Adeiladu Stadiwm y Mileniwm

D1093_2_53 compressed

Ym 1878, rhoddwyd caniatâd i Glwb Pêl-droed Caerdydd (Clwb Rygbi Caerdydd yn ddiweddarach) a Chlwb Criced Caerdydd i ddefnyddio Parc yr Arfau yng Nghaerdydd ar rhent rhad, gan drydydd Ardalydd Bute. Ym 1922, cyfunodd y ddau glwb i ffurfio Clwb Athletau Caerdydd, a aeth yn ei flaen wedyn i brynu’r tir oddi wrth deulu’r Bute ar y ddealltwriaeth ei fod i’w gadw at ddibenion hamdden. Hyd at ddiwedd y 1960au, defnyddiwyd rhan ogleddol y safle i chwarae criced a’r rhan ddeheuol i chwarae rygbi, gyda Chymru yn chwarae gemau rhyngwladol cartref ar yr un cae â Chlwb Rygbi Caerdydd – er, cyn 1953, chwaraewyd rhai gemau yn Abertawe.

Ym 1968, daeth rhydd-ddaliad y tir deheuol i ddwylo Undeb Rygbi Cymru (URC). Symudodd y criced i Erddi Sophia a thrawsnewidiwyd eu hen gae yn gae newydd ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd. Dechreuodd gwaith wedyn ar ailddatblygu safle’r de i greu Stadiwm Cenedlaethol i’w ddefnyddio’n unswydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol. Ar ôl ei adeiladu mewn sawl cam, fe’i cwblhawyd ym 1984 gyda lle i 65,000, ond a gwtogwyd yn ddiweddarach i 53,000 am resymau diogelwch.

O fewn deng mlynedd, roedd URC yn archwilio posibiliadau ar gyfer ailddatblygu pellach ar y stadiwm, ond gyda nifer y seddi bellach yn sylweddol is na stadia cenedlaethol Lloegr a’r Alban. Cynyddodd y pwysau pan ddewiswyd Cymru i roi cartref i Gwpan Rygbi’r Byd ym 1999. Y datrysiad oedd stadiwm newydd ar yr un safle yn fras. Fodd bynnag, roedd prynu tir gerllaw yn golygu alinio’r cae o’r gorllewin-dwyrain i’r gogledd-de, a chynyddu nifer y seddi i 72,500. Byddai to symudol gan y stadiwm newydd, fyddai’n ei alluogi i fod yn lleoliad aml-ddefnydd.

Dyluniwyd y stadiwm gan Lobb Sport Architecture. Y prif gontractwr oedd John Laing Construction a’r peirianwyr strwythurol – a ddyluniodd y to symudol – oedd WS Atkins. Aeth 56,000 tunnell o goncrid  a dur i mewn i’r project rhwng 1997 a 1999. Er mwyn darparu’r nifer angenrheidiol o seddau a chydymffurfio â chyfyngiadau o amgylch y safle, mae’r eisteddleoedd yn gwyro am allan wrth godi o’r ddaear gan greu ffurf bensaernïol ddramatig.

Cyfanswm y cost adeiladu oedd £121 miliwn, gyda £46 miliwn o hwnnw yn arian loteri a roddwyd gan Gomisiwn y Mileniwm. Cafodd hyn ei gydnabod yn enw’r stadiwm tan 2015. Fodd bynnag, ym mis Medi’r flwyddyn honno, cyhoeddodd URC fargen nawdd dros 10 mlynedd gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality, ac yn sgil hynny, newidiodd yr enw i ‘Stadiwm y Principality’ yn 2016.

Yn ogystal â rygbi’r undeb, mae Stadiwm y Mileniwm wedi croesawu amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys rygbi’r gynghrair, rasio beiciau modur, bocsio, cymal o Bencampwriaeth Ralïo’r Byd, criced dan do, digwyddiadau marchogaeth, a gemau pêl-droed rhyngwladol. Chwaraewyd chwech rownd derfynol Cwpan yr FA a sawl gêm bêl-droed bwysig arall yno tra oedd Stadiwm Wembley yn cael ei ail-ddatblygu rhwng 2002 a 2007.  Chwaraewyd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn y Stadiwm yn 2017.

Bob blwyddyn, cynhelir sawl digwyddiad cerddorol byw ynghyd â nifer o artistiaid rhyngwladol blaenllaw yn perfformio. Yn hynod nodedig fe fu cyngerdd elusennol a gafodd ei gynnal ar 22 Ionawr 2005. Fe’i trefnwyd mewn cwta tair wythnos, denodd lu o sêr a chododd £1.25 miliwn i gynorthwyo’r ymdrechion cymorth yn dilyn tswnami ddiwrnod gŵyl San Steffan yn Ne Asia.

Ar lefel mwy sylfaenol o ddydd i ddydd, mae’r stadiwm hefyd yn cynnig ystod o gyfleusterau ar gyfer cynadleddau, ciniawau, gwleddoedd, dawnsfeydd, partïon a gwleddoedd priodas.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd:

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s