Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Here, are the stiffening hills, here, the rich cargo
Congealed in the dark arteries,
Old veins
That hold Glamorgan’s blood.
The midnight miner in the secret seams,
Limb, life, and bread.

– Mervyn Peake, Rhondda Valley

Mae cerdd Mervyn Peake, Rhondda Valley, yn disgrifio cloddio am lo fel y gwaed roes fywyd i Gymoedd Cymru. Yn wir, arweiniodd twf cyflym y diwydiant  glo yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg at ddatblygiad cymdeithas cwbl newydd yn Ne Cymru, gyda’r ffocws ar y lofa leol. O ganlyniad mae gan faes glo De Cymru ran bwysig i’w chwarae yn ein dealltwriaeth o’r Chwyldro Diwydiannol ac o hanes Cymru a Phrydain yn fwy cyffredinol.

2-dncb64-60

‘Pride of the Valleys’ [DNCB/64/60]. Datblygodd cymunedau newydd yn ne Cymru gyda’r glofa lleol fel canolbwynt. Rhwng 1901 a 1911 derbyniodd de Cymru mewnfudwyr yn gynt nag unrhyw le arall yn y byd oni bai am yr UDA.

Mae ei arwyddocâd yn golygu fod cofnodion archifyddol y diwydiant glo hefyd yn bwysig fel dogfennaeth sylfaenol yn ymwneud â threftadaeth De Cymru.  Mae casgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) yn Archifau Morgannwg yn cwmpasu’r G19 a’r G20, yn dogfennu datblygiad, newid a dirywiad diwydiant sydd gyfystyr â De Cymru, ac olrhain effaith glofeydd ar fywydau ac iechyd y bobl oedd yn gweithio yn y diwydiant. Gyda hyn oll mewn golwg mae Archifau Morgannwg nawr wedi dechrau ar broject ‘Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau  Tywyll, Hen Wythiennau’ er mwyn catalogio a chadw casgliad yr NCB a chofnodion ei ragflaenwyr a hynny trwy gyfrwng grant catalogio gan y Wellcome Trust.

3-dncb64-53

‘Pneumoconiosis, The Deadly Dust’ [DNCB/64/53]. Wedi ei catalogio, bydd casgliad y Bwrdd Glo yn ehangu’r posibiliadau ar gyfer ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol yng nghymunedau glofaol de Cymru.

Mae casgliad yr NCB yn amrywiol o ran ei gwmpas a’i gynnwys, o lyfrau cyflog a chynlluniau glofeydd ar raddfa fawr i ffotograffau a llyfrau cofnodi damweiniau. Mae’r holl gofnodion hyn yn bwysig yn eu ffyrdd eu hunain fel modd o gynrychioli sut roedd yr NCB a glofeydd unigol yn gweithredu.  Gallwn  ddarganfod cofnodion am beryglon gweithio mewn glofeydd trwy gyfrwng cofnodion mewn llyfrau damweiniau; gallwn ddysgu am drychinebau mewn glofeydd trwy gyfrwng adroddiadau ac ymholiadau swyddogol; a deall mwy am ddarpariaeth gofal iechyd a llesiant cymdeithasol ar gyfer glowyr a’u teuluoedd trwy gyfrwng cofnodion yn ymwneud ag iawndal am salwch diwydiannol megis pneumoconiosis, a dogfennau yn ymwneud a chyflwyno baddondai yn y lofa i wella glendid ar gyfer y glowyr. Gall y cofnodion hefyd ddangos sut roedd y glofeydd yn rhyngweithio gyda’r gweithlu trwy gyfrwng deunydd yn ymwneud â phynciau fel streiciau ac undebau’r glowyr.  Yn gyffredinol, mae amrywiaeth y cofnodion yn y casgliad yn dangos pwysigrwydd y lofa, er nad yn destun hapusrwydd bob tro, yng nghymunedau De Cymru.

4-wp_20170111_09_08_26_pro

Mae cymhorthion chwilio presennol casgliad y Bwrdd Glo yn anodd i’w ddefnyddio ac yn cyfyngu mynediad i’r casgliad.

Mae deunyddiau gan ac yn ymwneud â’r Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi eu cyflwyno i Archifau Morgannwg ar sawl achlysur ers y 1960au, gan adael yr Archifau â dros 80 o wahanol ddeunydd unigol, oll yn amrywio o ran faint o wybodaeth ddisgrifiadol sydd yn eu cylch, o flychau â phennawd fel ‘Deunyddiau amrywiol’ i flychau wedi eu categoreiddio’n fwy defnyddiol gydag enwau glofeydd unigol wedi eu nodi. Er y gall ymchwilwyr ddod i ystafell chwilio’r Archifau i weld deunyddiau yng nghasgliad yr NCB, mae’r 225 o flychau, 470 rhôl ac 884 cyfrol ar hyn o bryd wedi eu rhestru mewn modd sy’n ei gwneud yn anodd llywio drwy’r casgliad a’i ddeall fel cyfanwaith. Bydd project ‘Gwaed Morgannwg’ yn darparu mynediad haws a mwy hygyrch i gasgliad yr NCB trwy greu catalog electronig (bydd ar gael i’w chwilio drwy ein catalog ar-lein Canfod) a chadwraeth gorfforol ar ddeunydd a ddifrodwyd neu sydd angen ei lanhau.

5-nadfas

Mae ein gwirfoddolwyr NADFAS eisoes wedi dechrau ar y tasg anferth o lanhau eitemau o gasgliad y Bwrdd Glo

Mae’r gwaith ar broject ‘Gwaed Morgannwg’ yn mynd rhagddo erbyn hyn, gyda’n tîm o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych i ddechrau ar lanhau’r cyfrolau, a’r gwaith ymchwil mae’r archifydd yn ei wneud i adeiladu swmp o wybodaeth ynghylch y casgliad a’r diwydiant glo yn Ne Cymru, er mwyn hysbysu’r sefydliad ynghylch y  cofnodion. Os carech wybod mwy am y project yna cadwch olwg ar y dudalen flog a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer derbyn y newyddion diweddaraf neu cysylltwch â ni: glamro@caerdydd.gov.uk

Mapiau o Faes Glo De Cymru

Mae Archifau Morgannwg yn falch o gyflwyno dau gyhoeddiad newydd sydd wedi’u llunio i ddathlu ein pen-blwydd yn 75 oed.I gyd-daro â 30 mlwyddiant streic y glowyr 1984, mae dau fap ffacsimili o Faes Glo De Cymru wedi’u hargraffu, sy’n atgynyrchiadau o’r mapiau poblogaidd a werthwyd gan yr Archifau yn y flwyddyn 2000.

Map o Faes Glo De Cymru

Map o Faes Glo De Cymru

Fe’u cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gwmni Ystadegau Busnes Caerdydd, ac maent yn dyddio o 1923 a 1927. Maen nhw’n fanwl iawn ac wedi’u cyhoeddi mewn lliw sy’n dangos echdyniadau mwynol stêm a haenau bitwminaidd, eiddo glo carreg, y rheilffyrdd a oedd yn gwasanaethu’r ardal a phorthladdoedd.

Map o Faes Glo De Cymru

Map o Faes Glo De Cymru

Maen nhw ar gael i’w prynu am £6.00 yr un neu £10.00 am y ddau.Codir £2.00 am gostau pacio a phostio yn y DU. Cysylltwch â ni os hoffech archebu copi o un o’r mapiau neu’r ddau ohonynt.

75 Dogfen dros 75 Mlynedd

Mae Archifau Morgannwg yn 75 oed eleni.  Ni yw’r archif hynaf yng Nghymru, ynghyd â’n cymydog, Gwent: Gwent oedd y sir gyntaf i sefydlu gwasanaeth archifau (1938) ond ni oedd y cyntaf i benodi archifydd (1939). Oherwydd amseru rhagorol y sir, byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn yr un flwyddyn ag y byddwn yn coffáu dau ryfel byd ac un streic cenedlaethol, ymhlith nifer o ddigwyddiadau pwysig eraill y byddwn yn eu coffáu yn 2014.

Archifau Morgannwg

Cwta oedd cyfnod archifydd cyntaf y Sir, Emyr Gwynne Jones, yn y swydd, gan iddo symud i fod yn Llyfrgellydd Prifysgol Bangor ym 1946. Dim ond pedwar o bobl sydd wedi’i olynu ers hyn, ac adlewyrchir hyn ym mharhad swyddogaeth graidd y gwasanaeth, a ddiffiniwyd fel a ganlyn gan Madeleine Elsas ym 1959: “y dasg o gadw cofnodion, eu hadfer, casglu deunydd ychwanegol am y sir ddaearyddol, a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael yn rhwydd.”

Er mwyn dathlu 75 mlynedd o ofalu am ddogfennau Morgannwg, rydym wedi pori drwy’r rhestrau a chasglu’r 75ed dogfen a gafwyd bob blwyddyn.  Mae rhai o’r dogfennau hyn wedi’u trosglwyddo, mae rhai dogfennau eraill nad ydynt yn rhan o’r Casgliad mwyach.  Derbyniwyd llai na 75 dogfen mewn rhai blynyddoedd.  Er hynny mae pob dogfen yn bwrw golau ar agweddau gwahanol ar hanes a datblygiad gwasanaethau archifau awdurdod lleol yn gyffredinol, ac Archifau Morgannwg yn benodol.  Bydd staff yr archifau yn blogio am y 75 dogfen drwy gydol y flwyddyn, naill ai fel eitemau unigol neu fel categorïau o ddogfennau. 

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein blog, ac edrychwn ymlaen at ddarllen eich sylwadau.