Tai ym Mhlas Dumfries, Caerdydd

Enwir Plas Dumfries ar ôl Iarll Dumfries – teitl cwrteisi a ddefnyddiwyd gan fab hynaf yr Ardalydd Bute.  Fodd bynnag, mae gwahaniaeth o ran ynganiad; mae Iarllaeth Dumfries yn odli gyda’r gair Saesneg ‘peace’ tra bod pobl Caerdydd yn odli enw’r stryd gyda’r gair Saesneg ‘peas’.

Cyfyngwyd datblygiadau preswyl i ochr ddwyreiniol y stryd, gyda’u cefnau tuag at Reilffordd Bro Taf.  Roedd yn cynnwys tua 24 o dai sylweddol, yn dyddio o’r 1870au.  Roedd y rhan fwyaf yn ffurfio teras sengl yn rhedeg o Heol y Frenhines, gyda phum pâr o dai filas ar y pen gogleddol.  Mae ceisiadau am gymeradwyaeth adeiladu yn awgrymu y cafodd yr eiddo eu hadeiladu ar sail hapfasnachol gan nifer o adeiladwyr lleol, gan gynnwys James Purnell a Samuel Shepton (a oedd mewn gwirionedd yn byw gyda’i deulu yn rhif 2 Plas Dumfries ym 1881).

Mae’n ymddangos na fu rhif 1 Plas Dumfries erioed yn dŷ preifat.  I ddechrau, roedd Clwb Morgannwg yno.  Roedd gan y Clwb, a ffurfiwyd ym 1874, tua 150 o aelodau, sef dynion proffesiynol y dref yn bennaf.  Fodd bynnag, parodd ond tan 1895, pan gymerwyd yr adeilad gan Gymdeithas Celf De Cymru a Chymdeithas Feddygol Caerdydd.  Yn ddiweddarach, roedd yn gartref i Gymdeithas Diwydiannau Cymru cyn mynd yn swyddfa cwmni yswiriant.  Mae’n ymddangos bod gweddill y tai yn dai teulu, fodd bynnag roedd nifer ohonynt ym meddiant meddygon neu ddeintyddion a allai fod wedi defnyddio rhannau o’r adeiladau o bosib ar gyfer ymgynghoriadau proffesiynol.

d1093-2- 012 (Houses in Dumfries Place)_compressed

D1093/2/8

d1093-2- 013 (Houses in Dumfries Place)_compressed

D1093/2/9

Mae Darluniad D1093/2/8 yn dangos rhif 3, 4, a 5 Plas Dumfries a’r eiddo sydd i’w gweld yn Narluniad D1093/2/9 yw rhifau 14, 15 a 16, ynghyd â rhan o fach o rif 13.  Mae cofnodion ar y pryd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o dai yn newid dwylo bob ychydig flynyddoedd, ond mae tystiolaeth o feddiannaeth tymor hirach gan rai teuluoedd.  Un enghraifft o’r fath yw George Prince Lipscombe – a ddisgrifir fel clerc masnachol, ariannwr neu gyfrifydd – a fu’n byw yn rhif 3 gyda’i wraig, Emily a’u plant.  Mae wedi’i restru yno mewn cyfeiriadur o 1875 ac roedd yn dal i fod yno pan wnaed y cyfrifiad ym 1901.  Mae cyfrifiad 1881 yn dangos mai cymydog Lipscombe, yn rhif 4, oedd Elizabeth Rundle, saith-deg pedair oed, oedd yn weddw i lyfrwerthwr a gwerthwr papurau.  Bu farw Elizabeth yn mis Ionawr 1889, ond roedd ei merch, Emma Rundle, yn parhau i fyw yn yr un cyfeiriad ym 1911.

Er ei fod ym Mhlas Dumfries am gyfnod cymharol fyr, mae preswylydd arall yn nodedig oherwydd ei fod yn rhan o un o’r digwyddiadau mwy rhyfedd yn hanes Caerdydd.  Mae rhif 16 yn ail ddarluniad Mary Traynor yn dangos blaen siop Saunders Lambert, Gwerthwyr Tai.  Yn 1881, dyma oedd cartref Samuel Chivers, bragwr finegr, a ehangodd yn ddiweddarach i weithgynhyrchu piclau a jam – parhaodd y cynhyrchu yn ei ffatri yn Nhrelái tan tua 1970.  Ym mis Ebrill 1883, torrwyd un o goesau Chivers ymaith yn dilyn damwain ar y ffordd.  Claddwyd y goes ganddo ym Mynwent Cathays, gan fwriadau, mae’n siŵr i ailymuno â hi maes o law – mae’r cofnod yn y gofrestr gladdedigaethau yn darllen ‘Coes Gwryw.’    Fodd bynnag, pan fu farw ym mis Ionawr 1917, claddwyd corff Samuel Chivers mewn bedd teuluol, rhywle arall yn yr un fynwent.

Pan gymerwyd cyfrifiadau 1901 a 1911, ni restrwyd unrhyw breswylwyr (na gofalwyr yn unig) yn rhai o’r tai ar Blas Dumfries, sy’n awgrymu bod ei drawsnewid yn adeiladau busnes eisoes wedi dechrau, ac mae’n ymddangos bod hyn wedi ei gwblhau i raddau helaeth erbyn 1920.  Cafodd y tai eu dymchwel er mwyn gwneud lle i ehangu Plas Dumfries ac adeiladu maes parcio aml-lawr, yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection [D1093/2/8-9]
  • Cofnodion Bwrdd Claddedigaethau Caerdydd, cofrestr claddedigaethau, 1859-1886 [BUBC/1/1/1, t.209]
  • Cofnodion Bwrdd Claddedigaethau Caerdydd, cofrestr claddedigaethau, 1875-1922 [BUBC/1/4/1 t.67]
  • The Weekly Mail, 21 April 1883
  • Cyfrifiad 1851 – 1911
  • Calendr Profiant Cenedlaethol Lloegr a Chymru, 1889
  • Webster & Co’s Postal and Commercial Directory of the City of Bristol and County of Glamorgan, 1865
  • Worrill’s Directory of South Wales and Newport Monmouthshire, 1875
  • Wright’s Cardiff Directory, 1893-94
  • Kelly’s Directory of Monmouthshire and South Wales, 1895
  • Western Mail Cardiff Directory, 1897
  • Amryw cyfeirlyfrau’r 20fed ganrif ar gyfer Caerdydd
  • Ffrindiau Mynwent Cathays, Cathays Cemetery Cardiff on its 150th Anniversary
  • Ffrindiau Mynwent Cathays, Cylchlythyr, Mehefin 2011