Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr
Mae’r llun o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon yn adlais o ddigwyddiadau diweddar gan ei fod yn dangos cyhoeddi’r Brenin newydd.
Cafodd y llun ei dynnu ar y 26 Ionawr 1901, bedwar diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth y Frenhines Fictoria a oedd wedi teyrnasu am dros 63 o flynyddoedd. Y ffigwr yn y canol yw Maer y Bont-faen, yr Henadur Edward John, a oedd newydd gyhoeddi’r brenin newydd, Edward VII, mab hynaf y Frenhines ac a oedd yn 69 oed yn 1901.
Yn unol ag arferiad a ddilynir hyd heddiw, cyhoeddwyd esgyniad y Brenin newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad. Roedd hi’n bluen yng nghap y Bont-faen bod trefniadau wedi cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer darllen y proclamasiwn ymhell cyn eu cymdogion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fel yr adroddodd y papurau newydd lleol, roedd yn dipyn o ddigwyddiad gyda holl boblogaeth y fwrdeistref a’r ardaloedd cyfagos yn leinio’r strydoedd. Ym mhen blaen yr orymdaith y cerddai’r Maer ac aelodau’r Gorfforaeth, ac yna Ynadon lleol, y Ficer a’r Meistr, athrawon a disgyblion yr Ysgol Ramadeg. Darparwyd gosgordd er anrhydedd gan ddau yn cario byrllysgau, aelodau o’r Gwirfoddolwyr lleol a Band Tref y Bont-faen.
Gyda baneri’n cyhwfan, darllenwyd y proclamasiwn ar safle’r Hen Groes ac ar dri safle arall ar ffin y fwrdeistref. Ar bob achlysur datganwyd dyfodiad yr osgordd gan ffanffer o utgyrn ac wedi cwblhau’r datganiad fe ganwyd Duw Gadwo’r Brenin.
Tynnwyd y llun ar ddiwedd y seremoni wrth i’r Maer gilio i siambrau’r cyngor i ddiddanu ei westeion. Ar y cyfan, byddai wedi bod yn ddiwrnod cofiadwy i Edward John, masnachwr hadau lleol a pherchennog yr Eagle Stores, a wasanaethodd sawl tro fel Maer y Bont-faen. Efallai nad yw’n syndod ar ddiwedd diwrnod hir, adroddodd y papurau newydd fod y Maer wedi gofyn i’w westeion ymuno ag ef i yfed i iechyd y Brenin Edward y Seithfed … a wnaed yn ffyddlon tu hwnt.
Mae’r llun yn un o’r rhai cynharaf yng nghasgliad Edwin Miles a gedwir yn Archifau Morgannwg. Ym 1901 roedd Miles yn dal i weithio fel signalmon rheilffordd ac yn byw ar Heol Y Bont-faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n ddigon posibl bod y llun wedi’i dynnu wrth iddo fireinio ei sgiliau cyn mentro fel ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o stiwdio yn Wrexham Villa ar Heol Ewenni. Mae mownt y ffotograff yn cyfeirio at Stiwdio Ewenni, gan awgrymu iddo gael ei ychwanegu yn ddiweddarach.
Tynnodd Edwin Miles luniau o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg hyd at ei farwolaeth ym 1929. Mae’r ffotograff o’r Proclamasiwn hon i’w gweld dan y cyfeirnod BCOW/C/114/3. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg