Pan oedd tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn yn y 1840au, credid y byddai’n ddymunol adeiladu adeilad mawr newydd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a llysoedd, yn lle hen neuadd y dref, a oedd yn sefyll ar fwâu dros y farchnad. Cafodd yr adeilad, a ddyluniwyd gan bensaer o Abertawe o’r enw Rayner, ei godi ar dir a roddwyd gan Iarll Dwnrhefn, a dywedir iddo gostio £1,450. Cyfrannodd Ynadon Heddwch Sir Morgannwg £300 fel y gellid troi’r llawr isaf yn Orsaf Heddlu, a chodwyd gweddill yr arian drwy roddion gwirfoddol. Gosodwyd carreg sylfaen ar 13 Medi 1843 gan y Gwir Anrh. John Nicholl, AS dros Gaerdydd, a Barnwr Eiriolwr Cyffredinol EM, a throsglwyddwyd yr adeilad gorffenedig i’r tanysgrifwyr ar 1 Mai 1845. Roedd y brif ardal fewnol yn neuadd 65 x 38 troedfedd.
Defnyddiwyd yr adeilad at amryw ddibenion – gwrandawiadau llys, gwleddoedd, cyngherddau, perfformiadau dramatig, cyfarfodydd gwleidyddol a chyfarfodydd i bobl y dref. Pan sefydlwyd Cyngor Sir Morgannwg yn 1889, lleoliad swyddfa Syrfëwr y Sir oedd yno i gychwyn. O ganlyniad i newid mewn arferion cymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd yr adeilad lawer o ddefnydd. Arweiniodd hyn at adfeiliad yr adeilad. Er gwaethaf ymgyrch ‘Achub Neuadd y Dref’, cafodd ei ddymchwel yn 1971.
Mae ‘Cronfa Neuadd y Dref’ yn parhau i fod yn weithredol fel ymddiriedolaeth elusennol. Mae’n gweinyddu incwm o enillion gwerthiant Neuadd y Dref, y gellid ei ddefnyddio at ddibenion elusennol er budd cyffredinol trigolion Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod y pum mlynedd rhwng 2009 – 2013, cynhyrchodd incwm blynyddol o tua £570 ar gyfartaledd.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/1-2; D1093/2/6]
- Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, llyfr cofnodion, 1845-1941 [DXS1]
- Pwyllgor Rheoli Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, cytundeb i adeiladu Neuadd Tref gan gynnwys rhagfanylion a chynlluniau, 1843 [DXS4]
- Old Bridgend in Photographs (Sylwadau gan D. Glyn Williams) Cyh. Stewart Williams, 1978
- blogspot.co.uk/2013/02/how-are-mighty-fallen-bridgend-town-hall.html
- bridgend-town-hall-trust.org.uk
- bridgendtowncouncil.gov.uk/bridgend-origins/some-historical-facts.aspx
Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr - Archifau Morgannwg