Cafodd y Neuadd Ymarfer ei hadeiladu â chyllid gan ymddiriedolwyr trydydd Ardalydd Bute (oedd yn blentyn dan oed ar y pryd) yn 1867 ar gyfer y gwirfoddol-lu yn bennaf (rhagflaenydd Byddin y Tiriogaethwyr).
Cafodd ei dylunio gan bensaer o Lundain, Alexander Roos, a oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Bute. Cafodd briciau lliwgar eu defnyddio i’w hadeiladu yn arddull Byzantine. Roedd y neuadd ganolog yn 148 o droedfeddi (45 o fetrau) o hyd a 66 o droedfeddi (20 o fetrau) o daldra, ac ynddi roedd digon o le i fwy na 4,000 sefyll. Gan ddibynnu ar anghenion gweithredol gwirfoddolwyr, cafodd digwyddiadau fel cyngherddau a cyfarfodydd cyhoeddus groeso ynddi, a bu’n gartref i Sioe Flodau’r Dynion Gwaith am nifer o flynyddoedd.
Roedd yr adeilad cyfagos â Rheilffordd Bro Taf, yn ei flaen roedd tir parêd ac wynebai Plas Dumfries tua’r de. Cafodd ei ddymchwel yn y 1970au er mwyn adeiladu ffyrdd deuol yn Stuttgarter Strasse a Phlas Dumfries, a tua’r man lle y bu, saif y blociau o swyddfeydd Tŷ Dumfries a Thŷ Marchmount.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Mary Traynor Collection [D1093/2/7]
- Various Cardiff and south Wales directories
- Davies, John, Cardiff and the Marquesses of Bute (p.139)
- The Cardiff Times, 15 June 1867
- https://en.wikipedia.org/wiki/Alexander_Roos
Y Neuadd Ymarfer, Plas Dumfries, Caerdydd - Archifau Morgannwg