Delio â Ffilm Nitrad yn Archifau Morgannwg

Gall archifau ddal casgliadau o bob math o ddeunyddiau; popeth o femrwn, papur, seiliau cŵyr neu metel a reprograffeg ffotograff; i negatifau a wnaed o wydr, papur, nitrad seliwlos, asetad seliwlos a pholiestr. Caiff pob un o’r deunyddiau hyn eu heffeithio gan amodau amgylcheddol gwahanol gan ddiraddio mewn ffyrdd gwahanol, a gall rhai ohonynt beri risg sylweddol, gan gynnwys risg i iechyd pobl. Un o’r rhain yw ffilm nitrad seliwlos.

Defnyddiwyd ffilm nitrad seliwlos o tua 1889 i tua 1950. Cyn ffilm nitrad, defnyddiwyd negatifau plât gwydr. Roedd y rhain yn ddrudfawr a gallent fod yn anodd eu trin. Helpodd ffilm nitrad i boblogeiddio ffotograffiaeth amatur drwy ei gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl. O ganlyniad, mae gan y rhan fwyaf o archifau nifer fawr o negatifau ffotograffig, gyda nifer wedi’u gwneud o ffilm nitrad ac asetad.

Mae nitrad seliwlos yn fflamadwy iawn a gall losgi hyd yn oed heb ocsigen, a hyd hyn oed o dan ddŵr! Mae ffilm nitrad hefyd yn gemegol ansefydlog; mae’n raddol droi’n felyn, yn frau ac yn ludiog. Mae’n rhyddhau sgil-gynhyrchion cyrydol niweidiol ac yn arogli’n chwerw, sy’n achosi i’r ddelwedd arian bylu, y rhwymwr gelatin i ddadelfennu ac, yn y pen draw, at ddinistrio’r negatif cyfan.

Single negative

Yn ddiweddar, canfuwyd nifer fawr o negatifau nitrad seliwlos yn ystafelloedd diogel Archifau Morgannwg.

Negative bundle

Ar agor y bocsys, canfuwyd bod y negatifau’n dadelfennu a’u bod yn rhyddhau arogl chwerw a mymryn yn gawslyd. Cawsant eu symud ar unwaith o’r stiwdio gadwraeth a’u gosod yn y cwpwrdd mygdarthu i sicrhau bod y gollyngiadau asid nitrig yn cael eu cadw mewn un lle. Drwy wisgo offer diogelwch personol a defnyddio uned echdynnu symudol roedd modd rhoi’r negatifau nitrad seliwlos mewn pecyn di-aer a’u cadw’n barhaol yn y rhewgell.

Amanda

Cânt eu rhoi mewn pecynnau di-aer i’w diogelu rhag yr amgylchedd yn y rhewgell, i atal unrhyw beth arall a gedwir yn y rhewgell rhag eu halogi, ac atal y nwy a ryddheir gan y negatifau rhag halogi unrhyw beth arall yn y rhewgell. Drwy gadw’r negatifau yn y rhewgell mae modd atal dadelfennu pellach ag ymestyn oes y negatifau.   Bydd ffilm nitrad yn hylosgi mewn tymheredd poeth neu gynnes ac felly bydd eu cadw mewn lle oer yn helpu i atal hyn.

Freezer

Nid dyma ddiwedd y stori; mae cynlluniau ar waith i ddigideiddio’r eitemau hyn, felly er efallai bod y negatifau mewn perygl, bydd y delweddau a gadwant ar gael yn y dyfodol.