Mae casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg yn cynnwys llawer o negatifau ffotograffig ar blatiau plastig a gwydr.
Yn y negatifau plât gwydr, rhyw 5440 ohonyn nhw i gyd, mae pob math o bethau gan gynnwys lluniau o dwneli, glowyr wrth eu gwaith, offer, merlod y pyllau glo, canolfannau meddygol, digwyddiadau cymdeithasol a chynnwys amrywiol arall.
Yn rhan o broject Gwaed Morgannwg, caiff y lluniau hyn eu catalogio, eu glanhau, eu digideiddio, eu cadw a’u hailgartrefu er mwyn i’r cyhoedd eu gweld nhw.
Dim ond glanhau sydd ei angen ar y rhan fwyaf o’r negatifau plât gwydr cyn cael eu digideiddio, ond mae mwy o ôl traul ar eraill. Mae nifer o’r platiau wedi torri, neu mae’r emylsiwn wedi codi neu ddifrodi (Llun 5). Bydd angen rhagor o ddatrysiadau tai mwy cefnogol neu driniaeth gadwraeth fwy dwys.

Llun 5
Rhaid glanhau negatifau plât gwydr sydd heb eu difrodi cyn eu digideiddio a’u hailgartrefu. Mae baw ar yr eitemau hyn yn gallu peri i’w cyflwr waethygu dros y tymor hir a gall fod yn weladwy ar y ddelwedd ddigidol. Mae’n bwysig glanhau’r platiau hyn yn drwyadl cyn dechrau ar unrhyw gamau eraill o’r broses gadw.
I lanhau’r platiau, mae teclyn chwythu aer yn symud llwch a baw rhydd ar ochr yr emylsiwn ac ar ochr y gwydr. Drwy ddefnyddio’r offeryn hwn, mae modd glanhau ochr emylsiwn y plât heb risg o grafu’r llun. Nesaf, defnyddir ffyn gwlân cotwm wedi’u lapio mewn papur sidan, a’u trochi mewn cymysgedd o ddŵr ac ethanol i dynnu llwch a saim o ochr wydr y platiau. Mae olion yn cael eu tynnu â ffon gwlân cotwm sych.

Llun 6
Mae’r platiau glân yn cael eu hailgartrefu mewn ffolderi wnaed o ddeunydd sy’n bodloni safonau’r Prawf Gweithgarwch Ffotograffig. Rydym ni’n defnyddio ffolderi o feintiau gwahanol ar gyfer platiau sydd mewn fformatau amrywiol yn ôl yr angen (Llun 6). Câi’r eitemau hyn eu cadw mewn amlenni papur gwydr yn wreiddiol, sy’n fath o bapur caboledig sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cadw negatifau ffotograffig. Mae papur gwydr yn ddeunydd cadw amhriodol gan ei fod yn melynu gyda threigl amser a gall ddifrodi’r emylsiwn ffotograffig (Llun 7).

Llun 7
Ar ôl eu glanhau, mae’r platiau’n cael eu sganio ac mae delwedd bositif yn cael ei chreu. Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at gatalog yr Archifau.

Llun 8
Mae angen cadw negatifau platiau gwydr sydd wedi torri mewn cas sy’n cadw’r darnau mân ac sydd hefyd yn eu cadw ar wahân er mwyn sicrhau na chaiff yr emylsiwn bregus ei ddifrodi wrth i’r teilchion gwydr gyffwrdd. Mae’r cas newydd yn cynnwys sbwng plasterzote o fewn amgaead cerdyn sydd heb ei fyffro. Mae’r cas newydd hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cadw’r negatifau’n ddiogel a’u gweld yn ôl yr angen heb dynnu’r teilchion unigol (Lluniau 8 a 9). Mae modd defnyddio’r cas syml hwn i gadw’r negatifau dros dro neu dros y tymor hir a pharhau i’w trin a’u hadfer eto yn y dyfodol.

Llun 9
Bydd y negatifau sydd wedi’u difrodi’n cael eu sganio a’u digideiddio, a bydd hynny’n lleihau’r angen i’w cyffwrdd ac yn sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld y delweddau gwych hyn.
Stephanie Jamieson, Cadwraethwr Prosiect Glamorgan’s Blood