Pobl yn erbyn Cynnydd: Y Cyfnod Rhwng y Glo a’r Olew ym Mhrydain

Ar ddechrau’r 20fed ganrif, Prydain oedd prif bŵer diwydiannol y byd. Dyna oedd y bobl gyntaf i fabwysiadu’r diwydiant gan ddal grym dros ymerodraeth fyd-eang a’r fasnach ledled y byd.  Wrth i foneddigion sefydlu’r trefedigaethau hyn a lledaenu dylanwad Prydain, ffynhonnell wirioneddol ‘pŵer y wlad’ oedd ei phyllau glo, a oedd yn cynhyrchu 257 miliwn o dunelli o lo’r flwyddyn ar eu gorau.  Glo oedd tanwydd ei llongau masnachol ar draws y byd, glo roddodd fywyd i galonnau’r peiriannau mewn ffatrïoedd, a phŵer i’r llongau rhyfel mawr ei llynges.

Fodd bynnag, daeth tanwydd newydd i’r brig, un a fyddai’n gweddnewid Prydain a’r byd am byth; olew, yr aur du newydd. Byddai’n gwneud llynges Prydain yn gryfach nag erioed, ond hefyd yn fwy agored i niwed, gan ei harwain at ddibyniaeth ar wledydd tramor am ei thanwydd gan nad oedd digon o gronfeydd olew ar diroedd a reoleiddiwyd gan Brydain. Rhoddodd y Capten Bernard Acworth rybudd yn erbyn ‘dibyniaeth ar olew’ y wlad mewn araith yng Nghlwb Busnes Caerdydd ac arweiniodd hyn at lu o ddarnau yn y Western Mail yn rhoi barn ar ddefnydd olew yn hytrach na glo ar gyfer y llynges.

dcomc287---web

Mae’r casgliad swmpus yn Archifau Morgannwg yn cynnig golwg ar yr adeg allweddol hon yn hanes diwydiannol Cymru. Drwy’r cyfrolau o ddarnau papurau newydd, gallwn ni ddarganfod gwahanol feddyliau a barn ar y mater o’r cyfnod hwnnw. Mae un o’r cyfrolau hynny yn dangos, ymhlith llawer o bynciau eraill, y drafodaeth o amgylch y newid o lo i olew a hydrogenu.

dncb-15-6-18---web

Mae papurau eraill, megis llyfr cofnodion y Pwyllgor Ymchwilio i Lo, yn trafod cynlluniau ar gyfer gweithgynhyrchu olew o’r glo yn ne Cymru, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ddichonolrwydd ac ymarferoldeb o greu ffatrïoedd i ddefnyddio dulliau hydrogenu a charboneiddio i gynhyrchu olew ysgafn (e.e. petrol) ac olew trwm (olew crai).

didc-11 pg2---web

Fodd bynnag ni ddwynodd hyn ffrwyth, oherwydd cymhlethdodau a phrisiau uchel y prosesau.

Y newid fwyaf fodd bynnag, fyddai i fywydau y cannoedd a miloedd o lowyr a fyddai’n mynd yn ddi-waith er lles y cynnydd, yn bygwth i ddileu cannoedd o gymunedau bach ond cryf sydd wedi sicrhau’r glo i’r genedl ers cenedlaethau. Efallai gan ystyried hyn, siaradodd cyfranwyr at y cyhoeddiad poblogaidd ym maes glo, Ocean and National Magazine, am y mater hwnnw nifer o weithiau hefyd, ac roedd erthyglau yn cadw’n gyfredol â’r ddadl, gan barhau i hyrwyddo’r diwydiant glo bob amser.

4. d1400-9-7-3 web ready

Ar ôl 1914, dechreuodd y cynhyrchiad glo ostwng, yn raddol yn gyntaf, ond gan leihau yn flynyddol bron. Er bod y gorsafoedd pŵer yn dal i gymryd glo, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd un o gwsmeriaid mwyaf y pyllau glo ymadael a dilynodd eraill yn fuan wrth i longau ar draws y byd ymuno â’r newid. Drwy ddogfennau’r Archifau, rydym yn gallu cofnodi y newidiadau hyn a gweld ymateb y bobl a sut gwnaethant addasu i’r bygythiad newydd hwn.

Adam Latchford, Hyfforddai

Ffotograffau Maes Glo De Cymru – Datrys y Dirgelwch!

Diolch i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda gwybodaeth ynglŷn â’u casgliad a oedd heb ei adnabod o’r blaen o ffotograffau maes glo de Cymru. Bu’r ymateb yn anhygoel ac rydym wir yn gwerthfawrogi pobl yn neilltuo’r amser i gysylltu â ni.

rsz_d1544-1-16

Mae ymateb cyhoeddus wedi ein galluogi i nodi’r ddelwedd hon yn gywir fel Roy Lewis, Trydanwr y Talcen Glo, D1544/1/16

Trosglwyddwyd y casgliad hwn i Archifau Morgannwg o ON yn Archifau Fife yn gynharach eleni ac mae’r ffotograffau’n danogs dynion sy’n gweithio ym Mhwll Glo Abercynon, golygfeydd a dynnwyd yn ystod y Streic y Glowyr yn 1984/85 yn nhipiau glo Penrhiwceiber a golygfeydd o byllau glo segur. Nid oedd gennym unrhyw wybodaeth am y ffotograffydd ac ac roedd rhai o’r bobl o fewn y ffotograffau heb eu hadnabod.

Yn dilyn ymgyrch y cyfryngau, rydym bellach yn gwybod mai ffotograffydd y casgliad yw Leslie Price, glowr blaenorol ym Mhwll Glo Abercynon a ffotograffydd amatur brwd. Daeth Mr Price i’r archif yr wythnos diwethaf i siarad â ni am y ffotograffau a thrafod y straeon y tu ôl i’r delweddau a’i angerdd am ffotograffiaeth.

Louise with Les Price 2

Leslie Price, y ffotograffydd yn cwrdd â Louise Clarke, Archifydd Gwaed Morgannwg (llun drwy garedigrwydd Matt Murray, BBC)

Dechreuodd Mr Price dynnu ffotograffau o’r pyllau glo yn y 1960au. Ei nod oedd dweud y straeon o faes glo de Cymru a’i bobl. Ymddangosodd ei ddelweddau mewn nifer o arddangosfeydd yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys mewn amgueddfa cloddio yn Fife, a dyna pam y daethpwyd o hyd iddynt yn Yr Alban.

Yn dilyn ymatebion gan weithwyr y Pwll Glo blaenorol yn Abercynon ac aelodau o’u teuluoedd, rydym wedi llwyddo i gadarnhau, newid ac ychwanegu enwau i wynebau’r rhai a ddangosir yn y ffotograffau. Ar hyn o bryd rwy’n coladu’r wybodaeth, yn barod i ddiweddaru’r disgrifiadau yn ein catalog. Tynnodd Mr Price y ffotograffau hyn yn fuan cyn cau Pwll Glo Abercynon ym 1988.

rsz_d1544-1-1

Mae ymateb cyhoeddus wedi ein galluogi i nodi’r ddelwedd hon yn gywir fel Terry Northam, Ffitiwr, D1544/1/1   

Tynnwyd y ffotograffau codi glo gan Mr Price ar amrywiaeth o adegau drwy gydol streic glowyr 1984/85. Tynnwyd y golygfeydd yn nhip pwll glo Cwmcynon, Penrhiwceiber. Mae rhai o’r ffotograffau yn dangos y baddondy ar frig y pwll, a adwaenwyd hefyd fel y tŷ gwyn. Caeodd Pwll Glo Cwmcynon ym 1949. Yn garedig iawn mae Mr Price wedi rhoi delwedd arall o’r gyfres hon o ffotograffau i Archifau Morgannwg.

rsz_d1544-4-18

‘The Coal Run’, D1544/4/18

Hoffem ddiolch i Leslie am ddod i mewn i’r archif a rhoi’r cefndir i’w waith i ni. Hefyd hoffem ddiolch i bawb a gysylltodd â ni. Os oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am y ffotograffau byddem wrth ein boddau o hyd i gael clywed gennych. Gellir gweld y casgliad yn ein catalog, cyfeirnod D1544.

Cau’r Glofeydd: Diwedd Oes

Mae cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’i ragflaenwyr a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos cyfnodau da a gwael y diwydiant glo yn Ne Cymru. Drwy gofnodion ariannol gwelwn sut yr oedd cwmnïau mawr y pyllau glo fel Powell Duffryn ac Ocean Coal yn perfformio ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed.

rsz_d1400-2-5-1

Tudalen o Grynodebau Cost Glo’r Glofeydd, Ocean Coal Co. Ltd, 1900-1905 (D1400/2/5/1)

Erbyn 1947 a gwladoli’r diwydiant gwelwn gofnodion sy’n dangos y cynlluniau buddsoddi ac ad-drefnu enfawr y credai’r rhai oedd yn gyfrifol am y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddent yn sicrhau’r diwydiant am flynyddoedd i ddod.

Yn anffodus, mae’r llyfrau hanes yn dweud wrthym nad oedd y dyfodol yn ddisglair i’r diwydiant glo, yn groes i’r honiad a wnaed ar daflen hyrwyddo Cloddfa’r Betws (Sir Gaerfyrddin), oherwydd llai na hanner can mlynedd ar ôl gwladoli, daeth diwydiant glo’r DU i ben.

rsz_dncb-5-1-5-2

Glofa Drifft Betws, taflen o’r lofa, Ion 1984 (DNCB/5/1/5/2)

Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg yn dangos y camau a gymerodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau pan ddaeth y glofeydd i ben. Mae cofrestr cau pyllau glo sy’n dyddio rhwng 1948 a1970 yn rhoi gwybodaeth am allbwn, rhesymau dros gau, nifer y personél, nifer y bobl a drosglwyddwyd neu a gadwyd, ffigurau dileu swyddi amcangyfrifedig, trafodaethau ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr, rhybuddion swydd a roddwyd i ddynion a dyddiad cau’r pyllau. Ategir y trosolwg o’r rhesymau dros gau hwn gan ffeiliau sy’n ymwneud â chau glofeydd unigol, sy’n cynnwys adroddiadau cau, cofnodion, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd a chyfrifon elw a cholled.

rsz_dncb-67-5-20_-pg1

Tudalen o gofrestr cau pyllau glo’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, 1948-1970 (DNCB/67/5/20)

Mae datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd yn ymwneud â chau Tŷ Mawr/Lewis Merthyr, Coegnant, Brynlliw/Morlais, Britannia ac Aberpergwm i’w gweld yn ffeiliau’r adran Cysylltiadau Cyhoeddus. Yn ogystal â hyn, ceir ffeil cysylltiadau cyhoeddus hefyd sy’n cynnwys nodiadau briffio a gohebiaeth ar gau glofeydd ac anghydfodau cyflogau a ffeil yn ymwneud â chau glofeydd, sy’n cynnwys rhestrau amrywiol o lofeydd sy’n rhoi manylion y dyddiadau y gwnaethant agor a’r dyddiad a’r rheswm dros gau.

Ar ôl iddynt gau, cafodd rhai glofeydd fywyd newydd. Mae ffeil sy’n dyddio rhwng 1977 a 1987 yn cynnwys gohebiaeth ynghylch tynged glofa Lewis Merthyr. Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a chynlluniau sy’n ymwneud â’r glofa ynghyd â gohebiaeth ynghylch gwerthu’r tir a chynigion i’w throi’n amgueddfa treftadaeth. Efallai bod rhai ohonoch wedi bod i’r safle ar ei ffurf bresennol fel Parc Treftadaeth y Rhondda.

DNCB-14-1-17

Glofa Lewis Merthyr, tua 1950 (DNCB/14/1/17)

Roedd cau’r glofeydd yn ddiwedd cyfnod a ffordd o fyw i’r rhai ym maes glo De Cymru. Er mwyn coffáu’r ffordd hon o fyw a diwedd y diwydiant, cyhoeddwyd taflenni cofroddion yn dathlu llwyddiannau’r glofeydd ar drothwy eu cau.  Mae enghreifftiau o lofeydd Penalltau a Maerdy wedi goroesi yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB-67-12-4 Mardy brochure

Cofraglen, cau Glofa Maerdy, 1990 (DNCB/5/3/4)

Mae ein catalog Canfod yn rhoi mwy o wybodaeth am yr eitemau hyn a chofnodion eraill sy’n ymwneud â chynnydd a chwymp y diwydiant glo yn Ne Cymru. Dechreuwch eich chwiliad gyda chasgliad y DNCB i weld ble mae’n mynd â chi. Mae catalogio cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol dal ar y gweill, felly parhewch i ddarllen Canfod ar gyfer deunydd newydd http://calmview.cardiff.gov.uk/

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

Gwaed Morgannwg: Argyfyngau Glofaol

Yn Hydref 1913, bu farw 439 o lowyr ac un gweithiwr achub yng Nglofa’r Universal, Senghennydd yn dilyn ffrwydrad.  Digwyddodd y trychineb ar 14 Hydref 1913. Hon yw’r ddamwain lofaol waethaf erioed yn hanes y DU o ran nifer y meirw.  Gellir archwilio deunydd yng nghasgliad Archifau Morgannwg i ddarganfod mwy am gyfrifoldebau perchnogion y lofa, Lewis Merthyr Consolidated Collieries, yn dilyn y trychineb.

Image 1 compressed

Datganiad yn dangos iawndal a chostau angladd a dalwyd ar gyfer pob unigolyn a laddwyd yn nhrychineb Senghennydd, DPD/4/11/2/4.

Mae papurau Lewis Merthyr Consolidated Collieries yn cael eu cadw o fewn casgliad Powell Dyffryn (DPD). Mae’r dogfennau’n ymwneud â thrychineb Senghennydd ym mhapurau Lewis Merthyr yn cynnwys trafodion Ymchwiliad y Swyddfa Gartref a thrawsgrifiad o drafodion y cwest i farwolaeth y dynion a gollwyd yn y danchwa.  Law yn llaw â’r adroddiad sydd wedi’i argraffu mae datganiad mewn llawysgrifen o’r arian a dalwyd i deuluoedd y meirw gan Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited. Mae’r ddogfen hon yn cofnodi enwau’r holl unigolion a laddwyd, a faint o arian a dalwyd gan Lewis Merthyr i’w teuluoedd, gan gynnwys arian am gostau claddu a iawndal.

Image 2 compressed

Datganiad yn dangos iawndal a chostau angladd a dalwyd gan Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited wedi trychineb Senghennydd, DPD/4/11/2/4.

Ffrwydrad arall a ddigwyddodd mewn pwll glo a gofnodir yn yr archifau yw Ffrwydrad Cambrian ar 17 Mai 1965. Mae’r deunydd o dan gyfeirnod DNCB/11/2/1 yn cynnwys gohebiaeth am Gronfa Trychineb Cambrian, cofnod o’r digwyddiadau yn syth wedi’r ffrwydrad, drafft o lythyr gan gadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol at dylwyth y rhai a laddwyd a threfniadau’r angladdau.    Mae’r adroddiad swyddogol i achos ac amgylchiadau’r trychineb hefyd yn yr archif (DNCB/6/1/4/10).

Image 3 compressed

Datganiad gan Aldramon D Murphy, y Maer Etholedig, wrth lansio apêl at gronfa’r trychineb at deuluoedd y sawl a laddwyd yn Ffrwydrad Glofa’r Cambrian, 18 Mai 1965, DNCB/11/2/1.

Mae ffotograffau’n rhoi cipolwg i ni i sut beth oedd bod yn weithiwr achub, gyda delweddau o gasgliad negatifau plât gwydr y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn dangos offer achub yn cael ei ddefnyddio, a lluniau grŵp o’r tîm.

Image 4. DNCB-14-1-3-1

Tîm Achub Rhif 1 Glofa Ynysfeio yn Orsaf Achub Dinas, DNCB/14/1/3/1

Gellir gweld hyfforddiant o’r fath yma mewn tystysgrif a roddwyd i Thomas John Jones gan dîm Brynmenyn Rescue, am gwblhau ei hyfforddiant defnyddio offer achub yn 1920 (DNCB/67/13/11).

Image 5 compressed

Tystysgrif a gyflwynwyd i Thomas John Jones gan Orsaf Achub Brynmenyn wedi iddo gwblhau ei hyfforddiant ar offer achub ym 1920, DNCB/67/13/11.

Mae’r casgliad negatif yn dangos i ni fod nifer fawr o ddynion hefyd yn ymwneud â chymorth cyntaf yn gyffredinol, drwy ddelweddau o Gystadlaethau Cymorth Cyntaf Rhanbarthol yn y 1950-1960au.

Image 6. DNCB-48-Box 4 - 177

Coedely yn cael eu beirniadu yng Nghystadleuaeth Cymorth Cyntaf ym 1968, DNCB/48/4/177.

Cawn ein hatgoffa mewn llun arall, yn dangos Mr Glenn Thomas, oedd yn aelod o Wasanaeth Achub y Pyllau Glo, â chaneri ar ei ysgwydd, pa mor allweddol oedd yr adar hynny o ran sicrhau diogelwch y rhai dan ddaear (D1061/1/43).  

Image 7 compressed

Mr Glenn Thomas, Aelod o Wasanaeth Achub y Glofeydd, gyda chaneri ar ei ysgwydd, Ion 1981, D1061/1/43

Drwy gyfrwng yr adroddiadau swyddogol a’r gwaith papur down i ddysgu am y ffeithiau ac am achosion trychinebau glofaol, ond nid yw’r math yma o ddogfennau’n dangos y gwewyr a achoswyd i deuluoedd y rhai a gollwyd.  Fodd bynnag, gellir defnyddio deunydd arall, fel y geiriau hyn a ysgrifennwyd gan Ap Lewis am Drychineb Lofaol y Great Western yn 1893 (D253/2/37), i arddangos y drasiedi bersonol a brofodd anwyliaid yn dilyn y newyddion am y danchwa:

And like a furious howling gale

The dreaded news went through the vale,

Of the sad strange calamity,

Which took the lives of sixty three.

And rushing thither from all parts,

With gushing tears and heavy hearts

Came wives and mothers seeking they

Who long ere then had passed away

 

Cadw Gwaed Morgannwg ar Wydr

figure 1

Mae casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg yn cynnwys llawer o negatifau ffotograffig ar blatiau plastig a gwydr.

figure 2

Yn y negatifau plât gwydr, rhyw 5440 ohonyn nhw i gyd, mae pob math o bethau gan gynnwys lluniau o dwneli, glowyr wrth eu gwaith, offer, merlod y pyllau glo, canolfannau meddygol, digwyddiadau cymdeithasol a chynnwys amrywiol arall.

figure 3

Yn rhan o broject Gwaed Morgannwg, caiff y lluniau hyn eu catalogio, eu glanhau, eu digideiddio, eu cadw a’u hailgartrefu er mwyn i’r cyhoedd eu gweld nhw.

figure 4

Dim ond glanhau sydd ei angen ar y rhan fwyaf o’r negatifau plât gwydr cyn cael eu digideiddio, ond mae mwy o ôl traul ar eraill.    Mae nifer o’r platiau wedi torri, neu mae’r emylsiwn wedi codi neu ddifrodi (Llun 5). Bydd angen rhagor o ddatrysiadau tai mwy cefnogol neu driniaeth gadwraeth fwy dwys.

figure 5

Llun 5

Rhaid glanhau negatifau plât gwydr sydd heb eu difrodi cyn eu digideiddio a’u hailgartrefu.  Mae baw ar yr eitemau hyn yn gallu peri i’w cyflwr waethygu dros y tymor hir a gall fod yn weladwy ar y ddelwedd ddigidol.    Mae’n bwysig glanhau’r platiau hyn yn drwyadl cyn dechrau ar unrhyw gamau eraill o’r broses gadw.

I lanhau’r platiau, mae teclyn chwythu aer yn symud llwch a baw rhydd ar ochr yr emylsiwn ac ar ochr y gwydr.  Drwy ddefnyddio’r offeryn hwn, mae modd glanhau ochr emylsiwn y plât heb risg o grafu’r llun.  Nesaf, defnyddir ffyn gwlân cotwm wedi’u lapio mewn papur sidan, a’u trochi mewn cymysgedd o ddŵr ac ethanol i dynnu llwch a saim o ochr wydr y platiau.  Mae olion yn cael eu tynnu â ffon gwlân cotwm sych.

figure 6

Llun 6

Mae’r platiau glân yn cael eu hailgartrefu mewn ffolderi wnaed o ddeunydd sy’n bodloni safonau’r Prawf Gweithgarwch Ffotograffig.    Rydym ni’n defnyddio ffolderi o feintiau gwahanol ar gyfer platiau sydd mewn fformatau amrywiol yn ôl yr angen (Llun 6). Câi’r eitemau hyn eu cadw mewn amlenni papur gwydr yn wreiddiol, sy’n fath o bapur caboledig sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cadw negatifau ffotograffig. Mae papur gwydr yn ddeunydd cadw amhriodol gan ei fod yn melynu gyda threigl amser a gall ddifrodi’r emylsiwn ffotograffig (Llun 7).

figure 7

Llun 7

Ar ôl eu glanhau, mae’r platiau’n cael eu sganio ac mae delwedd bositif yn cael ei chreu.  Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at gatalog yr Archifau.

figure 8

Llun 8

Mae angen cadw negatifau platiau gwydr sydd wedi torri mewn cas sy’n cadw’r darnau mân ac sydd hefyd yn eu cadw ar wahân er mwyn sicrhau na chaiff yr emylsiwn bregus ei ddifrodi wrth i’r teilchion gwydr gyffwrdd.  Mae’r cas newydd yn cynnwys sbwng plasterzote o fewn amgaead cerdyn sydd heb ei fyffro.    Mae’r cas newydd hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cadw’r negatifau’n ddiogel a’u gweld  yn ôl yr angen heb dynnu’r teilchion unigol (Lluniau 8 a 9). Mae modd defnyddio’r cas syml hwn i gadw’r negatifau dros dro neu dros y tymor hir a pharhau i’w trin a’u hadfer eto yn y dyfodol.

Figure 9

Llun 9

Bydd y negatifau sydd wedi’u difrodi’n cael eu sganio a’u digideiddio, a bydd hynny’n lleihau’r angen i’w cyffwrdd ac yn sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld y delweddau gwych hyn.

Stephanie Jamieson, Cadwraethwr Prosiect Glamorgan’s Blood

“Gofynna i dy fêt olchi dy gefn”: Baddonau Pen y Pwll ym Maes Glo De Cymru

DNCB79_8_188

DNCB/79/8/188: Tri glöwr dienw, Agor Baddon Caerau, 6 Maw 1954

Wrth i’r prosiect Glamorgan’s Blood barhau, mae deunydd yn ymwneud â baddonau pen y pyllau glo yn dod i’r amlwg yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB66-197

DNCB/66/197: Baddonau Pen y pwll, Treharris, Golwg gyffredinol o faddonau pen y pwll, tua 1921

Roedd baddonau pen y pwll, a gyflwynwyd yn y 1920au, o fudd mawr i’r bobl oedd yn gweithio ym maes glo de Cymru. Cyn baddonau pen y pwll, byddai glowyr yn mynd adre o’r gwaith mewn dillad brwnt, yn wlyb diferu â dŵr a chwys. Roedd hyn yn ychwanegu at beryglon eu gwaith oherwydd byddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o drosglwyddo salwch. Daeth baddonau pen y bwll â rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn y fath afiechydon, gyda chawodydd a chyfleusterau newid yn caniatáu i’r glowyr fynd adre mewn dillad glân a sych. 1

Nid oedd yn rhaid i’r glowyr olchi yn ystafell fyw y teulu mwyach – byddai gwraig y glöwr yn paratoi bath ac yn glanhau a golchi ei ddillad brwnt. Byddai hyn yn dod â dwst glo a budreddi i mewn i gartref y teulu. Roedd y gwaith o baratoi dŵr y bath hefyd yn beryglus i deulu’r glöwr:

…many children were badly scalded – and often died – as a result of falling into prepared bath water or upsetting water which was being boiled in readiness for the bath. One south Wales coroner claimed that he conducted more inquests into the deaths of children who were scaled than he did into miners who were killed underground. 2

DNCB66-3

DNCB/66/3: Glöwr yn y baddon, Penalltau, tua 1930

Un o’r prif gasgliadau sy’n cynnwys gwybodaeth am Faddonau Pen y Pwll yw casgliad cynlluniau adeiladu’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Fel rhan o’r prosiect Glamorgan’s Blood, mae’r archifydd a gwarchodwr y prosiect wrthi’n gweithio gyda’i gilydd i gatalogio’r deunydd a’i asesu i nodi’r gofynion trin a storio.

DNCB-14-2-10 Abercynon Pithead Baths cropped compressed

DNCB/1/4/2/10: Baddonau Pen y Pwll Abercynon, Ebr 1950

Mae meintiau, prosesau a deunyddiau amrywiol y casgliad hwn yn her o safbwynt cadwraeth ac o ran gofynion storio, mynediad at ddeunydd a chadwraeth hirdymor. Mae’r cynlluniau ar gyfer baddonau pen y pwll yng nghasgliad y Bwrdd yn dangos amrywiaeth o dechnegau a phrosesau gwahanol ar gyfer cynhyrchu darluniau pensaernïol.  Diazoteipiau, glasbrintiau a darluniau pensil ac inc sy’n ymddangos gan amlaf, ar amrywiaeth o swbstradau.  Mae enghreifftiau o brintiau golchi, lithograffau jél a phrintiau halid arian hefyd i’w gweld yn y casgliad, sy’n dod â heriau cadwraeth gwahanol.  Yr her gadwraeth flaenllaw yw’r cymhorthion asetad sydd wedi dirywio a ddefnyddiwyd fel deunydd amlinellu ac fel negydd i greu cynlluniau dyblyg. Maent i’w gweld yn y casgliad hwn fel sylfaen i ddarluniau pensil ac inc a diazoteipiau. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau asetad hyn yn dangos dirywiad plastig datblygedig ar ffurf breuo sydd wedi achosi iddynt gracio a malu, sy’n golygu eu bod yn amhosibl i’w cynhyrchu yn yr ystafell chwilio.  Digideiddio fydd yr unig ffordd o sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael, gan nad oes llawer o opsiynau o ran triniaeth cadwraeth a chadwraeth hirdymor y math hwn o ddeunydd.

DNCB-60-65-4 shattered plan 2 cropped

DNCB/60/65/4: Enghraifft o Gynllun Wedi Malu, Asetad, 1951

Mae’r cynlluniau’n dangos baddonau pen y pwll o byllau glo ledled de Cymru, yn dyddio rhwng y 1930au a’r 1970au. Drwy gynlluniau llawr, cynlluniau safle a golygon, gall ymchwilwyr weld pa gyfleusterau oedd ar gael i weithwyr y pyllau glo, gan gynnwys mynedfeydd glân a brwnt ar wahân a loceri, cawodydd, ardaloedd glanhau sgidiau, canolfannau triniaeth feddygol a ffreuturau. Wedi gwladoli, daeth y cyfleusterau hyn yn ‘ddarn hanfodol o offer cynhyrchu’, a bydd y cynlluniau a’r deunydd arall yng nghasgliad Archifau Morgannwg yn sicrhau bod yr adeiladau hyn, sydd wedi diflannu i bob pwrpas o dirwedd de Cymru, yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

DNCB-1-4-13-2&3 Cwm PHB cropped compressed

DNCB/1/4/13/2-3: Golygfeydd o Faddonau Pwll Glo Cwm, Meh 1952

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

Stephanie Jamieson, Gwarchodwr Prosiect Glamorgan’s Blood

  1. Evans, Neil; Jones, Dot, ‘A Blessing for the Miner’s Wife: the campaign for pithead baths in the South Wales coalfield, 1908-1950’, Llafur : Journal of Welsh Labour History, t.7
  2. Evans, Neil; Jones, Dot, t.6

Streic y Glowyr, 1984/5

Wrth i gatalogio fynd rhagddo ar Broject Gwaed Morgannwg, mae amrywiaeth y deunyddiau sydd yn y casgliad yn dod fwyfwy i’r amlwg, o adroddiadau am ddamweiniau marwol i gofnodion am y rhaglen i gau’r glofeydd. Mae un o’r setiau diweddaraf o gofnodion i’w catalogio yn ymwneud â streic y glowyr 1984/5. Roedd y streic yn drobwynt yn hanes meysydd glo De Cymru a’r DU ac fe lwyddodd gwleidyddiaeth y streic i rannu cydweithwyr, cyfeillion a theuluoedd.

1. DNCB64-18 Strike breaker

Clawr blaen ‘The Miner’, Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 1929, yn dangos llun o’r heddlu yn hebrwng yr unig dri dyn oedd yn gweithio ym Mlaengarw yn ystod anghydfod anundebol.  Defnyddiwyd y llun yma fel poster – ‘A Strike Breaker is a Traitor’ – gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr Ardal De Cymru yn ystod streic 1984-85 [DNCB/64/18]

Mae modd defnyddio papurau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol sydd yn Archifau Morgannwg i ddangos effaith y streic ar bob ochr: y Bwrdd Glo ei hun, y rheiny oedd ar streic a’r rheiny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic.

Mae modd gweld effaith y streic ar y Bwrdd Glo drwy gyfrwng papurau megis cofnodion yn ymwneud â diogelwch a chynnal a chadw pyllau yn ystod y streic a phapurau yn ymwneud â cholledion ariannol yn ystod y streic. Mae papurau yn ymwneud â’r blaenoriaethau y byddai’n rhaid mynd i’r afael â nhw ar ôl i’r streic ddod i ben megis cyflenwad o ddillad gwaith, stociau yn y ffreuturau ac atgyweirio boelerydd yn y baddonau, yn dangos effaith gorfforol y streic ar byllau unigol a’r gwaith oedd angen ei gyflawni er mwyn adfer lefelau cynhyrchiant llawn. Mae’r cylchlythyron a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn dangos y technegau roedd y Bwrdd Glo yn eu defnyddio i geisio cael pobl nôl i’r gwaith, gyda chylchlythyron a gyhoeddwyd i’r glowyr gan y Cyfarwyddwr Rhanbarthol Philip Weekes a chan reolwyr glofeydd unigol.

rsz_2_dncb-67-1-17-18_coal_news

Clawr blaen ‘Coal News’, Maw 1985. Defnyddiwyd ystadegau ar lowyr yn dychwelyd i’r gwaith i annog y rheini oedd dal ar streic i ddychwelyd i’r gwaith [DNCB/67/1/17/18]

Mae modd gweld barn y gweithwyr ar streic trwy gyfrwng yr ohebiaeth â’r NUM yn ymwneud â thrafodaethau ar y streic a thelerau Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Mae pamffledi yn y casgliad yn rhoi argraff fyw o farn y glowyr ar streic, gydag iaith gref ac emosiynol yn cael ei defnyddio i gyflwyno safbwynt yr NUM, mewn posteri megis yr un â’r teitl ‘A Strike Breaker is a Traitor’.

rsz_3_dncb-67-1-32_num_leaflet

Taflen Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn rhestri resymau pam dyled cefnogi’r streic [DNCB/67/1/32]

Mae gohebiaeth gydag Undeb y Glowyr hefyd yn dangos eu hymdrechion i geisio amnest i lowyr a ddiswyddwyd yn ystod y streic am weithgareddau yn ymwneud â’r streic, gyda rhestrau yn dangos gweithredoedd streicwyr, niferoedd yr achosion allasai fod wedi arwain at ddiswyddiad a niferoedd y glowyr a ail-sefydlwyd ac a  ailgyflogwyd.

Mae’r cofnodion hefyd yn dangos barn y rhai hynny nad oedd yn gefnogol i’r streic, trwy gyfrwng llythyrau a yrrwyd at y Bwrdd Glo gan unigolion a glowyr, a phamffledi yn erbyn y streic. I’r rhai hynny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic, mae gohebiaeth o fewn y casgliad yn cynnig mewnwelediad i’r cam-drin meddyliol a chorfforol a wynebwyd gan rai glowyr wedi dychwelyd i’r gwaith. Mae mwy nag un glöwr yn disgrifio cael ei ‘yrru i’r diawl’ gan ei gydweithwyr ac mae cofnodion o enghreifftiau o fygwth unigolion, eu teuluoedd ac eiddo. Arweiniodd y modd y cafodd y dynion hyn eu trin i lawer geisio cael trosglwyddiad i bwll glo arall neu i wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

rsz_4_dncb-67-1-17-1_democratic_working_miners

‘The Working Miners’ Newsletter’, cyhoeddwyd gan ‘Democratic Working Miners of the NUM’ [DNCB/67/1/17/1]

Yn gyffredinol mae’r papurau hyn yn rhoi mewnwelediad i adeg tyngedfennol a chaled yn hanes Maes Glo De Cymru. Bydd gweld y papurau hyn ochr yn ochr â deunyddiau eraill yng nghasgliad Archifau Morgannwg, megis (ond heb ei gyfyngu i) papurau Grwpiau Cefnogi Merched De Cymru (DWSG); papurau’r Cynghorydd Ray T Davies, y trysorydd ar gyfer Grŵp Cefnogi Streic y Glowyr (D316); dyddiadur 1984/5 William Croad, Uwch Swyddog Rheoli yng Nglofa Lady Windsor, Ynysybwl (D1174/1); Cofnodion Cronfa Glowyr Aberdâr (D1432), a thoriadau papur newydd ar y streic yng Nghofnodion Heddlu De Cymru (DSWP/49/7), yn galluogi ymchwil i fynd rhagddo i bob agwedd ar y streic.

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

 

Davies yr ‘Ocean’: 130 o flynyddoedd ers ymgorfforiad yr Ocean Coal Company Ltd.

Roedd David Davies, y cyfeirir ato’n aml fel y miliwnydd Cymreig cyntaf, yn gyfrifol am ddatblygiad rheilffyrdd yng Nghymru ac ef hefyd oedd y dyn fu’n gyfrifol am greu dociau’r Barri. Law yn llaw â’r mentrau hyn, canfu lwyddiant hefyd fel perchennog gwaith glo, gan ennill y llysenw “Davies the Ocean” yn sgil ei ddatblygu ar yr Ocean Coal Co. Ltd. a ymgorfforwyd 130 o flynyddoedd yn ôl yn Ebrill 1887.

1. DCOMC-30-3-78 David Davies_compressed

David Davies [DCOMC/30/3/78]

Aeth Davies i’r busnes gwaith glo yn y 1860au, gan daro ar wythïen lo yn Ebrill 1886, 15 mis wedi suddo’i bwll cyntaf, Glofa’r Maendy yn Nhon Pentre, y Rhondda. Ym 1867 ffurfiwyd David Davies & Company ac aed ati i suddo pyllau yn y Rhondda am y deng mlynedd nesaf. Llwyddodd Davies i ennill marchnad fyd eang â’i Lo Ager y Cefnfor a pharhaodd llwyddiant ei lofeydd.  Daethpwyd i adnabod yr holl fenter fel yr Ocean Coal Co. Ltd, a ymgorfforwyd ym 1887, gyda Davies yn rheoli cyfran fwyaf y cyfalaf.

2. D1400-2-2-1, Annual return_compressed

Detholiad o ddatganiad blynyddol Park Colliery ar gyfer y flwyddyn 1889 [D1400/2/2/1]

Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd wedi goroesi yn Archifau Morgannwg ac maent wedi eu catalogio’n ddiweddar fel rhan o broject Gwaed Morgannwg a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae’r cofnodion yn cwmpasu’r ystod blynyddoedd 1889-1944 a gellir eu defnyddio i roi cipolwg ar y modd y rhedid ochr ariannol y busnes trwy gyfrwng cofnodion megis y cofnodion blynyddol a llyfrau taliadau, ac ochr ymarferol y busnes trwy’r cyfrolau darluniadol yn darlunio adrannau’r ffas lo. Gellir defnyddio cofnodion hefyd i roi cipolwg ar yr amodau gwaith, gyda chofnodion damweiniau ac iawndal yn rhoi cyfrif o lygad y ffynnon o beryglon y diwydiant glo ar sail y cofnodion pyllau glo Ocean Coal serf Maendy, Park, Dare, Western, Eastern, Garw, Lady Windsor, Deep Navigation a’r Avon.

3. D1400-4-2-1, Geological Section_compressed

Trawstoriad daearegol yn dangos y talcen glo yn Park Pits [D1400/4/2/1]

Mae llyfrau talu, a chofnodion damweiniau ac iawndal yn rhoi cipolwg ar fywydau’r rheiny oedd yn gweithio ar y ffas lo, ond hefyd mae dealltwriaeth well i’w chael o’r bobl oedd yn ymwneud â lefelau uwch y diwydiant glo o gyfrol ar freindaliadau a thaliadau fforddfraint a geir yn y casgliad. Breindaliadau a thaliadau fforddfraint oedd y taliadau a wnaed i berchennog y tir lle’r oedd y pwll ar waith gan gwmni’r lofa ac mae’r gyfrol yn rhoi syniad i ni o faint o arian a dderbyniodd unigolion yn syml am gael defnyddio’u tir. Mae cymharu’r gyfrol hon a llyfrau talu a chofnodion damweiniau ac iawndal y glowyr yn tanlinellu’r gwahaniaeth a fodolai’r naill ben a’r llall i’r gyfradd gyflogau.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys Rheolau Arbennig a roddwyd i’r Ocean Collieries Coal Co. Ltd. dan Ddeddf Rheoli Glofeydd 1887, sy’n dangos sut oedd y llywodraeth yn deddfu ar y diwydiant glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r dogfennau hyn yn dangos y berthynas rhwng glofeydd unigol yr Ocean ac Arolygydd Pyllau Ei Mawrhydi, ac maent hefyd yn dweud rhywbeth wrthym am weithlu’r Ocean Coal. Mae’r dogfennau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan awgrymu fod cyfran o’r gweithlu yn uniaith Gymraeg. Mae’r ffaith i’r cwmni gyhoeddi’r dogfennau yn ddwyieithog yn dangos eu bod yn deall hyn ac yn awyddus i’r gweithlu cyfan lynu at y rheolau.

4. D1400-4-3-2, Special rules_compressed

Tudalen o’r Rheolau Arbennig cyflwynwyd i Ocean Collieries Coal Co Ltd dan y Ddeddf Rheoli Glofeydd 1887 yn dangos cynnwys dwyieithog [D1400/4/3/2]

Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd. yn adnodd pwysig i weld llwyddiant David Davies fel un o wŷr mawr y diwydiant glo ac fel ffynhonnell sylfaenol i ddeall y diwydiant glo ar ddiwedd y G19 a dechrau’r G20.  Mae cofnodion yr Ocean Coal Co. Ltd., a rhai ei ragflaenydd y David Davies Company, bellach ar gael i’w gweld ar ein catalog, Canfod. Gw. y cyfeiriadau D1400, D1402 a DX316 am fanylion manwl o’r cofnodion sydd ym meddiant yr Archifau.

Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Here, are the stiffening hills, here, the rich cargo
Congealed in the dark arteries,
Old veins
That hold Glamorgan’s blood.
The midnight miner in the secret seams,
Limb, life, and bread.

– Mervyn Peake, Rhondda Valley

Mae cerdd Mervyn Peake, Rhondda Valley, yn disgrifio cloddio am lo fel y gwaed roes fywyd i Gymoedd Cymru. Yn wir, arweiniodd twf cyflym y diwydiant  glo yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg at ddatblygiad cymdeithas cwbl newydd yn Ne Cymru, gyda’r ffocws ar y lofa leol. O ganlyniad mae gan faes glo De Cymru ran bwysig i’w chwarae yn ein dealltwriaeth o’r Chwyldro Diwydiannol ac o hanes Cymru a Phrydain yn fwy cyffredinol.

2-dncb64-60

‘Pride of the Valleys’ [DNCB/64/60]. Datblygodd cymunedau newydd yn ne Cymru gyda’r glofa lleol fel canolbwynt. Rhwng 1901 a 1911 derbyniodd de Cymru mewnfudwyr yn gynt nag unrhyw le arall yn y byd oni bai am yr UDA.

Mae ei arwyddocâd yn golygu fod cofnodion archifyddol y diwydiant glo hefyd yn bwysig fel dogfennaeth sylfaenol yn ymwneud â threftadaeth De Cymru.  Mae casgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) yn Archifau Morgannwg yn cwmpasu’r G19 a’r G20, yn dogfennu datblygiad, newid a dirywiad diwydiant sydd gyfystyr â De Cymru, ac olrhain effaith glofeydd ar fywydau ac iechyd y bobl oedd yn gweithio yn y diwydiant. Gyda hyn oll mewn golwg mae Archifau Morgannwg nawr wedi dechrau ar broject ‘Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau  Tywyll, Hen Wythiennau’ er mwyn catalogio a chadw casgliad yr NCB a chofnodion ei ragflaenwyr a hynny trwy gyfrwng grant catalogio gan y Wellcome Trust.

3-dncb64-53

‘Pneumoconiosis, The Deadly Dust’ [DNCB/64/53]. Wedi ei catalogio, bydd casgliad y Bwrdd Glo yn ehangu’r posibiliadau ar gyfer ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol yng nghymunedau glofaol de Cymru.

Mae casgliad yr NCB yn amrywiol o ran ei gwmpas a’i gynnwys, o lyfrau cyflog a chynlluniau glofeydd ar raddfa fawr i ffotograffau a llyfrau cofnodi damweiniau. Mae’r holl gofnodion hyn yn bwysig yn eu ffyrdd eu hunain fel modd o gynrychioli sut roedd yr NCB a glofeydd unigol yn gweithredu.  Gallwn  ddarganfod cofnodion am beryglon gweithio mewn glofeydd trwy gyfrwng cofnodion mewn llyfrau damweiniau; gallwn ddysgu am drychinebau mewn glofeydd trwy gyfrwng adroddiadau ac ymholiadau swyddogol; a deall mwy am ddarpariaeth gofal iechyd a llesiant cymdeithasol ar gyfer glowyr a’u teuluoedd trwy gyfrwng cofnodion yn ymwneud ag iawndal am salwch diwydiannol megis pneumoconiosis, a dogfennau yn ymwneud a chyflwyno baddondai yn y lofa i wella glendid ar gyfer y glowyr. Gall y cofnodion hefyd ddangos sut roedd y glofeydd yn rhyngweithio gyda’r gweithlu trwy gyfrwng deunydd yn ymwneud â phynciau fel streiciau ac undebau’r glowyr.  Yn gyffredinol, mae amrywiaeth y cofnodion yn y casgliad yn dangos pwysigrwydd y lofa, er nad yn destun hapusrwydd bob tro, yng nghymunedau De Cymru.

4-wp_20170111_09_08_26_pro

Mae cymhorthion chwilio presennol casgliad y Bwrdd Glo yn anodd i’w ddefnyddio ac yn cyfyngu mynediad i’r casgliad.

Mae deunyddiau gan ac yn ymwneud â’r Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi eu cyflwyno i Archifau Morgannwg ar sawl achlysur ers y 1960au, gan adael yr Archifau â dros 80 o wahanol ddeunydd unigol, oll yn amrywio o ran faint o wybodaeth ddisgrifiadol sydd yn eu cylch, o flychau â phennawd fel ‘Deunyddiau amrywiol’ i flychau wedi eu categoreiddio’n fwy defnyddiol gydag enwau glofeydd unigol wedi eu nodi. Er y gall ymchwilwyr ddod i ystafell chwilio’r Archifau i weld deunyddiau yng nghasgliad yr NCB, mae’r 225 o flychau, 470 rhôl ac 884 cyfrol ar hyn o bryd wedi eu rhestru mewn modd sy’n ei gwneud yn anodd llywio drwy’r casgliad a’i ddeall fel cyfanwaith. Bydd project ‘Gwaed Morgannwg’ yn darparu mynediad haws a mwy hygyrch i gasgliad yr NCB trwy greu catalog electronig (bydd ar gael i’w chwilio drwy ein catalog ar-lein Canfod) a chadwraeth gorfforol ar ddeunydd a ddifrodwyd neu sydd angen ei lanhau.

5-nadfas

Mae ein gwirfoddolwyr NADFAS eisoes wedi dechrau ar y tasg anferth o lanhau eitemau o gasgliad y Bwrdd Glo

Mae’r gwaith ar broject ‘Gwaed Morgannwg’ yn mynd rhagddo erbyn hyn, gyda’n tîm o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych i ddechrau ar lanhau’r cyfrolau, a’r gwaith ymchwil mae’r archifydd yn ei wneud i adeiladu swmp o wybodaeth ynghylch y casgliad a’r diwydiant glo yn Ne Cymru, er mwyn hysbysu’r sefydliad ynghylch y  cofnodion. Os carech wybod mwy am y project yna cadwch olwg ar y dudalen flog a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer derbyn y newyddion diweddaraf neu cysylltwch â ni: glamro@caerdydd.gov.uk

Adnoddau Addysg Digidol Newydd yn Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ysgolion, colegau a phrifysgolion – eu myfyrwyr a’u hathrawon – o fewn yr awdurdodau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.

Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ysgol o bob oedran.  Mae ymweliadau ysgol am ddim ac yn parhau am hyd at ddwy awr.  Gallwn croesawi 30 plentyn mewn un ymweliad.

Gallwch ddod ar ymweliadau hunan- dywysedig, gyda’r athro yn arwain myfyrwyr drwy ymchwil ag adnoddau gwereiddiol o gasgliad Archifau Morgannwg, dan gyngor archifyddion proffesiynol. Mae’r Archifau hefyd yn cynnig gweithdai strwythuredig.  Wedi ei cyflwyno gan ein staff gallwn eu deilwra i milltir sgwâr yr ysgol sy’n ymweld a ni.

Hyd ar hyn, dim ond ar safle Archifau Morgannwg bu’r gweithdai ar gael.  Ond erbyn hyn, gyda ddiolch i gyllid grant gan Llywodraeth Cymru a ddosbarthwyd trwy Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru, mae ein gweithdai ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan i’w ddefnyddio yn y dosbarth.

Mae pob gweithdy yn cynnwys cyfres o ddogfennau wedi ei digido o gasgliad Archifau Morgannwg, ynghyd a nodiadau athrawon.  Anelwyd yr adnoddau at Cyfnod Allweddol 2 ond gellir eu addasu at ddefnydd ar unrhyw lefel.

Y themau sy’n cael ei chynnwys yw:

Yr Ail Ryfel Byd

WW2

Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru.  Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion; dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd; dysgwch fwy am ffoaduriaid; dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’; a sut  effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae cofrestrau ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy.

Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria

Victorians

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria; a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau.   Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria; dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru; darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cofrestrau ysgol, dyddiaduron a llawer mwy.

O’r Pyllau Glo i Ddociau Caerdydd: Diwydiant a Llongau yn Ne Cymru

DNCB66-3

Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.

Ymysg y ffynonellau mae: mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

DXFX-19r

Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd; darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel; ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyron, dyddiaduron a llawer mwy.

Siopa yn y Gorffennol

Shopping

Dysgwch am sut mae ein dull o siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Ymchwiliwch i’r newidiadau i’r stryd fawr ac i ganol ddinas Caerdydd; darganfyddwch mwy am ddatblygiad clidio i’r cartref; darganfyddwch am ddogni bwyd yn ystod adegau anodd; dysgwch am y danteithion ar gael mewn caffis ers talwm.

Ymysg y ffynonellau a ddefnyddir mae ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, cynlluniau adeiladu, y cyfrifiad a llawer mwy.

Mae’r adnoddau ar gael i’w lawrlwytho o wefan Archifau Morgannwg http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/gweithdai/