Proclamasiwn y Brenin newydd yn y Bont-faen ar 26 Ionawr 1901

Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r llun o gasgliad Edwin Miles yr wythnos hon yn adlais o ddigwyddiadau diweddar gan ei fod yn dangos cyhoeddi’r Brenin newydd.

BCOW_C_114_3 edited

Cafodd y llun ei dynnu ar y 26 Ionawr 1901, bedwar diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth y Frenhines Fictoria a oedd wedi teyrnasu am dros 63 o flynyddoedd. Y ffigwr yn y canol yw Maer y Bont-faen, yr Henadur Edward John, a oedd newydd gyhoeddi’r brenin newydd, Edward VII, mab hynaf y Frenhines ac a oedd yn 69 oed yn 1901.

Yn unol ag arferiad a ddilynir hyd heddiw, cyhoeddwyd esgyniad y Brenin newydd mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad. Roedd hi’n bluen yng nghap y Bont-faen bod trefniadau wedi cael eu rhoi yn eu lle ar gyfer darllen y proclamasiwn ymhell cyn eu cymdogion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fel yr adroddodd y papurau newydd lleol, roedd yn dipyn o ddigwyddiad gyda holl boblogaeth y fwrdeistref a’r ardaloedd cyfagos yn leinio’r strydoedd.  Ym mhen blaen yr orymdaith y cerddai’r Maer ac aelodau’r Gorfforaeth, ac yna Ynadon lleol, y Ficer a’r Meistr, athrawon a disgyblion yr Ysgol Ramadeg. Darparwyd gosgordd er anrhydedd gan ddau yn cario byrllysgau, aelodau o’r Gwirfoddolwyr lleol a Band Tref y Bont-faen.

Gyda baneri’n cyhwfan, darllenwyd y proclamasiwn ar safle’r Hen Groes ac ar dri safle arall ar ffin y fwrdeistref. Ar bob achlysur datganwyd dyfodiad yr osgordd gan ffanffer o utgyrn ac wedi cwblhau’r datganiad fe ganwyd Duw Gadwo’r Brenin.

Tynnwyd y llun ar ddiwedd y seremoni wrth i’r Maer gilio i siambrau’r cyngor i ddiddanu ei westeion. Ar y cyfan, byddai wedi bod yn ddiwrnod cofiadwy i Edward John, masnachwr hadau lleol a pherchennog yr Eagle Stores, a wasanaethodd sawl tro fel Maer y Bont-faen. Efallai nad yw’n syndod ar ddiwedd diwrnod hir, adroddodd y papurau newydd fod y Maer wedi gofyn i’w westeion ymuno ag ef i yfed i iechyd y Brenin Edward y Seithfed … a wnaed yn ffyddlon tu hwnt.

Mae’r llun yn un o’r rhai cynharaf yng nghasgliad Edwin Miles a gedwir yn Archifau Morgannwg.  Ym 1901 roedd Miles yn dal i weithio fel signalmon rheilffordd ac yn byw ar Heol Y Bont-faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae’n ddigon posibl bod y llun wedi’i dynnu wrth iddo fireinio ei sgiliau cyn mentro fel ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o stiwdio yn Wrexham Villa ar Heol Ewenni. Mae mownt y ffotograff yn cyfeirio at Stiwdio Ewenni, gan awgrymu iddo gael ei ychwanegu yn ddiweddarach.

Tynnodd Edwin Miles luniau o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg hyd at ei farwolaeth ym 1929.  Mae’r ffotograff o’r Proclamasiwn hon i’w gweld dan y cyfeirnod BCOW/C/114/3.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261. 

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Y Pafiliwn, Y Bont-faen:  Ffotograffau wedi’u tynnu gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch gwreiddiau’r adeilad ar brif stryd Y Bont-faen gyda chromen addurnedig a chanopi arddull theatr, yna efallai bod yr erthygl hon o ddiddordeb. Wedi ei dynnu bron i gan mlynedd yn ôl, mae’r llun isod yn dangos Sinema’r Pafiliwn yn Y Bont-faen. Mae’n dangos yr adeilad yn ei anterth, ac mae’n rhyfeddol cyn hired y mae ffasâd yr adeilad wedi goroesi yn gyfan; mae’n dal yn hawdd ei adnabod heddiw – er bod ei ddyddiau fel sinema wedi hen gilio.

M525

Cafodd y llun ei dynnu gan y ffotograffydd lleol, Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1925 a 1929.  Wedi’i godi a’i reoli gan berchennog garej lleol, Arthur Mills, roedd gan y Pafiliwn sinema ar y llawr gwaelod a neuadd ddawns ar y llawr cyntaf. Roedd y digwyddiad cyntaf yn yr adeilad newydd bron yn sicr yn bazaar eglwys a gynhaliwyd yn y neuadd ddawns ar 6 Mai 1925. Ni fu’n hir, fodd bynnag, cyn i’r llawr masarn newydd ei osod gael ei roi ar brawf yn iawn gyda dawns ar nos Iau 21 Mai 1925, a fynychwyd gan dros 250 o bobl, i godi arian ar gyfer adfer Eglwys y Plwyf yn y Bont-faen. Disgrifiwyd y “neuadd ddawns odidog” fel un o’r gorau yn ne Cymru. Gyda dawnsio i “seiniau cerddorfa Rumson” tan ddau y bore, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel “llwyddiant digamsyniol”.

Roedd hi rai misoedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, cyn bod y sinema ar y llawr gwaelod, gyda’i daflunydd Kalee Rhif 7 newydd ei osod, yn barod i dderbyn cwsmeriaid. Wedi ei amseru i gyd-fynd â phrysurdeb Sioe’r Bont-faen, agorodd Sinema’r Pafiliwn Ddydd Mercher 16 Medi gyda dangosiad o ffilm fud “The Folly of Vanity”.  Gyda’r seren Betty Blythe yn y brif ran, roedd i’r ffilm ddilyniant camera “ffantasi ddramatig syfrdanol” gyda’r arwres yn plymio i’r môr i ymweld â llys tanddwr Neifion.

Yn y blynyddoedd canlynol bu’r neuadd ddawns yn y Pafiliwn yn lleoliad poblogaidd, yn aml yn cynnal y Dawns flynyddol Helfa Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd hefyd ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys derbyniad i Lloyd George ym mis Hydref 1930, pan roddwyd Rhyddfraint Bwrdeisdref y Bont-faen i’r cyn Brif Weinidog. Llwyfannodd y sinema hefyd gynyrchiadau cyntaf oll Cymdeithas Ddrama Amatur y Bont-faen a gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ben Hur gyda Ramon Novarro, Douglas Fairbanks yn herfeiddiol yn y brif ran yn “The Thief of Baghdad”, a’r digrifwr Harold Lloyd yn “For Heaven’s Sake”.  Dangoswyd nifer o ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus hefyd yn Y Pafiliwn, yn cynnwys “The Path to Poultry Prosperity”. Ni chafodd ffigyrau presenoldeb ar gyfer y digwyddiad hwn eu cofnodi.

Wedi’i ddifrodi gan dân ym mis Ebrill 1942, adferwyd y Pafiliwn ym 1948 a pharhaodd i weithredu fel sinema tan ganol y 1950au.  Er ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd, mae’r gromen a’r ffasâd wedi eu cadw ac yn parhau i fod yn olygfa gyfarwydd ar Eastgate yn y Bont-faen.

Tynnodd Miles luniau, a ddefnyddiwyd yn bennaf fel cardiau post, o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o’r casgliad dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.  Mae’r ffotograff o’r Pafiliwn a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod D1622.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg