Athrawesau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle nas gwelwyd ei fath o’r blaen i fenywod ddechrau cyflawni rolau a galwedigaethau a gyflawnwyd gan ddynion yn unig cyn y rhyfel. Roedd creu Byddin Tir y Merched a Chorfflu Atodol Byddin y Menywod yn enghreifftiau amlwg iawn o fenywod yn gweithredu mewn meysydd newydd. Amcangyfrifwyd bod tua 1.5 miliwn o fenywod wedi ymuno â’r gweithlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a phrin iawn oedd y sectorau o’r economi lle nad oedd menywod wedi dechrau gweithio ynddynt i ddiwallu’r galw cynyddol am lafurwyr ac i lenwi swyddi’r dynion a oedd oddi cartref yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

I raddau fawr daeth newidiadau pwysig yn sgîl profiadau 1914-1918. Sefydlodd Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw 1919 yr egwyddor na ddylid anghymwyso unigolion o swyddi ar sail rhyw. Yn ogystal, rhoddwyd y bleidlais i tua 8.5 miliwn o fenywod yn sgîl Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, er bod enbydrwydd y rhyfel wedi creu cyfleoedd newydd i fenywod, roedd llawer ohonynt yn dal i wynebu gwahaniaethu yn y gweithle yn ystod y rhyfel ac yn y cyfnod yn union ar ôl y rhyfel. Mae’r llyfrau cofnodion ysgolion a chofnodion awdurdodau lleol a gedwir yn Archifau Morgannwg yn olrhain y cynnydd a wnaed gan fenywod yn y proffesiwn addysgu yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â’r rhwystrau mynych a wynebwyd ganddynt.

Cafwyd effaith sylweddol ar ysgolion yn sgîl athrawon gwrywaidd yn ymuno â’r lluoedd arfog wedi Awst 1914. Er mwyn ymateb i hynny, bu’n rhaid i awdurdodau lleol newid y rheolau a oedd yn gorfdodi menywod, pan yn briodi, i ymddiswyddo fel athrawesau o fewn ysgolion. Serch hynny, fel yn y cyfnod cyn y rhyfel, roeddent ond yn cael eu cyflogi lle roedd diffyg staff ar gael a derbyniwyd y gellid eu diswyddo ag un mis o rybudd os oedd ymgeiswyr amgen addas ar gael.

Mae cofnod gan brifathro Ysgol Ganolog Dowlais, Richard Price, yn llyfr log yr ysgol ym mis Rhagfyr 1915 yn cynnig un o nifer o esiamplau o ansefydlogrwydd gwaith o fewn ysgolion ar gyfer menywod priod yn y cyfnod yma:

EMT-9-6 pg37

Mrs Margaret Davies, TCT, commenced duties on Monday December 6/15. Mrs Davies is a married lady and left her last appointment at Abermorlais Girls’ School in July 1907. Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.37.

EMT-9-6 pg38

Mrs E Claudia George, TCT, commenced duties on Wed afternoon, 8 December. Mrs George is a married lady and left her last appointment as TCT at Tyllwyn School, Ebbw Vale at Xmas 1908. Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.38.

Ond dim ond 7 mis yn hwyrach cadarnhawyd gan Richard Price bod Claudia George a Margaret Davies, ynghyd ag un Mrs Cummings, wedi gadael yr ysgol – ‘finished their duties at this school’ (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.50).

EMT-9-6 pg50

Dim ond y cychwyn oedd hyn i gylchred o cyflogiad ag ymddiwyddiad i Claudia a Margaret a wnaeth barhau drwy gydol y rhyfel. Erbyn Hydref 1916 ail-gyflogwyd y ddwy (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.52). Ond, deufis wedi diwedd y rhyfel, ar 31 Ionawr 1919, roedd y ddwy fenyw wedi gadael unwaith eto – ‘left the service of the Education Authority at this school on the afternoon of this day’ (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT 9/6 t.86).

Mae cofnodion Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn ystod y rhyfel yn cadarnhau yr oedd hyd at 40 o fenywod priod yn cael eu cyflogi fel athrawesau mewn ysgolion yn y fwrdeistref. Roedd hyn yn cynnwys penodi athrawesau mewn ysgolion i fechgyn, rhywbeth a fyddai wedi ei ystyried yn anhygoel cyn 1914. Fodd bynnag, roedd y cyngor a roddwyd i Bwyllgor Addysg y Cyngor Bwrdeistref ym mis Gorffennaf 1916 gan Rhys Elias, y Cyfarwyddwr Addysg yn pwysleisio, er nad oedd dim dewis ond cyflogi menywod priod mewn ysgolion, ei fod yn benderfynol o derfynu’r penodiadau hynny cyn gynted â phosibl:

BMT-1-26

BMT-1-26 b

Cytunodd y pwyllgor i roi rhybudd diswyddo i’r holl athrawesau priod, a therfynu eu cyflogaeth ar ddiwedd Gorffennaf 1916. Roedd Claudia George a Margaret Davies, felly, dim ond yn ddwy o 40 o fenywod a gollodd eu swyddi o ganlyniad i’r penderfyniad yma. Llenwyd eu swyddi gan fyfyrwyr a oedd yn cwblhau Cyrsiau Coleg, neu gan Athrawon a oedd yn Ddisgyblion a Myfyrwyr a oedd yn cwblhau eu cyfnod dan hyfforddiant (Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/26 t.602-3). Mabwysiadwyd y dull gweithredu hwn drwy gydol y rhyfel, gan gyflogi menywod priod ar gontractau byrdymor lle roedd diffyg athrawon ar gael, ac yna terfynu eu contractau cyn gynted ag yr oedd ymgeiswyr amgen ar gael.

Yn ystod y cyfnod ar ôl y rhyfel, tybir bod llawer o fenywod a gyflogwyd yn ystod y rhyfel, efallai hanner ohonynt hyd yn oed, wedi gadael neu golli eu swyddi ym mhob sector o’r economi. Roedd Deddf Adfer Arferion Cyn y Rhyfel 1919 yn pwysleisio bod disgwyl i fenywod ildio’u swyddi i ddynion a oedd yn dychwelyd o’r lluoedd arfog. Ym mis Ionawr 1919, rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Merthyr rybudd diswyddo i’r holl athrawesau priod:

The Director of Education reported that having regard to the probable early release from Military Service of a number of men teachers he had given notice to all married women (temporary) teachers now serving under the Authority to determine their engagement at the end of January, and that any further employment after that date would be subject to a week’s notice on either side. Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/29 t.183)

Unwaith eto bu Claudia George a Margaret Davies yn ddioddefwyr o benderfyniad yr Awdurdod. Mewn cyfarfodydd dilynol, cytunodd yr Awdurdod i ailgyflogi 28 o athrawon gwrywaidd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r Lluoedd Arfog ym mis Chwefror, ac ailgyflogi 10 arall ym mis Ebrill 1919 (Bwrdeistref Merthyr Tudful, cofnodion y Pwyllgor Addysg, BMT1/29 t.246 a t.474).

Efallai bod hynny’n peri syndod gan fod Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw 1919 wedi dileu’r cyfyngiadau ar benodi menywod. Yn ymarferol, roedd cyflogwyr o’r farn bod y Ddeddf yn rhoi cyfle iddynt benodi menywod i broffesiynau lle bu dim ond dynion yn gweithio yn flaenorol. Fodd bynnag, ni thybiwyd bod yn Ddeddf yn rhoi’r hawl i ystyried cyflogi menywod ar yr un telerau â dynion. Cafwyd enghraifft amlwg o hynny yn y proffesiwn addysgu yn ne Cymru yn 1923 pan gyflwynodd 58 o athrawesau priod a ddiswyddwyd gan Awdurdod Addysg y Rhondda achos cyfreithiol yn erbyn y Cyngor. Yn achos Price v Cyngor Dosbarth Trefol y Rhondda, dyfarnwyd nad oedd y Cyngor wedi torri’r Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw drwy ddiswyddo’r athrawesau. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y gwaharddiad ffurfiol gan lawer o awdurdodau lleol ar athrawesau priod yn seiliedig ar y farn y gallai cyflogwyr barhau i gyflogi dynion yn unig os oeddent yn dymuno gwneud hynny.

Arweiniodd y Rhyfel Byd Cyntaf at gyfleoedd newydd i lawer o fenywod yn y proffesiwn addysgu. Ni fyddai llawer o ysgolion wedi gallu parhau heb gyflogi athrawesau priod, ac am y tro cyntaf, cyflogwyd menywod mewn ysgolion i fechgyn yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Ond i’r gwrthwyneb, yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, os oedd menywod priod yn gallu cael eu cyflogi mewn ysgolion, roedd yn bosibl terfynu eu contractau drwy roi un mis o rybudd iddynt. Mae cofnodion Ysgol Ganolog Dowlais yn cadarnhau bod 21 o athrawon wedi eu gyflogi yn yr ysgol ar 4 Mawrth 1919 – 12 dyn a 9 menyw ddi-briod (Ysgol Ganolog Dowlais, llyfr log, EMT9/6 t.91). Gan hynny, roedd creu Undeb Genedlaethol yr Athrawesau ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn arwydd amlwg o’r brwydrau pellach a oedd i ddod o ran gwella cyfle cyfartal.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg