’r Gatrawd, ar ôl llwyddo i gael petrol a gyrru drwy’r nos… Gyrrais i ac Osborne i’r biled. Roedd pawb yn synnu o ngweld i’n ôl mor fuan, ac wedi gwella.  

Mae’r cofnodion eraill ar gyfer mis Hydref yn disgrifio’r ymladd tanbaid yn ardal Messines, a elwir yn swyddogol yn Frwydr Gyntaf Ypres neu’r Ras i’r Môr. O ganlyniad i golled yr Almaenwyr ym Mrwydr Marne, gwnaethant lansio ymosodiad mawr, gyda’r ddwy fyddin yn ceisio cyrraedd arfordir Môr y Gogledd. Yn y frwydr hon, ar ddiwedd mis Hydref, y cafodd Mervyn Crawshay ei anafu’n angheuol. Mae’r cofnodion yn nodi y bu Adran Marchoglu Cyntaf Crawshay yn ceisio amddiffyn safle amhosibl yn Wytschaete am 48 awr cyn cael eu trechu.

Erbyn canol mis Tachwedd, rhoddodd yr Almaenwyr y gorau i’w hymosodiad, a daliodd BYP eu gafael ar Ypres; cafodd 58,155 o Fyddin Prydain eu lladd. Roedd disgrifiadau Crawshay o’r cyfnod rhyfelgar hwn yn sôn am ryfel symudol a chyflym. Erbyn diwedd Tachwedd derbyniodd yr Almaen ei bod wedi methu gyda’i chynllun strategol am fuddugoliaeth gyflym yn Ffrainc, a gosodwyd sylfaen ar gyfer y 4 blynedd nesaf drwy balu ffosydd.

Ceir eironi trist i farwolaeth Crawshay yn Ypres ym mis Hydref 1914; tair blynedd yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth miliynau o filwyr dewr eraill, gwelwyd un o frwydrau mwyaf echrydus y Rhyfel Mawr, unwaith eto yn Ypres, sef Brwydr Passchendaele.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Archifau Morgannwg yn arddangos holl gofnodion dyddiadur rhyfel Mervyn Crawshay ar ein blog, fel y gellir dilyn ei daith yn y rhyfel 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s