Y Parch. Henry Bowen ac Annie Bowen o Gaerdydd

Yng nghasgliad Archifau Morgannwg y mae dogfennau teulu’r Parchedig Henry Bowen, offeiriad plwyf Eglwys Santes Catrin, Treganna, Caerdydd. Mae’r archif eang yn cynnwys hanes oes Henry Bowen a’i wraig Annie. Yn ystod y cyfnod hwn yn yr 20fed ganrif bu dau ryfel byd, y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel a’r newidiadau cymdeithasol mawr a ddaeth rhwng Oes Fictoria ym Mhrydain a’r Chwedegau.

Gwasanaethodd Henry Bowen trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf.  Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac roedd yn offeiriad plwyf yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni all yr erthygl fer hon wneud cyfiawnder â’r casgliad hynod a diddorol hwn, felly bydd yn canolbwyntio ar fywyd Henry Bowen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymrestrodd Henry â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn nhymor yr hydref 1914. Fel y gwnâi llawer iawn o wirfoddolwyr, ymrestrodd ynghyd â nifer o’i gyfeillion o Lantrisant. Prif ffynhonnell yr erthygl hon yw llythyrau serch a anfonai Henry at Annie drwy gydol y rhyfel; mae ymhell dros gant ohonynt. Ysgrifennodd Henry ei lythyrau o 1914 a hyd at fis Gorffennaf 1915 yn ystod ei gyfnod yng Ngwersyll Park House yn Salisbury Plain cyn cael ei anfon i Fyddin Ymgyrchol Prydain.

Mae llythyr Henry ar y 9fed o Awst 1915 yn disgrifio’r adran yn y rheng flaen lle’r oedd ef ond, oherwydd rheoliadau milwrol, ni chai ddatgelu unrhyw fanylion ynghylch ei leoliad, oni bai am y canlynol:

the area has cobbles and the church bells that sound like home.

Ar ddiwedd ei lythyr, eglura y rhoddir ei lythyr mewn amlen filwrol, oherwydd y gofyn am gyfrinachedd, ac y roedd gofyn iddo dyngu ar ei lw nad oedd yn datgelu unrhyw faterion na lleoliadau milwrol.

letter

envelope

Fel y noda mab Henry mewn casgliad arall o nodiadau, mae ei lythyrau cynnar yn brin eu cynnwys, ond yn raddol deuant i gynnwys ffeithiau diddorol: gweld bomio o awyren, cael ei saethu i lawr uwchlaw’r Iseldiroedd ym 1915, Wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei ohebu ag Annie fel hanes llygad dyst o’r gwrthdaro yn y ffosydd ond yn hytrach fel llythyron serch.

Ar y 10fed o Fawrth 1916, ymddiheura Henry am beidio ag ysgrifennu ynghynt:

only it is so awkward the trenches we are in… Perhaps you will understand  when I tell you it is impossible to move twenty yards in the daytime.

Ar 24 Ebrill1916, ymddiheura Henry unwaith eto am beidio ag ysgrifennu:

Many a time during the last four weeks… I have been on the point of sitting down to write a decent letter but we have been on the move every day.

Mae nifer o lythyrau o’r cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd ac mae hoffter mawr Henry o Annie yn thema ganolog. Dylid deall yr ysgrifennodd Henry’r llythyrau hyn yn ystod Brwydr y Somme, lle bu’n dyst i gyflyrau ffisegol arswydus y ffosydd, a ddaeth yn gorsydd mwdlyd gyda marwolaethau ac anafiadau echrydus.  Mae merch Henry, Dorothy, wedi ychwanegu casgliad ardderchog o nodiadau ar sail y sgyrsiau a gafodd gyda’i thad wedi’r rhyfel, yn cychwyn gyda’i atgofion byw o’r tanio mawr cyn cychwyn yr ymosod ar y 1af o Orffennaf 1916. Yn ystod y diwrnod hwn y cafwyd nifer mwyaf yr anafiadau yn hanes Byddin Prydain, tua 60,000, yn cynnwys 20,000 a fu farw. Wrth ddarllen y llythyrau a ysgrifennwyd dros y 5 mis, does dim awgrym o’r lladdfa a fu’n ganlyniad i’r brwydro ffyrnig.

Treuliodd Henry ran fwyaf 1917 yn derbyn hyfforddiant i filwyr troed yn yr Alban.  Yn y casgliad y mae nifer o lawlyfrau Hyfforddiant Milwrol, sydd fwyaf perthnasol i gyflwr maes y gad cyn 1914. Fodd bynnag, cafwyd ailargraffiadau er mwyn cynnwys y newidiadau ac adlewyrchu natur sefydlog rhyfela mewn ffosydd. Un nodwedd yr ystyrid fel rhywbeth hollbwysig wrth hyfforddi swyddogion oedd y pwyslais ar ddrilio a disgyblu.

Ym 1918, aeth Henry’n ôl i gymryd dyletswydd weithredol ar faes y gad, ac eto ni allwn ond dyfalu ym mhle yr oedd British Expeditionary Force. Mae naws gyffredinol ei lythyrau’n awgrymu ei fod yn gyfnod o wrth ymosodiad Almaenig mawr a fu ym misoedd cynnar 1918, pan wthiwyd lluoedd Prydain yn ôl rai milltiroedd.

Ar 31 Mawrth 1918, ysgrifennodd:

It’s been a deuce of a time but thank God I’m quite well. All my kit has gone I have only what I stand up in… I could not get any writing matter away as everything has been topsey turvey.

Yn y papurau ar gyfer y cyfnod hwn y mae taflen sy’n dangos natur giaidd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddisgrifio’r weithdrefn i’w dilyn wrth ddefnyddio masg nwy pan ddefnyddid nwy gwenwynig mewn ymosodiad. Fel y sonia ei ferch, nid yr Henry’n crybwyll y llawer ŵr o Lanrisant a anafwyd. Ond yn llymder a thristwch eang 1918, bu un digwyddiad llawen: priododd Henry ag Anne ym mis Awst. Digwyddiad mawr arall yn llythyron Henry o 1918 oedd yr Almaen yn ildio a llofnodi’rr Cadoediad ar yr 11 Tachwedd 1918. Mae ei lythyr ar y dyddiad hwnnw’n disgrifio ei emosiynau a’r rhyddhad y teimlai o oroesi rhyfel mor drychinebus a laddodd 17,000,000.

Cipolwg sydyn ar brofiadau Henry ac Annie yn ystod 1914-1918 a gewch yn y darn byr hwn. Mae’r casgliad yn cynnwys nifer o ddogfennau sy’n berthnasol i fywyd llawn a diddorol Henry ac Annie wedi eu priodas: ei amser yn Rhydychen, cychwyn teulu a dod yn offeiriad plwyf Eglwys Sant Catrin yn Nhreganna. Eitem ddiddorol yw dyddiadur Henry ym 1941, blwyddyn bwysig yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941 bu cyrchoedd awyr a daeth y blits i Gaerdydd; bu brwydrau mawr yn anialwch gogledd Affrica; ymosododd yr Almaen ar Rwsia, ac ymosododd Japan ar Pearl Harbour a arweiniodd at yr UDA yn ymuno â’r Cynghreiriaid; mae disgrifiadau o hyn oll. Mae cefndir milwrol Henry fel milwr yn amlwg o’r gorfoledd a gaiff o glywed am lwyddiannau Prydain a methiannau’r Almaen, nad yw ei swydd fel offeiriad plwyf ei dawelu. Dylai unrhyw un sydd am gael dysgu am fywydau Henry ac Annie Bowen mewn mwy o fanylder gysylltu ag Archifau Morgannwg, lle bydd staff yn hapus i roi cymorth i aelodau’r cyhoedd i ymchwilio.

John Arnold, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

One thought on “Y Parch. Henry Bowen ac Annie Bowen o Gaerdydd

  1. Y Parch. Henry Bowen ac Annie Bowen o Gaerdydd - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s