Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Adroddiadau am Anafiadau, Glofa’r Cwm

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Adroddiadau am Anafiadau, Glofa’r Cwm

Picture 1 edited

Adroddiad anaf o Lofa’r Cwm, Ion 1961-Maw 1962 (DNCB/8/3/1)

Roedd glofeydd yn lefydd peryglus i weithio ac roedd anafiadau yn hynod gyffredin ar y ddaer yn ogystal a dan ddaear. Mae cofnodion yng nghasgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn dangos y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am a chofnodi damweiniau ac anafiadau. Mae set o adroddiadau anafiadau o Lofa’r Cwm, wedi eu dyddio Ion 1961 – Maw 1962, yn dangos y cofnodwyd pob lefel o anaf, waeth pa mor fychan. Llenwyd y ffurflenni hyn gan y chwaer nyrsio neu oruchwylydd yr ystafell feddygol a’u cynhyrchu yn ddyblyg ar gyfer y rheiny a gollodd amser yn y gwaith oherwydd anaf. Gyda blwch yn llawn adroddiadau ar gyfer ond un flwyddyn mewn un lofa, mi gewch cipolwg gwirioneddol o amlder y damweiniau yn y pyllau a pheryglon gweithio dan ddaear yn y diwydiant glo.

Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s