Here, are the stiffening hills, here, the rich cargo
Congealed in the dark arteries,
Old veins
That hold Glamorgan’s blood.
The midnight miner in the secret seams,
Limb, life, and bread.
– Mervyn Peake, Rhondda Valley
Mae cerdd Mervyn Peake, Rhondda Valley, yn disgrifio cloddio am lo fel y gwaed roes fywyd i Gymoedd Cymru. Yn wir, arweiniodd twf cyflym y diwydiant glo yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg at ddatblygiad cymdeithas cwbl newydd yn Ne Cymru, gyda’r ffocws ar y lofa leol. O ganlyniad mae gan faes glo De Cymru ran bwysig i’w chwarae yn ein dealltwriaeth o’r Chwyldro Diwydiannol ac o hanes Cymru a Phrydain yn fwy cyffredinol.
Mae ei arwyddocâd yn golygu fod cofnodion archifyddol y diwydiant glo hefyd yn bwysig fel dogfennaeth sylfaenol yn ymwneud â threftadaeth De Cymru. Mae casgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) yn Archifau Morgannwg yn cwmpasu’r G19 a’r G20, yn dogfennu datblygiad, newid a dirywiad diwydiant sydd gyfystyr â De Cymru, ac olrhain effaith glofeydd ar fywydau ac iechyd y bobl oedd yn gweithio yn y diwydiant. Gyda hyn oll mewn golwg mae Archifau Morgannwg nawr wedi dechrau ar broject ‘Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau’ er mwyn catalogio a chadw casgliad yr NCB a chofnodion ei ragflaenwyr a hynny trwy gyfrwng grant catalogio gan y Wellcome Trust. Mae casgliad yr NCB yn amrywiol o ran ei gwmpas a’i gynnwys, o lyfrau cyflog a chynlluniau glofeydd ar raddfa fawr i ffotograffau a llyfrau cofnodi damweiniau. Mae’r holl gofnodion hyn yn bwysig yn eu ffyrdd eu hunain fel modd o gynrychioli sut roedd yr NCB a glofeydd unigol yn gweithredu. Gallwn ddarganfod cofnodion am beryglon gweithio mewn glofeydd trwy gyfrwng cofnodion mewn llyfrau damweiniau; gallwn ddysgu am drychinebau mewn glofeydd trwy gyfrwng adroddiadau ac ymholiadau swyddogol; a deall mwy am ddarpariaeth gofal iechyd a llesiant cymdeithasol ar gyfer glowyr a’u teuluoedd trwy gyfrwng cofnodion yn ymwneud ag iawndal am salwch diwydiannol megis pneumoconiosis, a dogfennau yn ymwneud a chyflwyno baddondai yn y lofa i wella glendid ar gyfer y glowyr. Gall y cofnodion hefyd ddangos sut roedd y glofeydd yn rhyngweithio gyda’r gweithlu trwy gyfrwng deunydd yn ymwneud â phynciau fel streiciau ac undebau’r glowyr. Yn gyffredinol, mae amrywiaeth y cofnodion yn y casgliad yn dangos pwysigrwydd y lofa, er nad yn destun hapusrwydd bob tro, yng nghymunedau De Cymru.Mae deunyddiau gan ac yn ymwneud â’r Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi eu cyflwyno i Archifau Morgannwg ar sawl achlysur ers y 1960au, gan adael yr Archifau â dros 80 o wahanol ddeunydd unigol, oll yn amrywio o ran faint o wybodaeth ddisgrifiadol sydd yn eu cylch, o flychau â phennawd fel ‘Deunyddiau amrywiol’ i flychau wedi eu categoreiddio’n fwy defnyddiol gydag enwau glofeydd unigol wedi eu nodi. Er y gall ymchwilwyr ddod i ystafell chwilio’r Archifau i weld deunyddiau yng nghasgliad yr NCB, mae’r 225 o flychau, 470 rhôl ac 884 cyfrol ar hyn o bryd wedi eu rhestru mewn modd sy’n ei gwneud yn anodd llywio drwy’r casgliad a’i ddeall fel cyfanwaith. Bydd project ‘Gwaed Morgannwg’ yn darparu mynediad haws a mwy hygyrch i gasgliad yr NCB trwy greu catalog electronig (bydd ar gael i’w chwilio drwy ein catalog ar-lein Canfod) a chadwraeth gorfforol ar ddeunydd a ddifrodwyd neu sydd angen ei lanhau.
Mae’r gwaith ar broject ‘Gwaed Morgannwg’ yn mynd rhagddo erbyn hyn, gyda’n tîm o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych i ddechrau ar lanhau’r cyfrolau, a’r gwaith ymchwil mae’r archifydd yn ei wneud i adeiladu swmp o wybodaeth ynghylch y casgliad a’r diwydiant glo yn Ne Cymru, er mwyn hysbysu’r sefydliad ynghylch y cofnodion. Os carech wybod mwy am y project yna cadwch olwg ar y dudalen flog a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer derbyn y newyddion diweddaraf neu cysylltwch â ni: glamro@caerdydd.gov.uk