Noson Burns yng Nghaerdydd

Ar 25ain Ionawr, sef penblwydd Robert Burns, bydd Albanwyr ar draws y byd yn ddathlu Noson Burns.  Yma yng Nghaerdydd, trefnwyd y dathliadau yn traddodiadol gan Gymdeithas Albanaidd Caerdydd, pan fyddai’r aelodau yn dod ynghyd ar gyfer eu swper Noson Burns flynyddol.

Ffurfiwyd Cymdeithas Albanaidd Caerdydd ym 1886.  Nod y Gymdeithas oedd i hyrwyddo cyfeillgarwch cymdeithasol ymhlith Albanwyr oedd yn byw yn Nghaerdydd a’r cyffuniau, drwy drefnu ciniawau a digwyddiadau cymdeithasol; i gynnig cymorth i Albanwyr a’u deuluoedd sydd angen cefnogaeth y Gymdeithas, ac i hybu cynlluniau addysgiadol yng Nghaerdydd ymhlith pobol o dras Albanaidd.  Bu’r Gymdeithas ar ei fwyaf llwyddiannus yn ystod yr 1920au a’r 1930au.

Mae cofnodion Cymdeithas Albanaidd Caerdydd, sy’n cael eu chadw yn Archifau Morgannwg, yn cynnwys rheglenni ar gyfer dathliadau Noson Burns (D677/3), digwyddiad flynyddol yng nghalendr y Gymdeithas.

d677-3-1924-3_compressed

Mae’r rhaglen ar gyfer y cinio ym 1924, a chafodd ei gynnal yn y Bute Saln yn fwyty Cox yng Nghaerdydd, yn cynnwys fwydlen Albanaidd traddodiadol.  Ceir ‘Kail Broo’, gyda haggis i ddilyn ynghyd a ‘champit tatties’.  Yna cig oen gyda jam cyrains cochion a tatws naill ai wedi eu rhostio neu wedi eu berwi, a sbrowts.  Ac i bwdin?  Wel pwdin Rabbie ei hun, ynghyd a ‘tremlin tam’, tarten afal neu salad ffrwythau.  Ac i orffen paneidiau o goffi.  Digon o wledd!

 

d677-6-5_compressed

Yr haggis oedd uchafbwynt y fwydlen, a byddai’n cael i’w gyflwyno is ain y bibgorn a’i chyfarch gan un o’r gwesteion.  Roedd yna hefyd sawl llwncdestun yn ystod y noson, gan gynnwys y llwncdestun traddodiadol i’r marched a’u hateb nhw.

d677-4-2-passport-2_compressed

Yn ogystal a’r rhaglenni ceir ddwy ‘Pasport Albanaidd’ a roddwyd i westeion i’r digwyddiad Noson Burns ac sy’n cynnwys y rhaglen a’r fwydlen ar gyfer y noson (D677/4/2).  Cyflwynwyd i’r merched a cynychoch y dathliadau swfenir yn cynnwys cyfarchiad a chan (D677/4/3).

 

d677-4-3-souvenir-outside-b

Roedd hi’n arferiad i wahodd y Prif Weinidog i’r ddathliadau, ac mae ffeiliau’r gymdeithas yn cynnwys gohebiaeth gyda Swyddfa’r Prif Weinidog (D677/5/1).  Ym 1929 gwahoddwyd Ramsay McDonald, ond bu orfod iddo wrthod yn gwrtais gan ei fod yn digwydd ar yr un adeg a’r Cynhadledd Pump Pwer yn Chequers.  Derbyniwyd telegramau Noson Burns gan y Gymdeithas oddi wrth Brenin Sior V (D677/5/1), a oedd pob tro yn eu llongyfarch ar noson lwyddiannus.

Rydym yn gobeithio bydd holl pobol Albanaidd Caerdydd a de Cymru yn treulio Noson Burns hyfryd ar 25 Ionawr.

Advertisements

One thought on “Noson Burns yng Nghaerdydd

  1. Noson Burns yng Nghaerdydd - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s