Adeiladau Albert, Moria Terrace, Caerdydd

Codwyd Adeiladau Albert yng nghanol y 1870au gan John a Richard Cory, brodyr oedd yn berchen ar longau, ar dir oedd ar brydles gan ystâd Bute ar hyd ochr de-ddwyrain Moira Terrace.  Wedi’i gynllunio gan Frederick Cultan, roedd y bloc yn cynnwys rhes o siopau gyda llety byw ar lawr cyntaf pob un. Roedd yr ail lawr wedi’i rannu’n ‘anheddau model i grefftwyr’.  Roedd rhai o’r rhain yn wreiddiol yn cynnwys balconïau, yr oedd mynediad iddynt drwy’r drysau wedi’u bricio ynghau sydd i’w gweld ym mraslun Mary Traynor.

D1093-1-2 p5

Yn fuan ar ôl eu cwblhau, cafodd perchenogaeth swyddogol ar yr adeilad ei throsglwyddo i Cardiff Land and House Investment Corporation Limited – roedd y brodyr Cory yn brif randdeiliaid arno.  Ac ym 1877, ychwanegwyd llawr to gwydr arall ar draws hyd cyfan y bloc i’w ddefnyddio fel llawr rhôl-sglefrio.

Yn ei blynyddoedd cynnar, roedd hi’n ymddangos bod y fenter gyfan wedi ei chael hi’n anodd yn fasnachol.  Erbyn 1879, rhoddwyd gorau i’r llawr rhôl-sglefrio a gosodwyd y llawr top i gwmni golchi dillad â stêm.  Ac ym mis Ebrill 1880, gadawodd y rhan fwyaf o’r meddianwyr, y siopau yn ogystal â’r anheddau, eu tenantiaeth. Yna penderfynodd y cwmni osod y tai mewn setiau o ystafelloedd, gyda thri thenant i bob tŷ.  Erbyn 1883, cofnododd y cyfarwyddwyr y dylai’r rhan fwyaf o’r tai a’r siopau gael eu gosod i ‘denant o ddosbarth uwch’.  Symudodd y cwmni golchi dillad â stêm allan o’r adeilad, ac ym 1885, cafodd y llawr top ei rannu’n dair uned, a chafodd to llechen newydd ei osod, gyda’r nod o’i osod fel warysau.

Mae’n debyg bod y trefniadau mewnol wedi cael eu haddasu ymhellach dros y ddau ddegawd nesaf, ac erbyn 1904, roedd y rhan fwyaf o’r bloc wedi cael ei addasu’n fflatiau.  Serch hynny, mae’n amlwg yn ôl cyfeiriaduron modern bod sawl uned wedi cael eu meddiannu fel cartrefi neu hostelau oedd yn cael eu cynnal gan sefydliadau elusennol, gan gynnwys Byddin yr Iachawdwriaeth a Dr Barnardo, wrth i fusnesau barhau i weithredu mewn llawer o’r siopau hefyd.  Yn fwy diweddar, roedd un o’r tai hyn yn gartref i Lion Labortatories Ltd ac mae plac glas yn coffáu ei ddatblygiad o’r anadliedydd electronig yma ym 1974.

Ym 1980, gwerthodd Cardiff Land and House Investment Corporation yr adeilad i Gymdeithas Dai Adamsdown, a addasodd a moderneiddiodd y fflatiau gan dynnu’r llawr top a rhoi to newydd ar y bloc cyfan.  Mae braslun Mary Traynor o 1982 yn dangos pen gogledd-ddwyreiniol y bloc, fel yr oedd yn edrych cyn yr addasiadau.  Yn fwy diweddar, mae siopau’r llawr gwaelod wedi bod yn swyddfeydd i gyfreithwyr neu sefydliadau trydydd sector yn bennaf.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor Collection (cyf.: D1093/1/2)
  • Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ni chymeradwywyd ar gyfer 11 tŷ, Moira Terrace, 1875 (cyf.: BC/S/1/91154)
  • Casgliad Teulu Kernick, Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd, prydles adeilad ar Moira Terrace (cyf.: DX69/4)
  • Cofnodion Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd, ‘A History of Cardiff Land and House Investment Corporation Ltd’ (cyf.: DX486/8)
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Western Mail, 7 Mawrth 1877
  • Cardiff Times and South Wales Weekly News, 24 Mawrth 1877
  • South Wales Daily News, 1 Medi 1879
Advertisements

YMCA a Neuadd Cory, Rhodfa’r Orsaf, Caerdydd

Roedd yr YMCA a Neuadd Cory yn  gymdogion drws nesa i’w gilydd ar Rodfa’r Orsaf, gyferbyn â’r fynedfa i Orsaf Heol y Frenhines.  Mae’r ddau yn dyddio o tua 1900.

Mae’r YMCA yn olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1844, pan ffurfiodd criw o frethynwyr Llundain, dan arweiniad George Williams, Gymdeithas Efengylaidd y Brethynwyr.  Buan y newidiodd ei enw i’r Young Men’s Christian Association ac ehangu ei bwrpas i gyflwyno elfen addysgol.  Agorodd cymdeithasau eraill yn gyflym dros weddill Prydain ac o amgylch y byd.

Sefydlwyd YMCA Caerdydd yn 1852 yn Heol Eglwys Fair.  Lleolwyd y gymdeithas ar amrywiol safleoedd yn ystod ei hanner canrif cyntaf cyn adeiladu adeilad pwrpasol ar Rodfa’r Orsaf. Wedi ei gynllunio gan y penseiri lleol J.P. Jones, Richards & Budgen, roedd pum llawr i’r adeilad a seler.   Yn ogystal â llety dros dro a lle i fyw, roedd yn cynnig campfa, theatr ddarlithio, ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell ddarllen.  Roedd wyneb blaen llawr gwaelod yr adeilad yn cynnwys dwy siop – un wedi ei chynllunio’n wreiddiol fel tŷ bwyta.  Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1899 gan Syr George Williams ac agorodd y flwyddyn ganlynol.

Adeiladwyd Neuadd Ddirwest Goffa Cory ar gost o £5,000 a’i chyflwyno i gymdeithasau dirwest Caerdydd gan John Cory (1828 – 1910) fel coffâd i’w ddiweddar dad, Richard.  Richard Cory (1799 – 1882) a sefydlodd fusnesau masnach llongau a gwaith glo’r teulu.  Roedd yn arweinydd ar y mudiad Methodistaidd yng Nghaerdydd ac fe gefnogai amrywiol weithgareddau addysgol, moesol a Christnogol yn yr ardal.  Wrth i’r mudiad dirwest yng Nghaerdydd ddatblygu, yn ôl y sôn ef oedd y cyntaf i arwyddo’r ‘llw dirwest’.

d1093-2- 008_compressed

Erbyn y 1970au, roedd cynlluniau ar droed i ailddatblygu yr ardal yn ffinio â Heol-y-Frenhines, Ffordd Churchill, Rhodfa’r Orsaf a Stryd Ogleddol Edward – Canolfan Siopa’r Capitol bellach.  Gan ragweld hyn, roedd safleoedd eraill yn yr ardal wedi cau ac yn dechrau dadfeilio.  Roedd Neuadd Cory dan brydles o 99 mlynedd o 1896 a, gyda chostau sefydlog a chostau rhedeg y lle, penderfynodd yr ymddiriedolwyr werthu.  Buddsoddwyd yr arian a ddeilliodd o’r gwerthiant – £72,262.88 – gan Gronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory gan barhau i’w roi at achosion yn ardal Caerdydd oedd yn rhannu gweledigaeth wreiddiol y sefydlydd.  Dadgofrestrwyd yr elusen yn 2001.Symudodd yr YMCA o Rodfa’r Orsaf hefyd.  Ym 1974, fe brynon nhw hen ysgol gwfaint ar The Walk, i barhau â’u gwaith ieuenctid a chymunedol a, maes o law, i ddatblygu hostel i fyfyrwyr a gweithwyr ieuenctid.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Casgliad Mary Traynor [D1093/2/4]

Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bwrdeistref Caerdydd, YMCA arfaethedig, Station Terrace, 1898 [BC/S/1/13196]

Papurau’r Teulu Porter o Gaerdydd a Gwlad yr Haf, adroddiad Cronfa Goffa Ymddiriedolaeth Cory, 1974-89 [DX416/2/1]

http://www.cardiffymcaha.co.uk

http://en.wikipedia.org/wiki/John_Cory

http://www.evangelical-times.org/archive/item/6165/Historical/The-grace-of-giving—John-Cory–1—-/