Mae’r cofnodion plwyf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn drysorfa o wybodaeth i haneswyr lleol a’r sawl sy’n olrhain achau eu teuluoedd.
Rydym wrthi’n craffu’n fanwl ar y cofnodion hyn am wybodaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac maent yn rhoi dealltwriaeth ddiddorol iawn i’r agweddau tuag at y Rhyfel, yn ogystal â chipolwg o sut oedd bywyd gartref yn parhau er gwaethaf cyfyngiadau a gofidion y cyfnod.
Ceir gwahaniaeth sylweddol o ran faint o fanylion a geir yn y cofnodion o blwyf i blwyf; mae rhai’n gryno iawn heb fawr ddim manylion, ac mewn rhai achosion nid ydynt yn sôn am y rhyfel o gwbl. Mae cofnodion eraill yn adlewyrchu prif faterion lleol y cyfnod. Mae creu a rheoli rhandiroedd yn fater o bwys yn llawer o’r cofnodion:
- ble y dylid eu lleoli?
- sut y dylid mynd ati i gael y tir os nad yw’r perchennog o blaid hynny?
- sut y dylid dyrannu’r rhandiroedd?
Ar ôl datrys y materion hynny, roedd problemau rheoli parhaus yn codi fel deiliaid rhandiroedd nad oeddent yn gofalu am eu lleiniau’n briodol, ffensys yr oedd angen eu trwsio, casglu rhent, methu â thalu rhent yn brydlon ac ailddyrannu lleiniau. Wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen, roedd llongau tanfor yr Almaen yn suddo nifer cynyddol o longau a oedd yn cludo bwyd i Brydain, felly roedd yn hanfodol i dyfu cymaint o fwyd â phosibl ar yr ynys hon, er bod y galw am randiroedd yn fwy na’r cyflenwad a oedd ar gael mewn rhai ardaloedd.
Roedd y plwyfi’n ymdrin â materion eraill hefyd, gan gynnwys cyflwr y ffyrdd a diffyg goleuadau stryd. Roedd rhaid cyfeirio’r materion hyn at y Cynghorau Dosbarth neu’r Cynghorau Sir, gyda manylion yr ohebiaeth yn ymddangos yn y cofnodion am fisoedd lawer.
Oherwydd yr ofn o gyrchoedd awyr, roedd llawer o blwyfi wedi sefydlu eu brigadau tân eu hunain, ac mae’r cofnodion yn disgrifio’r broses o gael gafael ar injan dân neu rannu un gyda’r plwyf cyfagos, a dod o hyd i wirfoddolwyr i weithio’r pympiau.
Mae Cylchgronau’r Plwyfi yn ffynhonnell arall o wybodaeth lai ffurfiol. Yn aml yn dechrau gyda’r Ficer yn mynegi ei farn ar hynt y rhyfel a sut y dylai’r ffyddloniaid ymdrin â hynny, maent hefyd yn cynnwys manylion gwasanaethau ychwanegol, ac yn annog pobl i gadw ieir, bwyta llai o fwyd a thyfu mwy o fwyd. Yna maent yn sôn am weithgareddau lleol sy’n aml yn gysylltiedig â’r ymdrech ryfel, megis casglu wyau a’r menywod yn gwau dillad ar gyfer y clwyfedigion, y Gymdeithas Cynilion Rhyfel a gwaith casglu papur y Geidiaid.
Ceir ambell i sylw doniol ar ddechrau’r rhyfel. Roedd plwyfolion y Rhath o’r farn bod y tîm criced yn colli cynifer o gemau gan fod eu chwaraewyr gorau wedi gwirfoddoli ar gyfer gwasanaeth milwrol.
Yn drist iawn ceir hefyd hysbysiadau am wŷr a meibion colledig. Er bod rhai ohonynt wedi’u canfod yn ddiweddarach wedi’u clwyfo, lladdwyd llawer ohonynt, a cheir ysgrifau coffa trist sy’n sôn am eu bywydau a’u marwolaethau, sef cofnodion ingol iawn o feddwl pa mor ifanc oedd llawer o’r sawl a laddwyd.
Ceir cofnodion hefyd am weithgareddau mwy arferol megis ffeiriau sborion, cyfarfodydd Undeb y Mamau, lle roeddent yn gwau sanau a sachau tywod, yr Urdd Nodwyddwaith, y Geidiaid, y Brownis a Chymdeithas Lesiant y Merched.
Mae cofnodion plwyf o bob math yn llawn enwau pobl leol a’u gweithgareddau, ond yn aml bydd ymchwilwyr yn eu hesgeuluso. Dewch i Archifau Morgannwg, ac efallai y cewch eich synnu gan yr hyn sydd ar gael.