Ymholiadau Morgludiant y Bwrdd Masnach, 1875-1935

Roedd y Bwrdd Masnach yn gyfrifol am arolygiaeth gyffredinol materion a oedd yn ymwneud â llongau masnachol a morwyr. Roedd hyn yn cynnwys goruchwylio ymchwiliadau ffurfiol i unrhyw golledion llongau ar arfordiroedd y Deyrnas Unedig ac ar gyfer unrhyw long Brydeinig a oedd yn sownd ar draeth neu’r glannau neu wedi’i difrodi neu ei cholli.

O fewn cofnodion Llys Sesiynau Bach Caerdydd mae cyfres o ffeiliau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau o’r fath a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd a Llysoedd y Gyfraith yn ystod y cyfnod 1875-1935 (cyf. CL/PSCBO/BT). Mae’r ffeiliau, sy’n cynnwys papurau a gasglwyd ar gyfer yr ymchwiliad, achosion o ddinodi tystion a gweithrediadau’r llys, yn cynrychioli ffynhonnell amhrisiadwy ar gyfer hanes morwrol yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Yn aml wedi’u hysgrifennu mewn pensil ac weithiau’n anodd eu darllen, mae’r bwndeli o bapurau’n rhoi cyfoeth o wybodaeth am faterion sy’n amrywio o ddylunio llongau i ddisgyblaeth ar longau.

Gan mai lleoliad yr ymchwiliad oedd y lle mwyaf cyfleus i dystion, nid oedd yr holl golledion llong yr ymchwiliwyd iddynt yng Nghaerdydd yn longau o Gaerdydd. Cofrestrwyd rhai o’r llongau mewn porthladdoedd eraill ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad amlwg â Chaerdydd heblaw am fasnach reolaidd gyda phorthladd yn ne Cymru neu nifer fawr o enwau Cymreig ymysg y rhestri criwiau. Yn yr un modd, roedd llongau o Gaerdydd weithiau’n destun ymchwiliadau mewn porthladdoedd eraill, fel yn achos yr SS Albion o Gaerdydd, a oedd yn eiddo i’r Duffryn Shipping Company o Gaerdydd ac a gollwyd yn Sbaen ym 1908. Cynhaliwyd yr ymchwiliad i’w cholled yn Neuadd Caxton, San Steffan.

Ymhlith y papurau cynharaf, efallai mai’r rhai mwyaf diddorol yw’r rheiny sy’n amlygu’r peryglon sydd ynghlwm wrth gario nwyddau peryglus. Ym mis Rhagfyr 1880 tybiwyd mai nwy ffrwydrol o lwyth glo oedd achos colli’r SS Estepona o Hull wrth iddi hwylio o Gaerdydd i Marseilles. Mae’r ffeil achos ar gyfer yr ymchwiliad yn cynnwys tystiolaeth gan y perchennog ynghylch y llong, ei balast a’i hyswiriant, prif gyfrifydd y lofa a gyflenwodd y glo, fformon naddu a oedd yn cofio llwytho’r glo ac Arolygwr Mwyngloddiau De Cymru’r Llywodraeth a roddodd gyngor ar y tebygolrwydd y byddai nwy ffrwydrol wedi ffurfio. Yn yr achos hwn nid oedd penderfyniad pendant am achos y golled, ond flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd casgliadau mwy pendant am yr SS Penwith o Hayle, a ddiflannodd ar ôl gadael Penarth a hwylio i’r Rio Grande. Roedd yn cario 422 tunnell o lo stêm De Cymru, a gloddiwyd o weithfeydd glo yng Nghymoedd y Rhondda ac Ogwr. Roedd gan y glo enw drwg am y nwy ffrwydrol yr oedd yn ei gynhyrchu. Yn ei adroddiad i’r llys, amlinellodd Arolygydd y Glofeydd bwysigrwydd awyru, gan fod nwy fel arfer yn cael ei gynhyrchu rai dyddiau ar ôl i’r glo gael ei gloddio, a beirniadodd y sefyllfa gan mai hatsys oedd yr unig fath o awyru, er bod y rhain o bosib wedi eu cau oherwydd tywydd gwael. Wrth ddod i’r casgliad bod awyru ar y llong yn annigonol, rhoddodd y llys fai ar yr adeiladwr a meistr y llong yn ogystal â’r perchennog.

Mae’n amlwg fod ymchwiliadau yn ymwneud â llongau a gollwyd o dan amgylchiadau dirgel yn creu mwy o waith papur gan fod angen archwilio mwy o bosibiliadau a chwestiynu mwy o bobl. Ym 1907 collwyd yr SS Grindon Hall a’i holl forwyr yn y Môr Du pan oedd yn hwylio o Sulina yn y Rwmania fodern i Glasgow. Daethpwyd o hyd i ran o’i bad achub a dim byd arall. Ymhlith y papurau achos ar gyfer yr ymchwiliad penodol hwn mae telegramau a dderbyniwyd oddi wrth y meistr ynghylch taith y llong a chopïau o lythyron a dderbyniwyd gan ac oddi wrth y meistr.

20181010_100411_resized

20181010_100532_resized

20181010_100639_resized

Ceir manylion personol trist am ddychweliad y meistr i’r môr ar ôl salwch hir ei wraig, ac mae ei lythyr olaf yn sôn am gwblhad y llwytho ar ôl llawer o drafferth ac oedi, gan orffen gyda hyn … gan obeithio y cawn ni daith adref hawdd. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu rhywfaint o ansefydlogrwydd ar ôl llwytho ac, wrth ystyried hyn, archwiliodd y llys gynlluniau’r llong, rhestrau o atgyweiriadau, rhestr o’r llwyth a thystiolaeth cyn-forwyr ynglŷn ag addasrwydd y llong i hwylio. Mae’r papurau gyda’i gilydd yn dangos cipolwg llawn a phersonol o’r llong a’i chriw.

20181010_100743_resized

20181010_100853_resized

Problem gyffredin a wynebwyd oedd cyflogi criwiau nad oeddent yn deall Saesneg. Roedd Deddf Llongau Masnach 1906 wedi ceisio mynd i’r afael â’r broblem hon drwy bennu bod angen dealltwriaeth ddigonol o’r iaith Saesneg er mwyn deall y gorchmynion angenrheidiol. Fodd bynnag, fe wnaeth barnwr wfftio’r amod hwn fel … ofer ac afreal … ym 1908 pan ymchwiliodd i golled yr SS Huddersfield o Gaerdydd oddi ar arfordir Dyfnaint. Roedd wedi clywed yn y dystiolaeth fod morwr o Frasil ar ddyletswydd gwylio yn y nos yn ystod tywydd garw a’i fod wedi methu â rhoi gwybod am unrhyw oleuadau. Roedd dealltwriaeth y morwr o’r Saesneg yn ddiffygiol:

…he was not able to understand necessary orders nor to report intelligibly objects he saw. He had a wrong idea of the port and starboard sides of a vessel calling port starboard and starboard port.

Am hanner nos trosglwyddodd i forwr Groegaidd a oedd â diffyg dealltwriaeth debyg o’r Saesneg ac … Ni fyddai wedi gallu rhoi gwybod am ddŵr ansefydlog pe bai wedi gallu ei weld. Cofiwyd am achos yr Huddersfield unwaith eto yn yr ymchwiliad ynghylch colli’r SS Mark Lane o Lundain oddi ar Sbaen ym 1912. Ni wnaed unrhyw ymchwiliad i allu Saesneg y dyn Sbaeneg ar ddyletswydd cyn iddo gael ei gyflogi ac roedd yntau hefyd yn dangos dryswch llwyr rhwng yr ochr chwith a’r dde.

Mae’n bosibl bod y rhwystr iaith wedi bod yn ffactor hefyd yn y drasiedi a ddilynodd ar ôl gwrthdrawiad mewn niwl trwm rhwng yr SS Kate B. Jones o Gaerdydd, a oedd yn hwylio o Abertawe i Catania yn Sicily a’r SS Inveric o Glasgow. Ar ôl y gwrthdrawiad, gofynnodd criw yr SS Kate i’r Inveric daflu rhaffau ond ni wnaed hyn oherwydd ni chlywyd y cais neu nid oedd y dyn ar ddyletswydd gwylio yn deall. Yn waeth fyth, aeth y prif swyddog a’r ail swyddog ati ar unwaith i gefnu ar eu llong a symud draw i’r Inveric. Yn sydyn ar ei ben ei hun, cymerodd y meistr gamau i roi ei wraig a Miss Yates o Gaer yn y bad achub chwith ynghyd â thri aelod arall o’r criw, tra’r oedd yn archwilio’r llong am unrhyw ddifrod. Cafodd y bad achub ei ostwng a’i adael hanner ffordd ac roedd gweddill y criw wedi tyrru at fad achub yr ochr dde. Pan ddarganfuwyd mai ychydig o ddŵr yn unig oedd yn dod i mewn i’r llong, cafodd y criw eu galw’n ôl ond cafwyd hyd i’r bad achub chwith yn y dŵr, yn cael ei dynnu gan ei dacl starn yn unig, gyda dim sôn am y bobl yn unman. Roedd dyfarniad y llys o’r digwyddiadau trist yn cydymdeimlo â’r meistr ond yn ceryddu’n gryf y swyddogion a gefnodd ar y llong:

The conduct of these two officers immediately after the collision was most culpable and without precedence in the history of British officers of the mercantile marine … such misconduct on the part of these two officers this court has no jurisdiction to punish except by exposure to the reprobation it deserves.

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd gor-yswirio llongau wedi troi’n thema sinistr a mynych. Ym 1910 cynhaliwyd yr hyn a ddisgrifiodd y Western Mail fel … yr ymchwiliad pwysicaf a mwyaf syfrdanol a gynhaliwyd erioed yn Ne Cymru dan y Ddeddf Llongau Masnach … ar ôl colli’r SS British Standard o Gaerdydd ger Pwynt Negra ym Mrasil. Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst, gwrandawodd llys llawn â siom ar dystiolaethau manwl gan y criw a dynnodd sylw at dystiolaeth wrthgyferbyniol ac anghysondebau amlwg rhwng y cofnod ac adroddiad y meistr ar y suddiad dirgel. Hyd yn oed pe na bai’r suddiad wedi cael ei achosi gan waith llaw ddynol, daeth yn amlwg y gellid bod wedi osgoi’r golled ei hun pe na bai’r meistr a’r prif beiriannydd wedi bod yn euog o esgeulustod difrifol.

Daeth y cymhelliad dros suddiad bwriadol yr SS British Standard i’r amlwg wrth ddatgelu na fu’r gwaith o hyrwyddo’r British Standard Steamship Company fel cwmni cyhoeddus yn llwyddiant ariannol. Roedd Paul Braun, meistr y llong, yr un Paul Brown ag a ymddangosodd ar gofrestr cyfranddalwyr y cwmni, wedi helpu i ariannu’r cwmni ond wedi cuddio’r ffaith o’r tanysgrifenwyr. Roedd ei frawd, perchennog rheoli’r cwmni, yn ddyledus iddo am £40,000. Yn fwyaf amheus, er bod y llong wedi ei phrisio am £46,378 roedd wedi’i hyswirio am dros £55,300. Roedd y Prif Beiriannydd wedi yswirio’i effeithiau personol am y tro cyntaf.

Yr oedd goblygiadau pryderus i Gaerdydd ei hun. Cafwyd dadlau mawr pan ddaeth i’r amlwg bod tanysgrifenwyr wedi galw am bremiymau yswiriant uwch i longau o Gaerdydd gan eu bod yn cael eu hystyried yn risg wael. Pan fu’r barnwr yn traddodi ei farn am ddwy awr a hanner, … disgynnodd distawrwydd disgwylgar ar y llys llawn gan ddwyn i gof achos llys troseddol mawr. Roedd ei sylwadau’n amlinellu’n glir beryglon gor-yswiriant:

Where a vessel is over-insured, one of the most powerful incentives for keeping her in good condition and seaworthiness is removed.

Galwodd am ddeddfwriaeth i atal y cam-drin. Ataliwyd y meistr am ddeunaw mis a gorchmynnwyd iddo dalu 1000 gini tuag at gostau’r ymchwiliad. Ataliwyd y Prif Beiriannydd am ddeuddeg mis a gorchmynnwyd iddo gyfrannu 50 gini fel costau. Cafodd y trydydd peiriannydd ei geryddu am gamarwain y llys gyda datganiadau ffug ac am ei ymddygiad.

Mae myfyrdodau anhapus ar ganlyniad ymchwiliadau a diffyg potensial cymharol y llysoedd yn aml yn cael eu rhoi yn yr adroddiadau i’r Bwrdd Masnach. Nid oedd y barnwr yn hapus yn achos yr SS Ouse o Gaerdydd, a gollwyd ger arfordir gogledd Dyfnaint ym 1911, pan na dderbyniwyd tystiolaeth oddi wrth y dyn wrth lyw’r llong adeg y sowndio gan ei fod wedi dychwelyd i’r môr. Pan gollwyd yr SS Powis o Gaerdydd ger Groeg ym 1907 … yn debygol oherwydd gwaith llaw ddynol, dywedodd y barnwr yn ei adroddiad:

…wreck inquiries are of very doubtful utility. Owing to the conditions under which a vessel is lost or stranded, the absence of eye witnesses who are independent, the rare production of log books or other such valuable documentary evidence, the dispersing of the crew before an inquiry is held and the almost invariable absence of the most important witnesses… the court has but rarely the material to enable it to ascertain the whole truth.

Beth bynnag yw amheuon y rhai sy’n cymryd rhan ar y pryd o ran pa mor ddefnyddiol yw ymchwiliadau i forgludiant, mae’r cofnodion yn cyfuno i roi darlun diddorol o’r problemau a’r peryglon a oedd yn wynebu llongau masnachol yn y gorffennol.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s