Pan adeiladwyd Camlas Morgannwg yn y 1790au, roedd yn tynnu dŵr o Afon Taf ger Cored Radur, trwy’r un ddyfrffos â Gwaith Tunplat Melingriffith oedd yno eisoes. I osgoi lleihau cyflenwad Melingriffith, roedd y Ddeddf Seneddol a awdurdododd adeiladu’r gamlas yn mynnu bod y gweithredwyr yn echdynnu eu dŵr yn is i lawr yr afon na’r gwaith, wedi iddo gael ei ddefnyddio i yrru peiriannau yno.
Mae haneswyr yn anghytuno ar gynllunydd a dyddiad y pwmp, ond cafodd ei osod yn ei le rhwng 1795 a 1807. Fel ‘peiriant codi dŵr’ yn dechnegol, câi ei yrru gan olwyn ddŵr dan y rhod oedd wedi ei gysylltu â dau bwmp silindr oedd yn codi dŵr gwastraff Melingriffith i ddyfrffos y gamlas. Ymddengys na lwyddodd hyn i oresgyn problemau cyflenwad dŵr Melingriffith yn llwyr oherwydd i anghydfod parhaus arwain at gytundeb pellach lle roedd disgwyl i gwmni’r gamlas gyfyngu ar echdynnu ar ddŵr o Afon Taf yn ystod adegau o brinder dŵr.
Gwyddys i’r pwmp fod yn weithredol tan 1927, ac efallai na fu’n gwbl segur tan 1942 pan ddaeth masnachu i ben ar y gamlas.
Ers dyddiad dyluniad Mary Traynor, mae ymdrechion wedi eu gwneud i ailwampio’r pwmp. Yn ystod y 1970au a’r 80au, cafodd gwaith adfer ei wneud gan wirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Diwydiannol Tŷ Rhydychen yn Rhisga, ond dadfeiliodd drachefn wedi hynny. Cwblhawyd gwaith atgyweirio pellach, wedi ei ariannu gan gyngor Caerdydd a Cadw rhwng 2009 a 2011. Yn dilyn hyn, roedd hi unwaith eto yn bosib gweld y pwmp ar waith – er bod hynny gyda chymorth trydan.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/3]
- Papurau’r Teulu Ingledew o Gaerdydd, Melingriffith Co. Ltd. deiseb i Dy’r Arglwyddi yn wrthwynebu Bil y Cardiff Railway Co., 1898 [DING/6/26/4]
- Chappell, Edgar L., Historic Melingriffith (1940 – ail-argraffwyd 1995)
- http://www.riscamuseum.org.uk/projects.html?projects=Projects
- http://friendsofmelingriffithwaterpump.weebly.com/
- http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=403
Pwmp Melingriffith - Archifau Morgannwg