Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.
Deunyddiau cyn dyddiad breinio – DNCB/15
Mae DNCB/15 yn gyfres sydd yn cynnwys deunyddiau o ddiddordeb hanesyddol cyffredinol, a gedwir ar ffeil gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol, sy’n ymwneud â mwyngloddio a diwydiannau cysylltiedig cyn gwladoli’r diwydiant glo ym mis Ionawr 1947. O fewn y gyfres hon mae nifer o gofnodion sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles o fewn y diwydiant glo cyn gwladoli.
Mae un ffeil benodol yn ymwneud ag Ysbyty Aberpennar a Penrhiwceibr yn cynnwys deunyddiau megis nodiadau ar fuddion ysbytai, rheoliadau ysbytai, cyfraniadau derbyn ysbytai a hanes y gwasanaeth ysbytai yn Aberpennar.

Rheolau Ysbyty, Ysbyty Aberpennar a Penrhiwceibr (DNCB/15/17/2)
Mae rhaglen o ymweliad EM Duges Efrog â baddonau pen pwll Glofa Ddofn Dyffryn hefyd i’w gweld yn y gyfres, ac yn pwysleisio’r pwysigrwydd a roddwyd ar adeiladau’r baddonau pen pwll.

Rhaglen ymweliad Duges Efrog â Baddonau pen pwll Glofa Ddofn Dyffryn (DNCB/15/17/3)
Mae tystysgrif a roddwyd gan orsaf Achub Brynmenyn i Thomas John Jones o Lofa Cribwr Fawr ar 4 Mai 1920 yn dangos fod lles gweithwyr dan ddaear yn cael ei ystyried, a bod staff wedi eu hyfforddi yn briodol i ddefnyddio cyfarpar achub.

Tystysgrif cwrs hyfforddi cyfarpar achub (DNCB/15/10/3)