Ym 1882, ar alw nifer o foneddigion dylanwadol mewn swyddi’n gysylltiedig â Chaerdydd, bu i’r cyfreithiwr lleol, Frederick De Courcey Hamilton, bennu cynllun er mwyn sefydlu cyfnewidfa a fyddai’n cynnig swyddfeydd cyfleus a man cyfarfod ar gyfer masnachwyr, perchnogion llong, broceriaid a boneddigion eraill cysylltiedig â mentrau morol.
Cytunodd asiantau Ardalydd Bute rentu safle yn Sgwâr Mountstuart a sefydlwyd Cyfnewidfa Caerdydd ac Office Company Limited ar gyfer codi’r adeilad a ddyluniwyd gan y penseiri lleol, James, Seward & Thomas. Rhoddwyd cytundeb y cam cyntaf i Mr C Burton tua diwedd 1883 a chodwyd gweddill yr adeilad yn ysbeidiol dros nifer o flynyddol. Agorodd y Gyfnewidfa ar gyfer busnes yn fuan ym 1886.
Byddai perchnogion y pyllau glo, perchnogion llongau a’u hasiantau’n cyfarfod yn y neuadd fasnachu’n ddyddiol lle deuent i gytundebau ar lafar a thros y ffôn. Yn ystod yr awr fasnachu brysuraf, rhwng hanner dydd ac un o’r gloch, byddai hyd at 200 o ddynion yn yr ystafell yn gwneud ystumiau ac yn bloeddio. Honnir mai yma y tarwyd cytundeb busnes cyntaf y byd a oedd werth miliwn o bunnau ym 1901. Ac yma y pennid pris glo yn rhyngwladol, yn adlewyrchu arwyddocâd byd-eang meysydd glo de Cymru.
Ym 1911, adnewyddwyd tu mewn y neuadd fasnachu yn grandiach fyth gyda balconi derw a phaneli pren da, fel y gwelwch yn llun Mary Traynor.
Gyda thranc masnach glo Caerdydd, daeth gweithrediadau’r Gyfnewidfa Lo i ben yn y 1950au, ond parhaodd yr adeilad fel swyddfeydd. Cynigiwyd yr adeilad yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol newydd i Gymru dan lywodraeth Harold Wilson, ond bu farw’r freuddwyd honno pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli ym 1979.
Yn y blynyddoedd canlynol, defnyddiwyd yr adeilad fel safle cyngerdd a ffilmiau o bryd i’w gilydd ac yn raddol, gadawodd y tenantiaid y swyddfeydd. Yn 2013, caewyd yr adeilad am resymau diogelwch ac roedd pryderon mawr ynghylch ei dynged. Fodd bynnag, nawr mae gwaith i’w adnewyddu’n westy moethus.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/18]
- Cofnodion Cardiff High Street Arcade Co. Ltd, llyfr cofnodion Cardiff Exchange and Office Company Ltd., 1882 – 1896 [DCAC/13/1/1]
- Cofnodion Cardiff High Street Arcade Co. Ltd Records, erthygl ar adeiladu’r Gyfnewidfa o fewn The Builder, 13 Chwe 1886, 268 [DCAC/13/7/1-2]
- https://en.wikipedia.org/wiki/Coal_Exchange
- http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/battle-save-cardiffs-historic-coal-7769726 (Adroddiad newyddion o 14 Medi 2014)
- http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/save-cardiff-coal-exchange-clean-up-8820268 (Adroddiad newyddion o 11 Mawrth 2015)
- Western Mail, 9 Ebrill 2016
Diddorol iawn, diolch 🙂
Tu mewn y Gyfnewidfa, Caerdydd - Archifau Morgannwg