Dianc o Rwsia, 1917: Hanes y teulu Cartwright

Mae gan Archifau Morgannwg gopi o basbort a gyhoeddwyd gan y Conswl Cyffredinol Prydeinig yn Odessa i Gwladys Cartwright o Ddowlais.

 

rsz_dx726-22-1

HRA/DX726/22/1: Pasbort Prydeinig cyflwynwyd i Mrs Gwladys Ann Cartwright yn Odessa, Tach 1915, ac adnewyddwyd, Meh 1917

Mae’r pasbort, fel y rhan fwyaf o ddogfennau swyddogol, yn blaen iawn ac yn gofyn ac yn mynnu:

… in the Name of His Majesty all those whom it may concern to allow Mrs Gwladys Anne Cartwright, a British Subject, accompanied by her daughter Ella Cecil and son Edward Morgan to pass without let or hindrance and to afford her every assistance and protection to which she may stand in need. [DX726/22]

O’i archwilio’n fanylach, fodd bynnag, mae’n amlwg bod y pasbort yn adrodd hanes dihangfa ddramatig y teulu Cartwright o’r rhyfel yn Rwsia ym 1917, bron union gan mlynedd yn ôl, wrth i’r wlad gyfan brofi chwyldro.

Cedwir y pasbort yn Archif Ymchwil Hughesovka. Mae’r archif yn nodi manylion am fywydau a ffawd y dynion a’u teuluoedd a adawodd de Cymru, ym mlynyddoedd olaf yr 19eg ganrif a degawd cyntaf y 20fed ganrif, i weithio yn niwydiannau glo, haearn a dur yr hyn a adwaenid bryd hynny fel Hughesovka sef bellach Donetsk yn Wcráin. Mae craidd y casgliad yn ymwneud â hanes John Hughes o Ferthyr Tudful a wahoddwyd gan Lywodraeth Rwsia yn 1869 i sefydlu ffowndri haearn yn ne Rwsia. Roedd Hughes yn beiriannydd a meistr haearn profiadol ac roedd Llywodraeth Rwsia yn gwerthfawrogi bod angen ei arbenigedd a’i sgiliau rheoli i fanteisio ar y deunyddiau crai – mwyn haearn, glo ac ynni dŵr – a oedd i’w canfod yn rhanbarth Donbass, Rwsia. O’i ran yntau, gwelodd Hughes hyn fel cyfle i adeiladu ymerodraeth fusnes ar ffurf y New Russia Company, a sefydlodd gyda’i bedwar mab. Cydnabu hefyd fod angen dynion medrus, wedi eu trwytho yn y diwydiannau glo, haearn a’r diwydiant dur newydd. O ganlyniad fe recriwtiodd yn helaeth ledled de Cymru. Lluniwyd contractau, i ddechrau, am dymor o dair blynedd a manteisiodd llawer ar ei gynnig i weithio yn Hughesovka, y dref a oedd yng nghanol gweithrediadau’r New Russia Company ac a enwyd ar ôl John Hughes. Ar ôl talu Hughesovka am eu tocynnau teithio, denwyd llawer o ddynion gan yr arian a’r addewid o antur. Er bod yr amodau’n galed, gyda gaeafau rhewllyd a hafau poeth a sych, derbyniodd y dynion dâl da ac edrychodd y Cwmni ar eu holau. Wrth i’r busnes sefydlogi symudodd teuluoedd cyfan draw i ymgartrefu yn Hughesovka. Ym 1896 cadarnhaodd cyfrifiad o fewnfudwyr Cymreig yn Hughesovka fod ryw 22 o deuluoedd yn yr ardal. Mae’r Archifau Ymchwil yn adrodd eu hanes drwy gyfrwng ffotograffau, llythyron, papurau busnes a dogfennau swyddogol. I ychwanegu at hynny, mewn nifer o feysydd ceir atgofion gan aelodau o deuluoedd, yn aml flynyddoedd yn ddiweddarach ac a ddidolwyd adeg sefydlu’r Archif.

Roedd y teulu Cartwright yn un o blith nifer o deuluoedd a deithiodd o dde Cymru i weithio i’r New Russia Company yn Hughesovka. Roedd Percy Cartwright yn fab i argraffwr o Ddowlais. Yn sgolor talentog, mae ei enw yn ymddangos yn aml mewn papurau lleol fel enillydd gwobrau mewn arholiadau a chystadlaethau a gynhaliwyd gan yr Ysgol Sul leol yng Nghapel Methodistaidd Elizabeth Street yn Nowlais. Roedd yn fabolgampwr brwd ac yn aelod o bwyllgor clwb criced Dowlais, y Lilywhites a’r clwb pêl-droed lleol. Yn hytrach na dilyn ei dad i’r busnes argraffu, roedd talent wyddonol gan Percy. Erbyn 1901, yn 22 oed, ef oedd y cynghorydd gwyddonol yn y gwaith dur lleol. Yn ifanc, uchelgeisiol a sgiliau ganddo o ran creu dur, Percy oedd yr union fath o ddyn yr oedd y New Russia Company ei angen yn Hughesovka. Gadawodd Percy am Hughesovka ym 1903 a bu’n gweithio i’r New Russia Company fel Cemegydd Metelau, i ddechrau fel Cemegydd Cynorthwyol y Cwmni ac yna fel y Prif Gemegydd.

rsz_dx726-2

HRA/DX726/2: Percy Cartwright yn sefyll yn ei labordy, tua 1912

Bu’n byw yn Hughesovka am y 14 mlynedd nesaf, gan ddychwelyd i dde Cymru ym 1911 i briodi athrawes ysgol 26 oed, Gwladys Morgan.

rsz_dx726-5

HRA/DX726/5: Gwladys Ann Cartwright yn ffenest ei thy yn dal Midge, ci y teulu, Medi 1912

Roedd Gwladys, a oedd hefyd o Ddowlais, yn byw’n agos i deulu’r Cartwright. Ei thad, Tom, oedd y groser lleol a mynychai’r teulu Gapel Elizabeth Street hefyd. Ganed eu plentyn cyntaf, merch o’r enw Ella, yn Hughesovka ddwy flynedd yn ddiweddarach ym 1913.

rsz_dx726-13

HRA/DX726/13: Ella Cecil Cartwright yn yr ardd yn Hughesovka yn ystod y gaeaf, tua 1916

Mae gan Archif Ymchwil Hughesovka set wych o ffotograffau sy’n rhoi cip ar gyfleusterau gweithgynhyrchu’r rhanbarth, tref Hughesovka ei hun, a adeiladwyd i roi cartref i’r gweithlu ac i fywydau’r rheiny a deithiodd o dde Cymru i weithio i’r New Russia Company. Ar sawl cyfrif, roedd y Cwmni yn ei ddydd yn gyflogwr blaenllaw, gyda darpariaeth ar gyfer tai, ysbytai ac ysgolion. Serch hynny, i lawer o’r gweithlu lleol roedd bywyd yn gyntefig o hyd a dioddefodd y dref yn rheolaidd o heintiau ac epidemigau. Er nad yn hollol rydd o hyn i gyd, mae’r ffotograffau yn dangos y byddai teulu’r Cartwright a theuluoedd eraill o Gymru wedi mwynhau ffordd freintiedig iawn o fyw gyda thŷ cwmni mawr â gardd helaeth iddo, gweision a cherbydau a cheffylau ar gyfer yr haf a slediau i’r gaeaf [DX726/1-17, 19-21].

DX726-20-1

HRA/DX726/20/1: Percy a Gwladys Cartwright yn eu coets gyda’r gyrrwr, Hyd 1913

Mewn nodyn sydd wedi ei atodi at lun o’r car a cheffyl mae Gwladys yn nodi ei bod yn siomedig nad yw ei gyrrwr Andre eto wedi cael gafael ar ei ffedog ledr ac o ganlyniad, nad oes golwg rhy daclus arno. Yn ystod misoedd yr haf byddai Gwladys a’r merched yn dianc o’r dref gyda llawer o deuluoedd eraill i fynd ar wyliau lan y môr. Roedd bywyd cymdeithasol byrlymus i’w gael, a byddai’r gymuned yn dod ynghyd yn aml ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol. Roedden nhw hefyd yn cadw cysylltiadau clòs â theuluoedd a ffrindiau yng Nghymru, ac ymddangosodd adroddiadau o Hughesovka yn aml ym mhapurau newydd Cymru. Er enghraifft, roedd gan Percy dalent actio amatur ac fe geir adroddiadau yn y Western Mail, ym 1914, am gynyrchiadau a berfformiwyd yn Hughesovka gyda Percy yn chwarae’r brif ran. Ym mis Mai 1914 adroddodd y papur:

Whilst the Welsh national drama is “holding the boards” at the New Theatre, Cardiff it is interesting to note that at Hughesoffka in South Russia where the great iron and steel works funded by the late Mr John Hughes still exist, a number of British plays have been presented within the last few weeks by, amongst others, several players who hail from Wales and are now resident on Russian soil. One of these, The Parent’s Progress, an amusing comedy went exceedingly well, and the chief part “Samuel Hoskins” was admirably sustained by Mr Percy Cartwright of Dowlais.… [Western Mail, 11 Mai 1914]

Fodd bynnag, roedd hyn oll i newid ym 1917. Erbyn 1914 roedd nifer y tramorwyr yn Hughesovka wedi disgyn yn sylweddol, er bod llawer yn parhau i gael eu cyflogi gan y New Russia Company mewn swyddi technegol a rheoli allweddol. Wedi dechrau’r rhyfel, roedd nifer o’r dynion ifanc wedi gadael i deithio’n ôl i wledydd Prydain i ymrestru, ond aeth bywyd yn ei flaen i lawer o’r rhai a arhosodd yn Hughesovka er, yn gynyddol felly, mynnwyd bod y ffatrïoedd yn cynhyrchu arfau a dur ar gyfer ymdrech ryfel Rwsia. Erbyn 1917, fodd bynnag, wedi 3 blynedd o golledion trwm o ran dynion a thiriogaeth, roedd y rhyfel yn mynd yn wael i Fyddin Rwsia gydag ysbryd y milwyr yn dadfeilio a’r economi ar fin chwalu. Aeth pethau ar chwâl yn gynnar yn y flwyddyn gydag anrhefn a therfysg yn y brifddinas Petrograd (St Petersburg gynt), a daniwyd gan brinder bwyd affwysol. Gan werthfawrogi na allasai ddibynnu mwyach ar y Fyddin, ildiodd y Tsar ei goron a throsglwyddwyd y grym i Lywodraeth Dros Dro o wleidyddion rhyddfrydig y Duma dan arweiniad Alexander Kerensky.

Fodd bynnag, os oedd teuluoedd Hughesovka dan yr argraff y gallai hyn wella eu sefyllfa, cawsant eu siomi’n ddirfawr. Roedd penderfyniad Kerensky i barhau â’r rhyfel yn amhoblogaidd ac yn gynyddol felly roedd y Llywodraeth Dros Dro yn cystadlu am rym gyda Sofiet Petrograd. Taniwyd fflamau chwyldro ymhellach fis Ebrill pan ddychwelodd arweinydd y Bolsieficiaid, sef Lenin, i Rwsia.

Gan weld y llywodraeth yn dadfeilio o’u blaenau ac, mewn sawl ardal, y gyfraith a threfn hefyd, byddai’r teuluoedd yn Hughesovka wedi teimlo’n fwyfwy ynysig a dan fygythiad. Fel unigolion cymharol gyfoethog a symbolau o berchentyaeth dramor roedden nhw yn darged i’r chwyldroadwyr ac i’r ysbeilwyr. Dechreuodd y teulu Cartwright a llawer o rai eraill ystyried eu dewisiadau. Byddai gadael rhan fwyaf eu heiddo a’u ffordd o fyw wedi bod yn benderfyniad anodd ond, erbyn haf 1917, dewisiadau cyfyng oedd yn eu hwynebu. Roedd nifer o deuluoedd gan gynnwys y teulu Steel a’r teulu Calderwood wedi gadael eisoes neu’n paratoi i adael ar frys. Mae Leah Steel, a ddychwelodd i Lundain gyda’i rheini ym mis Gorffennaf 1917, yn cofio cyn iddynt adael:

…. in our area mobs of people roamed around claiming everything as their own, but they never took away or claimed anything from our home [DX664/1].

Mae’n bur bosib mai’r newyddion am wrthryfel cyntaf y Bolsieficiaid oedd y ffactor allweddol ym mhenderfyniad y teulu Cartwright i ymadael â Hughesovka. Ond roedd yna gymhlethdod pellach. Roedd Gwladys yn disgwyl eu hail blentyn, Edward Morgan, a aned yn ystod haf 1917. Ar ben hynny, roedd trwyddedwyd pasbort Gwladys am gyfnod o ddwy flynedd yn 1915 ac roedd hwnnw i ddod i ben yn ail hanner 1917. Felly er yr oedd yn ôl pob tebyg yng nghyfnod olaf beichiogrwydd, gallwn weld o’r dogfennau iddi fod yn rhagofalus drwy adnewyddu ei phasbort yn y Gonswliaeth Brydeinig yn Odessa ym mis Mehefin 1917. Ychydig wythnosau yn unig wedi hynny fe ychwanegwyd enw Edward i’w phasbort ar 7 Awst.

Erbyn mis Awst doedd dim troi nôl ac roedd siwrnai faith a pheryglus yn ôl i Gymru yn wynebu’r teulu Cartwright mor fuan wedi geni’r babi. Roedd y rheiny a aeth i Hughesovka naill ai wedi teithio ar y llwybr môr deheuol ar draws Môr y Canoldir a’r Môr Du i Odessa neu wedi teithio dros y tir ar drên trwy’r Iseldiroedd, yr Almaen a Gwlad Pwyl. Roedd y ddau lwybr yma bellach ynghau oherwydd y brwydro. Yr unig ddewis oedd yn weddill oedd teithio i’r gogledd i Petrograd ac oddi yno drwy’r Ffindir, Sweden a Norwy cyn croesi Môr y Gogledd yn ôl i Ynysoedd Prydain.

Gan adael Hughesovka, mae’n debyg ar ddiwrnod olaf mis Awst, byddai cymal cyntaf y siwrnai wedi bod ar drên i Petrograd – taith o ryw 900 milltir. Roedd cludiant i raddau helaeth wedi’i neilltuo i’r fyddin ac ar y gorau byddai hon wedi bod yn siwrnai anghyfforddus dros nifer o ddyddiau, gyda’r teulu’n bachu unrhyw ofod a allent ar y cerbydau ac yn y coridorau. Ni fyddai dewis wedi bod gan y teulu Cartwright ond teithio gydag ychydig iawn o ran dillad ac eiddo a chan gario cymaint o fwyd ag y bo modd. Gan deithio mewn trên ar draws gwlad a oedd yng nghanol rhyfel, byddent wedi gorfod wynebu oedi di-ben-draw a bygythiad o gael eu harestio neu ladrata am yn ail. Mynnodd Mary Ann Steel, a wnaeth yr un daith gyda’i mam a’i thri brawd rai wythnosau yn ddiweddarach, fynd â samofar ei mam gyda hi ar y daith. Yn ôl atgof y teulu roedd hi’n benderfynol y bydden nhw’n gallu…berwi eu dŵr a gwneud eu te eu hunain ar bob platfform reilffordd y byddent yn aros ar hyd y daith. O ddadansoddi pasbort Gwladys, gwyddom eu bod ym Mhetrograd erbyn ail wythnos mis Medi. Ar y pwynt yma byddent wedi ymlâdd ond, i ychwanegu at eu trafferthion, y ddinas bellach oedd calon y chwyldro. Er i Kerensky wrthsefyll ymgais y Fyddin i gipio grym, roedd rheolaeth dros y ddinas yn llithro i afael Sofiet Petrograd a’r Bolsieficiaid. Roedd hyn ond ychydig wythnosau cyn chwyldro’r Bolsieficiaid a byddai’r teulu Cartwright wedi gweld yr anrhefn ar y strydoedd a gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau arfog. Ar ben hynny, roedd bwyd yn brin a byddent wedi gorfod ciwio’n ddyddiol i gael bara a hanfodion syml.

Yn ffodus i deulu’r Cartwright, erbyn 12 Medi llwyddodd y Gonswliaeth Brydeinig i drefnu tocynnau i’r teulu deithio dros y ffin ger llaw a thros y môr wedyn i’r Ffindir ac oddi yno yn eu blaenau i Sweden a Norwy. Rhoddodd conswl Sweden ym Mhetrograd fisa deithio i’r teulu, ar 11 Medi, ar gost o un ddoler Americanaidd neu 4 swllt a 5 ceiniog. Nodwyd eu cyrchfan ar eu pasbort fel “adref” a hyd yr arhosiad fel “amhenodol”. Roedd y fisa yn ddilys am 10 diwrnod yn unig a does dim syndod i’r teulu Cartwright adael Petrograd yn syth ar ôl derbyn y dogfennau teithio angenrheidiol. Mae’n rhaid ei bod hi’n rhyddhad mawr cyrraedd tiriogaeth niwtral, yn enwedig i Gwladys a’i babi bach a’i merch. Ond nid dyna ddiwedd y daith iddynt o bell ffordd. Byddai’r teulu wedi teithio ar drên drwy’r Ffindir i Torino ac yna ddeuddydd ar ôl cael eu fisâu ym Mhetrograd, ar 14 Medi, fe groeson nhw’r ffin yn Haparanda i mewn i Sweden. Wedi croesi Sweden fe gyrhaeddon nhw Norwy o’r diwedd. Ymhlith papurau’r teulu y mae cerdyn post o westy ger llyn yn Vossvangen lle bu’r teulu yn aros, mewn llety cymharol gysurus o’r diwedd, am long dan warchodaeth y Llynges Frenhinol, i fynd â nhw o Bergen i Aberdeen. Glaniodd y teulu yn Aberdeen ar 7 Hydref, wythnosau lawer ar ôl gadael ar eu taith o Hughesovka. Fel llawer a adawodd Hughesovka ym 1917, ni aethant fyth yn ôl i Rwsia. Golygodd y chwyldro Bolsieficaidd, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fod y diwedd wedi dod i’r New Russia Company a chafodd Hughesovka ei hailenwi’n Stalino ym 1924.

Dychwelodd y teulu Cartwright i dde Cymru. Fel llawer a lewyrchodd yn Hughesovka, cafodd Percy drafferth yn dod o hyd i waith tebyg wedi hynny, gyda diweithdra ar gynnydd. Fodd bynnag, yn ôl y llythyrau sydd i’w cael yn Archif Ymchwil Hughesovka, parhaodd Percy â’i yrfa gan weithio i’r Powell Duffryn Steam Coal Company tra’n byw yn y Bargod. Diau iddo barhau â’i ddiddordeb theatraidd gydol ei fywyd. Ond mae’n anodd gweld, fodd bynnag, sut y gallasai unrhyw ddrama fod yn fwy dramatig na’r hanes y gallai teulu o Ddowlais ei hadrodd am fywyd ar wastatiroedd diffaith Rwsia a hanes y ffoi rhag y chwyldro yn Rwsia.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael sylw