Wedi ei ddylunio gan Alfred Armstrong, yr adeilad hwn ar ochr orllewinol Plas Dumfries oedd cartref gwreiddiol Ysgol Berchenogol Caerdydd. Fe’i sefydlwyd ym 1875 gyda lle i 300 o ‘sgoloriaid, cynigiai ‘addysg gadarn a rhyddfrydol am gost rhesymol’, gan anelu at baratoi bechgyn ar gyfer y brifysgol, y gwasanaethau morwrol, milwrol a sifil, ac hefyd ar gyfer gyrfaoedd gwyddonol, proffesiynol a masnachol.
Ymddengys i’r ysgol fynd i drafferthion ariannol yn gymharol fuan. Erbyn 1886, ceisiodd y llywodraethwyr drosglwyddo’r ysgol i elusen addysgol leol tra, ym 1891, cynghorwyd rhieni ‘yn sgil diffyg cefnogaeth’, y byddai’r ysgol yn cau ar 31 Gorffennaf y flwyddyn honno. Yn dilyn cyfarfod cyffredinol arbennig ym mis Hydref 1992, cafodd y cwmni ei ddirwyn i ben a gwerthwyd yr adeilad i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy.
I ddechrau, ymddengys i’r Brifysgol ddefnyddio’r safle ar gyfer dosbarthiadau celf ond, erbyn 1895, roedd yn Ysgol Dechnegol, gan barhau felly tan y Rhyfel Byd Cyntaf. O 1916 hyd tua 1950, bu’n gartref i swyddfeydd y llywodraeth, gan gynnwys y Comisiwn Yswiriant Iechyd Gwladol, Bwrdd Iechyd Cymru a’r Weinyddiaeth Bensiynau.
Yn ystod y 1950au, Symudodd Undeb y Myfyrwyr yma o 51 Plas-y-Parc, gan aros yma hyd nes codi eu hadeilad ar Heol Senghennydd yn y 1970au. Yn dilyn ei ddymchwel, adeilad swyddfa fodern sydd ar y safle ar Blas Dumfries, sef Haywood House.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/5]
- Bwrdesitref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun o Ysgol Berchenogol, Plas Dumfries, 1875 [BC/S/1/901021]
- Bwrdesitref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau o Goleg Technegol Caerdydd, Plas Dumfries, 1895 [BC/S/1/10923.2; BC/S/1/10923.1]
- Cardiff Times, 30 Mai 1874
- South Wales Echo, 18 Tachwedd 1886
- Kelly’s Directory of Monmouthshire and South Wales, 1891
- Western Mail, 11 Mai 1891
- The London Gazette, 25 Tachwedd 1892, t. 6937
- Wright’s Cardiff Directory, 1893-94
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd, 1908 – 1964
- Stewart Williams, Cardiff Yesterday, cyf. 11, delwedd 156
Undeb y Myfyrwyr, Plas Dumfries, Caerdydd - Archifau Morgannwg