Hughesovka 1917: Hanes Edith Steel

Mae hanesion y rhan fwyaf o’r teuluoedd Cymreig a fu’n gweithio i’r New Russia Company yn Hughesovka yn dod i ben ym 1917 pan ddychwelon nhw i Brydain yn dilyn cwymp Llywodraeth y Tsar yn nechrau’r flwyddyn. Fod bynnag, roedd llawer o’r gweithwyr tramor wedi byw a gweithio yn Rwsia am lawer o flynyddoedd a’u meibion a’u merched wedi priodi aelodau o deuluoedd lleol yn ardal Donbass.  Roedd y dewis ym 1917 yn llawer mwy cymhleth i deuluoedd o’r fath a dewisodd sawl un i aros yn Rwsia. Mae Archif Ymchwil Hughesovka yn cynnig cipolwg ar fywydau rhai o’r rheiny a benderfynodd aros ym 1917 ac yn adrodd eu hanes yn y degawd dilynol yn y Rwsia chwyldroadol.

Roedd Edith Steel yn ferch i Samuel a Tabitha Steel. Roedd y teulu Steel yn wreiddiol o’r Blaenau yng Ngwent ac wedi gweithio yn y diwydiant glo a haearn yn Rwsia am nifer o flynyddoedd. Roedd Edith a’i dwy chwaer a’i dau frawd yn aelodau sefydlog o’r cymuned yn Hughesovka. Fel llawer tebyg, dewisodd y rhan fwyaf o deulu Steel adael Hughesovka ym 1917 a dychwelyd i Brydain. Roedd Edith fodd bynnag wedi priodi dyn lleol, Alexandre Bolotov ac, erbyn 1917, roedd ganddynt ddau fab Dnietroff (Kolka) ac Alexandre (Sasha) ill dau yn gwasanaethu ym Myddin Rwsia. Mae’n rhaid ei bod yn ddiwrnod trist pan, ar 19 Medi 1917, gadawodd mam Edith, ei chwaer Mary, a 3 nai Hughesovka am Petrograd ar gymal cyntaf ei taith am adref. Arhosodd ei brawd yng nghyfraith, Percy Blackburn, tan Ebrill 1918 ac fe fyddai yntau wedi bod yn un o’r cyflogeion tramor olaf i adael Hughesovka. Wedi’r adeg yna, gyda Rwsia wedi ymrannu am flynyddoedd lawer gan y chwyldro a rhyfel cartref, byddai cysylltu â theulu a chyfeillion ym Mhrydain wedi bod yn anodd os nad yn amhosibl.

Gallwn godi’r stori 12 mlynedd yn ddiweddarach trwy gyfrwng dau lythyr yn Archif Ymchwil Hughesovka gan Edith a’i mab, Alexandre, a sgwennwyd at Mary Blackburn (Steel gynt). Mae’n ymddangos i Mary lwyddo i gael llythyr allan i’w chwaer Edith. Roedd hyn yn gryn gamp oherwydd, erbyn 1930, roedd y teulu Bolotov yn byw yn nhref Gubakha yng ngorllewin yr Wrals, dros 1000 o filltiroedd i’r dwyrain o Hughesovka, oedd wedi ei ailenwi yn Stalino ym 1924. Ni ddywedir wrthym pam i’r teulu symud o Donetsk. Fel ardal gyfoethog o ran ei mwynau oedd am ddatblygu ei diwydiannau mwyngloddio, byddai Gubakha wedi bod angen dynion sgilgar o ran mwyngloddio a chreu haearn. Mae’n ddigon posib iddynt gael eu gorfodi i symud, er ei bod yn bosib hefyd yn syml i’r teulu fanteisio ar y cyfleoedd gwaith yn yr ardal. Beth bynnag oedd y rhesymau, fel yn achos Hughesovka yn y dyddiau cynnar, byddai bywyd yn Gubakah wedi bod yn galed ac yn teimlo fel tref arloesol mewn tiriogaeth newydd. Byddai hinsawdd oedd yn golygu tymheredd o dan y rhewbwynt am sawl mis o’r flwyddyn ddim wedi gwneud pethau yn haws.

Mae’r llythyr cyntaf gan Edith yn ateb i lythyr a anfonwyd gan ei chwaer Mary o Fanceinion ym mis Hydref 1930. Er gwaethaf eu sefyllfa roedd ei phryder pennaf am Mary a oedd, yn y cyfamser, wedi colli ei gŵr yn ogystal â mab a merch. Mae’r testun sydd yn yr archif yn gopi a gymerwyd o’r gwreiddiol:

My dear sister Macha!

We are all very happy to receive a letter from you. From the beginning I did not want to believe when Sasha handed your letter and said look here is a letter from Macha and it came from England.

It was really very hard for you to go through all the bad things and all one after the other. First your loving husband, then your lovely daughter and finally your son. I was crying all the time when I was reading your letter.

We with Sasha also had experienced bad times. We lived through two wars, first Russian-German and then revolution. Both our sons were fighting in war. Sasha came back alive but Kolka my youngest lost his life. Later we had shortage of food and on top of it we both contracted typhus and were ill for a long time. Fortunately we had friends in Belgium and we received regular food parcels from them.

Soon after returning from war my son got married and my second joy was when they had a son, they named him Nikolas so I became happy grandmother. Then they had a daughter and named her Eda, just like me and third child Ninatchka, she is only two and half years old. She is very lovely child and she loves me very much.

My daughter in law is from the Ukraine and her name is Fany. We all live together in one flat. Financially we are very well off, my husband earns very good money. Sasha earns good money. Sasha also has very good position, he works as engineer in charge of coke furnace. The factory is situated in the Urals. My grandson Kolka goes to school and Eda is also learning reading and writing. I am going to photograph them both and send you pictures when they are ready and please, dear Macha, send me photos of all my nephews, photos of my brothers Albert and Aleksander. Tell my brothers to write to me and describe everything about themselves.

Dear Macha, do you know where is Uncle Tom and Aunty Olga Kuper? I think that they are also in England. When you write letter to London please give our regards to Aunty Febi.

Dear sister I am longing to be near you, to talk to you and find out all about you and your children and to know more about your late daughter. It is tragedy that you lost her so soon. Now we are both without daughters, daughters are so much nicer, they are more gentle and loving.

Please write to me all about your life in England. Here in Russia at present everything goes ahead, we are building factories, producing works, new buildings, life is completely different to what it was before.

Dear Macha, I would like to teach my grandchildren English language, but unfortunately I have not any books in English. Please send me English books which will help me teach them.

Please write to me more often. Give all my love to all. Your loving sister Eda Bolotova.

PS

Macha, Sasha has holiday very year, maybe we could come and visit you in England. Tell us how to get entry to England. Write, write soon.

Mae cywair diddorol i’r llythyr ac mae’n bosib y bu’n rhaid i’r teulu gymryd gofal wrth drafod bywyd yn Rwsia. Ar yr wyneb y mae’n galonogol am eu bywydau yn Gubakha a’r amodau yn Rwsia. Serch hynny, mae yna sawl sylw arwyddocaol yn ymwneud ag anawsterau a ddioddefwyd ganddynt dros y degawd diwethaf. Mae’r ail lythyr i Mary gan fab Edith, Alexandre (Sasha), wedi ei ddyddio ar 18 Hydref 1930, mae’n rhoi disgrifiad o’u sefyllfa sy’n fwy plwmp a phlaen. Mae Alexandre hefyd yn cydnabod mai tenau iawn oedd y posibilrwydd i’r Bolotoviaid gael caniatâd i adael Rwsia er mwyn ymweld â Phrydain. Mae’r llythyr gwreiddiol yn yr Archif ac mae’r testun isod wedi ei gymryd o’r cyfieithiad:

Final image for posting

Dear Aunty Mary,                                                                 

We have received your letter dated 7.10.1930, it is the first one for the past 10 years.

Many changes occurred at your place in those years and I am sending our condolences on the death of grandmother, Uncle Petia and other relatives. The only thing that is good is that your sons are grown up and therefore you shall be looked after and happy, which we wish you from all our hearts.

There are many changes here as well. As you will now we have settled in the Urals.

We are all alive and well: Mother, father, wife and children: Niusia, Idunk and Kolka. We live together and the time goes fast. My son is now seven and a half years old and goes to school. Idunia shall start school in the next year. My youngest Niusia, she is two years old, is still at home happily running around the rooms.

I am working from morning until night on the coal furnaces. The father works on the building of a large coal chemical plant.

Grandmother Ida and the wife are occupied on home duties.

In the evenings we are listening to the radio and find out all the news and what is happening in the Soviet Union.

The winter is almost here. It is cold and sometimes the frost reaches -40c. Our locality is full of forests and mountains. In the forests there all kinds of creatures and animals – also some bears. In my free time which does not occur often – I take a rifle and go hunting.

You are inviting us for a visit, but it is so far and it is impossible to arrange for such a trip, one has to obtain a permit to leave.

Write often please, let’s keep contact which we lost such a long time ago.

We are sending greetings from all our family, to all our relatives so far away. We are wishing you a long and happy life and you Aunty to marry the sons and wait for grandchildren.

I am kissing you many times from my heart, your nephew Sasha.

Address:       Russia

Ural

St, Gubakha

Coal Plant

Master of the Coal Furnaces

Alexandr Alexendrovich Bolotov

PS Mother is going to write herself as soon as she can. We are going to get our photo made for you soon.

I chwiorydd a fyddai wedi mwynhau safon bywyd cymharol lewyrchus yn Hughesovka, bu bywyd yn amlwg yn anodd iawn yn ystod y ddegawd ers iddynt adael. Mae’n hawdd dod i’r casgliad mai’r rheiny a adawodd am Brydain fu’r rhai ffodus. I raddau, mae’n debyg fod hynny yn wir. Serch hynny, dychwelodd gŵr Mary, Percy, o fod yng ngwasanaethau gyda Byddin Prydain yn Rwsia â’i iechyd yn wael ac er ei fod yn ŵr sgilgar cafodd drafferth dod o hyd i waith. Roedd chwe mab gan Mary a Percy ond mae’n amlwg bo’r ddau wedi dymuno cael merch. Fel y dyfalodd Edith, mae’n debyg y trawyd y ddau yn galed gan farwolaeth eu merch, Joyce, o fewn tair wythnos iddi gael ei geni ym 1925. Daeth trasiedi arall i ran y teulu’r flwyddyn ganlynol pan fu farw Percy yn 48 oed, a hynny ddiwrnod wedi iddynt golli eu mab 9 oed Joey, a laddwyd mewn damwain modur. Fel rhiant sengl yn gofalu am ei theulu ym Manceinion, mae’n rhaid bod bywyd wedi bod yn galed i Mary Blackburn. Mae hefyd yn anodd dychmygu sut lwyddodd ei chwaer Edith i ymdopi yn Rwsia yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae’n rhaid bod colli mab yn y rhyfel a symud i Gubakha wedi bod yn brofiadau trawmatig. Roedd Edith yn ddiolchgar bod gwaith gan ei gŵr a’i mab o leiaf a bod y teulu yn dal ynghyd. Peth bach efallai ond, gobeithio i Edith a Mary gael cysur o’r ffaith iddynt unwaith eto allu cysylltu wedi toriad o 13 o flynyddoedd a’u bod yn gallu rhannu newyddion am y teulu a, diau, atgofion hefyd am eu dyddiau yn Hughesovka.

Mae’r deunydd a ddefnyddiwyd yn yr hanes hwn wedi ei dynnu o lythyrau sy’n cael eu cadw yn Archif Ymchwil Hughesovka yn Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Dianc o Rwsia, 1917: Hanes y teulu Cartwright

Mae gan Archifau Morgannwg gopi o basbort a gyhoeddwyd gan y Conswl Cyffredinol Prydeinig yn Odessa i Gwladys Cartwright o Ddowlais.

 

rsz_dx726-22-1

HRA/DX726/22/1: Pasbort Prydeinig cyflwynwyd i Mrs Gwladys Ann Cartwright yn Odessa, Tach 1915, ac adnewyddwyd, Meh 1917

Mae’r pasbort, fel y rhan fwyaf o ddogfennau swyddogol, yn blaen iawn ac yn gofyn ac yn mynnu:

… in the Name of His Majesty all those whom it may concern to allow Mrs Gwladys Anne Cartwright, a British Subject, accompanied by her daughter Ella Cecil and son Edward Morgan to pass without let or hindrance and to afford her every assistance and protection to which she may stand in need. [DX726/22]

O’i archwilio’n fanylach, fodd bynnag, mae’n amlwg bod y pasbort yn adrodd hanes dihangfa ddramatig y teulu Cartwright o’r rhyfel yn Rwsia ym 1917, bron union gan mlynedd yn ôl, wrth i’r wlad gyfan brofi chwyldro.

Cedwir y pasbort yn Archif Ymchwil Hughesovka. Mae’r archif yn nodi manylion am fywydau a ffawd y dynion a’u teuluoedd a adawodd de Cymru, ym mlynyddoedd olaf yr 19eg ganrif a degawd cyntaf y 20fed ganrif, i weithio yn niwydiannau glo, haearn a dur yr hyn a adwaenid bryd hynny fel Hughesovka sef bellach Donetsk yn Wcráin. Mae craidd y casgliad yn ymwneud â hanes John Hughes o Ferthyr Tudful a wahoddwyd gan Lywodraeth Rwsia yn 1869 i sefydlu ffowndri haearn yn ne Rwsia. Roedd Hughes yn beiriannydd a meistr haearn profiadol ac roedd Llywodraeth Rwsia yn gwerthfawrogi bod angen ei arbenigedd a’i sgiliau rheoli i fanteisio ar y deunyddiau crai – mwyn haearn, glo ac ynni dŵr – a oedd i’w canfod yn rhanbarth Donbass, Rwsia. O’i ran yntau, gwelodd Hughes hyn fel cyfle i adeiladu ymerodraeth fusnes ar ffurf y New Russia Company, a sefydlodd gyda’i bedwar mab. Cydnabu hefyd fod angen dynion medrus, wedi eu trwytho yn y diwydiannau glo, haearn a’r diwydiant dur newydd. O ganlyniad fe recriwtiodd yn helaeth ledled de Cymru. Lluniwyd contractau, i ddechrau, am dymor o dair blynedd a manteisiodd llawer ar ei gynnig i weithio yn Hughesovka, y dref a oedd yng nghanol gweithrediadau’r New Russia Company ac a enwyd ar ôl John Hughes. Ar ôl talu Hughesovka am eu tocynnau teithio, denwyd llawer o ddynion gan yr arian a’r addewid o antur. Er bod yr amodau’n galed, gyda gaeafau rhewllyd a hafau poeth a sych, derbyniodd y dynion dâl da ac edrychodd y Cwmni ar eu holau. Wrth i’r busnes sefydlogi symudodd teuluoedd cyfan draw i ymgartrefu yn Hughesovka. Ym 1896 cadarnhaodd cyfrifiad o fewnfudwyr Cymreig yn Hughesovka fod ryw 22 o deuluoedd yn yr ardal. Mae’r Archifau Ymchwil yn adrodd eu hanes drwy gyfrwng ffotograffau, llythyron, papurau busnes a dogfennau swyddogol. I ychwanegu at hynny, mewn nifer o feysydd ceir atgofion gan aelodau o deuluoedd, yn aml flynyddoedd yn ddiweddarach ac a ddidolwyd adeg sefydlu’r Archif.

Roedd y teulu Cartwright yn un o blith nifer o deuluoedd a deithiodd o dde Cymru i weithio i’r New Russia Company yn Hughesovka. Roedd Percy Cartwright yn fab i argraffwr o Ddowlais. Yn sgolor talentog, mae ei enw yn ymddangos yn aml mewn papurau lleol fel enillydd gwobrau mewn arholiadau a chystadlaethau a gynhaliwyd gan yr Ysgol Sul leol yng Nghapel Methodistaidd Elizabeth Street yn Nowlais. Roedd yn fabolgampwr brwd ac yn aelod o bwyllgor clwb criced Dowlais, y Lilywhites a’r clwb pêl-droed lleol. Yn hytrach na dilyn ei dad i’r busnes argraffu, roedd talent wyddonol gan Percy. Erbyn 1901, yn 22 oed, ef oedd y cynghorydd gwyddonol yn y gwaith dur lleol. Yn ifanc, uchelgeisiol a sgiliau ganddo o ran creu dur, Percy oedd yr union fath o ddyn yr oedd y New Russia Company ei angen yn Hughesovka. Gadawodd Percy am Hughesovka ym 1903 a bu’n gweithio i’r New Russia Company fel Cemegydd Metelau, i ddechrau fel Cemegydd Cynorthwyol y Cwmni ac yna fel y Prif Gemegydd.

rsz_dx726-2

HRA/DX726/2: Percy Cartwright yn sefyll yn ei labordy, tua 1912

Bu’n byw yn Hughesovka am y 14 mlynedd nesaf, gan ddychwelyd i dde Cymru ym 1911 i briodi athrawes ysgol 26 oed, Gwladys Morgan.

rsz_dx726-5

HRA/DX726/5: Gwladys Ann Cartwright yn ffenest ei thy yn dal Midge, ci y teulu, Medi 1912

Roedd Gwladys, a oedd hefyd o Ddowlais, yn byw’n agos i deulu’r Cartwright. Ei thad, Tom, oedd y groser lleol a mynychai’r teulu Gapel Elizabeth Street hefyd. Ganed eu plentyn cyntaf, merch o’r enw Ella, yn Hughesovka ddwy flynedd yn ddiweddarach ym 1913.

rsz_dx726-13

HRA/DX726/13: Ella Cecil Cartwright yn yr ardd yn Hughesovka yn ystod y gaeaf, tua 1916

Mae gan Archif Ymchwil Hughesovka set wych o ffotograffau sy’n rhoi cip ar gyfleusterau gweithgynhyrchu’r rhanbarth, tref Hughesovka ei hun, a adeiladwyd i roi cartref i’r gweithlu ac i fywydau’r rheiny a deithiodd o dde Cymru i weithio i’r New Russia Company. Ar sawl cyfrif, roedd y Cwmni yn ei ddydd yn gyflogwr blaenllaw, gyda darpariaeth ar gyfer tai, ysbytai ac ysgolion. Serch hynny, i lawer o’r gweithlu lleol roedd bywyd yn gyntefig o hyd a dioddefodd y dref yn rheolaidd o heintiau ac epidemigau. Er nad yn hollol rydd o hyn i gyd, mae’r ffotograffau yn dangos y byddai teulu’r Cartwright a theuluoedd eraill o Gymru wedi mwynhau ffordd freintiedig iawn o fyw gyda thŷ cwmni mawr â gardd helaeth iddo, gweision a cherbydau a cheffylau ar gyfer yr haf a slediau i’r gaeaf [DX726/1-17, 19-21].

DX726-20-1

HRA/DX726/20/1: Percy a Gwladys Cartwright yn eu coets gyda’r gyrrwr, Hyd 1913

Mewn nodyn sydd wedi ei atodi at lun o’r car a cheffyl mae Gwladys yn nodi ei bod yn siomedig nad yw ei gyrrwr Andre eto wedi cael gafael ar ei ffedog ledr ac o ganlyniad, nad oes golwg rhy daclus arno. Yn ystod misoedd yr haf byddai Gwladys a’r merched yn dianc o’r dref gyda llawer o deuluoedd eraill i fynd ar wyliau lan y môr. Roedd bywyd cymdeithasol byrlymus i’w gael, a byddai’r gymuned yn dod ynghyd yn aml ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol. Roedden nhw hefyd yn cadw cysylltiadau clòs â theuluoedd a ffrindiau yng Nghymru, ac ymddangosodd adroddiadau o Hughesovka yn aml ym mhapurau newydd Cymru. Er enghraifft, roedd gan Percy dalent actio amatur ac fe geir adroddiadau yn y Western Mail, ym 1914, am gynyrchiadau a berfformiwyd yn Hughesovka gyda Percy yn chwarae’r brif ran. Ym mis Mai 1914 adroddodd y papur:

Whilst the Welsh national drama is “holding the boards” at the New Theatre, Cardiff it is interesting to note that at Hughesoffka in South Russia where the great iron and steel works funded by the late Mr John Hughes still exist, a number of British plays have been presented within the last few weeks by, amongst others, several players who hail from Wales and are now resident on Russian soil. One of these, The Parent’s Progress, an amusing comedy went exceedingly well, and the chief part “Samuel Hoskins” was admirably sustained by Mr Percy Cartwright of Dowlais.… [Western Mail, 11 Mai 1914]

Fodd bynnag, roedd hyn oll i newid ym 1917. Erbyn 1914 roedd nifer y tramorwyr yn Hughesovka wedi disgyn yn sylweddol, er bod llawer yn parhau i gael eu cyflogi gan y New Russia Company mewn swyddi technegol a rheoli allweddol. Wedi dechrau’r rhyfel, roedd nifer o’r dynion ifanc wedi gadael i deithio’n ôl i wledydd Prydain i ymrestru, ond aeth bywyd yn ei flaen i lawer o’r rhai a arhosodd yn Hughesovka er, yn gynyddol felly, mynnwyd bod y ffatrïoedd yn cynhyrchu arfau a dur ar gyfer ymdrech ryfel Rwsia. Erbyn 1917, fodd bynnag, wedi 3 blynedd o golledion trwm o ran dynion a thiriogaeth, roedd y rhyfel yn mynd yn wael i Fyddin Rwsia gydag ysbryd y milwyr yn dadfeilio a’r economi ar fin chwalu. Aeth pethau ar chwâl yn gynnar yn y flwyddyn gydag anrhefn a therfysg yn y brifddinas Petrograd (St Petersburg gynt), a daniwyd gan brinder bwyd affwysol. Gan werthfawrogi na allasai ddibynnu mwyach ar y Fyddin, ildiodd y Tsar ei goron a throsglwyddwyd y grym i Lywodraeth Dros Dro o wleidyddion rhyddfrydig y Duma dan arweiniad Alexander Kerensky.

Fodd bynnag, os oedd teuluoedd Hughesovka dan yr argraff y gallai hyn wella eu sefyllfa, cawsant eu siomi’n ddirfawr. Roedd penderfyniad Kerensky i barhau â’r rhyfel yn amhoblogaidd ac yn gynyddol felly roedd y Llywodraeth Dros Dro yn cystadlu am rym gyda Sofiet Petrograd. Taniwyd fflamau chwyldro ymhellach fis Ebrill pan ddychwelodd arweinydd y Bolsieficiaid, sef Lenin, i Rwsia.

Gan weld y llywodraeth yn dadfeilio o’u blaenau ac, mewn sawl ardal, y gyfraith a threfn hefyd, byddai’r teuluoedd yn Hughesovka wedi teimlo’n fwyfwy ynysig a dan fygythiad. Fel unigolion cymharol gyfoethog a symbolau o berchentyaeth dramor roedden nhw yn darged i’r chwyldroadwyr ac i’r ysbeilwyr. Dechreuodd y teulu Cartwright a llawer o rai eraill ystyried eu dewisiadau. Byddai gadael rhan fwyaf eu heiddo a’u ffordd o fyw wedi bod yn benderfyniad anodd ond, erbyn haf 1917, dewisiadau cyfyng oedd yn eu hwynebu. Roedd nifer o deuluoedd gan gynnwys y teulu Steel a’r teulu Calderwood wedi gadael eisoes neu’n paratoi i adael ar frys. Mae Leah Steel, a ddychwelodd i Lundain gyda’i rheini ym mis Gorffennaf 1917, yn cofio cyn iddynt adael:

…. in our area mobs of people roamed around claiming everything as their own, but they never took away or claimed anything from our home [DX664/1].

Mae’n bur bosib mai’r newyddion am wrthryfel cyntaf y Bolsieficiaid oedd y ffactor allweddol ym mhenderfyniad y teulu Cartwright i ymadael â Hughesovka. Ond roedd yna gymhlethdod pellach. Roedd Gwladys yn disgwyl eu hail blentyn, Edward Morgan, a aned yn ystod haf 1917. Ar ben hynny, roedd trwyddedwyd pasbort Gwladys am gyfnod o ddwy flynedd yn 1915 ac roedd hwnnw i ddod i ben yn ail hanner 1917. Felly er yr oedd yn ôl pob tebyg yng nghyfnod olaf beichiogrwydd, gallwn weld o’r dogfennau iddi fod yn rhagofalus drwy adnewyddu ei phasbort yn y Gonswliaeth Brydeinig yn Odessa ym mis Mehefin 1917. Ychydig wythnosau yn unig wedi hynny fe ychwanegwyd enw Edward i’w phasbort ar 7 Awst.

Erbyn mis Awst doedd dim troi nôl ac roedd siwrnai faith a pheryglus yn ôl i Gymru yn wynebu’r teulu Cartwright mor fuan wedi geni’r babi. Roedd y rheiny a aeth i Hughesovka naill ai wedi teithio ar y llwybr môr deheuol ar draws Môr y Canoldir a’r Môr Du i Odessa neu wedi teithio dros y tir ar drên trwy’r Iseldiroedd, yr Almaen a Gwlad Pwyl. Roedd y ddau lwybr yma bellach ynghau oherwydd y brwydro. Yr unig ddewis oedd yn weddill oedd teithio i’r gogledd i Petrograd ac oddi yno drwy’r Ffindir, Sweden a Norwy cyn croesi Môr y Gogledd yn ôl i Ynysoedd Prydain.

Gan adael Hughesovka, mae’n debyg ar ddiwrnod olaf mis Awst, byddai cymal cyntaf y siwrnai wedi bod ar drên i Petrograd – taith o ryw 900 milltir. Roedd cludiant i raddau helaeth wedi’i neilltuo i’r fyddin ac ar y gorau byddai hon wedi bod yn siwrnai anghyfforddus dros nifer o ddyddiau, gyda’r teulu’n bachu unrhyw ofod a allent ar y cerbydau ac yn y coridorau. Ni fyddai dewis wedi bod gan y teulu Cartwright ond teithio gydag ychydig iawn o ran dillad ac eiddo a chan gario cymaint o fwyd ag y bo modd. Gan deithio mewn trên ar draws gwlad a oedd yng nghanol rhyfel, byddent wedi gorfod wynebu oedi di-ben-draw a bygythiad o gael eu harestio neu ladrata am yn ail. Mynnodd Mary Ann Steel, a wnaeth yr un daith gyda’i mam a’i thri brawd rai wythnosau yn ddiweddarach, fynd â samofar ei mam gyda hi ar y daith. Yn ôl atgof y teulu roedd hi’n benderfynol y bydden nhw’n gallu…berwi eu dŵr a gwneud eu te eu hunain ar bob platfform reilffordd y byddent yn aros ar hyd y daith. O ddadansoddi pasbort Gwladys, gwyddom eu bod ym Mhetrograd erbyn ail wythnos mis Medi. Ar y pwynt yma byddent wedi ymlâdd ond, i ychwanegu at eu trafferthion, y ddinas bellach oedd calon y chwyldro. Er i Kerensky wrthsefyll ymgais y Fyddin i gipio grym, roedd rheolaeth dros y ddinas yn llithro i afael Sofiet Petrograd a’r Bolsieficiaid. Roedd hyn ond ychydig wythnosau cyn chwyldro’r Bolsieficiaid a byddai’r teulu Cartwright wedi gweld yr anrhefn ar y strydoedd a gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau arfog. Ar ben hynny, roedd bwyd yn brin a byddent wedi gorfod ciwio’n ddyddiol i gael bara a hanfodion syml.

Yn ffodus i deulu’r Cartwright, erbyn 12 Medi llwyddodd y Gonswliaeth Brydeinig i drefnu tocynnau i’r teulu deithio dros y ffin ger llaw a thros y môr wedyn i’r Ffindir ac oddi yno yn eu blaenau i Sweden a Norwy. Rhoddodd conswl Sweden ym Mhetrograd fisa deithio i’r teulu, ar 11 Medi, ar gost o un ddoler Americanaidd neu 4 swllt a 5 ceiniog. Nodwyd eu cyrchfan ar eu pasbort fel “adref” a hyd yr arhosiad fel “amhenodol”. Roedd y fisa yn ddilys am 10 diwrnod yn unig a does dim syndod i’r teulu Cartwright adael Petrograd yn syth ar ôl derbyn y dogfennau teithio angenrheidiol. Mae’n rhaid ei bod hi’n rhyddhad mawr cyrraedd tiriogaeth niwtral, yn enwedig i Gwladys a’i babi bach a’i merch. Ond nid dyna ddiwedd y daith iddynt o bell ffordd. Byddai’r teulu wedi teithio ar drên drwy’r Ffindir i Torino ac yna ddeuddydd ar ôl cael eu fisâu ym Mhetrograd, ar 14 Medi, fe groeson nhw’r ffin yn Haparanda i mewn i Sweden. Wedi croesi Sweden fe gyrhaeddon nhw Norwy o’r diwedd. Ymhlith papurau’r teulu y mae cerdyn post o westy ger llyn yn Vossvangen lle bu’r teulu yn aros, mewn llety cymharol gysurus o’r diwedd, am long dan warchodaeth y Llynges Frenhinol, i fynd â nhw o Bergen i Aberdeen. Glaniodd y teulu yn Aberdeen ar 7 Hydref, wythnosau lawer ar ôl gadael ar eu taith o Hughesovka. Fel llawer a adawodd Hughesovka ym 1917, ni aethant fyth yn ôl i Rwsia. Golygodd y chwyldro Bolsieficaidd, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fod y diwedd wedi dod i’r New Russia Company a chafodd Hughesovka ei hailenwi’n Stalino ym 1924.

Dychwelodd y teulu Cartwright i dde Cymru. Fel llawer a lewyrchodd yn Hughesovka, cafodd Percy drafferth yn dod o hyd i waith tebyg wedi hynny, gyda diweithdra ar gynnydd. Fodd bynnag, yn ôl y llythyrau sydd i’w cael yn Archif Ymchwil Hughesovka, parhaodd Percy â’i yrfa gan weithio i’r Powell Duffryn Steam Coal Company tra’n byw yn y Bargod. Diau iddo barhau â’i ddiddordeb theatraidd gydol ei fywyd. Ond mae’n anodd gweld, fodd bynnag, sut y gallasai unrhyw ddrama fod yn fwy dramatig na’r hanes y gallai teulu o Ddowlais ei hadrodd am fywyd ar wastatiroedd diffaith Rwsia a hanes y ffoi rhag y chwyldro yn Rwsia.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Hughesovka: Menter Gymreig yn Ymerodraeth Rwsia

Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 1870au. Ar wastatiroedd eang a moel y steppes yn ne’r Wcráin sefydlodd waith haearn a’i ddatblygu’n safle diwydiannol anferth. O gwmpas y gweithfeydd tyfodd tref o’r enw Hughesovka.

rsz_dx627-1

HRA/DX627/1: John Hughes, sefydlydd Hughesovka

Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful tua 1815. Roedd yn fab i beiriannydd yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa a dechreuodd ar ei yrfa yng Nghyfarthfa cyn symud i weithfeydd Glyn Ebwy ac yna i Weithfeydd Peirianyddol Brynbuga yng Nghasnewydd.  Erbyn canol y 1860au, roedd John Hughes yn aelod o Fwrdd Cwmni Peirianyddol ac Adeiladwyr Llongau Millwall yn Llundain, ac yn beiriannydd byd enwog.

Daeth Hughes i sylw Llywodraeth Ymerodraeth Rwsia a oedd yn awyddus i ddatblygu ei diwydiannau peirianyddol trwm a’i rheilffyrdd. Ym 1868, derbyniodd gonsesiwn gan y llywodraeth a phrynodd dir a hawliau mwynol yn y Donbass (de Rwsia bryd hynny, bellach yr Wcráin).  I ariannu ei brosiect, ym 1869 sefydlodd Hughes y New Russia Company Cyf., gyda chyfalaf o £300,000. Ym 1870 teithiodd i’r Wcráin i sefydlu’r gweithfeydd ar y gwastatir eang.

Roedd John Hughes wedi priodi Elizabeth Lewis o Gasnewydd ym 1844, a chawsant 8 o blant.  Roedd pedwar o’r meibion – John James, Arthur David, Ivor Edward ac Albert Llewellyn – ynghlwm wrth redeg y gwaith. Pan fu farw John Hughes yn St. Petersburg ym 1889, rhannodd y meibion y cyfrifoldeb o redeg y busnes

rsz_dxgc239-3edit

HRA/DXGC239/3: John Hughes a’i deulu a ffrindiau o Rwsia

Sefydlodd John Hughes ei weithfeydd ar wastatiroedd moel ac eang yn ne’r Wcráin, oedd bryd hynny’n rhan o Ymerodraeth Rwsia. Roedd yr ardal yn gyfoethog o ran glo a dyddodion mwyn haearn, ond yn lle ynysig heb ddim datblygiadau diwydiannol. Roedd yn rhaid i Hughes ddechrau o’r dechrau ym 1870, ond erbyn dechrau 1872 roedd y ffwrnais chwyth gyntaf wrthi’n cynhyrchu haearn ac erbyn mis Medi 1873 roedd cledrau haearn yn cael eu cynhyrchu yno.  Codwyd mwy o ffwrneisi chwyth wrth i’r gweithfeydd ddatblygu ac adeiladwyd ffwrneisi tân agored yn yr 1880au i gynhyrchu dur. Erbyn diwedd y 1890au, dyma oedd gweithfeydd mwyaf Ymerodraeth Rwsia, gydag 8,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi ym 1896 a 12,000 ym 1904.

rsz_dx878-1

HRA/DX878/1: Gweithfeydd y New Russia Company, ffwrneisi chwyth a gweithwyr, wedi 1892

Sefydlodd Hughes y gweithfeydd fel safle diwydiannol hunangynhaliol. Roedd y deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu haearn a dur yn dod o lofeydd, gweithfeydd mwyn haearn a chwareli calchfaen y cwmni; sefydlwyd gweithfeydd brics i gyflenwi deunyddiau adeiladu; siopau atgyweirio a labordai cemegol i wasanaethu’r fenter.  Ym 1919, meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth. Parhaodd i weithio a’r ardal yn parhau fel ganolfan ddiwydiannol fawr.

Pan oedd Hughes yn sefydlu’r gwaith haearn, roedd angen gweithwyr medrus arno a chyflogodd lawer ohonynt o Gymru. Dim ond am rai blynyddoedd yr arhosodd rhai, ond ymgartrefodd eraill yn Hughesovka gan ddod â’u gwragedd a’u teuluoedd gyda nhw. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ac er bod y cwmni’n hyfforddi gweithlu o Rwsia, parhaodd hefyd i gyflogi gweithwyr medrus o’r Deyrnas Unedig. Sefydlwyd cymuned alltud lewyrchus gydag ysgol i blant o Brydain, eglwys Anglicanaidd a chlwb Saesneg.

HRA-DX628-10-4-1

HRA/DX628/10/4/1: Athrawon a ddisgyblion yr ysgol Saesneg, 1911. Mae Leeza Wiskin, bu’n dysgu Saesneg yn yr ysgol, yn sefyll yn y cefn ar y chwith.

Tyfodd tref Hughesovka o gwmpas y gweithfeydd, gyda’r Cwmni’n darparu tai i gartrefu’r Prydeinwyr a rhai o’r gweithwyr lleol. Roedd y gweithwyr Prydeinig yn byw mewn sector ar wahân, a rhai mewn tai mawr. Erbyn degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd poblogaeth Hughesovka tua 50,000, a’r mwyafrif ohonyn nhw’n gweithio neu’n ddibynnol ar y gweithfeydd.

DX587-21-David-Waters-and-f

HRA/DX587/21: David Waters, yn wreiddiol o Abertawe, a’u blant a ganwyd oll yn Hughesovka, tua 1900

Arhosodd rhai teuluoedd yn Hughesovka am sawl cenhedlaeth, a’u plant yn priodi ac yn magu eu teuluoedd eu hunain yn y gymuned glos yno. Roedd bywyd yn galed ar adegau, y gaeafau’n oer iawn a’r hafau’n llethol a phroblemau iechyd fel colera a theiffws, ond yn gyffredinol roedd gan y teuluoedd Prydeinig safonau byw da. Ym 1896, roedd 22 o deuluoedd o Gymru yn byw yn Hughesovka.

DX694-12-1

HRA/DX694/12/1: Llun priodas Elizabeth Mary James a Charles Henry Perry, yn Odessa, 1894. Ganwyd y briodferch yn Hughesovka i rieni o Gymru, a death y briodfab i Rwsia fel plentyn gyda’i deulu. Ganwyd 10 o blant i Elizabeth a Charles, pob un wedi eu eni yn yr Wcrain.

Yna, ym 1917 daeth y chwyldro i Rwsia. Gadawodd y rhan fwyaf o’r teuluoedd Prydeinig Hughesovka a dychwelyd adref .Meddiannwyd y gweithfeydd gan y wladwriaeth ac ailenwyd Hughesovka yn Stalino, ac wedyn Donetsk.

Mae Archifau Morgannwg wedi casglu nifer o gofnodion sy’n ymwneud â Hughesovka yn Archif Ymchwil Hughesovka (AYH). Mae AYH yn gasgliad o ddeunydd a gasglwyd o nifer o ffynonellau sydd i gyd yn perthyn i un thema. Mae’n cynnwys papurau a ffotograffau a gyflwynwyd gan ddisgynyddion teuluoedd o Hughesovka, copïau o ddeunydd a dderbyniwyd gan yr Archifau, a deunydd sy’n ymwneud â gweithgareddau’r Archifau sy’n gysylltiedig â Hughesovka. Mae’r casgliad yn dangos llwyddiannau un o’r ymfudwyr o Gymru hynod fedrus a fu wrthi’n sefydlu a datblygu diwydiannau ymhob cwr o’r byd. Mae’n gymharydd defnyddiol â mentrau tramor o Gymru eraill – y wladfa ym Mhatagonia er enghraifft – ac yn arwydd o gryfder mentergarwch diwydiannol o Gymru.

Prif gryfder y casgliad yw’r hyn a ddadlennir am aelodau’r gymuned alltud yn Hughesovka, ond mae hefyd yn cynnwys deunydd sy’n ymwneud â gyrfa John Hughes, y New Russia Company a’r gweithfeydd, yn ogystal â pheth gwybodaeth dechnegol. Mae’r deunydd ffotograffig yn gadarn tu hwnt, gyda llawer o ffotograffau o’r dre a’r gweithfeydd, ac o deuluoedd Prydeinig.

DX726-20-1

HRA/DX726/20/1: Llun o Percy a Gwladys Cartwright yn eu coets, 1913. Ysgrifennodd Gwladys ar y cefn, ‘André has not had the leather apron for himself yet, so does not look quite tidy. Our next conveyance will have to be a new sledge.’

Gallwch weld Tabl Cynnwys catalog Archif Ymchwil Hughesovka ar wefan Archifau Morgannwg. Sylwch mai dim ond y prif benawdau a welir yn y tabl. Mae’r catalog cyflawn ar gael i’w chwilio ar gatalog Archifau Morgannwg, Canfod.