Diolch i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda gwybodaeth ynglŷn â’u casgliad a oedd heb ei adnabod o’r blaen o ffotograffau maes glo de Cymru. Bu’r ymateb yn anhygoel ac rydym wir yn gwerthfawrogi pobl yn neilltuo’r amser i gysylltu â ni.

Mae ymateb cyhoeddus wedi ein galluogi i nodi’r ddelwedd hon yn gywir fel Roy Lewis, Trydanwr y Talcen Glo, D1544/1/16
Trosglwyddwyd y casgliad hwn i Archifau Morgannwg o ON yn Archifau Fife yn gynharach eleni ac mae’r ffotograffau’n danogs dynion sy’n gweithio ym Mhwll Glo Abercynon, golygfeydd a dynnwyd yn ystod y Streic y Glowyr yn 1984/85 yn nhipiau glo Penrhiwceiber a golygfeydd o byllau glo segur. Nid oedd gennym unrhyw wybodaeth am y ffotograffydd ac ac roedd rhai o’r bobl o fewn y ffotograffau heb eu hadnabod.
Yn dilyn ymgyrch y cyfryngau, rydym bellach yn gwybod mai ffotograffydd y casgliad yw Leslie Price, glowr blaenorol ym Mhwll Glo Abercynon a ffotograffydd amatur brwd. Daeth Mr Price i’r archif yr wythnos diwethaf i siarad â ni am y ffotograffau a thrafod y straeon y tu ôl i’r delweddau a’i angerdd am ffotograffiaeth.

Leslie Price, y ffotograffydd yn cwrdd â Louise Clarke, Archifydd Gwaed Morgannwg (llun drwy garedigrwydd Matt Murray, BBC)
Dechreuodd Mr Price dynnu ffotograffau o’r pyllau glo yn y 1960au. Ei nod oedd dweud y straeon o faes glo de Cymru a’i bobl. Ymddangosodd ei ddelweddau mewn nifer o arddangosfeydd yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys mewn amgueddfa cloddio yn Fife, a dyna pam y daethpwyd o hyd iddynt yn Yr Alban.
Yn dilyn ymatebion gan weithwyr y Pwll Glo blaenorol yn Abercynon ac aelodau o’u teuluoedd, rydym wedi llwyddo i gadarnhau, newid ac ychwanegu enwau i wynebau’r rhai a ddangosir yn y ffotograffau. Ar hyn o bryd rwy’n coladu’r wybodaeth, yn barod i ddiweddaru’r disgrifiadau yn ein catalog. Tynnodd Mr Price y ffotograffau hyn yn fuan cyn cau Pwll Glo Abercynon ym 1988.

Mae ymateb cyhoeddus wedi ein galluogi i nodi’r ddelwedd hon yn gywir fel Terry Northam, Ffitiwr, D1544/1/1
Tynnwyd y ffotograffau codi glo gan Mr Price ar amrywiaeth o adegau drwy gydol streic glowyr 1984/85. Tynnwyd y golygfeydd yn nhip pwll glo Cwmcynon, Penrhiwceiber. Mae rhai o’r ffotograffau yn dangos y baddondy ar frig y pwll, a adwaenwyd hefyd fel y tŷ gwyn. Caeodd Pwll Glo Cwmcynon ym 1949. Yn garedig iawn mae Mr Price wedi rhoi delwedd arall o’r gyfres hon o ffotograffau i Archifau Morgannwg.

‘The Coal Run’, D1544/4/18
Hoffem ddiolch i Leslie am ddod i mewn i’r archif a rhoi’r cefndir i’w waith i ni. Hefyd hoffem ddiolch i bawb a gysylltodd â ni. Os oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am y ffotograffau byddem wrth ein boddau o hyd i gael clywed gennych. Gellir gweld y casgliad yn ein catalog, cyfeirnod D1544.