Sefydlwyd Cymdeithas Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ym 1855. Goroesodd gyfnod pontio’r diwydiant llongau o hwyliau i stêm, gan ddirwyn i ben ym 1938. Mae cofnodion y Gymdeithas, yn cwmpasu’r cyfnod 1893 tan ei gau, yn cael eu cadw yn Archifau Morgannwg (cyf.: CL/MS 4.1166).
Yn y cyfnod a ddogfennir roedd y Gymdeithas yn cyfarfod yn fisol yn Nhafarn Goffi Stryd Bute ac, o 1904, yng Ngwesty’r Adelphi, hefyd ar Stryd Bute. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau cofnod, cofnodion ariannol, llyfrau cyfraniadau a llyfrau rheolau sy’n dyddio cyn y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n rhestru dyletswyddau swyddogion a’u cyflogau, arferion gwaith i amddiffyn cyflogaeth yr aelodau, dirwyon am dorri rheolau a dull o apelio yn erbyn dirwyon o’r fath. Ceir manylion yr oriau gwaith, egwyl pryd bwyd a chyfraddau tâl am ddiwrnod o waith a goramser. Roedd aelodau a wrthodai weithio ar hwyliau gwlyb i dderbyn cymorth ac roedd rheol ar wahân ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Gymdeithas, lle roedd aelodau i sefyll wrth annerch y Llywydd, ac ymatal rhag torri ar draws siaradwyr. Byddai cosb o chwe cheiniog o ddirwy am regi neu iaith sarhaus neu ddiarddel o’r cyfarfod os oedd y tramgwyddwr yn parhau.
Mae bwndeli o ohebiaeth hefyd wedi goroesi yn ymwneud â thrafodaethau gyda chyflogwyr, ceisiadau aelodaeth a Ffederasiwn Gwneuthurwyr Hwyliau Prydain ac Iwerddon. Ffurfiwyd y Ffederasiwn ym mis Hydref 1889, gan gyfuno cymdeithasau cyfeillgar gwneuthurwyr hwyliau a fodolai eisoes mewn amrywiol borthladdoedd. Mae adroddiadau misol o brif swyddfa’r ffederasiwn yn Hull wedi eu cynnwys yn archif Cymdeithas Caerdydd. Mae’r rhain yn adrodd am gyflwr masnach mewn amrywiol borthladdoedd yng Ngwledydd Prydain gyda nodiadau a sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar faterion o bwys penodol. Torrodd Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ymaith o’r ffederasiwn ym 1903, ac nid ail-ymunodd tan 1914. Mae cofnodion y Ffederasiwn Prydeinig o 1889, a gaiff eu cadw yn y Ganolfan Gofnodion, Llyfrgell Prifysgol Warwick, yn adlewyrchu pryderon diwydiant oedd ar drai, ac yn enwedig cyflwyno peiriannau a chyflogi gweithwyr heb eu hyfforddi, gan gynnwys gwragedd.
Bu’n rhaid i Wneuthurwyr Hwyliau Caerdydd wynebu’r un problemau. Y penderfyniad cyntaf a gofnodir yn y llyfr cofnod ar 9 Gorffennaf 1901 yw:
‘that we finish no work that is commenced by machein while their is men out of work’.
Ym mis Ionawr 1914, cyn ail-ymuno â’r Ffederasiwn, derbyniodd negodwyr y Gymdeithas delerau cyflog ac oriau’r cyflogwyr, ar yr amod na chyflwynid peiriannau i unrhyw lofft hwyliau am un flwyddyn. Cam cyntaf y Gymdeithas ar ail-ymuno â’r Ffederasiwn oedd gosod cynnig ger bron y gynhadledd flynyddol yn gwrthwynebu cynhyrchu nwyddau cynfas ar fwrdd stemars gan swyddogion a morwyr, yr oedd eu priod ddyletswyddau ‘yn fwy na digon, heb fynd i’r afael â dyletswyddau yn ymwneud â chrefft a masnach wahanol’. Efallai ei bod yn arwyddocaol, o ystyried y blynyddoedd y bu y tu allan i’r Ffederasiwn, pan adolygwyd rheolau Cymdeithas Caerdydd ym 1914 er mwyn ei derbyn yn ôl, bod y cymal a oedd yn nodi y byddai unrhyw aelod a fyddai’n gweithio ar hwyl a wnaed â pheiriant ‘yn cael ei ddiarddel o holl fuddion y Gymdeithas hon’ wedi ei ollwng.
Cyflymwyd y newid gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynwyd gweithwyr heb eu hyfforddi i nifer o grefftau i lenwi’r bwlch a adawyd gan y dynion yr oedd eu hangen ar y lluoedd arfog. Mewn llofftydd hwyliau daeth peiriannau yn fwyfwy cyffredin ac yn aml gwragedd oedd yn eu gweithio. Mae cofnodion y 1920au yn nodi cwynion yn erbyn cyflogwyr am fethu â chadw at gytundebau yn ymwneud â chyflogi gweithwyr benywaidd, ac mae llythyr sydd heb ddyddiad i J.S.Frazer o Frazer & Co, cwmni yr oedd gan y Gymdeithas berthynas dda ag ef fel rheol, yn nodi gwrthwynebiad y gweithwyr i’r ‘nifer diangen o wragedd a merched’ a gyflogwyd yn y llofftydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Er bod dyddiau gorau Cymdeithas y Gwneuthurwyr Hwyliau y tu cefn iddi cyn dechrau’r cofnodion sydd wedi goroesi, hyd at y 1920au mae’r cofnodion a’r cyfrifon yn nodi dadleuon bywiog a digwyddiadau cymdeithasol, cinio blynyddol, cyngerdd ysmygu ac, ym mis Gorffennaf 1904, picnic. Trafodwyd cytundebau â chyflogwyr, mynychwyd cynadleddau a gwnaed cyfraniadau i gronfeydd streic canghennau eraill, i Gronfa’r Bad Achub ac i Bwyllgor y Blaid Lafur; gyrrwyd 2 swllt a 6 cheiniog at J.R. MacDonald ym 1904, er bod y cofnodion yn nodi na yrrwyd y cyfraniad o 5 swllt arfaethedig ym 1908. Ni roddir unrhyw eglurhad. Pan ymunodd y Gymdeithas â’r Ffederasiwn ym 1914 roedd 19 o aelodau (roedd 30 o aelodau gan gangen Grimsby yr adeg honno). Yn ystod y cyfnod a ddogfennir, 27 oedd yr aelodaeth ar ei huchaf ym 1921 a 1922. Wedi hynny mae’r cofnodion yn dangos dirywiad graddol. Daw cofnodion y cyfarfodydd yn fyrrach tan eu bod ond yn adrodd i’r cyfarfod agor am 7pm a chloi am 9pm. Goroesodd y Gymdeithas y Ffederasiwn, a ddaeth i ben ym 1927, ond erbyn y 1930au prin fod aelodaeth y Gymdeithas yn ddigon i ddarparu’r swyddogion angenrheidiol, ac ym mis Tachwedd 1938 caewyd Clwb Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ‘oherwydd diffyg aelodau’. Rhannwyd y gronfa a oedd yn weddill sef £2, 1 swllt ac 1 geiniog rhwng y pum aelod olaf.