Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd Peter Steffano, siopwr gêr llongau 51 oed yn byw gyda’i deulu yn rhifau 56, 57 a 58 Stryd Bute, Caerdydd. Ar yr aelwyd hefyd yr oedd Joseph Brailli, 23 oed a aned yn Awstria, a oedd yn glerc yn y siop longau ac a oedd yn briod â merch Steffano, Sophia. Erbyn 1871, roedd y busnes bellach dan yr enw Stefano and Brailli, wedi symud i 63 Stryd Bute; roedd teulu’r Brailli yn byw yn rhif 65 a’r Steffanos yn rhif 66.
Bu farw Peter Steffano ym 1874 ac, erbyn 1881, roedd teulu’r Brailli wedi symud eu cartref i Crockherbtown (Heol y Frenhines erbyn hyn). Fodd bynnag, mae’n ymddangos iddynt gadw eu safle busnes oherwydd, fis Ebrill 1887, derbyniodd Joseph ganiatâd yr awdurdod lleol i ailadeiladu 64-67 Stryd Bute.
Dyluniwyd yr adeilad newydd gan E M Bruce Vaughan a rhoddwyd yr enw Victoria Buildings arni. Roedd lle i siop ar y llawr gwaelod gyda gofod warws yn y seler ac yng nghefn y llawr cyntaf. Swyddfeydd oedd ar weddill y llawr cyntaf a’r ail lawr i gyd. Doedd dim lle preswyl yno mwyach.
Mae cyfeiriadur o 1884 yn dal i restru Joseph Brailli fel masnachwr gêr llongau ar safle Stryd Bute, ond erbyn 1891 Thomas Harper and Sons oedd yn rhedeg y busnes. Hefyd wedi eu rhestru yn Adeiladau Fictoria yn y flwyddyn honno roedd Jacobs & Co, sef siop ddillad, Foster Hain & Co, broceriaid llongau a James Evans & Co Limited, sef perchnogion pyllau glo. Roedd cwmni Thomas Harper yn dal i fod yno ym 1955, erbyn hynny roedd yr uned siop ar y llaw dde yn gartref i gangen leol George Angus, gwneuthurwyr beltiau diwydiannol ac ystod o gynnyrch arall gan gynnwys seliau olew. Cwmnïau llongau oedd yn parhau i feddiannu’r swyddfeydd, ynghyd â Gwasanaeth Mewnfudo Ei Mawrhydi. Erbyn 1972, y rhai a oedd yno oedd Reg Oldfield, y ffotograffydd, Ken Jones, y bwci, a J.F.Griffiths, gwerthwyr deunyddiau adeiladwyr. Mae arwyddion yn narluniad Mary Traynor yn awgrymu fod y ddau gwmni diwethaf wedi aros yno tan ddiwedd oes yr adeilad.
Yn fras, safle Adeiladau Fictoria yw’r ardal o dir agored y tu cefn i rifau 5,6,7 ac 8 Cilgant Bute (Gwesty Jolyon’s, tŷ bwyta Duchess of Delhi a thafarn yr Eli Jenkins).
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/32]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau ar gyfer ailadeiladu 64-67 Stryd Bute, 1887 [BC/S/1/6250]
- Cyfrifiad 1861-1891
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Calendr Profiant Genedlaethol Cymru a Lloegr 1874
- Williams, Stewart, The Cardiff Book, cyf. 2 (t.185)
- http://www.gracesguide.co.uk/George_Angus_and_Co
Adeiladau Victoria, Stryd Bute, Caerdydd - Archifau Morgannwg