Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 1870au. Ar wastatiroedd eang a moel y steppes yn ne’r Wcráin sefydlodd waith haearn a’i ddatblygu’n safle diwydiannol anferth. O gwmpas y gweithfeydd tyfodd tref o’r enw Hughesovka.

HRA/DX627/1: John Hughes, sefydlydd Hughesovka
Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful tua 1815. Roedd yn fab i beiriannydd yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa a dechreuodd ar ei yrfa yng Nghyfarthfa cyn symud i weithfeydd Glyn Ebwy ac yna i Weithfeydd Peirianyddol Brynbuga yng Nghasnewydd. Erbyn canol y 1860au, roedd John Hughes yn aelod o Fwrdd Cwmni Peirianyddol ac Adeiladwyr Llongau Millwall yn Llundain, ac yn beiriannydd byd enwog.
Daeth Hughes i sylw Llywodraeth Ymerodraeth Rwsia a oedd yn awyddus i ddatblygu ei diwydiannau peirianyddol trwm a’i rheilffyrdd. Ym 1868, derbyniodd gonsesiwn gan y llywodraeth a phrynodd dir a hawliau mwynol yn y Donbass (de Rwsia bryd hynny, bellach yr Wcráin). I ariannu ei brosiect, ym 1869 sefydlodd Hughes y New Russia Company Cyf., gyda chyfalaf o £300,000. Ym 1870 teithiodd i’r Wcráin i sefydlu’r gweithfeydd ar y gwastatir eang.
Roedd John Hughes wedi priodi Elizabeth Lewis o Gasnewydd ym 1844, a chawsant 8 o blant. Roedd pedwar o’r meibion – John James, Arthur David, Ivor Edward ac Albert Llewellyn – ynghlwm wrth redeg y gwaith. Pan fu farw John Hughes yn St. Petersburg ym 1889, rhannodd y meibion y cyfrifoldeb o redeg y busnes

HRA/DXGC239/3: John Hughes a’i deulu a ffrindiau o Rwsia
Sefydlodd John Hughes ei weithfeydd ar wastatiroedd moel ac eang yn ne’r Wcráin, oedd bryd hynny’n rhan o Ymerodraeth Rwsia. Roedd yr ardal yn gyfoethog o ran glo a dyddodion mwyn haearn, ond yn lle ynysig heb ddim datblygiadau diwydiannol. Roedd yn rhaid i Hughes ddechrau o’r dechrau ym 1870, ond erbyn dechrau 1872 roedd y ffwrnais chwyth gyntaf wrthi’n cynhyrchu haearn ac erbyn mis Medi 1873 roedd cledrau haearn yn cael eu cynhyrchu yno. Codwyd mwy o ffwrneisi chwyth wrth i’r gweithfeydd ddatblygu ac adeiladwyd ffwrneisi tân agored yn yr 1880au i gynhyrchu dur. Erbyn diwedd y 1890au, dyma oedd gweithfeydd mwyaf Ymerodraeth Rwsia, gydag 8,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi ym 1896 a 12,000 ym 1904.

HRA/DX878/1: Gweithfeydd y New Russia Company, ffwrneisi chwyth a gweithwyr, wedi 1892
Sefydlodd Hughes y gweithfeydd fel safle diwydiannol hunangynhaliol. Roedd y deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yn dod o lofeydd, gweithfeydd mwyn haearn a chwareli calchfaen y cwmni; sefydlwyd gweithfeydd brics i gyflenwi deunyddiau adeiladu; siopau atgyweirio a labordai cemegol i wasanaethu’r fenter. Ym 1919, meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth. Parhaodd i weithio a’r ardal yn parhau fel ganolfan ddiwydiannol fawr.
Pan oedd Hughes yn sefydlu’r gwaith haearn, roedd angen gweithwyr medrus arno a chyflogodd lawer ohonynt o Gymru. Dim ond am rai blynyddoedd yr arhosodd rhai, ond ymgartrefodd eraill yn Hughesovka gan ddod â’u gwragedd a’u teuluoedd gyda nhw. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ac er bod y cwmni’n hyfforddi gweithlu o Rwsia, parhaodd hefyd i gyflogi gweithwyr medrus o’r Deyrnas Unedig. Sefydlwyd cymuned alltud lewyrchus gydag ysgol i blant o Brydain, eglwys Anglicanaidd a chlwb Saesneg.

HRA/DX628/10/4/1: Athrawon a ddisgyblion yr ysgol Saesneg, 1911. Mae Leeza Wiskin, bu’n dysgu Saesneg yn yr ysgol, yn sefyll yn y cefn ar y chwith.
Tyfodd tref Hughesovka o gwmpas y gweithfeydd, gyda’r Cwmni’n darparu tai i gartrefu’r Prydeinwyr a rhai o’r gweithwyr lleol. Roedd y gweithwyr Prydeinig yn byw mewn sector ar wahân, a rhai mewn tai mawr. Erbyn degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd poblogaeth Hughesovka tua 50,000, a’r mwyafrif ohonyn nhw’n gweithio neu’n ddibynnol ar y gweithfeydd.

HRA/DX587/21: David Waters, yn wreiddiol o Abertawe, a’u blant a ganwyd oll yn Hughesovka, tua 1900
Arhosodd rhai teuluoedd yn Hughesovka am sawl cenhedlaeth, a’u plant yn priodi ac yn magu eu teuluoedd eu hunain yn y gymuned glos yno. Roedd bywyd yn galed ar adegau, y gaeafau’n oer iawn a’r hafau’n llethol a phroblemau iechyd fel colera a theiffws, ond yn gyffredinol roedd gan y teuluoedd Prydeinig safonau byw da. Ym 1896, roedd 22 o deuluoedd o Gymru yn byw yn Hughesovka.

HRA/DX694/12/1: Llun priodas Elizabeth Mary James a Charles Henry Perry, yn Odessa, 1894. Ganwyd y briodferch yn Hughesovka i rieni o Gymru, a death y briodfab i Rwsia fel plentyn gyda’i deulu. Ganwyd 10 o blant i Elizabeth a Charles, pob un wedi eu eni yn yr Wcrain.
Yna, ym 1917 daeth y chwyldro i Rwsia. Gadawodd y rhan fwyaf o’r teuluoedd Prydeinig Hughesovka a dychwelyd adref .Meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth ac ailenwyd Hughesovka yn Stalino, ac wedyn Donetsk.
Mae Archifau Morgannwg wedi casglu nifer o gofnodion sy’n ymwneud â Hughesovka yn Archif Ymchwil Hughesovka (AYH). Mae AYH yn gasgliad o ddeunydd a gasglwyd o nifer o ffynonellau sydd i gyd yn perthyn i un thema. Mae’n cynnwys papurau a ffotograffau a gyflwynwyd gan ddisgynyddion teuluoedd o Hughesovka, copïau o ddeunydd a dderbyniwyd gan yr Archifau, a deunydd sy’n ymwneud â gweithgareddau’r Archifau sy’n gysylltiedig â Hughesovka. Mae’r casgliad yn dangos llwyddiannau un o’r ymfudwyr o Gymru hynod fedrus a fu wrthi’n sefydlu a datblygu diwydiannau ymhob cwr o’r byd. Mae’n gymharydd defnyddiol â mentrau tramor o Gymru eraill – y wladfa ym Mhatagonia er enghraifft – ac yn arwydd o gryfder mentergarwch diwydiannol o Gymru.
Prif gryfder y casgliad yw’r hyn a ddadlennir am aelodau’r gymuned alltud yn Hughesovka, ond mae hefyd yn cynnwys deunydd sy’n ymwneud â gyrfa John Hughes, y New Russia Company a’r gweithfeydd, yn ogystal â pheth gwybodaeth dechnegol. Mae’r deunydd ffotograffig yn gadarn tu hwnt, gyda llawer o ffotograffau o’r dre a’r gweithfeydd, ac o deuluoedd Prydeinig.

HRA/DX726/20/1: Llun o Percy a Gwladys Cartwright yn eu coets, 1913. Ysgrifennodd Gwladys ar y cefn, ‘André has not had the leather apron for himself yet, so does not look quite tidy. Our next conveyance will have to be a new sledge.’
Gallwch weld Tabl Cynnwys catalog Archif Ymchwil Hughesovka ar wefan Archifau Morgannwg. Sylwch mai dim ond y prif benawdau a welir yn y tabl. Mae’r catalog cyflawn ar gael i’w chwilio ar gatalog Archifau Morgannwg, Canfod.