Adeiladau Victoria, Stryd Bute, Caerdydd

Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd Peter Steffano, siopwr gêr llongau 51 oed yn byw gyda’i deulu yn rhifau 56, 57 a 58 Stryd Bute, Caerdydd.  Ar yr aelwyd hefyd yr oedd Joseph Brailli, 23 oed a aned yn Awstria, a oedd yn glerc yn y siop longau ac a oedd yn briod â merch Steffano, Sophia.  Erbyn 1871, roedd y busnes bellach dan yr enw Stefano and Brailli, wedi symud i 63 Stryd Bute; roedd teulu’r Brailli yn byw yn rhif  65 a’r Steffanos yn rhif 66.

Bu farw Peter Steffano ym 1874 ac, erbyn 1881, roedd teulu’r Brailli wedi symud eu cartref i Crockherbtown (Heol y Frenhines erbyn hyn).  Fodd bynnag, mae’n ymddangos iddynt gadw eu safle busnes oherwydd, fis Ebrill 1887, derbyniodd Joseph ganiatâd yr awdurdod lleol i ailadeiladu 64-67 Stryd Bute.

rsz_d1093-2-21_to_44_032_griffiths_partnersken_jones_ltd_64-67_bute_street

Dyluniwyd yr adeilad newydd gan E M Bruce Vaughan a rhoddwyd yr enw Victoria Buildings arni.  Roedd lle i siop ar y llawr gwaelod gyda gofod warws yn y seler ac yng nghefn y llawr cyntaf.  Swyddfeydd oedd ar weddill y llawr cyntaf a’r ail lawr i gyd. Doedd dim lle preswyl yno mwyach.

Mae cyfeiriadur o 1884 yn dal i restru Joseph Brailli fel masnachwr gêr llongau ar safle Stryd Bute, ond erbyn 1891 Thomas Harper and Sons oedd yn rhedeg y busnes.  Hefyd wedi eu rhestru yn Adeiladau Fictoria yn y flwyddyn honno roedd Jacobs & Co, sef siop ddillad, Foster Hain & Co, broceriaid llongau a James Evans & Co Limited, sef perchnogion pyllau glo.  Roedd cwmni Thomas Harper yn dal i fod yno ym 1955, erbyn hynny roedd yr uned siop ar y llaw dde yn gartref i gangen leol George Angus, gwneuthurwyr beltiau diwydiannol ac ystod o gynnyrch arall gan gynnwys seliau olew.  Cwmnïau llongau oedd yn parhau i feddiannu’r swyddfeydd, ynghyd â Gwasanaeth Mewnfudo Ei Mawrhydi.  Erbyn 1972, y rhai a oedd yno oedd Reg Oldfield, y ffotograffydd, Ken Jones, y bwci, a J.F.Griffiths, gwerthwyr deunyddiau adeiladwyr.  Mae arwyddion yn narluniad Mary Traynor yn awgrymu fod y ddau gwmni diwethaf wedi aros yno tan ddiwedd oes yr adeilad.

Yn fras, safle Adeiladau Fictoria yw’r ardal o dir agored y tu cefn i rifau 5,6,7 ac 8 Cilgant Bute (Gwesty Jolyon’s, tŷ bwyta Duchess of Delhi a thafarn yr Eli Jenkins).

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/32]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynlluniau ar gyfer ailadeiladu 64-67 Stryd Bute, 1887 [BC/S/1/6250]
  • Cyfrifiad 1861-1891
  • Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
  • Calendr Profiant Genedlaethol Cymru a Lloegr 1874
  • Williams, Stewart, The Cardiff Book, cyf. 2 (t.185)
  • http://www.gracesguide.co.uk/George_Angus_and_Co

 

 

Advertisements

South Wales & West of England Standard Manufacturing Company Ltd., Stryd Bute a Herbert Street, Caerdydd

Mae’n debyg bod South Wales & West of England Standard Manufacturing Company Ltd. wedi dechrau gweithredu yng Nghaerdydd fymryn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ni cheir unrhyw gyfeiriad ato cyn 1913, ond y flwyddyn honno wnaeth Cyfarwyddiadur y Western Mail restru’r cwmni yn 43 Bute Street. Erbyn 1915, roedd y cwmni’n meddiannu ar safle mawr ar gornel yn wynebu Bute Street a Herbert Street, lle’r oedd yn cynhyrchu ac yn cyflenwi oferôls, dyngarîs, driliau, crysau, singledi a siwtiau oel caci a gwyn. Ym 1915, cafodd y cwmni ei gontractio i gynhyrchu miloedd o gitbagiau ar gyfer Corfflu’r Fyddin Gymreig am 1/11½d (ychydig yn llai na 10 ceiniog) yr uned.

D1093-2-21 to 44 021 (SWARE)

Ym 1940, cafodd y cwmni ganiatâd i adeiladu estyniad i’w ffatri, a chredir bod darlun Mary Traynor yn portreadu wyneb yr estyniad hwn ar Herbert Street. Lluniwyd y cynlluniau ar gyfer yr estyniad gan T. Elvet Llewellyn, pensaer o Gaerdydd.

Erbyn y 1950au, roedd y cwmni’n marchnata ei gynhyrchion o dan yr enw brand Stamana (cywasgiad o STAndardMANufActuring yn ôl pob tebyg) ac mae cyfeirlyfrau yn dangos ei fod yn dal i weithredu o’r un safle – yr adnabuwyd erbyn hynny yn Stamana House – yn y 1970au. Bellach, mae’r adeilad wedi cael ei ddymchwel; mae rhan o’i safle wedi cael ei defnyddio i ledaenu’r ffordd, ac mae’r gweddill yn llecyn gwyrdd wedi’i dirlunio erbyn hyn ar ochr ddwyreiniol Stryd Bute rhwng Herbert Street a’r llwybr i gerddwyr a beicwyr sy’n arwain o dan reilffordd Bae Caerdydd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/21]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer estyniad i adeilad ffatri premises, 42 Bute Street, 1940 [BC/S/1/34142]
  • Western Mail Cardiff Directory, 1913
  • The City and Port of Cardiff – Official Handbook, 1955
  • Kelly’s Directory of Cardiff, 1972
  • http://cymru1914.org/cy/view/archive_file/3907059/3