Pan gaiff ardal ei hailddatblygu gall fod yn anodd cofio’r adeiladau a oedd yn sefyll yno ar un adeg. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd ein blog yn tynnu sylw at gasgliad sy’n helpu i gofnodi Caerdydd a de Cymru sy’n newid yn gyflym.
Ym mis Mehefin 2014, derbyniodd Archifau Morgannwg adnau hynod ddiddorol ac unigryw gan Mary Traynor, artist o Gaerdydd, sydd wrthi ers diwedd y 1960au yn ceisio tynnu lluniau o adeiladau Caerdydd a’r ardal gyfagos sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn amgueddfeydd amrywiol dros y blynyddoedd ac mae’n tynnu sylw at lawer o adeiladau sydd wedi diflannu ers hynny. Mae’r casgliad yn cynnwys ei llyfrau braslunio a’i gwaith rhydd, yr oedd rhai ohonynt wedi’u fframio ac yn cael eu harddangos cyn hynny.
Mae’r brasluniau a’r paentiadau hyn yn ategu sawl cyfres arall o gofnodion a gedwir yn yr archifau, gan ddarparu ffynhonnell werthfawr i’r rhai hynny sy’n ymchwilio i hanes adeiladau yn yr ardal.
Mae David Webb, sy’n wirfoddolwr yn Archifau Morgannwg, wedi bod yn defnyddio’r cofnodion hyn i ymgymryd â gwaith ymchwil i hanes rai o’r adeiladau a gaiff eu cynnwys yn rhan o waith celf Mary Traynor. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar y blog yn ystod yr wythnosau nesaf.
Casgliad Mary Traynor o Gaerdydd - Archifau Morgannwg