Stablau Guest, Merthyr Tudful

Gyda chyflenwad lleol digonol o fwyn haearn, calch, coed a glo, roedd Merthyr Tudful yn  ganolfan gynnar bwysig ar gyfer creu haearn a dur.   Gwaith Dowlais, a sefydlwyd ym 1759, oedd y cyntaf o bedwar prif waith haearn a fyddai’n blodeuo yn y dref, gan ei gwneud yn ganolfan bwysig yn y chwyldro diwydiannol.

Penodwyd John Guest yn rheolwr ar waith Dowlais yn 1767 ac yn ddiweddarach daeth yn gyfranddaliwr sylweddol.  Fodd bynnag, gwelodd y gwaith ei ddyddiau gorau dan ddwylo ŵyr Guest, sef Syr Josiah John Guest, rhwng 1807 a 1852. Daeth y gwaith yn ddiweddarach yn rhan o grŵp Guest Keen and Nettlefolds a symudodd ganolbwynt eu gweithredu i Gaerdydd, oedd yn cynnig gwell hygyrchedd at fwyn haearn wedi ei fewnforio.

d1093-2- 006_compressed

Adeiladwyd y stablau yn 1820 i roi cartref i’r ceffylau oedd yn gweithio yn y gwaith haearn. Mae’r rhes sydd wedi ei chadw yn ymddangos iddi fod yn brif ran blaen adeilad petryal.  Defnyddiwyd yr ystafelloedd mawr ar y llawr cyntaf fel ysgol i fechgyn tan i ysgolion Dowlais gael eu hadeiladu yn 1854-5, tra bu milwyr yn aros yn yr adeilad am rai blynyddoedd yn dilyn Terfysg Merthyr ym 1831. Peidiwyd â defnyddio’r stablau yn y 1930au gan orwedd yn segur am sawl degawd tan iddynt gael eu prynu ym 1981, gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr Tudful, a gwblhaodd waith adfer.  Ym 1989, cafodd yr adeilad ei droi gan Gymdeithas Dai Merthyr Tudful yn fflatiau ar gyfer yr henoed..  Mae tai i’w cael hefyd yn hen iard y stablau.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: