Cymdeithas Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd

Sefydlwyd Cymdeithas Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ym 1855. Goroesodd gyfnod pontio’r diwydiant llongau o hwyliau i stêm, gan ddirwyn i ben ym 1938. Mae cofnodion y Gymdeithas, yn cwmpasu’r cyfnod 1893 tan ei gau, yn cael eu cadw yn Archifau Morgannwg (cyf.: CL/MS 4.1166).

Yn y cyfnod a ddogfennir roedd y Gymdeithas yn cyfarfod yn fisol yn Nhafarn Goffi Stryd Bute ac, o 1904, yng Ngwesty’r Adelphi, hefyd ar Stryd Bute.  Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau cofnod, cofnodion ariannol, llyfrau cyfraniadau a llyfrau rheolau sy’n dyddio cyn y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n rhestru dyletswyddau swyddogion a’u cyflogau, arferion gwaith i amddiffyn cyflogaeth yr aelodau, dirwyon am dorri rheolau a dull o apelio yn erbyn dirwyon o’r fath.  Ceir manylion yr oriau gwaith, egwyl pryd bwyd a chyfraddau tâl am ddiwrnod o waith a goramser.  Roedd aelodau a wrthodai weithio ar hwyliau gwlyb i dderbyn cymorth ac roedd rheol ar wahân ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Gymdeithas, lle roedd aelodau i sefyll wrth annerch y Llywydd, ac ymatal rhag torri ar draws siaradwyr.  Byddai cosb o chwe cheiniog o ddirwy am regi neu iaith sarhaus neu ddiarddel o’r cyfarfod os oedd y tramgwyddwr yn parhau.

CL-MS-4-1166-web

Mae bwndeli o ohebiaeth hefyd wedi goroesi yn ymwneud â thrafodaethau gyda chyflogwyr, ceisiadau aelodaeth a Ffederasiwn Gwneuthurwyr Hwyliau Prydain ac Iwerddon.  Ffurfiwyd y Ffederasiwn ym mis Hydref 1889, gan gyfuno cymdeithasau cyfeillgar gwneuthurwyr hwyliau a fodolai eisoes mewn amrywiol borthladdoedd.  Mae adroddiadau misol o brif swyddfa’r ffederasiwn yn Hull wedi eu cynnwys yn archif Cymdeithas Caerdydd.  Mae’r rhain yn adrodd am gyflwr masnach mewn amrywiol borthladdoedd yng Ngwledydd Prydain gyda nodiadau a sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar faterion o bwys penodol.  Torrodd Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ymaith o’r ffederasiwn ym 1903, ac nid ail-ymunodd tan 1914. Mae cofnodion y Ffederasiwn Prydeinig o 1889, a gaiff eu cadw yn y Ganolfan Gofnodion, Llyfrgell Prifysgol Warwick, yn adlewyrchu pryderon diwydiant oedd ar drai, ac yn enwedig cyflwyno peiriannau a chyflogi gweithwyr heb eu hyfforddi, gan gynnwys gwragedd.

Bu’n rhaid i Wneuthurwyr Hwyliau Caerdydd wynebu’r un problemau.  Y penderfyniad cyntaf a gofnodir yn y llyfr cofnod ar 9 Gorffennaf 1901 yw:

that we finish no work that is commenced by machein while their is men out of work’.

Ym mis Ionawr 1914, cyn ail-ymuno â’r Ffederasiwn, derbyniodd negodwyr y Gymdeithas delerau cyflog ac oriau’r cyflogwyr, ar yr amod na chyflwynid peiriannau i unrhyw lofft hwyliau am un flwyddyn.  Cam cyntaf y Gymdeithas ar ail-ymuno â’r Ffederasiwn oedd gosod cynnig ger bron y gynhadledd flynyddol yn gwrthwynebu cynhyrchu nwyddau cynfas ar fwrdd stemars gan swyddogion a morwyr, yr oedd eu priod ddyletswyddau ‘yn fwy na digon, heb fynd i’r afael â dyletswyddau yn ymwneud â chrefft a masnach wahanol’.  Efallai ei bod yn arwyddocaol, o ystyried y blynyddoedd y bu y tu allan i’r Ffederasiwn, pan adolygwyd rheolau Cymdeithas Caerdydd ym 1914 er mwyn ei derbyn yn ôl, bod y cymal a oedd yn nodi y byddai unrhyw aelod a fyddai’n gweithio ar hwyl a wnaed â pheiriant ‘yn cael ei ddiarddel o holl fuddion y Gymdeithas hon’ wedi ei ollwng.

Cyflymwyd y newid gan y Rhyfel Byd Cyntaf.  Cyflwynwyd gweithwyr heb eu hyfforddi i nifer o grefftau i lenwi’r bwlch a adawyd gan y dynion yr oedd eu hangen ar y lluoedd arfog.  Mewn llofftydd hwyliau daeth peiriannau yn fwyfwy cyffredin ac yn aml gwragedd oedd yn eu gweithio.  Mae cofnodion y 1920au yn nodi cwynion yn erbyn cyflogwyr am fethu â chadw at gytundebau yn ymwneud â chyflogi gweithwyr benywaidd, ac mae llythyr sydd heb ddyddiad i J.S.Frazer o Frazer & Co, cwmni yr oedd gan y Gymdeithas berthynas dda ag ef fel rheol, yn nodi gwrthwynebiad y gweithwyr i’r ‘nifer diangen o wragedd a merched’ a gyflogwyd yn y llofftydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Er bod dyddiau gorau Cymdeithas y Gwneuthurwyr Hwyliau y tu cefn iddi cyn dechrau’r cofnodion sydd wedi goroesi, hyd at y 1920au mae’r cofnodion a’r cyfrifon yn nodi dadleuon bywiog a digwyddiadau cymdeithasol, cinio blynyddol, cyngerdd ysmygu ac, ym mis Gorffennaf 1904, picnic.  Trafodwyd cytundebau â chyflogwyr, mynychwyd cynadleddau a gwnaed cyfraniadau i gronfeydd streic canghennau eraill, i Gronfa’r Bad Achub ac i Bwyllgor y Blaid Lafur; gyrrwyd 2 swllt a 6 cheiniog at J.R. MacDonald ym 1904, er bod y cofnodion yn nodi na yrrwyd y cyfraniad o 5 swllt arfaethedig ym 1908.  Ni roddir unrhyw eglurhad.  Pan ymunodd y Gymdeithas â’r Ffederasiwn ym 1914 roedd 19 o aelodau (roedd 30 o aelodau gan gangen Grimsby yr adeg honno).  Yn ystod y cyfnod a ddogfennir, 27 oedd yr aelodaeth ar ei huchaf ym 1921 a 1922. Wedi hynny mae’r cofnodion yn dangos dirywiad graddol.  Daw cofnodion y cyfarfodydd yn fyrrach tan eu bod ond yn adrodd i’r cyfarfod agor am 7pm a chloi am 9pm.  Goroesodd y Gymdeithas y Ffederasiwn, a ddaeth i ben ym 1927, ond erbyn y 1930au prin fod aelodaeth y Gymdeithas yn ddigon i ddarparu’r swyddogion angenrheidiol, ac ym mis Tachwedd 1938 caewyd Clwb Gwneuthurwyr Hwyliau Caerdydd ‘oherwydd diffyg aelodau’.  Rhannwyd y gronfa a oedd yn weddill sef £2, 1 swllt ac 1 geiniog rhwng y pum aelod olaf.

 

Advertisements

Casablanca Club / Capel Bethel, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

rsz_d1093-2-048_bethel_chapel_casablanca_club

Mae Bethel yn dyddio nôl i 1840 pan sefydlwyd ysgol Sul ar Orllewin Stryd Bute gan aelodau Eglwys Fedyddwyr Saesneg Bethany, Heol Eglwys Fair.  Maes o law codwyd capel ar James Street ac, ym 1855, ffurfiwyd achos ar wahân pan drosglwyddodd pedwar ar ddeg o aelodau o Eglwys Bethany.

Cyn bo hir roedd angen lleoliad mwy.  Gwerthwyd y safle ar James Street a rhoddodd Ardalydd Bute brydles am 99 o flynyddoedd ar ddarn o dir yng nghornel de-orllewinol Sgwâr Mount Stuart lle codwyd adeilad capel ac ysgoldy newydd.  Pan ddaeth y les i ben ym 1955, symudodd Bethel i hen gapel yr Annibynwyr yn Pomeroy Street gerllaw, gan gau yn 2000 oherwydd gostyngiad yn nifer yr aelodau a oedd yn oedrannus gan mwyaf.

Yn dilyn adleoli’r eglwys, defnyddiwyd yr adeilad ar Sgwâr Mount Stuart fel Neuadd Bingo i ddechrau, cyn sefydlu clwb nos Casablanca yno ddiwedd y 1960au.  Mae’n ymddangos bod y clwb yn parhau i weithredu ym 1988, ond ei fod wedi cau erbyn 1991. Ers ei ddymchwel, mae’r safle wedi cael ei ddefnyddio fel maes parcio preifat.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/48]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, cofnodion, 1855-65 [D472/1/1]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, hanes yr egwlys gan Viv Purchase, Ysgrifennydd, 2000 [D472/11]
  • Cofnodion Capel Bedyddwyr Bethel Butetown, Caerdydd, adroddiad ar Gapel Bethel i Gapel Bedyddwyr Bethany, 1854 [DBAP/15/10/2]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo ar Sgwâr Mount Stuart, 1965 [DBDT/73/16]
  • Casgliad Ystad Bute Cyfreithwyr Debenham Tewson, Caerdydd, prydles ar dir ac eiddo a elwir Casablanca Club ar Sgwâr Mount Stuart, 1971 [DBDT/73/19]
  • Jenkins, J Austin & James, R Edward, The History of Nonconformity in Cardiff
  • http://www.coflein.gov.uk
  • https://www.facebook.com/rockcardiff/photos

Dymchwel Merton House, Caerdydd

Am dros ddau ddegawd, atebwyd anghenion ysbrydol morwyr yn ymweld â Chaerdydd gan hen long ryfel, Thisbe, a angorwyd yn Noc Bute y Dwyrain yn ystod y 1860au, a’i drawsnewid gan y Bristol Channel Mission.  Wrth i’r porthladd dyfu yn ei bwysigrwydd, cydnabuwyd yr angen am safle mwy a mwy parhaol ac fe gynigiodd Ardalydd Bute safle ar Gilgant Bute, gerllaw Basin Doc y Gorllewin (Roald Dahl Plass erbyn hyn) er mwyn codi eglwys a sefydliad i’r morwyr.

rsz_d1093-2-042

Wedi ei ariannu gan danysgrifiadau gan fusnesau a oedd yn gysylltiedig â’r Dociau (ac yn fwyaf nodedig, gan yr Ardalydd ei hun), a’i ddylunio gan E.W.M Corbett, cymeradwywyd cynlluniau’r eglwys a’r sefydliad ar 28 Awst 1890. Wrth edrych arno o’r tu allan, edrychai’r adeilad fel unrhyw eglwys Fictoraidd arall.  Y tu mewn fodd bynnag, swyddogaeth seciwlar oedd i’r llawr gwaelod, fel y sefydliad a’r ystafell ddarllen tra mai i fyny’r grisiau yr oedd yr eglwys gyda seddau i 454 o bobl.

Agorwyd sefydliad y morwyr yn swyddogol ar Ddydd Iau 19 Tachwedd 1891 gan Yr Arglwyddes Lewis, gwraig Syr William Thomas Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach).  Ar y dydd Mercher canlynol, cysegrwyd yr eglwys i’r Holl Saint gan Esgob Llandaf.

Parhaodd y sefydliad a’r eglwys i wasanaethu cymuned forwrol Caerdydd am ymhell dros hanner canrif.  Yn y 1950au, fodd bynnag, cafodd yr adeilad ei ailfedyddio’n Merton House, a daeth yn gartref i Treharne & Davies Ltd (Minton, Treharne & Davies Ltd erbyn hyn), cemegwyr dadansoddol a weithiai yn agos bryd hynny â’r diwydiannau glo a llongau yn Nociau Caerdydd.  Bellach yn gweithredu’n rhyngwladol, mae Minton wedi cadw cysylltiad â hen sefydliad y morwyr drwy drosglwyddo’r enw Merton House i’w pencadlys newydd ym Mhontprennau.

Mae darlun Mary Traynor yn darlunio dymchweliad yr adeilad ym 1990.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/42]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer eglwys a sefydliad i’r morwyr, Cilgant Bute, 1890 [BC/S/1/7802]
  • Carradice, Phil, Thisbe – the Welsh Gospel Ship (arlein ar http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/7338f21d-b47e-3197-9b1c-89ea87a4e4b8)
  • Western Mail, 20 Awst 1890; 26 Tach 1891
  • Evening Express, 25 Ion
  • Cardiff Times, 21 Tach 1891
  • South Wales Daily News, 14 Medi 1893
  • minton.co.uk
  • companycheck.co.uk
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1893-1967

Canolfan Islamaidd, Maria Street, Caerdydd

Mae gan Butetown un o gymunedau Mwslimaidd mwyaf hirsefydlog y DU yn Butetown, a sefydlwyd yn bennaf gan forwyr Somali a Yemenïaidd a gyrhaeddodd yn Nociau Caerdydd yng nghanol y 1800au.

Ar ddiwedd y 1930au, cafodd rhifau 17, 18 a 19 Peel Street eu haddasu i’w defnyddio fel canolfan ddiwylliannol ac addoli Islamaidd ac, ar 11 Tachwedd 1938, rhoddwyd caniatâd adeiladu i godi’r mosg pwrpasol cyntaf yng Nghymru – a ddyluniwyd gan y pensaer o Gaerdydd, Osborne V. Webb – y tu ôl i’r tri thŷ.  Mae rhai ffynonellau’n awgrymu na chafodd mosg Webb ei adeiladu mewn gwirionedd.  Efallai bod hynny’n wir, ond mae adroddiad papur newydd o gyfnod Blitz Caerdydd yn cyfeirio’n glir at ‘y mosg y tu cefn i’r bencadlys Islamaidd’.

Ar noson yr 2il Ionawr 1941, dioddefodd Caerdydd ei hymosodiad awyr gwaethaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd; cafodd 165 o bobl eu lladd a 427 eu hanafu, a chafodd mwy na 300 o dai eu dinistrio.  Roedd hwn yn gyrch a ddifrododd Eglwys Gadeiriol Llandaf a Mosg Peel Street.  Adroddodd y South Wales Echo fod tua 30 o bobl yn gweddïo yn y mosg pan gafodd ei daro.  Yn ffodus, mae’n debyg eu bod wedi dianc heb anaf difrifol.

Ar 18 Mawrth 1943, rhoddwyd caniatâd adeiladu ar gyfer strwythur newydd dros dro ar yr un safle.  Roedd y mosg ei hun yn gwt Tarran pren, tra bod y ganolfan ddiwylliannol gyfagos wedi’i lleoli mewn cwt Maycrete parod.  Cafodd y gwaith adeiladu ei ariannu drwy roddion gan y gymuned Fwslimaidd ynghyd â chymorth gan y Swyddfa Drefedigaethol a’r Cyngor Prydeinig.  Agorwyd y ganolfan newydd, sy’n dwyn yr enw Mosg Noor Ul Islam erbyn hyn, ar 16 Gorffennaf 1943.

rsz_d1093-2-21_to_44_039__islamic_centre_maria_street

I ddechrau, dim ond am flwyddyn y rhoddwyd caniatâd adeiladu ar gyfer y strwythur dros dro, ond cafodd ei ymestyn maes o law.  Fodd bynnag, ar 20 Tachwedd 1946 cymeradwywyd cynlluniau am Fosg newydd parhaol – eto wedi’i ddylunio gan Osborne V. Webb.  Mae’r adeilad traddodiadol hwn, gyda chryndo a minaretau, yn ffurfio’r brif ran o ddarlun Mary Traynor. Cymerodd yr adeilad le’r cwt Tarran.  Mae’n debyg bod y cwt Maycrete wedi’i gadw, ac mae rhan fechan o’r to i’w gweld yn y llun.

Un o sylfaenwyr Mosg Noor Ul Islam oedd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi, arweinydd y cymunedau Yemenïaidd ym Mhrydain ar ddiwedd y 1930au a’r 1940au ac, yn ddiweddarach, unigolyn blaenllaw yn y Mudiad Yemen Rydd.

Cafodd Peel Street ei dymchwel yn y 1960au gydag ailddatblygiad Butetown.  Dim ond y Mosg a’r Ganolfan Islamaidd oedd ar ôl, gyda mynediad ar hyd llwybr byr oddi ar Maria Street.  Cawsant eu dymchwel ym 1997 a’u disodli gan adeilad brics deulawr, sy’n parhau i wasanaethu’r gymuned Fwslimaidd leol.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: