Roedd yr YMCA a Neuadd Cory yn gymdogion drws nesa i’w gilydd ar Rodfa’r Orsaf, gyferbyn â’r fynedfa i Orsaf Heol y Frenhines. Mae’r ddau yn dyddio o tua 1900.
Mae’r YMCA yn olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1844, pan ffurfiodd criw o frethynwyr Llundain, dan arweiniad George Williams, Gymdeithas Efengylaidd y Brethynwyr. Buan y newidiodd ei enw i’r Young Men’s Christian Association ac ehangu ei bwrpas i gyflwyno elfen addysgol. Agorodd cymdeithasau eraill yn gyflym dros weddill Prydain ac o amgylch y byd.
Sefydlwyd YMCA Caerdydd yn 1852 yn Heol Eglwys Fair. Lleolwyd y gymdeithas ar amrywiol safleoedd yn ystod ei hanner canrif cyntaf cyn adeiladu adeilad pwrpasol ar Rodfa’r Orsaf. Wedi ei gynllunio gan y penseiri lleol J.P. Jones, Richards & Budgen, roedd pum llawr i’r adeilad a seler. Yn ogystal â llety dros dro a lle i fyw, roedd yn cynnig campfa, theatr ddarlithio, ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell ddarllen. Roedd wyneb blaen llawr gwaelod yr adeilad yn cynnwys dwy siop – un wedi ei chynllunio’n wreiddiol fel tŷ bwyta. Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1899 gan Syr George Williams ac agorodd y flwyddyn ganlynol.
Adeiladwyd Neuadd Ddirwest Goffa Cory ar gost o £5,000 a’i chyflwyno i gymdeithasau dirwest Caerdydd gan John Cory (1828 – 1910) fel coffâd i’w ddiweddar dad, Richard. Richard Cory (1799 – 1882) a sefydlodd fusnesau masnach llongau a gwaith glo’r teulu. Roedd yn arweinydd ar y mudiad Methodistaidd yng Nghaerdydd ac fe gefnogai amrywiol weithgareddau addysgol, moesol a Christnogol yn yr ardal. Wrth i’r mudiad dirwest yng Nghaerdydd ddatblygu, yn ôl y sôn ef oedd y cyntaf i arwyddo’r ‘llw dirwest’.
Erbyn y 1970au, roedd cynlluniau ar droed i ailddatblygu yr ardal yn ffinio â Heol-y-Frenhines, Ffordd Churchill, Rhodfa’r Orsaf a Stryd Ogleddol Edward – Canolfan Siopa’r Capitol bellach. Gan ragweld hyn, roedd safleoedd eraill yn yr ardal wedi cau ac yn dechrau dadfeilio. Roedd Neuadd Cory dan brydles o 99 mlynedd o 1896 a, gyda chostau sefydlog a chostau rhedeg y lle, penderfynodd yr ymddiriedolwyr werthu. Buddsoddwyd yr arian a ddeilliodd o’r gwerthiant – £72,262.88 – gan Gronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory gan barhau i’w roi at achosion yn ardal Caerdydd oedd yn rhannu gweledigaeth wreiddiol y sefydlydd. Dadgofrestrwyd yr elusen yn 2001.Symudodd yr YMCA o Rodfa’r Orsaf hefyd. Ym 1974, fe brynon nhw hen ysgol gwfaint ar The Walk, i barhau â’u gwaith ieuenctid a chymunedol a, maes o law, i ddatblygu hostel i fyfyrwyr a gweithwyr ieuenctid.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
Casgliad Mary Traynor [D1093/2/4]
Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, YMCA arfaethedig, Station Terrace, 1898 [BC/S/1/13196]
Papurau’r Teulu Porter o Gaerdydd a Gwlad yr Haf, adroddiad Cronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory, 1974-89 [DX416/2/1]
http://www.cardiffymcaha.co.uk
http://en.wikipedia.org/wiki/John_Cory
http://www.evangelical-times.org/archive/item/6165/Historical/The-grace-of-giving—John-Cory–1—-/
YMCA a Neuadd Cory, Rhodfa’r Orsaf, Caerdydd - Archifau Morgannwg