Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Y llun a ddewiswyd yr wythnos hon yw un o’r eitemau mwy anarferol yng nghasgliad Edwin Miles – llun o Frigâd Dân Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr.  

UDBR_F_1

Seren y sioe yw injan Tân Leyland gyda’i ysgol 35 troedfedd, a gyflwynwyd i’r frigâd ym mis Awst 1924.  Roedd Brigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr dim ond yn cynnwys gwirfoddolwyr a chyn 1914 byddant wedi dibynnu ar offer a dynnwyd gan geffylau. Roedd caffael injan newydd Leyland, felly, yn welliant sylweddol ar gyfer brigâd a oedd yn darparu cymorth i Ben-y-bont a’r trefi a’r pentrefi cyfagos.

Wrth ddyddio’r llun mae’n ddigon posib iddo gael ei dynnu ar 11 Gorffennaf 1925, pan ddaeth pedwar deg pedwar o frigadau a thros wyth cant o ddynion o bob rhan o dde Cymru ynghyd yn Aberdâr i arddangos technegau ymladd tân. Mae’r tŷ yn y cefndir yn edrych yn debyg iawn i Dŷ Glanogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei gaffael gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod yma, ac a fyddai wedi darparu man addas i’r frigâd cwrdd. Maen nhw’n sicr yn edrych yn dda iawn ac mae cofnodion y frigâd yn cadarnhau bod gwisgoedd newydd wedi eu rhoi i’r dynion ar gyfer digwyddiad Aberdâr.  

Y dyn yn y cap, ar ochr dde’r grŵp, yw Henry Percival Williams, Prif Swyddog y Frigâd.   Yn ddilledydd lleol o Nolton Street, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd H.P Williams yn ffigwr allweddol yn y gwaith o redeg y frigâd am flynyddoedd lawer. Rhoddodd wasanaeth gwych hefyd i’r CDT Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y cyngor ar dri achlysur.

Dros y blynyddoedd rhoddodd y Frigâd wasanaeth amhrisiadwy i’r gymuned leol.  Ym mis Mai 1926 bu tân yn eiddo Cwmni Melysion Avona yn Meadow Street, a achoswyd o bosibl gan foeler siwgr, yn bygwth dinistrio cartrefi ac eiddo lleol pan ddarganfuwyd bod tancer petrol a cheir yn cael eu storio yn yr un adeilad. Fel y dywedodd y papurau lleol “a wave of relief went up from the thousands of onlookers” wrth i weithredu prydlon gan y frigâd fynd i’r afael â’r tân a thynnu’r cerbydau o’r adeilad.

Ar nodyn ysgafnach, ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, torrodd dynion tân i mewn i dŷ ar Stryd y Parc ym Mhen-y-bont pan welwyd mwg yn dod allan o ffenest i fyny’r grisiau. Y tro hwn daeth y dyn tân wyneb yn wyneb â’r perchennog yn eistedd yn y bath gyda stêm yn mynd allan o’r ffenestr agored. Gan ei bod ychydig yn fyddar doedd hi ddim wedi clywed y curo ar y drws ffrynt.  Ni wnaed unrhyw niwed ac roedd yn stori wych i’w hadrodd yn siopau a thafarndai Pen-y-bont ar Ogwr dros Nadolig 1926. 

Mae’r pwnc yn anarferol i Edwin Miles, a oedd yn arbenigo mewn ffotograffau o lefydd ac adeiladau lleol adnabyddus.  Fodd bynnag, roedd Miles yn ymwneud â rhedeg y grwpiau sgowtiaid lleol, a darparodd brigâd Pen-y-bont ar Ogwr hyfforddiant mewn diogelwch tân i’r sgowtiaid ifanc. Mae’n ddigon posib mai ymwneud Miles â’r frigâd a arweiniodd ato’n tynnu’r llun. Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n darparu cofnod gwych o’r Frigâd bryd hynny.

Mae’r ffotograff o Frigâd Dân Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld  yn Archifau Morgannwg dan y cyfeirnod UD/BR/F/1. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s