Ymgyrch Llywodraeth Cymru i glodfori arfordir eithriadol Cymru yw Blwyddyn y môr 2018. Mae’n gyfle i Archifau Morgannwg glodfori a hyrwyddo un o’n projectau arloesol yr ydym yn rhan ohono mewn partneriaeth â’r Project Mynegai Rhestrau Criw http://www.crewlist.org.uk/.
Er 2012, mae dau grŵp o wirfoddolwyr wedi gweithio’n frwdfrydig yn glanhau ac yna’n trawsgrifio manylion criwiau a geir yn y cytundebau criw ym Mhorthladd Caerdydd. Hyd yma, maen nhw wedi cwblhau 1901 a bron â gorffen 1911. Mae Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg eisoes wedi rhoi cronfa ddata sy’n cofnodi criwiau a fanylir yn y rhestrau criw ar gyfer 1863, 1871, 1881 ac 1891. Ar hyn o bryd, mae’r cronfeydd data hyn ond ar gael yn fewnol a gellir chwilio amdanynt ar gais; fodd bynnag wedi’r gwaith golygu, byddant ar gael i bawb eu gweld ar-lein.
Rhaid oedd i feistr y llong gadw cytundebau’r criw ar ei bwrdd, eu cwblhau, a’u trosglwyddo wedyn i’r Cofrestrydd Cyffredinol Llongau a Morwyr ar ddiwedd y daith. Mae’r cytundebau’n cofnodi manylion pob aelod o griw’r llong, gan gynnwys ei fan geni, ei alwedigaeth, y llong ddiwethaf iddo wasanaethu arni, y dyddiad yr ymunodd â’r criw a’r rheswm dros adael os gadawodd cyn diwedd y daith. Yn ychwanegol, mae cofnod o i ble roedd y llong yn hwylio, a beth oedd y cargo ar ei bwrdd. Mae gan Archifau Morgannwg gytundebau criw’r llongau a gofrestrwyd yng Nghaerdydd (1863-1913) er bod llawer o’r meistri llongau a’r criw yn y cytundebau hyn yn dod o i ffwrdd. Mewn rhai achosion, ymgartrefodd y dynion hyn yng Nghaerdydd, ond parhau i deithio a wnaeth rhai eraill.
Ceir yr wybodaeth hon yn y cytundebau:
- enw aelod y criw
- oedran
- tref ei eni
- enw’r llong ddiwethaf y bu arni a’i phorthladd cofrestru
- dyddiad ymuno â’r llong
- galwedigaeth a chyflog
- enw’r prentisiaid ar y bwrdd
- manylion rhyddhau, dyddiad a lle
- llofnod aelod y criw
- genedigaethau, marwolaethau a phriodasau (os bu rhai) ar y bwrdd.
Mae’r cytundeb hefyd yn arddangos stampiau swyddfa’r conswl yn y porthladdoedd ar hyd y daith, sy’n golygu y gallwn olrhain cwrs a hyd y daith.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhestrau criw (DCA) ar gael yng nghatalog Archifau Morgannwg, Canfod http://calmview.cardiff.gov.uk/.